1.9.12

Golygu

Buan iawn y daeth y penwythnos golygu eto.
Dwi'n eitha' balch mae dau rifyn yr haf ydw i'n eu gwneud, gan fod bwlch rhyngddynt yn ystod Awst. Wrth gwrs, gallwn fod yn anlwcus iawn a bod yn sownd wrth y cyfrifiadur yn golygu ar ddau benwythnos heulog braf, er bod hynny'n teimlo'n anhebygol iawn ar hyn o bryd!
Gan fod y teulu i gyd wedi crwydro heddiw, roeddwn wedi bwriadu rhoi 'mhen i lawr i olygu, ond erbyn ganol y pnawn, roedd y rygbi'n galw...
Roedd ge^m gynta' Bro Ffestiniog adra ar Ddolawel heddiw, yn erbyn Nant Conwy. Gornest fler iawn a gafwyd, efo Bro yn fuddugol o 11 i 8, er gorffen efo dim ond 13 dyn (un cerdyn coch efo chwarter awr i fynd, a cherdyn melyn wedyn, efo pum munud ar ol.)

Y gic fuddugol yn cyrraedd y nod.

Mwy o olygu wedyn, ond wedi rhoi'r gorau iddi bellach i wylio uchafbwyntiau cyffrous y dydd o ras feicio'r Vuelta yn Sbaen.
Diwrnod hir o olygu o 'mlaen 'fory...

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon