31.12.15

Cofio Merêd yn Nhanygrisiau

Merêd. Llun GVJ
Ym mis Chwefror bu farw un o gymeriadau hynotaf Cymru. Roedd y Dr Meredydd Evans yn frodor o Danygrisiau ac yn y pentref, ym Mryn Mair y’i magwyd. Wrth gwrs bu teyrngedau iddo yn y papur hwn a hefyd mewn cannoedd o gyhoeddiadau eraill yn ogystal â’r cyfryngau. Naturiol felly oedd i Gymdeithas Paned a Chlonc wireddu dymuniad y pentrefwyr o gael coflech ar y cartref lle bu’n byw yn ystod ei fachgendod.

Yn bresennol yr oedd Phyllis Kinney ei briod yng ngofal eu merch Eluned. Mae Phyllis ei hun wedi cyfrannu’n sylweddol i fyd y gân werin yng Nghymru gan ddod yn arbenigwr yn y maes hwn. Fel partneriaid cyfrannodd y ddau ymchwil na welir ei debyg eto ym maes canu gwerin yng Nghymru siŵr o fod.

Roedd Merêd yn un o’r bobl arbennig hynny a wnaeth wahaniaeth ym myd iaith a diwylliant Cymru yn yr 20fed ganrif. Blin iawn yw gorfod ffarwelio a gwr mor amryddawn lle’r oedd carisma, glewder, penderfyniad a rhuddin yn gymysgedd effeithiol er mwyn newid a dylanwadu. Diwrnod arbennig felly i drigolion Tanygrisiau.
TVJ

Diwrnod i’w gofio 
Am ddau o’r gloch, pnawn dydd Mawrth, Hydref 20, daeth tyrfa deilwng iawn i fwynhau seremoni o ddadorchuddio llechfaen ar gyn gartref Merêd ym Mryn Mair, i nodi’r fan lle y treuliodd ei fagwraeth. Dadorchuddiwyd y llechfaen gan ei wraig, Phyllis, a’i ferch, Eluned.


Ymysg y gwahoddedigion oedd ei deulu o bell ac agos, ynghyd a’r Athro Gwyn Thomas, a hefyd Cled, yr olaf o Driawd y Coleg, a gwerthfawrogwyd ei bresenoldeb ef yn fawr iawn.

Cyfoethogwyd y seremoni gyda phlant yr ysgol yn canu ‘Hen feic peni fardding fy nhaid’ dan arweiniad Mrs Wenna Jones a Gai Toms efo’i gitâr. Diolch i’r Parch. Tecwyn Ifan am ei drefniadau trylwyr ynghyd ac aelodau Paned a Chlonc gan mai eu syniad hwy a ddaeth a’r achlysur i ffrwyth.

Diolch i berchnogion Bryn Mair am eu parodrwydd i gytuno a’r syniad o gael y llechfaen uwch ben y drws, a diolch hefyd i Dafydd ac Arwyn am ei gosod mor broffesiynol. Diolch hefyd i’r merched am baratoi paned yn festri Carmel ar y diwedd. Ar ran Paned a Chlonc cyflwynodd Neris dusw o fodau i Phyllis. Diwrnod yn sicr fydd ar gof a chadw yn Nhanygrisiau am amser maith ac yn achlysur haeddiannol iawn i ŵr a gyfrannodd cymaint i werin Cymru.

Derbyniwyd llythyr gan Eluned, merch Merêd, yn dilyn y dadorchuddio ac mae hi yn ysgrifennu fel hyn:
‘Onid oedd y plant yn dda yn canu ‘Hen feic peni ffardding fy nhaid’. Rwy’n cofio nhad yn dweud y stori wrtha i am sut gafodd o’r syniad am y gân; roedd o yn eistedd yn y pub ym Mhenrhyndeudraeth yn aros am fws i rywle ac yn sydyn clywodd rhyw hen feic yn pasio tu allan ac yn y fan a’r lle dechreuodd gyfansoddi’r don i rythm clics olwynion yr hen feic. Alla i glywed o’n dweud y stori ac yn chwerthin wrth i mi ‘sgwennu amdani rŵan!’
GP

29.12.15

‘Stiniog a’r Rhyfel Mawr- 'myned allan i faes y gwaed'

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Cynhaliwyd cyfarfod ymrestru  awyr-agored o flaen gwesty'r Cross Foxes yn Nhrawsfynydd ar nos Fercher ddiwedd Medi 1915, ac un arall yn y Neuadd Gyhoeddus yno ar y nos Sadwrn dilynol. Yn ystod y pnawn Sadwrn daeth y Recruiting Band o'r Blaenau i godi'r ysbryd. Ond yn ystod yr areithio yn y cyfarfod gyda'r nos, fe drodd pethau'n chwerw pan gododd rhai ar eu traed gan gyfeirio at rai nad oeddynt wedi ymrestru. Fe'i galwyd yn llwfriaid, a cheisio codi cywilydd arnynt. Ond cafwyd ymddiheuriad y trefnwyr tuag at ymddygiad o'r fath yn rhifyn 2 Hydref o'r Rhedegydd. Meddai'r geiriau:
...Drwg gennym am y camargraff roddwyd am nifer y rhai sydd wedi ymuno o blant y Traws. Hysbyswyd nad oedd ond 34 wedi ymuno. Ond trwy ei ddoethineb unionodd Mr Lewis Davies, y Recruiting Officer, y cam trwy ddweyd mai hyn yr oedd ef wedi ei dderbyn i enlistio. Ond fel y cofir, fod y nifer fwyaf wedi ymddangos o dro i dro yn ein colofnau, a chyrhaeddasant rhwng pobpeth yn ymyl 80.
Rhoddwyd enwau rhai milwyr oedd wedi ymrestru, a chynnwys enw Robert Evans, Maengwyn Street, oedd wedi mynd i wasanaethu mewn ffatri arfau yn Sheffield. Roedd Robert wedi gorfod gadael ei swydd fel athro ysgol i wneud y gwaith hwn yn Swydd Efrog, ac yn amlwg ddim yn fodlon ymrestru gyda'r fyddin.

Yn rhifyn 9 Hydref o'r Rhedegydd cafwyd newyddion am rai eraill yn symud o'r ardal. Llongyfarchwyd T.H.Roberts, (Singers) High Street, oedd wedi mynd i Ffrainc gyda'r Mwynwyr, ac wedi ei benodi yn 'Orderly' i'r Lefftenant Evan Jones. Roedd nifer dda o 'Stiniog, a phob rhan o Feirionnydd, yn dal i ymuno â'r cwmni lleol o filwyr, y 37ain Ffiwsilwyr Cymreig. Am ryw reswm, ni fu sôn am Lewis Davies, Y Gloch, swyddog recriwtio'r ardal ers peth amser yn y wasg. Ond yn amlwg, yr oedd yn dal i weithredu yn ei swydd, wrth weld fod niferoedd y milwyr ymrestredig yn cynyddu.

Dan bennawd 'Y Cyngor Dinesig', ar yr un dyddiad, adroddwyd bod pump o aelodau Brigâd Dân y dref wedi ymrestru â'r fyddin, ac un arall yn barod i ymuno.  Er bod hanner y tîm yn gadael, roedd y cyngor yn eu canmol yn fawr, ac ar yr un pryd yn penderfynu gwrthod derbyn ceisiadau am ddynion tân newydd gan rai oedd mewn oedran i ymrestru.

Ffarweliwyd hefyd â chriw o ddynion oedd wedi mynd i sir Gaerfyrddin, i wneud gwaith yn ymwneud â'r rhyfel. Roedd un ohonynt, Perorfryn, wedi'i benodi yn fforman yn y gwaith. Dywedwyd fod digon o waith yno, a chyflog da am ei wneud. Ond nid felly oedd y sefyllfa weithfaol ym mro Ffestiniog, fel yr adroddwyd yn y papur diwinyddol Y Tyst ar 13 Hydref 1915. Proses oedd wedi dechrau ers deng mlynedd oedd y wasgfa yn y diwydiant llechi, yn ôl yr adroddiad. Dywedwyd fel yr oedd yng nghof llawer ar y pryd fod 4,000 yn gweithio yn y chwareli ar un adeg, ond erbyn 1915, nid oedd prin fil o weithwyr yn y diwydiant. Meddai'r gohebydd 'Y mae nifer luosog o'r chwarelau wedi cau...Y mae dynion wedi gwasgaru i bob rhan o'r byd...' Yr oedd consyrn y papur ynglŷn â'r gostyngiad yn niferoedd aelodau enwad yr Annibynnwr yn yr ardal i'w weld yn glir hefyd.
Yn naturiol, y mae yr eglwysi oeddynt unwaith mor llewyrchus wedi dioddef yn fawr. Yn y blynyddoedd llewyrchus, cyfrifid aelodau y saith eglwys perthynol i'n Henwad yn y plwyf dros ddwy fil; heddyw, nid ydynt lawer lluosocach na hanner y nifer hwnnw. Ond y mae y gweddill yn ymwroli i wneud eu goreu yn yr argyfwng, a disgwylir yn eiddgar am doriad gwawr ar derfyn y rhyfel sydd wedi dwyn y fath drychineb ar y gwledydd.
Ychydig wyddai'r gohebydd hwnnw fod oes aur yr enwadau crefyddol yn yr ardal, a thrwy Gymru gyfan, yn prysur ddod i ben, a'r Rhyfel Mawr yn bennaf gyfrifol am y dirywiad enbyd hwnnw. Odditan yr adroddiad hwn, dywedwyd fod
'nifer fawr wedi ymuno a'r fyddin. Cyfrifir fod yn agos i 1,000 o fechgyn Ffestiniog wedi ymrestru o dan faner eu gwlad... Y mae cryn nifer wedi myned allan i faes y gwaed yn Ffrainc a'r Dardanelles. Prudd ysgrifennu fod nifer ohonynt wedi colli eu bywydau, a llawer wedi eu clwyfo....'

