5.9.12

"Daliwch y dudalen flaen...!"

Diolch i'r drefn am hynna: mae rhifyn Medi wedi mynd i'w wely o'r diwedd! Mae o wedi teimlo'n hirach, a mwy poenus na'r arfer y tro yma!
Bydd Vivian, yr ysgrifennydd yn ei ddanfon i'r wasg bore Mercher.
Nos Fercher nesa -y 12fed- fydd o'n cael ei blygu, yn neuadd y WI, ac yn cael ei rannu wedyn rhwng y dosbarthwyr lleol a'r siopau.
A fu aberth pobl Bro Ffestiniog yn ofer? -llun PW
Fel y gellid disgwyl, mae yna gryn sylw i'r ysbyty yn y rhifyn yma, ond mae'r golygyddol yn son am y rwystredigaeth o orfod gyrru'r deunydd i'r wasg cyn y cyfarfodydd efo'r bwrdd iechyd!

Dyma ddarn i aros pryd..


Dwi ddim isio swnio fel tiwn gron, ond ‘rargian, mae golygu rhifyn Medi bob blwyddyn yn gwneud i mi sylweddoli mor braf ydi byw ym Mro Ffestiniog. Do, mi gawsom ni’r haf gwlypaf ers cychwyn cofnodi’r glaw, ond wfft i’r tywydd. Mae’r golofn rhoddion yn fy rhyfeddu i’n rheolaidd. Diolch yn fawr iawn i chi gyd am eich haelioni, ar gyfnod mor anodd i nifer. Diolch i lawer hefyd am gefnogi ein papur bro mewn ffyrdd eraill. 

Mae Calendr y Cymdeithasau hefyd yn llonni calon rhywun, wrth sylwi’r gweithgaredd anhygoel sy’n mynd ymlaen yn ein cymuned. 

Hefyd, angerdd pobl y fro, a llafur cariad ac ymroddiad y pwyllgor amddiffyn, wrth geisio gwarchod ein gwasanaethau. Mae’n fraint yn wir cael byw yn eich mysg.

Mae golygu papur misol yn gallu bod yn waith rhwystredig iawn hefyd. Ffrystreting: hwnna ydio!

Yn ystod yr wythnos rhwng gyrru Llafar Bro i’r wasg, ac iddo ymddangos yn eich cartrefi, gall llawer iawn o bethau ddigwydd! Y tro hwn, rwy’n methu adrodd yn llawn ar ddatblygiadau’r ysbyty, oherwydd bod cyfarfodydd y bwrdd iechyd yn digwydd ddiwrnod ar ôl rhoi Llafar Bro i’w wely, ar y 6ed! Pwy a ŵyr; oherwydd cefnogaeth eich papur bro i ymgyrch y pwyllgor amddiffyn, efallai mai dyna mae’r bwrdd iechyd yn gwybod?! 

Mewn difri’, gall nifer o bethau newid hefyd yn y bwlch hwnnw, a ninnau’n methu adrodd yr hanes am fis arall. Ni all, ac ni ddylia Llafar Bro gystadlu efo’r Herald a’r Cambrian News o ran adrodd y newyddion felly, ond gobeithiwn eich bod yn deall y rhesymau pam.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon