26.11.20

Hen Enwau -Maenofferen

Hen Enwau o Feirionnydd gan Glenda Carr
Cyhoeddwyd gan Wasg y Bwthyn, 2020.


Mae’r llyfr hwn yn drydedd mewn cyfres o lyfrau sy’n rhoi sylw i enwau a geir ym mröydd Cymru. Eisoes mae Gwasg y Bwthyn wedi cyhoeddi Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd a Hen Enwau o Ynys Môn. Yn ôl Syr John Morris-Jones: ‘Fydd na neb ond ffyliaid yn treio esbonio enwau lleoedd’. Mae Glenda Carr yn deall yn iawn pam y dywedodd hyn gan ei bod yn hawdd mynd ar gyfeiliorn a dilyn sawl sgwarnog wrth geisio esbonio tarddiad enw. Er hynny, mae wedi mynd ati i daclo tarddiad mwy o enwau lleoedd Cymru, a hynny yn yr hen Sir Feirionnydd y tro hwn. 

Y canlyniad yw llyfr arbennig sy’n uno blynyddoedd o waith ymchwil manwl ag arddull hawdd ei ddarllen a difyr. Mae’n trafod sut mae enwau lleoedd yn datguddio hanes gwahanol haenau cymdeithasol: yr uchelwyr, y tlodion, y cleifion a’r crefftwyr. Mae’n bwysig cofio'r dyddiau hyn pa mor bwysig ydy enwau lleoedd a'r hyn maent yn ei ddatgelu am ein hanes, pan fo cymaint o newydd-ddyfodiaid yn mynnu newid enwau traddodiadol Cymreig a rhoi rhyw garbwl Seisnig yn eu lle. Mae’n bwysig fod ein henwau lleoedd yn cael eu cofnodi a’u cadw. A diolch i Glenda Carr am ei gwaith rhagorol.

Yn ei llyfr mae’n sôn am yr enw Maenofferen, sy’n wybyddus i ni yn Stiniog a gwerth dyfynnu rhan o’i disgrifiad:

“Enw fferm yn wreiddiol, a bellach enw ar ardal ym Mlaenau Ffestiniog yw Maenofferen. Mae hwn yn enw ardderchog i ddangos sut yr ydym yn llurgunio a moldio enwau i greu stori dda, neu i roi rhywfaint o ramant i le arbennig. Mewn darlith hynod ddifyr cyfeiriodd Dr Bruce Griffiths at hanesion ei nain am Maenofferen. (Pennau Llifiau, Pennau Cŵn. Darlith Flynyddol y Fainc Sglodion, 1984). Roedd hi’n cofio maen mawr yn y fferm. 

Drylliwyd y maen a defnyddio’r darnau i adeiladu capel Maenofferen. Gellir yn hawdd dderbyn hyn i gyd, ond roedd yn rhaid rhoi dipyn o sglein ar y stori. Roedd cred yn lleol fod y Derwyddon yn arfer lladd eu hebyrth yma, a bod yna dyllau ar ochr y maen gynt lle gosodid cwpanau arian i ddal y gwaed a lifai o’r ebyrth. Os oedd yr hanes i fod i esbonio’r elfen offeren, roedd yma dipyn o gymysgwch dealladwy ynglŷn â litwrgi a defodau’r Derwyddon, ond rhaid dweud fod yna gyffyrddiadau bach hyfryd, megis cwpanau arian, sy’n dangos cryn ddychymyg.

Mae ystyr yr enw yn llawer symlach ac yn llawer llai cyffrous. Elfennau’r enw yw maen+y+fferam. Ystyr fferam yn syml yw ‘fferm’. Ar yr olwg gyntaf gellid tybio mai enghraifft sydd yn yr -a- yn fferam o lafariad epenthetig, neu lafariad ymwthiol. 

Gwelir y math hwn o lafariad mewn geiriau megis 

pobl> pobol

aml> amal

llwybr> llwybyr… 

Rhaid cofio mai gair benthyg o’r Saesneg ‘farm’ yw fferm, beth bynnag. Ceir sawl enghraifft o fferam mewn enwau lleoedd ym Môn, ond ychydig iawn o enghreifftiau a welwyd y tu allan i’r ynys.

Ceir cofnod o Maen y ferran, Festiniog fel cartref Griffith a William Davies ar rôl bwrdeisiaid tref Caernarfon yn 1782. Nodwyd Maen y fferam rhwng 1800 a 1825. Maen-y-fferm oedd ar fap OS 1838. Yng Nghyfrifiad 1841 nodwyd Maenyfferm am enw’r annedd, a cheir cyfeiriad hefyd at chwarel sydd yn yr ardal fel Maenyferem Quarry

Maen y fferam oedd ffurf yn Rhestr Pennu Degwm 1841. Yna gellir gweld yr enw yn newid: Maenofferan sydd yng Nghyfrifiad 1861; Maenofferen yng Nghyfrifiad 1901, ac Maen Offeren ar y map OS cyfredol. Gellid tybio oddi wrth yr enghreifftiau hyn mai datblygiad gweddol ddiweddar yw'r offeren yn yr enw, ond cofnodwyd Maen yr offeren mor gynnar ag 1688 (Casgliad Tynygongl, Prifysgol Bangor). Fodd bynnag, sylwer fod yr Athro Gwyn Thomas yn ei hunangofiant Bywyd Bach yn pwysleisio fwy nag unwaith mai Maenfferam yw ynganiad pobl leol ar yr enw.”

TVJ
--------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2020


23.11.20

DATHLU 500!

Mae Llafar Bro yn cyrraedd carreg filltir ym mis Rhagfyr 2020, wrth gyrraedd y 500fed rhifyn!

Ym 1975 roedd bwrlwm trwy Gymru wrth i nifer o gymunedau ac ardaloedd sefydlu bapurau bro, ac fe gyhoeddwyd rhifyn cyntaf Llafar Bro ym mis Hydref y flwyddyn honno. 

Er mwyn nodi’r pum canfed rhifyn, a gan ddilyn y traddodiad gwych o gydweithrediad cymunedol yn Stiniog, mae Cwmni Bro Ffestiniog, cynllun Y Dref Werdd, a Llafar Bro, yn cydweithio i sicrhau y bydd pob tŷ yn y dalgylch –tua 3500- yn derbyn copi o’r rhifyn arbennig yma, yn rhad ac am ddim!

Mae’r Dref Werdd wedi adeiladu sylfaen arbennig o wirfoddolwyr cymunedol ac wedi gwneud gwaith amgylcheddol ardderchog yn lleol, gan gynorthwyo llawer iawn o bobl mewn sawl ffordd yn ystod argyfwng covid; maen nhw’n defnyddio’r profiad helaeth yma i gydlynnu rhwydwaith o bobl i ddosbarthu’r papur trwy’r ardal gyfan!

Un o gynlluniau Cwmni Bro ydi BroCast Ffestiniog, ac mi fydd y rhifyn arbennig yn fodd i hyrwyddo’r Panto unigryw sydd ar y gweill ganddynt. Gan na fedrwn ni fynd i sioeau, mae’r sioe yn dod atom ni eleni. Bydd ‘Y Dewin Ozoom’ yn fyw yn eich ‘stafell fyw rhwng Rhagfyr 14-17.
Meddai Ceri Cunnington: 

‘Mae rhwydwaith Cwmni Bro yn hynod o falch o gael y cyfle i chwarae ein rhan wrth gefnogi gwaith anhygoel gwirfoddolwyr Llafar Bro wrth ddod a newyddion yr ardal yn fyw. Dyma un o’r adnoddau pwysicaf sydd ganddo ni ym Mro Ffestiniog. Hir oes i Llafar Bro!’

Llafar Bro
Yn ôl rheolau sefydlu'r papur, 'darparu deunydd darllen addas yn y Gymraeg, ar ffurf newyddion, hanesion ac erthyglau o ddiddordeb lleol i drigolion Blaenau Ffestiniog, Tanygrisiau, Manod, Llan Ffestiniog, Maentwrog, Gellilydan a Thrawsfynydd, a thrwy hynny hybu mwy o ddarllen Cymraeg ymysg pobl ifainc ac oedolion y cylch. Cynnig gwasanaeth yn hytrach na gwneud elw fydd y nod.'

Mae Llafar Bro yn dal i gyhoeddi  11 rhifyn y flwyddyn, a'r cyfan yn gwbl wirfoddol. Mae tua 30 o bobl yn cyfrannu bob mis, fel gohebyddion, aelodau'r pwyllgor, dosbarthwyr, golygyddion, colofnwyr, ac ati.

Cyhoeddwyd 4 rhifyn yn ddigidol yn unig dros gyfnod y clo mawr eleni, gan annog darllenwyr i brintio tudalen neu ddwy ar gyfer aelodau o'u teuluoedd a chymdogion nad oedd yn defnyddio'r we. Roedd y rhain ar gael i bawb i’w lawr-lwytho am ddim, diolch i gymwynas cwmni Golwg360 yn ystod Gofid Covid, ac maent ar gael o hyd. Dychwelwyd at argraffu rhifynnau papur eto efo rhifyn Medi.

Cwmni Bro Ffestiniog

Mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ddatblygiad hollol arloesol yng Nghymru, sef rhwydwaith o fentrau cymdeithasol llwyddiannus sydd wedi dod at ei gilydd i gydweithio dan faner un cwmni bro. 

Eisoes mae wedi cyflawni llawer o ran datblygu’r economi a’r gymdeithas leol o’r gwaelod i fyny. 

Dechreuwyd adeiladu ar yr hen draddodiad diwylliannol o fentergarwch cymunedol, neu mewn geiriau eraill, y gymuned yn gwneud pethau trosom ein hunain.


Mae BroCast Ffestiniog yn cynhyrchu ffilmiau a phodlediadau am y gymuned ac efo'r gymuned, ac yn hyrwyddo cyfathrebu rhwng mentrau cymunedol yr ardal.
Cysylltwch â Ceri Cunnington:  ceri.c@cwmnibro.cymru


Y Dref Werdd
Prosiect amgylcheddol cymunedol yw’r Dref Werdd a gafodd ei sefydlu’n wreiddiol yn 2006.

Mae'n fenter gymdeithasol a ariennir bellach gan y Loteri, yn gweithio er lles yr amgylchedd a’r gymuned leol ym Mro Ffestiniog.


Ynni. Cydweithio efo trigolion i leihau faint o ynni a ddefnyddir yn eu cartrefi ac i arbed arian.
Amgylchedd. Diogelu afonydd trwy glirio sbwriel a thaclo rhywogaethau ymledol, a chodi ymwybyddiaeth yn yr ysgolion. Ddatblygu mannau gwyrdd a pherllan gymunedol hefyd.
Sgiliau. Cynorthwyo unigolion i gael hyfforddiant a chymwysterau cadwraeth, a datblygu sesiynau Cynefin a Chymuned i bobl ifanc.
Lleihau gwastraff bwyd. Agorwydd Y Siop Werdd yn ddiweddar, lle gall bawb brynu faint bynnag o gynnyrch maent yn gallu fforddio, a hynny yn ddi-wastraff a di-blastig.
Cysylltwch â Gwydion ap Wynn:   ymholiadau@drefwerdd.cymru

P.W.

Diolch i Dime Elenov am logo 500 Llafar Bro


18.11.20

Cloddio dan gofid

Erthygl gan Bill a Mary Jones, am y gwaith archeoleg a wnaed yn Llys Dorfil eleni, neu’n fwy cywir o’r gwaith na chafwyd ei wneud yno!


Mae'r pedair ymddiriedolaeth archeolegol yng Nghymru wedi atal cymryd ymlaen archeolegwyr amatur yn eu cloddiadau eleni, oherwydd pandemig Covid 19. 

 Ataliwyd y cloddio yn Llys Dorfil hefyd, am yr un rheswm. Caniatawyd i ni gael cwpl o wirfoddolwyr ar y safle o ddechrau mis Mehefin ymlaen, lle gwnaethom ganolbwyntio ar dorri'r rhedyn a'i glirio. Gwnaethpwyd y dasg galed hon gan E. Dafydd Roberts a Peter V. Jones. 

 

Y prif beth a welsom ar ôl clirio'r rhedyn oedd olion y wal amgáu ogleddol. Hefyd, llinell o gerrig mawr claddedig sy'n rhedeg i gyfeiriad gorllewinol, yn lefel  gydag arwyneb y ddaear ac yn gyfochrog â'r wal amgáu ogleddol.    

 

Gall hyn awgrymu lleoliad wal gynharach a bod y lloc wedi bod yn llai yn wreiddiol. Os gellir profi hyn, mae'n golygu fod y lloc gwreiddiol wedi'i ymestyn oddeutu pymtheg medr yn fwy, ac wedi ei adeiladu trwy ddefnyddio'r wal fewnol fel chwarel.  


Mae’r waliau gwreiddiol hyn yn ymestyn o dan leoliad y gwaith carthffosiaeth bresennol.
Pe bai'r gwaith yma yn cael ei adeiladu heddiw, fe fuasai Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd wedi mynnu defnyddio dulliau fel astudiaeth pen desg, geoffiseg archeolegol a hyd yn oed ffosydd archwilio.


O ddechrau mis Awst eleni roedd mwyafrif o’r gwirfoddolwyr yn ôl, gyda'r holl gyfyngiadau Covid ar waith.   


Ym mis Ionawr eleni gwnaethom anfon samplau siarcol o'r beddfaen (isod) i gael dyddiad carbon 14 arnynt. Ac unwaith eto, oherwydd y firws Covid 19 roedd y labordai ar gau, ond maent bellach wedi'u hailagor ar gyfer busnes. Rydym ni'n gobeithio cael y canlyniad y mis nesaf.
 

Darganfuwyd darn bach o grochenwaith yn adfeilion y wal ddeheuol tu allan i'r tŷ crwn cyswllt, nid yw arbenigwr wedi'i ddyddio eto. Os yw'n troi allan fel y gobeithiwn - mai llestr llathredig du o’r adeg Rhufeinig-Brydeinig ydyw, byddai hyn yn dyddio'r tŷ crwn i rywle rhwng 43 a 410 OC. 


Cawsom ymweliad gan Peter Crew - mae llawer ohonoch yn ei gofio fel archeolegydd Parc Cenedlaethol Eryri am nifer o flynyddoedd. Roedd yn canmol y gwaith archeolegol yn Llys Dorfil a chytunodd â Frances Lynch archeolegydd a hanesydd arall, sef fod yr hyn yr oeddem yn meddwl oedd yn gistfaen, yn gywir. Soniodd hefyd am un o’r cloddiadau cyntaf a wnaeth fel archeolegydd y Parc yn Cyfannedd Fawr, Arthog. Dyma le arall y darganfuwyd beddfaen y tu mewn i dŷ crwn, yr un fath â'r un yn Llys Dorfil.
 
[...i’w barhau.]                                                            

--------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2020.

MWY am Llys Darfil


14.11.20

Sgotwrs Stiniog -gwybaid a gwrlid a'r Gamallt

Chawsom ni ddim pennod o Sgotwrs Stiniog ers talwm; cyfres y diweddar Emrys Evans, fu'n ymddangos yn fisol am ddegawdau!  

Dyma addasiad o erthygl o ddeunaw mlynedd yn ôl, yn rhifyn Hydref 2002.

Yn ystod wythnosau olaf tymor y brithyll eleni cafwyd niferoedd go dda o’r pryf bongoch yn amlwg ar rai o’r llynnoedd.  Pryf sy’n deor o’r tir ydyw, fel y gwyr y cyfarwydd, a chyda awel gweddol gref yn cael ei gario ar y dŵr.  Yn ei gyfnod mae y pysgod yn mynd amdano’n awchus.

Gamallt. Llun gan Gareth T Jones

Cefais i ddiwrnod difyr iawn wrth y ddau Lyn Gamallt yn niwedd Awst eleni hefo Rhodri, fy ŵyr.  Diwrnod hafaidd braf, y bongoch ar y dŵr, y pysgod yn codi amdano, a hwyl ar gael cynnigion a bachu rhai ohonynt.

Pryf bongoch (Bibio pomonae). Llun gan Hectonichus - CC BY-SA 3.0 comin wiki

Ydi’r bongoch i’w weld ar bob un o’n llynnoedd?  Tir grugog yw ei gynefin.  Holais Caradog Edwards, Tan y Grisiau, am Llyn Cwmorthin, ond nid yw’n cofio ei weld yno.  Beth am y ddau Lyn Barlwyd?  Ydi’r bongoch yno?

* * *


Gawsoch chi eich poeni gan y ‘puwiaid bach’ -gwybaid- ar yr ychydig nosweithiau braf o haf a gafwyd eleni?

Yn ddiweddar darllenais ysgrif gan Twm Elias, Plas Tan y Bwlch, ar y planhigyn helyg Mair yn y cylchgrawn ‘Natur Cymru’, ac ymhlith pethau eraill dywed hyn:
‘Bydd pysgotwyr yn gwisgo sbrigyn ohono, os yw’n gyfleus ar gael, pan yn eistedd mewn cwmwl o wybed ar lan llyn neu afon yn Eryri.’
Fel y gwyr pawb sy’n pysgota nos, mae y gwybaid bach yn medru bod yn bla ar adegau.  Weithiau maent mor ddrwg fel eu bod yn gyrru rhywun bron yn wirion.  Mae gwahanol fathau o oeliach i’w cael i’w rhoi ar y croen, ond wn i ddim am yr un sy’n effeithiol gant y cant.

Gwrlid, planhigyn llawn olew persawrus sydd wedi'i ddefnyddio i wneud eli gwybaid yn yr Alban. Llun Paul W.

Tybed pa mor effeithiol yw’r planhigyn helyg Mair?  Enwau eraill arno ym Meirionnydd yw ‘cwrli’ a ‘cwrtid’ (gwrlid hefyd -gol.).  Oes rhywun wedi’i ddefnyddio rywdro ac a fedr dystio pa mor dda ydyw neu fel arall?

* * *

Rhywbryd yn ystod yr haf bu cyfaill imi am dro o gwmpas Llynnoedd y Gamallt.  Bu’n cymryd golwg hefyd ar Dŷ’r Gamallt, fel yr arferwn ni a galw’r caban sydd ym mhen uchaf y Llyn Bach, ac wrth droi o’i gwmpas, digwyddodd sylwi ar yr hyn sydd wedi’i sgrifflo neu ei dorri ar y llechen sy’n sil i’r ffenestr fach yn ymyl y drws.

Yr hyn sydd ar sil y ffenestr yw ‘croes’ gyda’r llythrennau ‘W.G.C’  yn ei phen uchaf, ac ‘R.I.P’  wrth ei throed. A chwestiwn y cyfaill oedd, “Pam fod rhywun wedi sgrifflo hyn ar sil y ffenestr?

I ateb cwestiwn y cyfaill rhaid yw mynd yn ôl i’r flwyddyn 1889, ac yn rhifyn y 26ain o Fehefin y flwyddyn honno o’r hen bapur newydd hyglod ‘Baner ac Amserau Cymru’ fe geir yr hanes yn llawn.  Dyma fel y mae Treborfab, a oedd yn ohebydd Ffestiniog i’r papur, yn adrodd yr hanes:

Marwolaeth Sydyn ar y Mynydd
‘Y gair cyntaf a darawyd ar glustiau trigolion Blaenau Ffestiniog boreu dydd Iau diwethaf oedd am farwolaeth annisgwyliadwy Mr W.G. Casson.

Oddeutu un o’r gloch prydnawn Mercher, yr oeddem yn edrych ar y boneddwr parchus yn mynd yng ngherbyd Dr. Roberts, Isallt, i bysgota i Lyn y Gamallt.  Wedi bod yn pysgota am ychydig amser, cymerwyd ef yn wael o ddeutu pump o’r gloch.  Yr oedd y pryd hwnnw ychydig bellter oddi wrth y bwthyn.  Aeth Dr. Roberts ato ar unwaith.  Cwynai ei fod yn wael iawn, ac yr oedd yn taflu llawer o waed i fyny.  Wedi ychydig o amser llwyddodd y doctor gyda chymorth bachgen oedd gyda hwy i fyned a Mr Casson i’r tŷ.  Anfonwyd y bachgen at Dr. Griffith Roberts i’r Llan i ymofyn cyffuriau, a phob cymorth meddygol, ond yr oedd y cwbl yn rhy ddiweddar, a bu Mr Casson farw tua deg o’r gloch yr hwyr, ar lan y llyn.

Dygwyd ei gorff adref erbyn tri o’r gloch boreu dydd Iau.  Yr oedd yn foneddwr hynod o garedig, a’i brif elfen oedd pysgota.  Edrychai ar y Gamallt fel ei hafoty, ac yno yr oedd yn gartrefol.  Yr oedd yn bleidiol iawn i’r Gymdeithas Enweiriol, ac i roddi hawl i bob dyn i bysgota yn gyfreithlawn.  Mab ydoedd i Mr William Casson, a brawd i Mr George Casson, gynt o Flaenau Ffestiniog.  Yr oedd yn 50ain mlwydd oed.  Efe ydoedd arolygydd ariandy Gogledd a Deheudir Cymru.  Yr oedd yn ynad heddwch yn Sir Feirionnydd a Sir Gaernarfon.’


Dyna’r hanes fel y mae i’w gael yn y papur newydd, a dyna sydd y tu ôl i’r hyn sydd wedi’i dorri ar sil ffenestr fach Tŷ y Gamallt. Rydw i’n tybio, er na wn i mo hynny i sicrwydd, mai Dr. Robert Roberts, Isallt, a fu’n gyfrifol am y torri ar sil y ffenestr, a hynny er cof am W.G. Casson.  Roedd y ddau yn bennaf cyfeillion, yn ôl a ddywedir.

Rydw’i wedi crybwyll hyn o’r blaen rywdro, roedd W.G. Casson yn un o’r tri a fu’n gyfrifol am gychwyn Cymdeithas y Cambrian yn 1885.  Y ddau arall oedd Dr. Robert Roberts, Isallt, ac R.H. Hughes (Cynfoel), y post-feistr, W.G. Casson oedd trysorydd cyntaf y Gymdeithas.  Dyna’r hanes, mor llawn ag y medraf i ei roi.  Gobeithio y bydd o ddiddordeb i’r rhai sy’n darllen y golofn.




10.11.20

Stiniog O’r Wasg Erstalwm (4)

Pennod arall o gyfres Vivian Parry Williams
Y cyfeiriad at ddiwydiant angof yn yr ardal wna hysbyseb yn y Manchester Times and
Gazette
ar 9 Medi 1837 mor werthfawr i haneswyr. Hysbyseb am gyfranddaliadau yn y Great Gamallt Lead Mine, a oedd yn cynnig 256 o'r shares ar werth i fuddsoddwyr. Roedd y gwaith dair milltir o ‘Festiniog’, a chwe milltir o'r cei ym Maentwrog, meddai'r hysbyseb, ac yn hawlio hyd at bedwar can erw o dir, ar lês o 21 mlynedd. Byddai'n bosib' meddid i gynhyrchu tunelli o fwyn am ganrifoedd i ddod. Tipyn o ddweud!

Gwaith Plwm Gamallt (neu'r 'Gwaith Mein' fel mae rhai yn ei alw) -Llun VPW

Wedi llith hir yn trafod rhinweddau'r gwaith mwyn, dywed yr hysbyseb, mewn geiriau gonest, tua'r diwedd: 

The proprietors do not hold out any extravagant expectations of realizing rapid and enormous wealth to the shareholders.  

Cafwyd gwybodaeth ychwanegol hefyd am y modd y gweithid y mwynfeydd yn y Gamallt: 

The works are let by contract, ("Bargains") and the wages, &c. settled monthly. They are carried out under the direction of a foreman, and the general superintendence of one of the proprietors resident in the district as manager...

Difyr odiaeth oedd darllen fel yr oedd yn bosib' cael golwg dros lyfrau cownt ac adroddiadau o waith mwyn y Gamallt yr adeg honno, trwy gysylltu â swyddfa Mr J.D.Barry, yr asiant ym Manceinion. Tybed beth ddaeth o'r llyfrau hynny, a fyddent mor werthfawr i haneswyr heddiw fel dogfennau'n ymwneud ag un o ddiwydiannau coll plwyf Ffestiniog?
- - - - - - - -

Trist oedd darllen am hanes damwain ger Rhaeadr Cynfal yn y North Wales Chronicle (NWC), ar 3 Hydref 1837, ac yn y Caledonian Mercury ddeuddydd yn ddiweddarach, pryd y llithrodd merch o’r enw Miss Anwyl, Plas Coch, Y Bala, i ddyfnder pwll islaw’r rhaeadr. Roedd ar ymweliad, gyda’i brawd ac eraill, â Llan Ffestiniog, a’r cwmni, ynghyd â dau fachgen a gyflogwyd fel tywyswyr iddynt, wedi penderfynu ymweld â’r golygfeydd ar Afon Cynfal. Wrth edrych i lawr tua’r dyfnderoedd, dioddefodd y ferch o’r bendro, gan ddisgyn i’r trobwll yn yr afon. Rhedodd y bechgyn am gymorth rhai o’r pentrefwyr, ac wedi rhuthro i’r safle, gollyngodd un ei hun gyda rhaff o ben y dibyn at waelod yr afon, a darganfod corff y ferch ifanc wedi boddi.
- - - - - - - -

Cynigiwyd gwobr o dair gini i felinyddion am gynllun o felin ddŵr i falu ceirch, gyda thair maen melin, i’w chodi ger Glynafon, Tanygrisiau, mewn hysbyseb yn y NWC 9 Ebrill 1839. Cynigiwyd ail wobr o ddeg swllt a phum swllt fel trydedd wobr. Rhaid oedd cyfyngu’r gost o godi’r felin i gyd i £800, yn cynnwys y peirianwaith. Rhaid oedd anfon y cynlluniau i Samuel Holland (iau) neu William Owen, Glynafon, i’r hwn, yn ôl pob golwg y bwriadwyd codi’r felin.
- - - - - - - -

Yn y NWC ar 4 Awst 1840, cafwyd adroddiad tudalen lawn, ddifyr iawn o hanes gosod carreg gyntaf Eglwys Dewi Sant newydd yn y Blaenau, dan nawdd y wraig hynaws o Blas Tan-y-bwlch, Mrs Oakeley. Dyma ddywed rhan o’r ganmoliaeth i’r ddynes garedig honno 

...whose purse is ever open when she can benefit the poor, by contributing to their comfort, educating their children, visiting the sick, and now erecting this church...Her reward is in Heaven.

Cymaint gorfoledd un Rev. Mr Pugh  nes iddo gyfansoddi cerdd Gymraeg, daeogaidd ei naws, yn y papur hwnnw, i dathlu’r achlysur o weld cychwyn codi eglwys Anglicanaidd yng nghanol caer Anghydffurfiaeth yn y Blaenau. Ychydig yn baradocsaidd, Brydeinig ei naws oedd geiriau’r Cymro hwn, dybiwn i, fel y gwelir yn y pedwar pennill cyntaf o’r gerdd!


Tra gwaed Cymro yn fy ngwythi,
A thra ‘nghamrau fo yn Nghymru;
Molaf egwyddorion tyner
Cyfansoddiad Eglwys Loegr.


Pwy fu’n cynheu fel canwyllau
Dros i’r bobl gael eu Biblau;
Pwy r’odd her i’r Pab a’i Bader,
Onid dewrion Eglwys Loegr?


Pwy fu’n rhuddo dros wir ryddid,
Yn y tanbaid fflamau enbyd,
Dan gynddaredd Mair a Boner?
Gweinidogion Eglwys Loegr!


Pwy a safodd yn hardd fyddin,
I wrth’nebu Socialism?
O un galon, gwyr gafaelgar,
Ffyddlon weision Eglwys Loegr.
---------------


Mae Radio Cymru wedi darlledu cyfres berthnasol iawn i’r golofn yma, sef ‘Papur Ddoe’, efo Elin Tomos yn edrych ar hanes Cymru trwy bapurau newydd y gorffennol.  Yn y bennod gyntaf a ddarlledwyd ar ddiwedd Awst, mae Vivian yn son am ‘Glefyd Stiniog’ (sef typhoid). 

- - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020.



6.11.20

'Dathlu' dymchwel tai FRON HAUL

Yn 1998 – cafodd teras o dai -FronHaul- yn Nhanygrisiau eu datgymalu garreg wrth garreg er mwyn eu hail-adeiladu 30 milltir i ffwrdd yn yr amgueddfa lechi. Agorwyd yr atyniad newydd –pedwar tŷ, wedi’u dodrefnu a’u haddurno i adlewyrchu gwahanol gyfnodau yng nghymunedau llechi gogledd Cymru- ym 1999, un mlynedd ar hugain yn ôl.


Oherwydd cyfyngiadau’r gofid mawr, doedd dim posib cynnal gweithgareddau yn yr amgueddfa, felly cynhaliwyd y dathliad ar y we, efo lluniau, ffilmiau, blogio, celf a mwy. Comisiynwyd llawer o gyfraniadau gan bobol Stiniog, gan gynnwys Gai Toms a phlant ysgol Tanygrisiau; yr artist lleol Lleucu Gwenllian, a’r bardd Mirain Rhisiart. 

Rhan o un o luniau Lleucu -tai Fron Haul yn eu cynefin gwreiddiol

Deallwn bod yr Amgueddfa Lechi yn bwriadu gosod panel ddehongli ar safle gwreiddiol y tai, efo gwybodaeth amdanynt, ynghyd â gwaith celf a cherddi Lleucu a Mirain. Mae’n hen bryd, mewn gwirionedd, i rywbeth gael ei wneud yn safle Fron Haul, gan fod Llanbêr wedi cael dau ddegawd o fudd o’r tai –ar draul fe ellid dadlau- Tanygrisiau, sydd wedi gweld y lle’n datblygu’n leoliad blêr, gwag, fyth ers dymchwel y tai.

 

FRON HAUL
gan Mirain Rhisiart, Congl-y-wal

Gwelodd Eryri oes aur y llechi.
Trawsnewid y werin o gaib i gŷn.
Yn nyffryn ‘Stradau, rhesi o feini,
Ymlusga’r rhimyn â‘r graig gyferbyn.
Enfawr fu’r chwyldro, ergyd fu’r chwalfa,
Dirywiad diwydiant, mwy na’i dyfiant.
Tawelwch. Y baracs fu’n segura.
Difrod gan ddwylo diarth, llechfeddiant.
Cyflawni lladrad absen fel llwynog,
Sleifio’n llechwraidd a dwyn o’r Gorlan.
A glaw fu’n llifo o’r llechwedd creigiog,
Trueni mai hyn fu tranc y drigfan.
Rhaid gwarchod ein treftadaeth, mae’n drysor,
Neu diflannu wna, fel llong heb angor.


Daw cyfnod du i darfu – gwêl golau.
Geiriau gobeithiol gŵr gwydn; Elfyn.
Parhau i drigo’r tai mae eneidiau.
Drws llonydd ddaw a cartref i’w derfyn.
Datgymalwyd hwy, cymerwyd sawl dydd
A’u gweddnewid nes nad oedd hoel o draul.
Er yr ail-gartrefwyd yr aelwydydd,
Disgleiriau edefyn ar dîr Fron Haul.
Wrth feddwl am y teuluoedd hynny,
Mae cysylltiad wrth gyffwrdd y meini.
A nghefn at y drws, edrychaf fyny
Ar olygfa gyfarwydd o lechi.
Er fod pellter i gyrraedd Llyn Padarn,
Mi wn y saif y pedwar yn gadarn.


Meddai Mirain ar flog yr Amgueddfa Lechi:
Yn ystod sgwrs efo staff yr amgueddfa, cefais wybod bod Taid wedi bod yn byw yn rhif 3 Fron Haul rhwng 1927 a 1933! Dysgais am fardd lleol hefyd, Elfyn. Rydw i wedi cyfeirio at linell yr ysgrifennodd o tra roedd yn wael ac yn gaeth i’w gartref,

Hyderaf y câf fel cynt, weld yr haul wedi’r helynt”.
I mi, mae’r linell yng nghyd-destun fy ngherdd yn golygu hyn: er na fydd y diwydiant llechi yn debygol o fod mor llewyrchus ag yr oedd dros y ddwyganrif ddwytha, rydw i’n hyderus o’r potensial sydd gan Cymru i oresgyn rhwystrau a llwyddo fel gwlad fychan.
-----------------------

Addasiad o ddarnau a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020

Hanes y symud


2.11.20

STOLPIA- Tro yn ôl i 1958-1963

Cyfres Steffan ab Owain


Y mae sawl peth wedi aros yn fy nghof yn dilyn ambell ddigwyddiad o ddiwedd y pumdegau a dechrau’r chwedegau. Cofiaf un haf braf iawn fynd i ymdrochi i bwll yn afon Goedol uwchlaw Rhaeadr Dolwen gyda’m cyfaill Philip Roberts (Philip Heulfryn) a mwynhau ein hunain yn iawn yno. Wel, roedd hynny’n wir am y tro cyntaf, a’r ail dro, ond pan aethasom yno y trydydd tro cawsom dipyn o fraw. Fel yr oedd Phil yn codi i fyny o’r dŵr sylwais bod ei goesau ag ugeiniau o bethau duon tebyg i falwod arnynt, ac yna, edrychais innau ar fy nghoesau a gweld yr un math o bethau, ac wrth gwrs, sylweddoli mai gelod oeddynt yn glynud ar groen ein coesau ac yn ceisio sugno ein gwaed. Dyna’r tro olaf i ni o’n dau fynd i ymdrochi i’r pwll hwnnw.

 

Rhaeadr Dolwen ac un o byllau’r Afon Goedol


Ffawd-heglu eto
Cofio ffawd heglu sawl tro yn nechrau’r chwedegau o odre domen Penybont ac yn ffodus i gael pas i Betws y Coed, Llanrwst a phellach, ar adegau. Pa fodd bynnag, cofiaf un tro i un gyda motobeic a seidcar stopio a chynnig pas i mi a chyfaill, ond gwrthod a wnaesom y tro hwnnw, gan ddiolch iddo am y cynnig.
 

Dyma lun rhywun arall efo motobeic a seidcar ger y fan lle byddem yn ffawd-heglu yn y chwedegau a chyn iddynt ledu’r ffordd fawr yn yr 1970au, ac yn ddiweddarach. Sylwch, dim llinellau gwynion ar y ffordd fawr gul na llygaid cathod. Polion trydan yn gwyro i gyfeiriad y ffordd a dim sôn am draffig trwm a diddiwedd.
 


Dro arall, arafodd un gŵr gyda’i gar gerllaw y fan lle byddem yn bodio, ac fel yr oeddem yn bras gerdded am ei gar, i ffwrdd a fo gan godi ei law a chwerthin i lawr ei lawes. Byddid yn clywed gan hogiau eraill am rai yn gwneud tric sâl fel hyn, a byddai amryw yn eu diawlio yn iawn.Weithiau byddid yn cael pas ar gefn lorri neu dryc a chofiaf dau ohonom yn cael pas i Betws y Coed un tro, a hithau yn oer yng nghefn y lorri, ac erbyn inni gyrraedd pen ein siwrnai roeddem wedi fferru. Dro arall, cofiaf Brei a finnau yn cael pas adref o Fetws y Coed gan ŵr lleol caredig, ond wedi inni fynd i mewn i’w gar, a oedd yn weddol newydd, fe ddywedodd yn syth, mi fuaswn wedi eich pasio pe baech a phaciau ar eich cefn. Cawsom weld ei reswm, ar ôl iddo ddweud ei fod wedi rhoi pas i ryw fachgen gyda phac ar ei gefn rhyw bythefnos ynghynt a phan ddaeth i eistedd ar sedd gefn y car mi fachodd pin un o’r byclau a oedd ar ei bac yn lledr y sedd a’i rhwygo yn ddrwg. Gallwch feddwl nad oedd yn hapus o gwbl ar ôl bod yn Samariad da y tro hwnnw.
 

Dyna oedd hanes amryw ohonom ni’r hogiau yn y chwedegau cynnar yn ffawd-heglu heb feddwl dim am beth a allasai ddigwydd inni ar ein siwrnai gyda gyrwyr dieithr yn aml iawn. Y mae hi’n wahanol byd heddiw ac ychydig sydd yn ffawd-heglu ar ein priffyrdd a phrin iawn yw’r rhai sydd yn barod i godi neb y dyddiau dyrys hyn. 


(Lluniau o gasgliad yr awdur)
------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen Stolpia (os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'web view' i weld y dolenni)