-----------------------------------

 Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2015.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

[Celf- Lleucu Williams]

27.12.15

Y Golofn Werdd -lladd chwyn a lladd gwair

Newyddion cynllun Y Dref Werdd

Mae afonydd Bro Ffestiniog eich angen chi!
Y mis yma, hoffwn dynnu eich sylw at Ymddiriedolaeth Afonydd Bro Ffestiniog.
Mae afonydd y Fro wedi bod yn destun gyda’r Dref Werdd ers cychwyn y prosiect pan gychwynwyd Partneriaeth Afon Barlwyd. Bwriad y bartneriaeth oedd codi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o gael afon iach yn yr ardal ac i weithredu i godi safon ecolegol yr afon. Cafwyd nifer o ddyddiau yn glanhau’r afon yn ogystal â sesiynau addysg gydag Ysgol y Moelwyn a Thanygrisiau.

Penderfynwyd yn 2013 i newid y bartneriaeth i Ymddiriedolaeth Afonydd Bro Ffestiniog fel bod pob afon yn yr ardal yn cael eu goruchwylio, a nawr mae’r Dref Werdd yn ôl i hwyluso gwaith yr ymddiriedolaeth, ac mae nifer o brosiectau ar y gweill.

Wrth gerdded glannau rhai o’r afonydd, mae’n glir fod angen ychydig o waith arnynt gyda rhai yn dioddef o sbwriel ac y rhan fwyaf yn dioddef o broblem ychydig mwy hir dymor, sef llysiau’r dial neu canclwm Siapan (Japanese knotweed). Mae’n debyg fod nifer ohonoch wedi gweld y planhigyn yma ar lannau afonydd Bowydd a Barlwyd, neu efallai mewn ardaloedd eraill yn y dref. Mae’r Dref Werdd a’r Ymddiriedolaeth yn bwriadu mynd i'r afael â’r broblem hon dros y blynyddoedd nesaf gan ei fod yn blanhigyn, fel y Rhododendron ponticum, sydd ddim i fod yn tyfu ym Mro Ffestiniog.

Mae’r planhigyn yn gallu tyfu drwy waliau cerrig, tarmac a choncrid ac yn ystod yr haf, mae’n gallu tyfu hyd at 10cm y diwrnod. Mae'r rhywogaeth ymledol yma yn gallu lleihau gwerth tai hefyd, felly os ydych chi’n bwriadu gwerthu tŷ gyda’r gwalch yma yn tyfu yn yr ardd, bydd o’n ddoeth o beth i chi geisio ei drin er mwyn cael gwared ohono. Cysylltwch i gael ychydig o gymorth am sut i wneud hynny.

Yn ogystal â thaclo sbwriel a llysiau’r dial, byddwn yn cyd-weithio gyda phump o ysgolion y Fro i gynnal sesiynau addysg am yr afonydd hefyd. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru a Chadw Cymru’n Daclus bydd disgyblion yr ysgolion yn edrych ar fannau o ddiddordeb ar y gwahanol afonydd fel y Pwerdy yn Nhanygrisiau, gorsaf hydro Llechwedd ym Mhant yr Afon, edrych ar y mathau o fywyd gwyllt sydd yn byw yn yr afonydd, a chodi ymwybyddiaeth o’r effaith mae sbwriel, tipio slei bach a'r rhywogaethau ymledol yn cael ar ein hafonydd.

Fel rhan o’r ymddiriedolaeth, mae nifer o bartneriaid lleol a chenedlaethol yn rhan ohono mewn rôl gynghorol, ond beth mae’r ymddiriedolaeth angen i wthio’r gwaith ymlaen ac i’w gryfhau, yw ymrwymiad trigolion Bro Ffestiniog.

Felly os ydych chi'n bysgotwr, yn naturiaethwr neu gyda diddordeb yn yr amgylchedd lleol, neu dim ond eisiau cyfle i ddweud eich barn, mae croeso mawr i chi ddod yn rhan o’r ymddiriedolaeth. Gallwch un ai fynychu’r cyfarfodydd os hoffech gael fod yn rhan o lunio’r gwaith i’r dyfodol, neu os nad ydi mynd i gyfarfodydd yn rhywbeth i chi, gallwch dderbyn holl gofnodion y cyfarfodydd ac wrth gwrs cymryd rhan mewn unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli fydd yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf. Dewch i fod yn rhan o’r gwaith pwysig yma: mae afonydd Bro Ffestiniog angen chi!!

Os hoffech ddod yn rhan o’r ymddiriedolaeth neu eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Dref Werdd ar 01766 830 082, gyrrwch e-bost i ymholiadau[AT]drefwerdd.cymru  neu galwch draw am banad unrhyw dro i’r swyddfa, sydd uwchben Siambr y Cyngor Tref.

Dyma wirfoddolwr yn cymryd rhan mewn gwaith rheoli llysiau'r dial trwy chwistrellu chwyn-laddwr.


Creu Dôl Flodau Gwyllt
Bu cynnydd yn y gwaith o greu dôl flodau gwyllt yng Nghae Bryn Coed, Llan yn ddiweddar. Bu tîm o wirfoddolwyr yno ar fore braf yn pladuro a chlirio darn trionglog o dir yn barod i blannu hadau blodau gwyllt yn y gwanwyn. Dangosodd Lee Oliver o Cadw Cymru’n Daclus sut i ddefnyddio’r bladur a chafodd y gwirfoddolwyr hwyl fawr yn cael tro gyda’r teclyn!

Dywedodd un o’r gwirfoddolwyr a phreswylydd hir dymor Bryn Coed, Romee Heal: ‘Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn ar y cae gyda nifer o bobl yn helpu. Dwi’n edrych ymlaen i weld y ddôl wedi blodeuo a gobeithio bydd y plant ysgol yn mwynhau gweld y bywyd gwyllt yno. Mae’r cae yn fudd mawr i’r gymuned’.


Bydd diwrnodau gweithredu ar y cae yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn y flwyddyn newydd.
Trefnwyd y diwrnod gan y Dref Werdd a Chymdeithas Gwelliannau Ffestiniog. Mae’r ddôl yn rhan o fenter y Dref Werdd i greu mannau gwyrdd yn y gymuned yn ogystal â chreu cyfleoedd hyfforddiant mewn sgiliau cadwraeth a chefn gwlad fel pladurio, torri llwyn a walio cerrig sych.

Cysylltwch os hoffech gymryd rhan yng ngweithgareddau Cae Bryn Coed neu os hoffech wybod mwy am brosiectau amrywiol y Dref Werdd.

Tacluso Tanygrisiau
Daeth grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig at ei gilydd hefyd yn Nhanygrisiau ar gyfer y digwyddiad 'Tacluso Tangrish'. Trefnwyd y diwrnod ar y cyd gan Y Dref Werdd a Cadwch Gymru'n Daclus, er mwyn i drigolion lleol gael y cyfle i lanhau’r gymuned a’r Afon Barlwyd.

Bu gwirfoddolwyr allan yn casglu ac ailgylchu sbwriel a mentrodd rhai unigolion dewr i mewn i'r Afon Barlwyd a cherdded ei hyd o Ffatri Metcalfe tuag at stad dai Hafan Deg. Casglwyd tua 5 bag o sbwriel a 5 bag o ddeunydd ailgylchadwy. Rhoddwyd y bagiau cadarn gan gwmni Huws Gray. Llenwyd llond trelar mawr gyda thameidiau mawr o bren, metel a nwyddau cartref diangen o'r afon.

Darparodd dwy o'r cymdeithasau tai lleol sef Grŵp Cynefin a Cartrefi Cymunedol Gwynedd ddwy sgip ar stad Hafan Deg i drigolion gael gwared ar eu heitemau diangen o’u cartref a gardd. Roedd cymorth gan dîm ailgylchu Cyngor Gwynedd er mwyn casglu a gwaredu’r gwastraff a deunyddiau ailgylchu wedi’r digwyddiad.

Fel diolch bach ar ddiwedd yr holl waith caled aeth y criw gweithgar i Gaffi Mari i gael paned a chacen. Dywed Manon Evans, un o drigolion Hafan Deg ers blynyddoedd:  'Dwi'n meddwl bod diwrnodau glanhau fel hyn yn wych ac roedd yn hwyl i gymryd rhan'. Fe welir rhai o’r criw ddaeth i helpu yn y llun.


Os hoffech chi ddechrau grŵp cymunedol eich hunain yn ardal Bro Ffestiniog, cysylltwch â n.
------------------------


Wedi'i addasu o erthyglau a ymddangosodd yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2015.
Dilynwch gyfres Y Golofn Werdd efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

25.12.15

Nadolig Llawen!

Dyma ddymuno Nadolig dedwydd iawn a chofion cynnes i'n darllenwyr i gyd!

Mwynhewch rifyn Rhagfyr efo paned neu sherry bach o flaen y tân. Mae'n rifyn sy'n llawn i'r entrychion o erthyglau a lluniau, atgofion a chyfarchion.





Cofiwch bod modd tanysgrifio i gael Llafar Bro trwy'r post yn rhad iawn. Dyma anrheg Nadolig hwyr perffaith i aelod o'ch teulu neu ffrindiau oddi-cartref. Neu be gewch chi'n well fel Calennig gwerthfawr?!


Gobeithio y cewch chi i gyd, ac y gaiff ein cymuned ni hefyd, flwyddyn newydd lewyrchus a chofiadwy iawn.


23.12.15

Her dathlu penblwydd Canolfan Mileniwm Cymru

Erthygl gan David Jones*

Wel am antur bois bach, am antur.  Taith 230 milltir mewn cwch rhwyfo dros 9 diwrnod yr holl ffordd o Borthmadog i Gaerdydd gyda chriw hwyliog o Flaenau Ffestiniog a Phorthmadog. Dechrau Medi oedd hyn, ond mae’r stori yn mynd yn ôl bron i ddechrau’r flwyddyn, ac i’r paratoadau ar gyfer dathlu pen-blwydd deng mlynedd Canolfan Mileniwm Cymru yn y brif ddinas.

Mae Clwb Rhwyfo Madog yn berchen ar bedair hirgwch Celtaidd.  Mae’r clwb yn cymryd rhan mewn rasys rhwyfo môr yn erbyn clybiau eraill ledled Cymru ac ambell i ras hirach. Gwahoddwyd y Clwb y gymryd rhan yn y dathliadau yng Nghaerdydd ar Fedi 12fed. Dathliadau a ddarlledwyd yn fyw ar S4C ar y noson. Derbyniodd clwb Madog MYC y gwahoddiad, ond os ydych yn adnabod aelodau’r clwb byddwch yn gwybod na allent wneud dim byd y ffordd hawdd, o na! Yn hytrach na mynd â’r cychod i lawr ar gefn treilar daeth y syniad o rwyfo'r holl ffordd i lawr yr arfordir. 

Mi gofiwch i lechen gael ei chario o 'Stiniog ar y trên bach a’i throsglwyddo i sgwner ym Mhorthmadog i’w chludo i Gaerdydd i’w gosod yn yr adeilad newydd yn 2005. Beth fasa’n well  felly ond ail greu'r siwrne yma gyda llechen i goffau’r 10 mlynedd gyntaf.  Ac felly fu. Galwad sydyn i Reolwr Llechwedd a gytunodd mewn eiliad i greu llechen briodol.  Penderfynwyd hefyd codi arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru a Hosbis yn y Cartref.

Roedd y llechen newydd bellach yn nwylo (a gofal!) dwy o’r rhwyfwyr o’r Blaenau, sef Jill Williams a Christine Bloor ac yn barod i gael ei throsglwyddo i Eric Jones, y dringwr mynyddoedd enwog oedd am gychwyn taith y llechen o ‘Stiniog ar y wifren wib yn Llechwedd gan wibio dros wyneb y ceudyllau.

Wedi iddo lanio rhoddwyd y llechen i Gareth Davies, beiciwr lawr mynydd a feiciodd i lawr cwrs Antur Stiniog cyn mynd ymlaen i orsaf y trên bach yn y Blaenau.  Yna roedd Prince, injan hynaf Rheilffordd Ffestiniog yn disgwyl gyda thryciau llechi a hefyd y gyrrwr Tony Williams, y giard David Jones, sydd hefyd yn un o’r rhwyfwyr, ynghyd â Clare Britton, cadeirydd Siambr Fasnach y Blaenau.

Ym Mhorthmadog roedd aelod seneddol Dwyfor-Meirionnydd, Liz Saville Roberts a Michael Bewick (Llechwedd) yn derbyn y llechen. Cawsant eu cludo i ben arall yr harbwr mewn car clasurol. Roedd aelodau’r clwb allan mewn grym i weld y llechen yn cael ei derbyn gan un o drefnwyr yr her, Richard Aherne, a’r rhwyfwyr yn barod i gychwyn ar y rhan hiraf o’r daith mewn cwch rhwyfo ben bore wedyn.

A drannoeth, roedd llawer o fwrlwm i lawr wrth yr harbwr gyda sawl criw teledu a radio yn cyfweld aelodau’r clwb, ac yna ychydig wedi naw o’r gloch cychwynnodd Madog, y cwch rhwyfo, ar y cymal cyntaf o’r daith hir i Gaerdydd.  Ymysg y criw cyntaf roedd dau rwyfwr o’r Blaenau, sef Dilwyn Williams a Christine Bloor.

Roedd y Glaslyn yn dawel wrth i’r Madog lithro heibio Borth y Gest  gyda dwy hirgwch arall o’r clwb yn cadw cwmpeini cyn belled â’r bar.  Allan yn y môr agored roedd y gwynt o’r gogledd yn helpu’r rhwyfwyr ond hefyd yn codi’r tonnau.  Bu i’r criw cyntaf newid efo’r ail griw ar y môr gyferbyn â Mochras, a rheini efo criw ola’r diwrnod tu allan i’r Bermo, gyda’r môr yn codi'r holl ffordd.  Da oedd cyrraedd Aberdyfi ganol y pnawn, a chael pryd o fwyd yn y clwb rhwyfo lleol.


Drannoeth roedd y gwynt wedi codi eto, a dim sicrwydd y byddai’n bosib rhwyfo.  Ond dyna oedd y penderfyniad a lansiwyd Madog i ddal y llanw. Y tro yma daeth y criw i mewn i hafan harbwr Aberystwyth er mwyn newid efo’r criw nesaf, ac wedi asesu cyflwr y môr ymlaen aeth Madog a’i chriw newydd.  Ond gwaethygu wnaeth y gwynt  a chwipio’r tonnau nes eu bod yn 10 troedfedd neu fwy.  Roedd hyn yn sialens go iawn i’r criw gyda’r cwch yn cael ei chodi a’i gollwng bob yn ail.  Ond mae’r hirgwch yn feistr ar ei chrefft, a llwyddwyd ei lliwio i mewn i harbwr Aberaeron prin dafliad carreg o’r Cei Newydd a oedd y gyrchfan benodol am y diwrnod.

Roedd y cwch diogelwch a oedd yn dilyn Madog ac yn cludo'r criw yn ôl ac ymlaen o’r lan wedi cael trafferthion, a’r tywydd yn rhy arw i’r criw lansio'r bore wedyn, a bu raid cerdded Llwybr yr Arfordir yn hytrach na rhwyfo.  Ond roedd hyn yn gyfle i gwrdd efo clybiau rhwyfo eraill a gwneud ychydig o gymdeithasu.  Roedd y clybiau hefyd yn llawn gwybodaeth am beryglon lleol o gwmpas yr arfordir, ac o ganlyn cafodd y cam o Dale ger Aberdaugleddau i Ddinbych y Pysgod ei rwyfo'r ffordd arall er mwyn dal y llanw gydol y dydd, a diwrnod yng nghynt na’r bwriad er mwyn osgoi maes tanio'r fyddin oedd yn segur ar y penwythnos.

Tra roedd hyn yn mynd ymlaen ymunodd rhai o’r criw efo aelodau eraill ddaeth i lawr o Borthmadog i gymryd rhan yn y rasys cynghrair cychod Celtaidd yn Aberystwyth er mwyn cadarnhau ennill Cynghrair y Gogledd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Bu mwy o drafferthion a helynt eto ar yr arfordir deheuol gyda’r tywydd a’r cychod diogelwch, ond gorffennwyd yr her trwy gyfuno ddau gymal olaf yn un cymal hir gyda thri chriw yn cymryd rhan.
Cyrhaeddwyd Bae Caerdydd gyda Delwyn Williams unwaith eto yn y criw a dwy arall o’r Blaenau sef Cerys Symonds ac Angie Britton yn eu mysg.

Cafwyd croeso mawr wrth iddynt lanio tu allan i Ganolfan y Mileniwm gyda chamerâu teledu yno unwaith eto i weld Richard Aherne yn trosglwyddo'r llechen bwysig i Ganolfan y Mileniwm.
Wedi ychydig o ddathlu ymunodd clybiau eraill ledled Cymru efo'r criw yn y Bae i gymryd rhan yn y perfformiad Ar Waith Ar Daith ar y nos Sadwrn a Sian Cothi, yn fyw ar y teledu yn cydnabod y gamp.   Ar ddiwedd y perfformiad aeth y cychod allan i’r Bae unwaith eto gyda fflamau tanllyd ar bob cwch yn goleuo’r tywyllwch a thân gwyllt llachar uwchben. Noson fythgofiadwy i orffen taith fythgofiadwy i’r clwb ac i bob un a gymerodd ran.

Mae'r clwb hefyd yn hel arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru a Hosbis yn y Cartref a gellir rhoi tuag at yr achosion yma ar wefan justgiving (MYCRowing).

-------------------------------

* Addaswyd o ddwy erthygl a ymddangosodd yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2015.

21.12.15

Colofn Yr Ysgwrn -Haenau Hanes

Newyddion o Gartref Hedd Wyn, gan Siân Griffiths a Jess Enston.
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2015)

Trysor o bapur wal yn y gegin
Mae gogoniant yr hydref wedi cyrraedd yr Ysgwrn unwaith eto, a daeth y tymor newydd ag ymwelwyr tra gwahanol i’r arfer i’r fferm.

Ganol fis Hydref cyrhaeddodd gweithwyr, JCBs a lorïau mawr cwmni RL Davies, a bellach mae rhyw gynnwrf dieithr yn tarfu ar y tawelwch. Wedi gwneud eu nyth yn y cae o flaen y tŷ gan osod ffensys, cratiau ac arwyddion amlwg, cychwynnwyd yn syth ar y gwaith o dyllu seiliau ar gyfer y sied amaethyddol newydd.

Yn ogystal â’r gwaith sy’n digwydd tu allan, mae 'na dipyn o waith ymchwil yn digwydd y tu ôl i’r llenni hefyd. Un peth sydd wedi bod yn diddori ein dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol  yn ddiweddar yw hynt a helynt papur wal yr Ysgwrn.

Fel y gwyddom mae cegin yr Ysgwrn yn ‘stafell go unigryw, ble mae cysgodion ddoe wedi gadael argraff ddofn ar yr hyn a welwn heddiw. Wrth weld y lle tân, y dresel a’r cloc mawr yn eu cartref naturiol cawn gip olwg ar ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu bellach.  Un arferiad ‘slawer dydd oedd gosod un haen o bapur wal ar ben y llall, er mwyn cadw gwres a chuddio waliau anwastad mae’n debyg. Roedd hi’n haws weithiau gweithio o amgylch y dodrefn yn lle trafferthu symud pethau trwm, ac fe welwn hyn yn amlwg  yn Yr Ysgwrn.


Yn ystod yr haf cawsom ymweliad gan gwmni Crick-Smith, arbenigwyr ym maes cadwraeth o Brifysgol Lincoln, oedd dan gomisiwn i astudio’r papur wal a’r paent yn y tŷ.  O ddarllen eu hadroddiad, mawr oedd ein dileit o ddeall eu bod wedi darganfod sawl haen o bapur ar wal y gegin – 26 i gyd!

Y cam nesaf fydd dewis haen sy’n adlewyrchu cyfnod penodol yn hanes Yr Ysgwrn. Gan nad yw hi’n bosib tynnu’r haenau oddi wrth ei gilydd, bydd un patrwm penodol yn cael ei gopïo a’i ail-greu. Bydd yr holl haenau gwreiddiol yn aros ar y wal, gyda’r copi’n cael ei osod drostynt.

Y sialens i ni fydd dewis ym mha gyfnod yn hanes yr Ysgwrn i osod y gegin. Y peth amlycaf i’w wneud fyddai mynd yn ôl i 1917, pan laddwyd Hedd Wyn. Ond oes peryg yn hynny o beth i anghofio effaith y rhyfel ar deulu’r Ysgwrn ac i anwybyddu blynyddoedd o groesawu ymwelwyr o bell ac agos i’w cartref?

Does dim ateb rhwydd i hynny, ond braf yw cael cnoi cil ar gwestiwn mor ddifyr, a chael bwrw iddi i ddatrys yr heriau a’r cwestiynau sy’n codi’n ddyddiol.

Cauodd Yr Ysgwrn dros dro ar Dachwedd y 30ain, er mwyn clirio’r tŷ a dechrau ar y dasg o atgyweirio’r dodrefn.

Os oes unrhyw un yn awyddus i gael gwybod mwy am unrhyw agwedd o’r gwaith, neu os oes rhywun yn awyddus i wirfoddoli i’n helpu efo’r datblygiad mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â mi Siân Griffiths neu Jess Enston ar 01766 770274      
----------------------------

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Mae criw Yr Ysgwrn wedi creu blog i gofnodi'r newyddion diweddaraf. Mae dolen wedi'i ychwanegu i'r rhestr 'Gwefannau o ddiddordeb' ar y dde. Gol.


19.12.15

Stiniog a Phatagonia

Parhau'r gyfres yn nodi canrif a hanner ers taith y Mimosa.

Yn ddiweddar, gwelwyd gefeillio tre’r Blaenau gyda dinas Rawson ym Mhatagonia.

Gwyddom, wrth gwrs, fod amryw o’r ardal hon wedi bod ymysg yr ymfudwyr cyntaf i’r Wladfa gan mlynedd a hanner yn ôl, a gwyddom hefyd fod nifer o ddarllenwyr Llafar Bro, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi manteisio ar deithiau wedi eu trefnu gan Sulwyn Thomas neu rai Elvey Macdonald. 

Ond fe sefydlwyd cysylltiad arall hefyd rhwng y Wladfa ac ardal Llafar Bro, yn ôl yn 1980, pan aeth Côr Gyfynys drosodd yno ar daith estynedig, gan ymweld â gwahanol rannau o dalaith enfawr Chubut a chynnal cyngherddau mewn sawl lle megis Trelew a Rawson, y Gaiman ac Esquel yn nhroed yr Andes.

Wrth gyrraedd Rawson, cawsant eu croesawu’n swyddogol gan faer y ddinas ar y pryd.

Flwyddyn ynghynt, yn 1979, daeth côr o Esquel ar daith i Gymru ac ymweld â’r cylch yma. Gan fod trefniadau Côr Gyfynys i ymweld â’r Wladfa eisoes ar y gweill, fe dyfodd cyfeillgarwch parod rhwng y ddau gôr.


 Côr Gyfynys, gyda’u harweinydd Mrs L. Morris, yn croesawu Côr Esquel i Drawsfynydd yn 1979

-------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2015.
Dilynwch ein cyfres 150 Patagonia gyda'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

17.12.15

Tanygrisiau Ddoe -sefydliadau'r pentref

Pennod dau yng nghyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36. 

Yn y cyfnod yma roedd yna wyth o gapeli ac un eglwys yn Nhanygrisiau, gyda’r capeli yn llawn ac aelodaeth selog.  Roedd yna bedwar o weinidogion ac un ficar, ac hefyd clochydd, John Jones yn yr eglwys bach.  Byddai Ysgol Sul, Band of Hope, Cwarfod Canu, Cymdeithas Lenyddol a Chwarfod ddarllen a Seiat hefyd.


Cawsom ddisgyblaeth dda o’r dechrau yn y capel, dysgu y “Rhodd Mam”, a dysgu “Yr Hyfforddwr”, ac wrth gwrs dysgu bod yn ufudd a’r gwahaniaeth rhwng Da a Drwg.  Yn ogystal a’r gwasanaethau yn y capel, roedd Côr y Plant a’r Côr Telyn a’r Cwmni Drama yn cael defnydd o’r festrioedd i ymarfer.

Roedd yna blismon yn byw yn y pentre.  Roedd hefyd bostmon a nyrs, a llawer o bobol yn rhoi help llaw i bawb a fyddai angen.  Roedd caredigrwydd yn amlwg iawn ym mywyd y pentre bryd hynny.

Manylion y llun isod
Roedd y gymdogaeth i gyd yn barod i roi help gyda’r cynhaeaf gwair.  Y bechgyn gyda’r pladuriau a’r merched hefo’r cribinau yn gwneud y teisi.  Pawb yn brysur ac wrth eu bodd, ac roedd yno dynnu coes a direidi wastad.  Byddai’r llanciau yn aml yn cael gafael mewn llyffantod o’r ffosydd, a mwya slei byddant yn eu gollwng i lawr gwar y merched, bydda yna hen sgrechian wedyn.

Roedd y pentref yn hunangynhaliol ar hyd y blynyddoedd yma.  Roedd naw o siopau yn gwerthu bwyd o bob math, a phethau fel paraffin, asaffeta, penwaig picil a diod dail.  Roedd hefyd tair o siopau chips, un siop  feics, un siop gigydd, siop hetiau o bob math; tair siop crydd, dau ddyn yn gwerthu glo, dwy fecws yn pobi a gwerthu’r bara a hefyd un ffermwr yn codi mawn a thair fferm yn gwerthu llefrith.  Roedd yno dair o chwareli llechi, dwy chwarel ithfaen, ac un hen chwarel gopr neu ‘waith aur’ fel y gelwid, ac yn bwysig iawn roedd melin wlan, yr olwyn ddŵr yn troi ar hyd y blynyddoedd.  Ac roedd blancedi, cwiltiau o frethyn cartref a chrysau gwlanen a bob lliwiau o ddefnyddiau yn cael eu cynhyrchu yno.  Roedd gan deulu’r felin dau fachgen a phedair o ferched mewn oed ysgol fel ninnau, ac yn cadw ieir fel y rhan fwyaf o deuluoedd yr ardal.

Un bore braf pan edrychodd y tad drwy’r ffenest at yr ardd fawr yn y cefn, dychrynodd i weld fod yr ieir a’r ceiliogod yn strytian o gwmpas yn lliwgar iawn: rhai yn las, eraill yn wyrdd, piws, pinc a choch!  Ie dyna fo, roedd rhywun wedi bod yn brysur iawn yn y Pandy ac wedi dipio yr ieir yn y crwc llifo heb i neb weld na chlywed dim (na chwaith am ddweud dim!)  Ni wnaed niwed parhaol i’r ieir ac roeddynt yn dodwy wyau gwyn o hyd diolch i’r drefn!

Erbyn hyn [1998] dim ond dau gapel sydd yn agor eu drysau ar y Sul.  Dim ond un siop yng ngwaelod y pentref yn agored i fusnes.  Y cyfan o'r lleill wedi cau.  Yr olwyn ddŵr yn y ffatri wlan wedi rhoi ei holaf dro.  Y tri chwarel lechi wedi rhoi goreu i weithio a’r chwarel ithfaen wedi chwalu ers llawer blwyddyn.

Yr hen fusnesau a’r dynion gweithgar wedi diflannu.  Beth ddigwyddodd i’r pentref?  Yn enwedig i’r gymdeithas glos a’r boblogaeth wedi hanneru.  Rhesi o dai a’r gerddi wedi hen ordyfu.  Does dim byd ‘run fath.  Ysgwn i a oes gobaith fod rhai pobl a phlant fel roedd yma o’r blaen?  Fel yr oedd ddoe fy mhlentyndod.

Beth sydd yn gyfrifol am y dirywiad yma?  Pwy chwalodd yr eglwys a distewi y gloch?  A oes diben mynd ar ôl y cwestiynau yma?
--

Llun: Richard Evans Tŷ'nddôl (tad Mary Jones, fu farw ym 1945) yn hel gwair yn y caeau dros y ffordd i Fron Haul, ar ôl diwrnod o waith yn y chwarel tua 1930-32.
---------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 1998 (llun o rifyn Gorff. '98).
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

15.12.15

Colofn y Merched

Pennod arall o gyfres Annwen Jones.

Beth am roi trît iawn i rywun y Nadolig yma – rhowch felysion cartref iddynt mewn hosan ddeniadol!

Tryffls rym (12)

75g o siocled tywyll
1 llwy de o hufen
1 melynwy
15g o fenyn
2 lwy de o rym
Fermicelli siocled

Torrwch y siocled i fowlen sydd uwchben sosban o ddŵr berw ysgafn.  Peidiwch a gadael i’r dŵr gyffwrdd â’r fowlen.

Unwaith bydd y siocled wedi toddi symudwch oddi ar y gwres.

Ychwanegwch yr hufen, ŵy, menyn a’r rym, a curwch y gymysgedd nes yn dew fel pâst.

Gwnewch beli bach o’r gymysgedd a’u rholio mewn fermicelli.

Melysion a llun: Leisa. Twt lol, heb ddilyn y rysait!

Melysion Siocled a chnau coco

225g o gnau coco
100g o siwgwr eisin
Can bach o lefrith ‘condensed’ (200g)
250g o siocled plaen, neu lefrith

Fe fydd angen papur cwyr arnoch i roi’r melysion arno.

Cymysgwch y cnau coco a’r siwgr a’r llefrith.  Os yw’r cnau coco’n sych iawn yna defnyddiwch lai ohono rhag i’r melysion fynd yn rhy galed.

Gwnewch beli bach o’r gymysgedd.

Toddwch y siocled mewn powlen uwchben sosban o ddŵr berw ysgafn.  Rhowch y peli bach yn y siocled, codi pob un â fforch a’u rhoi ar y papur cwyr i’r siocled galedu.

Rhowch mewn papur melysion neu mewn bocs wedi ei addurno â phapur Nadolig.  Gorchuddiwch gyda ‘cling film’.

--------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

13.12.15

Bwrw Golwg

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro.  
Dyma’r bennod olaf yn hanes  
TAIR CENHEDLAETH PANDY’R DDWYRYD 
gan W.Arvon Roberts.

Merch hynaf William a Mari Jones oedd Ann (g.1844).  Dygwyd i fyny yn nhawelwch y wlad.  Roedd yn hoff o natur, carai y mynyddoedd o’i hamgylch ac ymhyfrydai ym mhopeth hardd, adwaenai yr adar, a chân bob un ohonynt.  Un mlynedd ar bymtheg oed oedd Anne pan fu farw ei mam, ac arni hi wedyn y disgynnodd gofalon y cartref.  Collodd ei thad drachefn ymhen chwe blynedd.

Yn 24 oed priododd a David John Davies (1840-1910) defnyddiodd yr enw ‘Bismark Davies’ fel
Bismark. Llun W.A.Roberts
ffugenw pan ohebai â’r papurau newydd a’r cylchgronau Cymraeg.  Brodor o Lanuwchllyn ydoedd, priodont 9 Gorffennaf, 1868, yng Nghapel Tabernacl (A), Lerpwl, gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch John Thomas, D.D. Lerpwl.  Ar ôl deng mis ym Maentwrog agoront fasnach am dymor byr yn Llanuwchllyn, ond collodd D.J. Davies swm mawr o arian yno mewn canlyniad i’r system gredit.  Yn 1874 mentrodd agor maelfa yn 106 London Road, Lerpwl, ond digwyddodd yr union beth drachefn, ac erbyn 1881 penderfynodd ymfudo.  Yn y cyfamser aeth Ann, ei briod, i fyw at ei chwaer, Miss Margaret Jones (‘Myfanwy Meirion’), cenhades gartref yn Llundain, ac yn ddiacones gyda’r Annibynwyr.

Roedd D.J. Davies, priod Ann Jones, yn un o un ar ddeg o blant a anwyd i John ac Ellen Davies (D.J. oedd y plentyn hynaf).  Yn gynnar yn ei fywyd bu’n gweithio ar y ffermydd, cyn mynd i’r chwareli llechi ym Mlaenau Ffestiniog.  Cafodd ddamwain yno a’i cadwodd ef yn yr ysbyty am rai misoedd.  Ymaelododd gyda’r Annibynwyr ym Methania, Manod, ac yn Rhiwbryfdir ar ôl hynny.  Meddyliodd y buasai yn trio ei lwc ym Mhatagonia ond pan gyrhaeddodd ef Lerpwl a gweld y cwmni o ymfudwyr oedd yno penderfynodd aros yno a chafodd waith gyda chwmni masnachol David Jones, Stryd Red Cross, Lerpwl.

Ar ôl ei gyfnod aflwyddianus gyda’i faelfa ac Ann wedi ei gadael yn Llundain dros dro, croesodd D.J. Davies yr Iwerydd i’r Unol Daleithiau ac wedi tirio yno ymwelodd ar frys â rhai o’r prif ddinasoedd, a chafodd waith fel gwerthwr mewn amryw fasnachdai dillad, ac ystyrid ef yn arbennigwr gyda’r gwaith hwnnw.  Cyn hir cyrhaeddodd dinas Chicago, a chafodd swydd dda a sefydlog fel gwerthwr dillad gyd Woolf a’i Gwmni, ar gongl Stryd Madison a Halsted, lle y gwasanaethodd am dair mlynedd ar hugain.  Yn fuan wedi iddo ymsefydlu yn Chicago daeth Ann, ei briod, ato, a gwnaethant eu cartref yno hyd nes y bu farw D.J. Davies.

Yn fuan ar ôl hynny ar gymhelliad Capel Annibynwr Cymraeg Sardis (1880-1902), Chicago, a’i weinidog ar y pryd, a wasanaethodd y capel o 1884 i 1890, sef y Parch Griffith Griffiths (1824-1899) gynt o Cae Clyd, Manod, Blaenau Ffestiniog, oedd hefyd fel D.J. Davies â chysylltiad â Bethania, Manod (yno y dechreuodd ef bregethu yn 1844) dechreuodd bregethu.

Gan fod yna gapel Cymraeg bychan yn Joliet, ger Chicago, yr oedd yn gyfleus iddo wasanaethu yno bob Sul, a chadw ei swydd fel gwerthwr dillad yn siop fawr Woolf a’i Gwmni, yn Chicago drwy’r wythnos.  4 Tachwedd, 1894, ordeiniwyd D.J. Davies yn weinidog Capel Joliet a bu yno am un mlynedd ar bymtheg.  Ymwelodd â Chymru yn 1895.  Bu’n ohebydd galluog a chyson i’r cylchgronau Cymraeg ar hyd ei oes, ac yn awdur llyfryn bychan Saesneg, ‘Sermonets’ (1905), pregethau byr a thrawiadol i bobl ifanc.  Roedd un o’i frodyr, John Davies (‘Bardd Glas’) yn bregethwr cynorthwyol yn Llanuwchllyn.

Bu farw D.J. Davies o’r niwmonia, 4 Rhagfyr, 1910, a’i gladdu yn Mynwent Oakwood, Joliet, Illinois, ym mhresenoldeb deuddeg o wahanol genhedloedd, gan gynnwys llawer o Iddewon y dref oedd yn ei adnabod fel arbennigwr yn y fasnach ddillad ac yn y blaen.

Bu Ann Jones Davies yn gymorth mawr i’w phriod yn ei waith fel gweinidog.  Ymwelai yn gyson ac aelodau y capel, a chymerai ofal o’r cyfarfodydd wythnosol.

Carreg fedd teulu Pandy'r Ddwyryd. Llun Paul W, Rhag 15.
Yr oedd eu cartref yn dŷ agored i’r Cymry o bob parth pan y deuent i Chicago.  Bu hi a’i phriod yn hynod boblogaidd nid yn unig ymysg y Cymry ond gyda chenhedloedd eraill hefyd – Americanwyr, Iddewon a Tsieniaid.  Gweithiodd yn egniol ymysg y Tsieniaid – gallai siarad â hwy yn rhwydd yn eu hiaith.  Yn dilyn marwolaeth D.J. Davies dychwelodd Ann yn ôl i Brydain.  Bu am dair blynedd yn Llundain ac yna yn Lerpwl, ac unwaith eto cymerai ddiddordeb arbennig yn y ddwy ddinas yn y Tsieniaid.

Yn ei chyfnod yn yr America bu ei sêl ddirwestol yn angerddol.  Ymhyfrydai yn aml wrth feddwl am y fraint a gafodd o uno â merched America i ymladd â’r salwns, a llawenhai yn fawr pan ddaeth Gwaharddiad yn ffaith yn yr Unol Daleithiau, yn 1917.  Derbyniodd lawer o lythyrau caredig o’r America a’r cwbl yn dwyn ar gof yr ymdrech a wnaed ganddi dros sobrwydd.

Bu farw 23 Ebrill, 1925, yn 80 oed, a rhoddwyd ei gweddillion i orffwys ym Mynwent Utica, Maentwrog.  Amgylchynir beddau’r teulu yn y fynwent hon gan garreg ithfaen sgwâr a rheiliau.


-------------------------------
Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Tachwedd 2015.


Gallwch ddilyn cyfres Bwrw Golwg gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

11.12.15

Sgotwrs ‘Stiniog

Erthygl arall o gyfres Emrys Evans. Y tro hwn yn trafod mater oedd yn ddadleuol ym 1997, ac yn dychwelyd i'r Gamallt.

Beth sydd yn mynd i ddigwydd i Lyn y Ffridd?  Dyna gwestiwn sydd yn cael ei ofyn yn ddiweddar wedi i’r cynlluniau ynglŷn â lle y mae y rwbel a ddaw o’r cloddio yn hen Chwareli’r Oakeley yn mynd i gael ei arllwys.

Fel sydd wedi’i ddweud, hen gynlluniau ydi y rhain o’r adeg, pan oedd Chwareli’r Oakeley mewn bodolaeth, a’r adeg hynny hwy oedd piau Llyn Ffridd y Bwlch.  Mae cryn dipyn o ddŵr wedi mynd o dan y bont ers hynny, ac erbyn hyn Cymdeithas y Cambrian yw perchennog y llyn, ac hyd at bum medr o gwmpas ei lannau.

Ar wahan ei fod yn llyn i’w bysgota ac yn llyn y medr rhai ag anabledd arnynt fynd ato i’w bysgota, y mae Cymdeithas y Cambrian wedi’i ddefnyddio hefyd i roi mag ynddo ac i’r rheini i gael eu rhwydro wedi iddynt dyfu’n gogiau, ac yna eu symud i lynnoedd eraill y Gymdeithas.

Mi fyddai hi’n rhyfedd iawn gweld y gwpan o dir lle mae Llyn y Ffridd yn cael ei lenwi â rwbel chwarel, a hynny’n wastad â’r ffordd fawr.

Mae’n wir fod sawl darn o dir Stiniog wedi gladdu o dan rwbel ers dechrau y diwydiant llechi dros ddau can mlynedd yn ôl, a neb yn meddwl dim o’r peth.  Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae pethau wedi newid ac agwedd pobl at gadwraeth wedi newid yn fawr.

Llyn Ffridd y Bwlch. 6ed Rhagfyr 2015, llun Paul W

Bron bob tro y byddaf yn mynd draw i Lynnoedd y Gamallt ac yn cyrraedd pen isaf y Llyn Mawr a’r man lle mae’r afon yn gadael y llyn, byddaf yn aros ac yn edrych ar y ffurf driongl sydd yno ar y ddaear.  Mae’r ffurf i’w weld yn eithaf eglur, a’i ymylon wedi eu nodi â cherrig.  Mae’n amlwg yn waith dyn, pwy bynnag ydoedd a phryd bynnag y bu wrthi hi yn gwneud y gwaith.

Ar fap sy’n mynd yn ôl dros ganrif o amser i 1886, mae'r man yma ym mhen isaf Llyn Mawr y Gamallt yn cael ei nodi fel ‘pwll pysgod’.  Mae yna le arall, hefyd, ym mhen isaf Llyn Bach y Gamallt sy’n cael ei nodi ar y map fel ‘pwll pysgod’, ond tydi hwnnw ddim mor eglur nac mor hawdd ei weld a’r un sydd ym mhen isaf y Llyn mawr.

Chlywais i’r un o Hen Griw y Gamallt yn son gair am y naill na’r llall o’r ddau le yma, a tydwi’n gwybod dim o’u hanes.

Yn y Llyn Mawr, er fod y lle wedi tyfu drosto erbyn hyn, gellir gweld y bwlch lle gollyngid dŵr y llyn er mwyn llenwi'r pwll, ac hefyd yn ei ben arall lle y gellid gwagio'r pwll ac i’r dŵr lifo ohono i’r afon.  Mae hi’n ymddangos ei fod wedi’i wneud rhyw adeg er mwyn dal pysgod o’r llyn, a hynny drwy adael i’r pwll lenwi ac i bysgod fynd iddo.  Yna, wedi’i wagio, cael gafael ar y pysgod yn ddidrafferth.

Tybed a oes rhywun a ddigwydd ddarllen hyn o golofn yn gwybod unrhywbeth am y pyllau hyn?  Buaswn yn falch iawn o gael unrhyw wybodaeth amdanynt, pa mor ddibwys bynnag fyddai.
------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1997. 

Gallwch ddarllen erthyglau eraill Sgotwrs Stiniog gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

9.12.15

Pobl y Cwm- Cymeriadau

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.    
Rhan 7 o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Roedd yn y Llan, yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif, hen gymeriadau doniol. Un oedd Huw Mate yn byw yn y Barics. Roedd ganddo drol a mul, roedd o yn byw hefo Jane ei chwaer, a byddai ffrae gyd-rhyngddynt yn aml iawn. 

Roedd hen rigwm wedi ei wneyd i Huw fel hyn:
O, na byddai haf o hyd
Huw Jane Tomos ar gefn mul
Mul yn strancio, Huw yn gigio,
Jane yn gwaeddi, Paid a labio.

Ceunant Bont Newydd. Llun -Paul W, 1af Rhagfyr 2015
Hen gymeriad arall oedd Jack Cochan. Byddai ef yn chware clecars hefo dau asgwrn rhwng ei fysedd, a byddai plant y Llan ar ei ôl. 

Un doniol iawn oedd y dyn bach tew oedd yn goleuo y lampau ar y stryd hefyd. Byddai genyf ofn mawr wrth weld Silfanws Evans, Tŷ Isa: hen greadur yn gwisgo trowsus melfared hefo London Yorks wrth y penaglinia, a rhyw het fawr ar ei ben yn hanner guddio ei wyneb, ac yn cario pastwn mawr, mwy na fo ei hun bob amser yn ei law.

Roedd yn y Llan y pryd hynny ffug senedd-dai. Yno y byddai pobl yn heidio i gael gwybod a thrafod pynciau y dydd. Y pryd hynny, ond ryw ddwywaith yn yr wythnos y byddai papur newydd ar gael, ac ni allai pawb ei gael gan mor brin oedd yr arian. A rhyw dair gwaith y byddai postman yn dod i ranu llythyrau. 


Roedd amryw teilwriaid a amryw cryddion yma, y rhai hyn sydd wedi diflanu yn llwyr a'r Llan erbyn heddyw. I dŷ John Davies teiliwr a tŷ Cadwaladr Williams, crydd, y byddai cyrchu mwya, i drin materion yr wythnos. Byddent hwy yn derbyn y papur newydd yn rheolaidd, a dyna lle byddai darllen a chwilio a dadlau ynghylch y senedd a phroblemau eraill. Byddai pawb a'i stori yno, ynghylch caru, priodi a geni. Byddai rhywun wedi torri cynffon ei gi yn aml trwy feddwi gormod neu ddwyn neu ffraeo. Fel ym mhob oes roedd y wlad yn cael yr hanes, o bant i bentan, ac yn eitha bodlon ar hynny.

Byddai gan fy nhad bob amser weithdy crydd a byddai rhai ohonom byth a beunydd yn colli ei bedol neu clem, neu eisiau hoelion yn y wadn. Roedd troed pedoli gre ganddo fel ym mhob cartre lle roedd criw o deulu. Byddai hefyd yn gwneud clogsiau i ni o gefnau hen esgidiau wedi treulio eu gwadnau, rhoi gwadnau pren iddynt. Byddem ni wrth ein bodd yn cael clogsiau i wneud digon o swn a thwrw wrth gerdded, ac yr oeddynt yn cadw y traed yn gynnes.


Byddai amryw o fân werthwyr yn dod hefo rhyw becyn i'r cymoedd i werthu, rhai hefo dilladau, eraill hefo rhyw fwydydd. Dafydd Gabriel o'r Manod, Mary Samuel o'r Llan, Richard Jones o Gellilydan ac Evan Williams, Trawsfynydd.

Dechrau yr haf o hyd y byddai y Sipsiwns a'i carafanau yn dod i aros yn eu tro i'r cwmpasoedd. Ceffylau a throliau a milgwns yn llenwi lle, a'r merched hefo'i basgedi yn gwerthu Lases, pina, studs a brwsus, ac yn dweyd ffortiwn - lwc i bawb brynai ganddynt, ac anlwc i rhai na phrynai. Begio bob amser am damaid o rywbeth, fod ganddynt griw o blant, ond i'r cwn fydda helfa yn mynd bob amser. 

Byddai rhyw hen wr bychan, gwargam yn dod heibio yn ei dro hefo hand organ a mwnci. Ei waith oedd gwneud min ar gyllill a sisyrnau. Mari Fox hefo ei choes bren a'i basged wellt. Piter y tinman o Pwllheli yn gwerthu caniau godro o bob math. Eryl Menai yn dod heibio yn ei dro yn hel rawn, ac yn gwneud pwt o gân i chwi ar y funud a bob amser yn eich canmol er mwyn cael pres. 

Rhyw dro dechrau y ganrif hon daeth ofn mawr dros y wlad pan laddodd Thomas Jones ei wraig ar fore oer o eira. Dyma y rhigwm wnaeth rywun ar y pryd:
Thomas Jones y llofrudd du
Lladd ei wraig ar ben Graig Ddu.
Hitia befo Mary Burton,
Caiff ei grogi rhwng dau gortyn.
Coch Bach y Bala  wedyn yn dengyd o'r jêl, pawb yn dal ei wynt mewn ofn iddo ddod at y tai. 

Run amser bron, bachgen o'r Llan yn llithro i geunant Bont Newydd wrth bysgota, cafodd afael mewn brigyn o goeden. Yno roedd o yn gweiddi am ei fywyd. Mi glywodd Lisa Jones, gwraig Bont Newydd y llais a cyrchu mawr a sydyn am bobl i fynd lawr i'w nôl. Rowd rhaff gref am ganol Richard Williams Tyn y fedwen, a'i ollwng o i lawr i nôl y bachgen a chafodd afael ynddo, a dynion cry y Cwm yn tynnu yn y rhaff a chodi'r ddau i fyny, a Huw Ceunant y galwyd y bachgen hwnnw hyd ei fedd. 

Cymeriad arall oedd yn dod o gwmpas y tai oedd Wil Wialen Fedw, byddai yn dod o wyrcws Penrhyn ac yn gwerthu wialen fedw am ryw geiniog neu ddwy, a roedd gryn brynu ar y wialen fedw yr adeg hono. A byddai hefyd yn gwneyd ysgubau gre i lanhau beudai yr anifeiliaid.

Byddai gennym ryw dri neu pedwar diwrnod pwysig yn mhob blwyddyn i edrych ymlaen atynt. Diwrnod cneifio, a'r diwrnod yr injian ddyrnu, a diwrnod gwneud mawn. Diwrnod arall i Lyn Morwynion trwy'r dydd i wneud pic-i-nic a mwynhau ein hunain heb bryder yn y byd. 


Oedd gen i gariad? Oedd siwr iawn, neu buasai fy mywyd i yn wag ac yn wahanol i'r to ifanc yn y Cwm. 

Yn y cyfnod hwn y torrodd y rhyfel fawr cynta allan, a dyna newid ar bopeth, y bechgyn ifanc yn mynd i'r fyddin wrth y cannoedd bob dydd. Yn yr adeg hono ymunodd dau frawd i mi a'r fyddin, Dei a Humphrey; dwy chwaer i mi wedi priodi; chwaer arall wedi mynd i'r America; Bob fy mrawd wedi mynd i weini ffarmwyr; a Maggie wedi mynd i weini i Beddgelert. 

Daeth profedigaeth arall i ni fel teulu. Daeth Humphrey adre am seibiant, aeth i ymdrochi ac fe foddodd yn 19 oed. Yn ergyd drom iawn arall i nhad druan eto, ac ni fu yntau yn hir iawn heb ei ddilyn yn wr ifanc 58 oed. Cadd yntau ei daflu o don i don.
--------------------------



Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol mewn dau rifyn, o fis Chwefror 2000.

 
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

  

7.12.15

Stolpia -Cipdrem ar hanes y Post

Erthygl o gyfres Steffan ab Owain, y tro hwn yn edrych ar rai o swyddfeydd post y fro. 

Fel y soniais yn fy llythyr yn rhifyn diwethaf ‘Llafar’ [Hydref 1998], mae hi’n ganmlwydd a hanner  ers sefydlu Swyddfa’r Post gyntaf yn y Blaenau. Yn siop Robert W. Jones yn yr hen Riwbryfdir, gerllaw’r ffermdy o’r un enw, a’r Bont Fawr a godwyd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yr agorwyd y post yn gyntaf yma.

Wrth gwrs, yn y rhan hon y ceid prif chwareli’r ardal y pryd hynny, a byddai prysurdeb mawr yma’n ddyddiol yn ddiau. Pa fodd bynnag, gyda thwf y chwareli, claddwyd holl dai Dolclipiau, gan gynnwys yr hen swyddfa bost, y ffermdy, a nifer o adeiladau’r chwarel o dan y tomennydd rwbel ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r un bresennol.

Tan y Bwlch
Er mai’n y flwyddyn 1848 yr agorwyd y swyddfa bost gyntaf yn y Blaenau, roedd un yn y Llan er y flwyddyn 1844 ... os nad ychydig cynt ... ac wrth gwrs, roedd un yn Nhan y Bwlch lawer blwyddyn cyn hynny. Ie, i Westy Tan y Bwlch (Oakeley Arms) yr anfonid ein llythyrau yn nyddiau cynnar ein post ... a hynny mor bell yn ôl a’r 1780au, os nad cynt. Bu’r post yn cael ei ddosbarthu oddi yno am flynyddoedd lawer. Sut bynnag, cyn iddynt benodi John Parry fel postmon cyntaf y plwyf yn 1844, byddai’n ofynnol i chi (neu rhywun arall) alw i lawr yno i nôl eich post. Beth fyddai’n ymateb ni pe baen ni’n gorfod gwneud hynny heddiw tybed?

Y llythyr gludydd
Ym mlynyddoedd cynharaf ei yrfa fel llythyr gludydd byddai dyletswyddau J. Parry, ymhlith pethau eraill, yn golygu cerdded o’i gartref yn y Llan i lawr i Dan y Bwlch i nôl y post, ac yna, ei throedio hi’n ôl i’r Llan, gadael rhai llythyrau, a chasglu rhai eraill yn y swyddfa honno, a cherdded wedyn i fyny i Riwbryfdir gyda’r gweddill a gwneud yr un peth yno. Yna, ai’n ôl drachefn i Dan y Bwlch ... a hynny drwy bob tywydd, cofiwch.

Yn ddiweddarach, (yn yr 1850au, o bosib) cafodd ferlyn a cherbyd bychan pwrpasol gyda lle i un ynddo i gludo’r post yn ôl a blaen. O beth welais, bu yn y swydd hon am tua 25 mlynedd, os nad mwy, a cherddodd gannoedd lawer o filltiroedd yn danfon llythyrau a phecynnau i drigolion y fro. Deallaf fod sawl stori am ei hynt a’i helynt fel llythyr gludydd ... a pheth braf fyddai cael clywed am un neu ddwy ohonynt gennych chi’r tro hyn.

Swyddfeydd Post eraill

Yn ystod y cyfnod y bu cynnydd ym mhoblogaeth plwyf Ffestiniog, bu datblygiad sylweddol yn y gwasanaeth post drwy Brydain gyfan, hefyd. Yma, yn y Blaenau a’r cylch, agorwyd cymaint a saith swyddfa bost wahanol dros y blynyddoedd ... a hynny heb gyfri un yn Llan, cofier.

Dyma restr ohonynt:
1. Rhiwbryfdir (y soniwyd amdani eisioes);
2. Bethania;
3. Four Crosses (Blaenau Ffestiniog, wedyn);
4. Heol yr Eglwys;
5. Glanypwll;
6. Caersalem;
7. Tanygrisiau.

Credaf mai swyddfa bost Bethania oedd yr ail i’w hagor yn ardal y Blaenau ... rywdro yn yr 1850au, yn ôl un ffynhonell. Dilynwyd hi gan swyddfeydd post Tanygrisiau a Fourcrosses (h.y. lle mae Siop yr Hen Bost heddiw) yn ystod yr 1860au, yn ôl pob tebygrwydd. Yn ddiweddarach, agorwyd un yn Heol yr Eglwys, un yn Rhes Caersalem, ac yng Nghlanypwll.

Gyda llaw, a wyddoch chi fod swyddfa bost Rhiwbryfidr wedi bod mewn pedwar lle gwahanol i gyd? Bu un Bethania wedi cael o leiaf tri chartref gwahanol. Bu swyddfa Fourcrosses/Blaenau Ffestiniog mewn tri chyfeiriad arall cyn symud i’r un presennol ... a bu un Heol yr Eglwys mewn dau le gwahanol cyn cael ei chau yn gyfangwbl. Efalli y caf gyfle i ymhelaethu am eu hanes rywbryd eto ... ond mi fuaswn yn hoffi casglu mwy o wybodaeth amdanynt yn gyntaf.

Llythyrau a Marciau Post
Fel y gwyddoch, mae llythyrau, pecynnau a pharseli a anfonir gyda’r Post Brenhinol yn cael eu nodi â marc post, a chan amlaf, y mae enw’r lle y postiwyd hwy oddi yno arnynt.

Dechreuwyd gwneud hyn yn y trefi mawr yn gynnar yn y 18fed Ganrif, ac yna, yn ystod yr 1840au daethpwyd a ‘nod rhifol’ allan ... a gellir gweld y rhain ochr yn ochr a’r marciau post arferol ar hen lythyrau a chardiau post. Rhifolyn wedi ei amgylchynu gan gylch neu ‘wy rhesog’ oedd hwn a chynrychiolai’r ffigwr a ddefnyddid gan y swyddfa honno y fan a’r lle yr anfonwyd y llythyr oddi yno.

Er enghraifft, dyma’r rhifolion a ddefnyddid gan swyddfeydd post plwyf  Ffestiniog –

Tanybwlch 033,
Llan Ffestiniog 032,
Bethania F02,
Fourcrosses/Blaenau Ffestiniog F04,
Rhiwbryfidr F05,
Tanygrisiau F06.

Edrychwch ar rai o’ch hen lythyrau a llyfrau post i weld os ydynt wedi eu nodi ag un o farciau yr hen swyddfeydd post.

Heddiw
Prin nad oes angen dweud fod newid mawr wedi digwydd yn hanes y Post Brenhinol ers sefydlu swyddfa bost gyntaf y Blaenau ... ac yn sicr, ers dyddiau cynnar un Tanyblwch. Bellach, y mae pawb yn son am e-bost ar y cyfrifiaduron, onid ydynt? Pa fodd bynnag, nid oes dim i guro llythyr oddiwrth gyfaill drwy’r post yn fy marn i, beth ddwedwch chi?

Gresyn yw gorfod dweud fod sawl swyddfa’r post wedi cau eu drysau am byth yn yr ardal, hefyd.

Bellach, dim ond tair swyddfa sy’n agored o’r saith a fu ... a chofier, cauwyd un Tanybwlch hefyd yn y 1960au. Beth bynnag, gobeithir y caiff y gweddill ohonynt flynyddoedd lawer o lewyrch a ffyniant, ynte?

Ymholiadau
Hoffwn wybod sawl peth parthed hanes y post yn ein plwyf. E.e. pa bryd yr agorwyd post Bethania? I ble’r aeth lluniau ein postmyn, tybed? Ychydig iawn ohonynt wyf i wedi ei weld.
Pwy sydd â llythyrau efo marciau post yr ardal arnynt? Byddai unrhyw wybodaeth parthed hanes ein swyddfeydd post, ein postmyn, yr hen lythyrau a chardiau post lleol yn dderbyniol dros ben.
Steffan
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

5.12.15

O Lech i Lwyn -Adar Coed Cymerau

Pennod arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a'r awyr agored ym Mro Ffestiniog.
Y tro hwn, erthygl gan y diweddar Ken Daniels, o rifyn Tachwedd 1998.

Delor y cnau, gan Ken Daniels
Coedydd Cymerau
Ychydig wythnosau yn ôl, ar brynhawn heulog a braf, mi es am dro i un o’m hoff lecynnau – Coedydd Cymerau. Roedd y rhan fwyaf o ymwelwyr y byd adar wedi cychwyn ar eu taith yn ôl i’w cartrefi gaeaf, ond er hyn roedd digon i’w weld.

Mi es i lawr y llwybr sydd yn arwain tua’r Swch ac yno gwelais ddringwr bach a delor y cnau, yn brysur chwilio am bryfaid a chopynod ar foncyff coed.

Yna gwelais y gnocell fraith fwyaf, a hwn hefyd yn chwilio’n brysur am bryd o fwyd ar hen fedwen fregus.

Ar y ffordd yn ôl trwy’r coed clywais fwncath yn galw. Edrychais i fyny trwy’r brigau. Roedd tri yn hedfan mewn cylch uwch fy mhen – dau oedolyn a chyw a oedd wedi ei fagu gerllaw.

Gwarchodfa Coed Cymerau. Llun- Paul W, 1af Rhagfyr 2015

Ar ôl cyrraedd hen bont Cymerau eisteddais ar y clawdd am seibiant, gan gadw llygaid ar yr afon am y siglen lwyd a bronwen y dŵr. Ni welais yr un o’r ddwy y tro hwn. Mi fyddai glas y dorlan i’w gweld yma amser maith yn ôl, pan oedd yr hen afon tipyn glannach nac yr ydyw heddiw.

Pan oeddwn ar gychwyn o’r fan hon, tynnwyd fy sylw gan aderyn bychan yn mynd am y coed pinwydd yn gyflym iawn, a gwalch glas yn ei erlid.

Cofnodir chwe-deg a phedair o wahanol rhywogaeth o adar yng Nghoedydd Cymerau, gydag wyth-ar-ugain o’r rhain wedi nythu yno o dro i dro, a rhai ohonynt yn anghyffredin iawn.
------------------

Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

3.12.15

Peldroed. 1954-1958

Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau. 
Parhau'r gyfres yng ngofal Vivian Parry Williams.(Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones)

1954-55
Dychwelodd Meirion Roberts i'r tîm ym 1954-55, ond dim ond am y ddwy gêm gyntaf.  Cyrhaeddwyd ffeinal yr Her Gwpan a cholli i'r Rhyl.  Pwllheli, eto fyth, a daflodd y Blaenau o Gwpan Cymru.  Yr oedd y Blaenau wedi cael gêm rownd gyntaf y gystadleuaeth ym Methesda.  Pan ddaeth y gêm i ben yr oedd y sgôr yn 6-6, ond am rhyw reswm rhoddwyd y gêm i'r Blaenau heb ail-chwarae.  Y sgorwyr i Stiniog oedd David W.Thomas (2) Tony Roberts (2) Harvey Davies a Warren Gittins.

Blaenau Ffestiniog. 1955. Llun oddi ar wefan Stiniog.com

Yng ngêm gyntaf y tymor yr oedd Meirion Roberts a Joe Mullock yn cyd-chwarae.  Cafodd Meirion ddwy gôl i roi gêm gyfartal i'r Blaenau yn erbyn Boro United, ond Mullock, efo tair gôl, a aeth â'r sylw yn yr ail gêm yn Llanrwst, a dyna a fu diwedd gwasanaeth Meirion Roberts i Stiniog. Aeth Mullock ymlaen i sgorio 34 mewn 45 gêm.  Hwn oedd y tymor y gwelwyd yr asgellwr de talentog lleol, Wiliam Jones yn sgorio 28 o weithiau.  Creodd Wiliam record o goliau (84) o'r asgell dde.


