21.12.23

Stolpia -Doliau Glandŵr

Hen Ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-Pwll, gan Steffan ab Owain

Fel y crybwyllwyd yn y rhifyn diwethaf, credaf mai yn yr 1960au y trowyd Ysgoldy Glandŵr a berthynai i’r Methodistaidd Calfinaidd yn ffatri ar gyfer gwneud cofroddion a doliau Cymreig. 

Drychfeddwl John E. Williams, Heulfryn, neu ‘Jake’ fel yr adnabyddid ef yn ein hardal, sef tad Davina, y ddiweddar Jayne, Jacqueline a Julianne, oedd sefydlu ffatri o’r fath yno. Un enedigol o Feddgelert ydoedd yn wreiddiol ac roedd wedi bod yn gysylltiedig â’r math hwn o fusnes ers yr 1950au. Enw’r busnes yn yr ysgoldy oedd Glandŵr Industries a chyflogid nifer o ferched yno dros y blynyddoedd. 

Bu Gwen Williams, Dolrhedyn, Diane Stone, Manod ac Ann Williams (?Tanygrisiau) yn gweithio yno yn ystod yr 1970au yn gwneud doliau mewn gwisg Gymreig, teganau, a chofroddion eraill. Dyma lun o Diane ac Ann wrth eu gwaith yn y ffatri yn Glandŵr yn paratoi’r doliau ar gyfer eu gwerthu yn y siopau lleol a’r Siop Anrhegion oedd gan y cwmni gerllaw gorsaf Betws-y-coed.

Roedd y doliau Cymreig hyn yn boblogaidd iawn gan dwristiaid o bedwar ban byd, yn ogystal â Chymry o bell ac agos. Fel y gwelir yn y lluniau gwisgid y ddol gyda het ffelt ddu, les gwyn o’i hamgylch, a ruban gwyn i’w chlymu o dan yr ên. Gwisgid ei chorff gyda blows wen llewys hir a chỳffs o les gwyn, a throsto siôl goch, sgert ddu a gwyn siecrog a ffedog les wen. Roedd ei dillad isaf hefyd yn wyn, a sanau gwynion am ei choesau a’i thraed, ac esgidiau duon.

Ceid amrywiaeth o enwau Cymraeg ar y doliau hyn megis Crugwen, Eirwen ac Anwen, ac yn ddiau, rhai enwau eraill. Ceid enwau Saesneg i gydfynd ag enwau Cymraeg y ddwy gyntaf sef Snowhite a White Heather. 

Tybed pwy sydd efo un o’r doliau hyn a wnaethpwyd yn y ffatri yng Nglandŵr? Yn dilyn marwolaeth Mr Williams yn 1976, daeth Davina ei ferch, a’i fab yng nghyfraith, i redeg y busnes a bu ganddynt siop yn y Blaenau am beth amser. 

Onid yn yr adeilad lle mae Caffi Antur heddiw oedd y siop, ynteu a ydwyf yn cyfeiliorni? Er nad wyf yn sicr, credaf i’r busnes ddod i ben yn y ffatri yn ystod yr 1980au, serch hynny, y gallwch brynu rhai o ddoliau Glandŵr ar amryw o wefannau’r rhyngrwyd. Rhyw daflu golwg sydyn ar y busnes yr wyf wedi ei wneud yma. Yn ddiau, gall Davina ddweud llawer mwy amdano nag y medraf i ei wneud.

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2023



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon