10.7.26

Y Dref Werdd ac Antur Stiniog

Ychydig o newyddion y mentrau lleol, o rifyn Mehefin 2026 

Ffair Egin

Cynhaliwyd Ffair Egin y Dref Werdd yn Neuadd Bentref Llan Ffestiniog eleni.

Llond neuadd o stondinau yn rhannu neu werthu planhigion a chynnyrch lleol. Stondinau gan Bwyd Bendigedig, Maes y Plas, Crefft Gwreiddiol, Gerddi Seren, Maeth Natur, Roger gyda bwrdd yn hyrwyddo rhandiroedd Penrhyndeudraeth a mwy.

Gwych o beth oedd gweld cymaint o bobl yn dod draw i’r digwyddiad ... yn prynu neu’n rhannu planhigion neu lysiau i dyfu yn eu gerddi. Neu, roedd llawer yn hapus yn cael sgwrs a phaned ... a chacen wedi ei gwneud gan wirfoddolwyr Maes y Plas.

Dyma be ydy ysbryd cymunedol go-iawn!

Roedd y raffl yn boblogaidd iawn gan bod meithrinfa goed Ian Sturrock wedi rhoi coeden ffrwyth a choeden Bwlch Sycarmorwydden i’w rhoi ar y bwrdd, a thair coeden iach a hardd wedi dod o’r feithrinfa goed yn Nhanygrisiau hefyd... diolch i Meg.

Digwyddiad a arferai gael ei gynnal gan grŵp o wirfoddolwyr yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth oedd y Ffair Egin, ond mae’r Dref Werdd wedi bod yn ei threfnu ers tair mlynedd bellach. A gan ein bod yn gweithio ar draws y ddwy gymuned, Bro Ffestiniog a Phenrhyndeudraeth, mae’n dda gallu symud y digwyddiad o Benrhyn i Llan bob yn ail flwyddyn.

Diolch enfawr i bawb am fod yn rhan o’r digwyddiad ac i bwyllgor Neuadd Bentref Llan am ddefnydd o’r gofod arbennig ar y diwrnod. 

 

Adfer Adeiladau 

Cawsom gyfle i fynd draw i weld y gwaith adeiladu mae TIR yn ei wneud yn adeiladau Caffi Bolton a Siop Ephraim y mis yma. Maen nhw wir yn rhoi popeth i mewn i’r prosiect yma, ac mae’r gwaith yn dod ymlaen yn sydyn iawn.

Ar y lefel waelod bydd gofod tywyll ar gael i’w rentu, fyddai’n gyfle gwych ar gyfer stiwdio, gweithdy creadigol neu ofod tebyg. Ar lefel y stryd bydd dau ofod busnes ar gael i’w rhentu, ac maent yn maint perffaith ar gyfer busnes bach newydd neu fusnesau lleol hen a newydd fel ei gilydd. Ar y lefelau uchaf bydd dwy fflat ar gael i bobl leol eu rhentu. Y gobaith yw y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn diwadd 2026.

Rydym mor falch o weld cymaint o gynnydd wedi’i wneud, ac yn edrych ymlaen yn fawr at weld yr adeiladau wedi’u gorffen ac yn dod yn fyw unwaith eto yng nghanol y dref.

Ar benwythnos y 9fed a’r 10fed o Fai, cynhaliwyd ras lawr allt yn y ganolfan feicio. Roedd yn benwythnos gwych o gystadlu, gyda phawb i weld wedi mwynhau eu hunain ac wedi cael canlyniadau da. Roedd bwyd gan Burrito Blasus hefyd wedi mynd lawr yn arbennig o dda gyda pawb oedd yn bresennol. 

 

Fideo Hud

Erthygl gan Cybi Williams, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2026 

Nôl yn nechrau Mai, Sul gŵyl y banc, es i lawr i’r Southbank. Wedi byw yn Llundain ers dros ddeg mlynedd, dwi’n nabod y bloc mawr concrit ma ar yr afon yn reit dda. Ma’n gartref i lefydd fel y National Theatre, y Royal Festival Hall, a llwyth o bethau eraill. Lle neis, bendant, ond braidd fel byncyr a dwi’n amau wetihiau os di hynny’n gwbl fwriadol.

Mynd o’n i i’r BFI, y British Film Institute, ar ôl cael neges gan Rhys Cell i weld screening fel rhan o ŵyl Rip It Up — gŵyl ffilm sy’n edrych ar fywydau pobl ifanc heddiw. 'Roedd criw CellB am ddangos dwy ffilm hefo’i gilydd. ‘Fideo Hud’ oedd enw’r cyfuniad: y ffilm gyntaf yn gyfres o ddarnau byrion Emyr Ankst- Emyr Ankst vs Andy Warhol, cyn dangos eu ffilm nhw, Glasbren, am fandiau ifanc Blaenau.

Yng ngofod cyntedd y BFI, sy’n fwy o grombil oeraidd na fydda rhywun yn disgwyl, oedd gwaith celf CellB yno i groesawu a chwalu’r mudandod. Yn y cyd-destun hwnnw, gan gyflwyno heb ofn, mi ddangosodd gwir ystyr ‘croeso’ i ddeud y gwir. Collage o bethau Cymreig oedd o— pentwr blin ar fyrddau ac ar y waliau o albums, recordiau, cylchgronnau, disco distaw, posteri, a mwy, a llwyth yn dod o Blaenau 'fyd. Arwydd o beth oedd i ddod; tyst fod Blaenau a’i phobl ifanc yn eu hanterth rwan cymaint ag erioed ac fod angen i bawb wybod. 

Er bod sawl ffilm yn dangos y penwythnos hwnnw, doedd neb arall wedi mynd i’r un ymdrech â chriw Cell i godi twrw am eu ffilmiau. Ma hynny’n bechod, dwi’n siwr, ond mi oedd gweld y cynnig gan Fideo Hud yn tywynnu dros bopeth arall yn ddigon i roi tân ym moliau y rheini ohnom ni oedd yno ac yn nabod ysbryd Blaenau. Ac eto doedd o’n malio dim am fod yn ddŵr poeth annifyr dros berfedd sefydliad anghysbell. Dim ond CellB ddoth yno i wirioneddol ddeud rhywbeth mae’n debyg.

Gan eistedd yn ein seddi wedyn, yn y theatr ei hun, a’n barod amdani, roedd y profiad o’r ddwy ffilm hefo’i gilydd wrth gwrs yn gampwaith. Y cynta, wedi’i roi at ei gilydd diolch i waith Gwenno Llwyd Till, yn gofnod o egni’r SRG yn ystod yr wythdegau hwyr hyd at y Super Furries. Y llall wedyn, Glasbren, gan Cian Clinc a Yannick Hammer yn dal fflachiadau o awydd bobl ifanc Blaenau i fynegi eu hunain ar eu termau eu hunain: drwy gerddoriaeth ac hefo’i gilydd, yn eu cymuned ac am eu cymuned. Doedd na ddim amheuaeth yn y theatr fod na bedigri i gelfyddyd a cherddoriaeth yr ardal. Roedd hyn yn slap digon-i-ddeffro rhywun doedd byth di clywed am y lle i ddechrau talu sylw. A dyna ddigwyddodd hefyd.

Pur anaml mae ffilm yn gwneud digon i gynhyrfu rhywun nes bod nhw’n dechrau holi am le’r byd a’i orbit, y mil o flynyddoedd nesa a’r dwytha, a pham nad yw Blaenau’n cael ei weld fel canolbwynt llachar y bydysawd. Dyma destun y wibdaith o gwestiwn agoriadol i’r panel (hefyd Rhys Ifans wrth y llyw) a oedd, i fi, y cwestiwn mwya nodweddiadol a ofynnwyd. Hwnnw sydd wedi aros hefo fi. Nid achos ei natur wyllt a weird, ond achos dwi’n meddwl mi oedd hwnnw, y cradur oedd yn gofyn y cwestiwn, wir wedi’i gweld hi. Mi oedd o wedi cael blas ar foddion y Fideo Hud. Wedi cymryd mwy na sip o’r gwpan - wedi cymryd ar ei gyfle i nofio yn nyfroedd cynnes diwilliant Blaenau.

Be nath daro fi oedd bod Cell, drwy gyfrwng y gwaith ffilm, yn dangos i ni mai Blaenau ydy canol y bydysawd, a’i phobl ifanc yn parhau i roi Big Bang ar ôl Big Bang i ni. Does na’m amheuaeth fod Cell yn lwcus iawn o’i bobl ifanc — a bod Blaenau, yn ei thro, yn lwcus iawn o Cell a’i ddiwylliant tref ôl-ddiwydiant. Dydio’m jyst yn ganolfan lleol; mae o’n ganolfan genedlaethol (ag o bosib, yn un intergalactic) sy’n parhau i gefnogi cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o bobl ifanc.

Mae’r neges yn un clir - byddwch yn effro i’r egni sydd gennym a gwnewch yn fawr o’r sŵn. Mi oedd o bron yn ormod i’r Southbank. Mae bandiau fel Swyth, Y Ddelwedd, a Canolmana ar ein stepan ddrws ac yn dilyn Llwybrau Llaethog, Ffa Coffi a Gorky’s. 

Er eich lles eich hunain, ewch i weld Fideo Hud, ewch i Cell pan fedrwch chi, trefnwch gigs i’r bandiau ifanc 'ma ac ewch i'w gweld nhw’n fyw - wnewch chi dim difaru!