27.9.12

Lle maen nhw heddiw?

Mae Llafar Bro wedi bod yn holi rai o blant y cylch sydd wedi gadael y fro, bob mis, a thro Teleri Jones, Tyddyn Gwyn, oedd hi yn rhifyn Medi.
Dyma ddarn o'i herthygl hi isod.

(**COFIWCH, gyda llaw, bod y dyddiad cau ar gyfer rhifyn Hydref, YFORY, Dydd Gwener, 28ain o Fedi! Ewch ati i yrru rhywbeth i Tecwyn.**)






Dwi’n eistedd mewn Starbucks yn yr Exchange Tower yng nghanol Toronto. Fel arfer, mae’r lle yn llawn sŵn a phrysurdeb ond Dydd Sul ydi hi heddiw ac mae’r ddinas yn gorffwys rhyw ’chydig. Dwi wedi bod i fyny yn fy swyddfa yn trio clirio rhywfaint ar y pentwr gwaith sydd bob amser yn aros amdanaf yn fan’no ond yn teimlomod i’n haeddu panad bellach a chyfle imi bendroni uwchben cwestiynau Llafar Bro ac i hel atgofion am gartra.

Beth yw eich swydd bresennol ac ym mha ran o’r byd ydych chi’n byw ar hyn o bryd?

Yn Toronto, yng Nghanada yr ydw i y dyddiau yma. Mae Phil (y gŵr) a finna yma ers bron i ddeng mlynedd, bellach. Mae’r ffaith fy mod i’n gweithio yn yr Exchange Tower yn gliw ynglŷn â fy swydd. Gweithio rydw i, ers tua phedair blynedd bellach, i’r cwmni sy’n rhedeg y Gyfnewidfa Stóc yn Toronto. Yn fy swydd bresennol fel Cyfarfwyddwr Cyllid, dwi’n gyfrifol yn bennaf am gynhyrchu adroddiadau blynyddol a chwarterol ar gyfer y rhiant-gwmni ac amryw o’r is-gwmniau.



A fyddwch chi’n dychwelyd weithiau i fro eich mebyd? Beth yw eich teimlada, bryd hynny?

Byddaf, o leiaf unwaith bob blwyddyn. A byddaf hefyd yn rhygnu ar Mam a Dad ac Owena a Merêd a gweddill y gang i ddod draw yma mor aml â phosib. Heb eithriad, mae dod adref i Stiniog yn brofiad cymysg – codi ’nghalon a’i thorri bob tro. Dwi wrth fy modd yn dod nôl i weld y teulu ac i grwydro’r ardal. Mae’n braf cael picio i’r Stryd Fawr a chael sgwrs efo hwn ac arall, fel pe na bawn i wedi bod i ffwrdd o gwbwl. Lle cartrefol fel’na ydi Blaena. A does byth well pryd o fwyd i mi, nac i Phil chwaith erbyn hyn, na chinio Dydd Sul Mam! Ond mae’r dyddiau’n mynd heibio’n rhy gyflym o lawer a daw’r amser i adael ac i’r dagrau ddechrau llifo eto. Efallai y caf brynu tocyn unffordd yn ôl yma, ryw ddydd.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon