31.12.23

Senedd Stiniog -cynghorwyr a chynlluniau

Pytiau o adroddiadau David Meirion Jones, o gyfarfodydd Cyngor Tref Ffestiniog

Dymunwn ddiolch o galon i’r Cynghorydd Rory Francis am ysgrifennu’r golofn hon dros y cyfnod diweddar.  

Aelodau Newydd o’r Cyngor: Braf cael dweud, yn dilyn apêl Rory, fod dau aelod newydd wedi ymuno â’r Cyngor.  Wedi i’r Cyngor gytuno i’w cyfethol, rhoddwyd croeso swyddogol i Gareth Glynne Davies a Troy McLean.  

Siom enfawr oedd y datganiad fod Y Cyng. Glyn Daniels wedi ymddiswyddo.  Colled enfawr i’r Cyngor Tref ac i’r ardal.  Prysurdeb gwaith a bywyd oedd rhesymau Glyn am roi’r gorau iddi, job ei dal hi’n bob man tydi?!  Mae am barhau yn ei swydd fel Cynghorydd Sir.

Yn y cyfarfod dilynol cyfetholwyd tri ymgeisydd newydd arall i’r Cyngor. Peter Alan Jones (Pete Boys) a minnau, David Meirion Jones (Dei Mur) dros Rhiw a Bowydd a Dewi Prysor Williams dros Diffwys a Maenofferen. Golygai hyn fod pum aelod newydd wedi ymuno â’r Cyngor dros y ddau fis diwethaf.  

Mae seddi Rhiw a Bowydd bellach yn llawn, ond mae seddau gweigion yn dal i fod, ac os oes gennych ddiddordeb, yna cysylltwch â’r Clerc yn y swyddfa yn y Ganolfan am fwy o fanylion os gwelwch yn dda.

Cwmni Bro: Siaradodd Ceri Cunnington, a oedd yn bresennol fel cynrychiolydd Cwmni Bro, am rôl y cwmni yn yr ardal.  Rhoddodd gyflwyniad o’u hanes a’u bwriad.  Pwysleisiodd eu bod yn annibynnol ond ei fod yn bwysig i gael y Cyngor yn gefn ac i gael pawb yn cyd-dynnu fel petai.  Eglurodd eu bod yn cydlynu pymtheg menter, a bod cydweithio’n hollbwysig wrth rwydweithio a chydweithio am grantiau.  Un elfen o’r gwaith yw twristiaeth, a’u bod hefyd yn cynhyrchu pethau gan ail-fuddsoddi unrhyw elw yn ôl i’r gymuned.  Cylchdroi a datblygu’n lleol ydi’r nod a dywedodd fod Antur Stiniog bellach yn rhedeg Eifion Stores a bod cynlluniau ar gyfer yr hen Siop Effraim ar y gweill.  Diolchodd y Cyngor iddo am ei gyflwyniad a dywedodd y Cyng. Rory Francis yr hoffai weld y Cyngor yn gweithio’n agosach gyda’r mentrau ac y dylai fod gwell cyfathrebiaeth rhyngddynt.  Cytunwyd yn unfrydol ar hyn gan obeithio y bydd y Cyngor yn derbyn cofnodion gan y mentrau gwahanol o hyn ymlaen.

Tŷ’r Wern: Os ydych yn darllen y golofn hon yn rheolaidd gwyddoch fod y Cyngor, yn ddadleuol iawn, wedi pleidleisio yn erbyn cais i ddatblygu hen Eglwys San Mihangel yn Llan Ffestiniog, neu Tŷ’r Wern fel y'i gelwir heddiw.  Y rheswm a roddwyd oedd tybio y byddai adeilad cymunedol arall o’r fath yn mynd yn groes i ddidordebau Neuadd y Pentref a’r Pengwern.  

Mae’n debyg fod y penderfyniad yma, a dweud y lleiaf, wedi codi gwrychyn pentrefwyr Llan, a daeth ambell aelod o bwyllgorau’r Pengwern a’r Neuadd a'r Wern i’r cyfarfod i egluro’r sefyllfa i’r Cyngor.  

Soniodd Andrew Williams (Crym), un sy’n weithgar yn y Wern, ychydig am gefndir y datblygiad.  Dywedodd mai arian dyn o’r enw Nigel Morris, sydd a’i wreiddiau yn yr ardal, sydd tu cefn i’r fenter a’i fwriad yw defnyddio ei bres er lles yr ardal.  Prynodd yr Eglwys, gyda phres ei hun, pan yn wag a doedd gan Cadw na’r Eglwys ddim diddordeb mewn gofalu am yr adeilad a doedd dim cymorth ariannol i’w gael ganddynt.  Aiff ymlaen i egluro mae’r bwriad o’r cychwyn oedd cydweithio gyda’r Pengwern a’r Neuadd er lles y pentref.

Eglurodd fod y fenter yn fwrlwm o syniadau cyffrous fel cynnal cyrsiau i bobl ifanc ar sut i ddatblygu busnesau a dysgu rheoli arian ac yn y blaen. Hefyd cynnig gwasanaeth gosod blodau ar feddi’r fynwent i bobl sy’n byw i ffwrdd a methu dod adref ar ddyddiadau arbennig, a gwneud hyn drwy brynu blodau gan Seren, fyddai eto’n rhannu’r arian yn yr ardal.  Gobeithir cael caffi bach yno a marchnad fach bob hyn a hyn fyddai’n gwerthu nwyddau a chynnyrch lleol yn ogystal â chynnal ambell i gyngerdd. A go brin, meddai, fysa rhywun sy’n mynd i gyngerdd ddim yn piciad i’r Pengwern am beint bach yn gyntaf!

Dywedodd Meic Halliday a Dyfed Jones-Roberts, oedd yno ar ran pwyllgor Y Pengwern, eu bod yn llwyr gefnogi’r fenter, a’i fod yn ddatblygiad cyffrous fydd yn sicr o fod o les i’r pentref ac y byddai Llan yn elwa o’r herwydd.

Cynhaliwyd Cyfarfod Arbennig yn ddiweddarach a phledleiswyd o blaid y cynlluniau ar gyfer Tŷ’r Wern. Bydd llythyr arall yn cael ei yrru at bwyllgor cynllunio'r Parc Cenedlaethol yn mynegi hyn.

Mwy o wybodaeth am Dŷ'r Wern.

Iechyd: Mynegodd aelod o’r Cyngor fod pryder ymysg rhai o drigolion y dref am brinder a chysondeb meddygon teulu ym mhractis Blaenau Ffestiniog. Eiliwyd cynnig i ddanfon llythyr at y Rheolwr Practis yn gofyn iddi faint o feddygon teulu parhaol/rheolaidd sydd yn gysylltiedig â’r practis ar hyn o bryd a beth yw cynlluniau’r practis at y dyfodol.

Materion eraill ar yr agenda sydd o bwys i’r cyhoedd efallai yw bod y dref am dderbyn cyfrifoldeb dros gynnal a chadw hysbysfyrddau UNESCO yn y dref.  Bydd y rhain wedi eu lleoli yn Diffwys, ger Caffi Antur.  I’w trafod yn y dyfodol agos fydd cyflwr toiledau Diffwys a’r cyfrifoldeb amdanynt sydd rhwng y Cynghorau Tref a Sir yn bresennol, a’r posibilrwydd o gael maes parcio ychwanegol yng Nghongl y Wal.

Cynllun Hydro: Trafodwyd cynllun hydro newydd ar gyfer Cwm Cynfal. Bwriad teulu o ffermwyr lleol ydi gosod tyrbin, a all gynhyrchu trydan i oddeutu 400 o dai, yn y Cwm. Bu sôn am brosiect o’r fath yn y gorffennol ond fe'i wrthwynebwyd am resymau gwahanol ac oherwydd hyn, penderfynwyd gael nifer o adroddiadau oedd yn ymwneud â’r pryderon hynny, megis yr effaith amgylcheddol ayyb. Cafwyd cyflwyniad gan frodyr y teulu, ble’r eglurwyd y byddai cyfnod ymgynghori cyn cyflwyno’r cais cynllunio’n ffurfiol. Eglurwyd y gall trigolion lleol elwa o’r cynllun hefyd, drwy dderbyn trydan rhatach wrth ymuno mewn rhyw fath o Glwb Ynni. Byddai rhaid adeiladu cored, neu ‘weir’, i arall-gyfeirio rhywfaint o’r afon, adeiladu cwt olwyn fesur a ballu. 

Cytunodd y Cyngor ei fod yn gynllun uchelgeisiol ond fod nifer o gwestiynau dal angen cael eu hateb. Y bwriad yw trefnu ymweliad â’r safle i gael gwell golwg ar y lleoliad a thrafod mwy am y mater. (Er gwybodaeth, i unrhyw un sy’n dioddef o ddiffyg cwsg, mae’r ddogfen gais a’r cynlluniau arfaethedig i’w gweld yn eu cyfanrwydd – dros fil o dudalennau - yn Llyfrgell y Blaenau- ac mae croeso i bawb sydd â diddordeb fynd yno i bori drostynt).

Theatr Bara Caws: Cytunwyd ar gais gan Theatr Bara Caws am gymorth ariannol i berfformio yn yr ardal. Dywedwyd nad oedd hyn yn beth newydd a phwysleiswyd ar bwysigrwydd ymweliadau’r Theatr i’r ardal a chael pharhâd diwylliant Cymraeg cyfoes yma.

CCTV: Mae’r ddadl ynglyn â’r system CCTV yn y Stryd Fawr yn parhau. Mae’n bwnc llawer rhy gymhleth i’r gohebydd hwn ar hyn o bryd, ond yn frâs, fel hyn ma’i, y bwriad ar hyn o bryd yw ailosod rhyw 5 neu 6 camera cylch cyfyng. Cyn mynd ymlaen fodd bynnag, mae’r Cyngor yn awyddus i glywed beth yw’r farn am hyn yn lleol. Penderfynwyd mae’r ffordd orau o wneud hyn fyddai rhoi papur yn y siopau lleol i holi barn. 


Cynhelir y cyfarfodydd llawn ar ail ddydd Mawrth pob mis, am saith o’r gloch, yn y Ganolfan.

- - - - - - - - - - - - 


Addasiad o ddarnau hirach a ymddangosodd yn rhifynnau Tachwedd a Rhagfyr


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon