30.9.12

Calendr y Cymdeithasau -Hydref



Digon o bethau'n digwydd yn y fro eto trwy fis Hydref. Gyrrwch fanylion unrhyw ddigwyddiadau eraill i'w cynnwys yma, ac ar dudalen Gweplyfr/facebook Llafar Bro.


Hydref 3:   CYMDEITHAS HANES BRO CYNFAL
                Ymweliad ag YSBYTY IFAN gydag Edmund Rees
                Cyfarfod yn y Caban am 7. Holwch i fod yn siwr.

Hydref 4:   Y FAINC ‘SGLODION
               Dr Angharad Price: Crwydriadau Syr T.H.Parry-Williams
               7.15yh  Y GANOLFAN GYMDEITHASOL, BLAENAU FFESTINIOG.

Hydref 6ed:   CLWB RYGBI BRO FFESTINIOG
               Gêm gartref yn erbyn Yr Wyddgrug

Hydref 6ed:   PENGWERN CYMUNEDOL
                8.30 yh JOHN AC ALUN

Hydref  7fed:    SEINDORF YR OAKELEY
                Cyngerdd Mawreddog, yng Nghanolfan Porthmadog. 7.30

Hydref 11, 12, 13eg:   CLWB RYGBI BRO FFESTINIOG
                Sioe Glybiau Bara Caws. ‘Un bach arall (eto)’

Hydref 17: CYMDEITHAS HANES BRO FFESTINIOG
                Gwyn Edwards, 'Stiniog mewn hen gardiau post'

                7.15 yn Neuadd y WI, Blaenau

Hydref 22ain:    MERCHED Y WAWR, Blaenau
               7.00 yr hwyr yn y Ganolfan Gymdeithasol. 
               SGWRS GAN Iona Price

Hydref 26ain:    NEUADD GELLILYDAN
              Disgo Nos Galan i blant

Hyd 31–4 Tach. Cwrs Cymuned a Chynefin.
              Plas Tan y Bwlch.


27.9.12

Lle maen nhw heddiw?

Mae Llafar Bro wedi bod yn holi rai o blant y cylch sydd wedi gadael y fro, bob mis, a thro Teleri Jones, Tyddyn Gwyn, oedd hi yn rhifyn Medi.
Dyma ddarn o'i herthygl hi isod.

(**COFIWCH, gyda llaw, bod y dyddiad cau ar gyfer rhifyn Hydref, YFORY, Dydd Gwener, 28ain o Fedi! Ewch ati i yrru rhywbeth i Tecwyn.**)






Dwi’n eistedd mewn Starbucks yn yr Exchange Tower yng nghanol Toronto. Fel arfer, mae’r lle yn llawn sŵn a phrysurdeb ond Dydd Sul ydi hi heddiw ac mae’r ddinas yn gorffwys rhyw ’chydig. Dwi wedi bod i fyny yn fy swyddfa yn trio clirio rhywfaint ar y pentwr gwaith sydd bob amser yn aros amdanaf yn fan’no ond yn teimlomod i’n haeddu panad bellach a chyfle imi bendroni uwchben cwestiynau Llafar Bro ac i hel atgofion am gartra.

Beth yw eich swydd bresennol ac ym mha ran o’r byd ydych chi’n byw ar hyn o bryd?

Yn Toronto, yng Nghanada yr ydw i y dyddiau yma. Mae Phil (y gŵr) a finna yma ers bron i ddeng mlynedd, bellach. Mae’r ffaith fy mod i’n gweithio yn yr Exchange Tower yn gliw ynglŷn â fy swydd. Gweithio rydw i, ers tua phedair blynedd bellach, i’r cwmni sy’n rhedeg y Gyfnewidfa Stóc yn Toronto. Yn fy swydd bresennol fel Cyfarfwyddwr Cyllid, dwi’n gyfrifol yn bennaf am gynhyrchu adroddiadau blynyddol a chwarterol ar gyfer y rhiant-gwmni ac amryw o’r is-gwmniau.



A fyddwch chi’n dychwelyd weithiau i fro eich mebyd? Beth yw eich teimlada, bryd hynny?

Byddaf, o leiaf unwaith bob blwyddyn. A byddaf hefyd yn rhygnu ar Mam a Dad ac Owena a Merêd a gweddill y gang i ddod draw yma mor aml â phosib. Heb eithriad, mae dod adref i Stiniog yn brofiad cymysg – codi ’nghalon a’i thorri bob tro. Dwi wrth fy modd yn dod nôl i weld y teulu ac i grwydro’r ardal. Mae’n braf cael picio i’r Stryd Fawr a chael sgwrs efo hwn ac arall, fel pe na bawn i wedi bod i ffwrdd o gwbwl. Lle cartrefol fel’na ydi Blaena. A does byth well pryd o fwyd i mi, nac i Phil chwaith erbyn hyn, na chinio Dydd Sul Mam! Ond mae’r dyddiau’n mynd heibio’n rhy gyflym o lawer a daw’r amser i adael ac i’r dagrau ddechrau llifo eto. Efallai y caf brynu tocyn unffordd yn ôl yma, ryw ddydd.


17.9.12

Troedio'n Ol


Mae John Norman yn un o golofwyr rheolaidd Llafar Bro. Dyma ddarn o'i erthygl yn rhifyn Medi:

CHWARAE  PEL  DROED


Llun JN
‘Rwyf eisioes wedi son am bêl droed a Dôl Bont yn fy stori yn Llafar Bro am Ysgôl Summerhill, Llan Ffestiniog. Heddiw mae’r cae yn gorwedd o dan ffordd osgoi Traws ger hen bont y llan ar droad yn yr Afon Prysor.


Rhoddai’r afon linell glir ar un ochr a therfyn gwlyb tu ôl i un gôl. Dysgai chwaraewyr Traws i ergydio’n  unionsyth at y gôl. I’r sawl a fethai ‘roedd tasg annifyr o dynnu’r bêl o’r dŵr oer yn eu disgwyl.   



Yn ystod y rhyfel ‘roedd rhan helaeth o dim Traws, ‘Prysor Rovers’, yn y lluoedd arfog. Bu ychydig ohonom, yn ein harddegau, yn cadw pethau i fynd. Byddem yn marcio’r cae, paratoi y bêl, trefnu’r gemau a chrafu am ddillad chwarae- ‘y togs’. 

Gwaith annodd oedd marcio’r cae gan ei fod yn dibynnu ar y tywydd ac ar haelioni’r saer gyda’i lwch lli. Byddai gwynt mawr, neu’r afon mewn llif yn creu anawsterau ond erbyn amser ‘cic off’ roedd Dôl Bont yn faes chwarae heb ei ail.



Llun. JN yn ugain oed ym 1948, ‘ar y bêl'.