Cafodd Stiniog 125 gôl yn ystod y tymor.  Roedd Tonfannau yn dal yn y Gynghrair ac fe gurasant y Blaenau ddwywaith.  Parhâi Ellis Jones ac Eddie Cole i chwarae i'r Blaenau a dyma dymor llawn cyfan o 43 gêm i'r bachgen lleol, David W. Thomas.  yn ystod y tymor yr ymddangosodd Llew Morris gyntaf - bachgen o sir Ddinbych a chanddo gysylltiadau lleol.


1955-56
Yn 1955-56 daeth Nantlle Vale i'r Gynghrair yn lle Tonfannau.  Dyma dymor euraid Joe Mullock.  Cafodd Joe 55 gôl, ac fe dorrodd yr asgellwr de, Wiliam Lones, ei record ei hun drwy sgorio 34 gôl o'r asgell.

Hwn oedd tymor llawn cyntaf y bachgen lleol Ronnie Jones.  Chwaraeodd 43 o gemau, a gwnaeth argraff fel chwaraewr meddylgar ac o ymddygiad delfrydol.  Yn dal efo'r Blaenau o'r hen griw yr oedd Ellis Jones a Ron James.  Cafodd Blaenau afael ar yr asgellwr chwith chwim o Borthmadog, Dafydd Glyn Pierce.

Yr oedd y pâr o asgellwyr, William Jones a D.G.Pierce yn creu problemau mawr i wrthwynebwyr y Blaenau. Sgoriodd y ddau rhyngddynt 46 gôl.  Naw gêm gollodd Blaenau drwy'r tymor.  Ni chafodd hyd yn oed Pwllheli a Phorthmadog guro Stiniog yn 1955-56.  Ond bu Cwpan Cymru yn fwgan unwaith eto.  Sgoriwyd 129 gôl y tymor hwn - pymtheg ohonynt yn yr un gêm yn erbyn y Rhyl.


1956-57
Tymor 1956-57 oedd y cyntaf i Stiniog gael chwarae ar eu cae newydd yng Nghae Clyd.  Symudwyd yno o Gae Haygarth a oedd yn dueddol iawn o fynd yn un cawdal o fwd.  Roedd gan glwb pêl-droed Porthmadog luniau un o furiau eu hystafelloedd newid yn portreadu a gor-liwio cyflwr gwael cae Haygarth.  Hwyl oedd y cyfan, mae'n siwr, ond nid oedd cefnogwyr Stiniog yn gweld yr ochr ddigrif i'r mater.

Y gêm gyntaf ar y cae newydd oedd Blaenau v Llanrwst, ac enillodd Stiniog 4-2.  Peter Holmes, Blaenau oedd y cyntaf i sgorio ar Gae Clyd.  Collodd Stiniog wasanaeth Fred Corkish yn 1956-57.  Tymor sâl a fu hwn i'r Blaenau.  Yr oeddynt yn weddol dda gartref ond yr oedd yn chwith iawn eu gweld yn perfformio oddi cartref.  Dim ond mewn tair cystadleuaeth cwpannau yr oeddynt yn cymryd rhan, Cwpan Cymru, Her Gwpan a Chwpan Cookson, ac yr oeddynt allan ohonynt yn gynnar iawn.

Llwyddasant i sgorio 107 gôl ond bu bron iddynt adael i dimau eraill sgorio hynny yn eu herbyn. Y prif sgorwyr oedd Eccleson (21), Ron James (18), D.G.Pierce (14), William Jones (11) ac R.T.Jones (11).  Cafodd Geraint Vaughan Jones dair gôl mewn un gêm ddwywaith ar ôl eu gilydd.


1957-58
Yr oedd tymor 1957-58 yn salach fyth. Hyn er i'r Blaenau gael gwasanaeth Jack Robinson - y gellid dadlau mai ef a fu'r dalent fwyaf erioed ar lyfrau Stiniog.  Bu Mullock yn y tîm bedair gwaith ond ni chafodd gôl.  Cymerwyd ei le gan Bradley, Finney, Lane, J.D.Hughes, Gwilym Griffiths.

Ni fu gan Blaenau fawr erioed gymaint o chwaraewyr ar y llyfrau - 51 i gyd. Yn y gôl bu David Neville Davies, Tom Jones.  Bu Orig Williams yn y tîm saith gwaith.  Wrth edrych yn ôl ar y rhestri gwelir bod chwaraewyr medrus iawn ynddi, ond nid oedd obaith gyda'r fath gyfnewidiadau a ddigwyddai.

Er hyn oll, nid aeth y Blaenau i waelodion y tabl - yr oedd pump tîm odanynt.
----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Gorffennaf  a Medi 2005
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.


1.12.15

Rhod y Rhigymwr -'Steddfod Steshon

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Hydref 2015.

Rydw i wedi cael yr anrhydedd o dafoli cystadlaethau’r Adran Farddoniaeth yn ‘Steddfod Steshon, Trawsfynydd eleni. Hoffwn longyfarch y pwyllgor, nid yn unig am ddewis testunau teilwng, ond am ddenu cynifer i gystadlu. Derbyniwyd ugeiniau o linellau coll a brawddegau safonol, yn ogystal â nifer o englynion a thelynegion. Daeth dwy gân gocos i law ar y testun ‘BLEW’ ynghyd â nifer o geisiadau ar gyfer llunio llinell goll ar gyfer ‘Steddfod Steshon Hydref 2016.


Testun yr englyn oedd ‘GARETH BALE’ – gŵr ifanc y bu i ni fel cenedl ymhyfrydu ynddo gan mai


O’r tri englyn a ddaeth i’r gystadleuaeth, un ‘Ian Rush’ a ddyfarnwyd yn orau:

 
Ein harwr, a’r gŵr gorau yn y byd
Gyda’r bêl, a’i sgiliau
A’i gryfder drwy’n hamserau’n
Creu clasur i’r bur hoff bau.





‘BWYTA’N IACH’ oedd testun yr englyn ysgafn, a daeth pedwar o rai pur dda i law. Llwyddodd ‘Delia Smith’ i restru a chynganeddu enwau nifer o fwydydd yn effeithiol – dwn i ddim pa mor iach ydyn nhw’i gyd chwaith, ond anelwyd at ein rhybuddio rhag bwyta fferins wrth gloi:


Ymenyn, ffowlyn a ffa, - wynwyn, sôs,
Tun o sŵp a ‘fala’,
‘Shredded Wheat’ a ‘Ryvita,’
Wyau, dwy dorth, DIM da-da.

A dyma ymgais bur smala eto gan ‘Miaw’:

‘Rhen Fal sy’n byw ar salad, - ‘Utterly
Butterly
’ a phanad;
Niblo rhyw bali tablad –
Llaeth sgim, hi a Tim, ‘nen tad!

Er mai ‘dŵr o botel’ a ystyrir iacha’, ac nid ‘dŵr tap’ (neu ‘o biben’), hoffais y smaldod, y rhybudd, a’r rhwyddineb sy’n rhediad englyn ‘Slim Jim’:

Afiach yw tywallt hufen – i dy de,
Gwell ‘di dŵr o biben;
Pigoglys a letysen
A fwynhei os am fyw’n hen.
----------------------------
fo oedd pêl-droediwr druta’r byd pan drosglwyddwyd o i Real Madrid yn Sbaen yn Haf 2013, a hynny am y swm anferthol o oddeutu £85 miliwn o bunnoedd! Mae o dan ychydig o straen yn ei glwb ar hyn o bryd, ond mae ei gampau dros Gymru wedi’n cyfeirio ni ar y trywydd i gyrraedd pencampwriaeth bêl-droed gydnabyddedig am y tro cyntaf ers 1958!

Daeth saith o delynegion i law, ar y testun ‘HEDDWCH.’ Gwastad ar y cyfan oedd y safon, ond roedd dwy yn sefyll allan, sef, eiddo ‘Irfon’ a ‘Hiraethus’. Hoffais y symlrwydd sy’n nhelyneg ‘Hiraethus’.  Mae’r bardd yn dychwelyd i fro’i febyd ac yn canfod yr heddwch yn yr hiraeth. Er i’r thema gael ei amlygu dro ar ôl tro dros y blynyddoedd, hoffais yn fawr sawl delwedd a grëwyd:

HEDDWCH

Af ‘nôl i fro fy mebyd
O sŵn a dwndwr byd,
Cael modd i ymdawelu
Fan yma gaf o hyd.

Yn hedd y bwthyn unig
Mae’r rhosyn blannodd Mam
Ar ben y clawdd yn tyfu,
Heb arno unrhyw nam.

Ac er bod sbwriel stormydd
Yn cuddio twll y clo,
Fan yma sydd yn nefoedd
I agor drws y co’.

Cael tiwnio’r glust i donfedd
Yr hen fforddolion gynt
Fu yma’n herio bywyd
Mewn haul a glaw a gwynt.

Caf hedd yng nghwm tawelwch
I weld golygfa dlos
Wrth roddi pwys penelin
Ar fregus iet y clos.

************

Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


*Llun trwy Comin Wikimedia, gan Jon Candy, Caerdydd (DSC01950) [CC BY-SA 2.0]  Gareth Bale yn erbyn Gwlad Belg, Mehefin 2015.

29.11.15

Llyfr Taith Nem -'eisiau llonydd mae crwydryn'

Pennod arall o Lyfr Taith Nem, hanesion rhyfeddol Nem Roberts, Rhydsarn yn ‘Merica, a llythyr at y golygydd gan un a gyfarfu Nem yno.


1929
Unwaith yr oeddwn yn teithio mewn cerbyd modur o Los Angeles, Califfornia. Cychwynasom am hanner dydd er mwyn cyrraedd anialwch y Mojova. Nid oedd y ffyrdd mewn cyflwr da yr adeg honno, a theimlwn fod perchennog y cerbyd yn gyrru yn rhy wyllt ar ffyrdd cyffredin. Y canlyniad oedd cwympo i ffos ar ochr y ffordd a malu y pwmp tanwydd a’r ffenestr flaen. Bu fy mhrofiad yn gynhorthwy a llwyddasom i fynd ymlaen, ond erbyn tua dau o’r gloch y bore yr oedd y gyrrwr wedi blino, a rhaid oedd aros a cheisio cysgu yn y modur ar ochr y ffordd.

Y peth nesaf oedd clywed drws y cerbyd yn cael ei agor a gŵr gyda hances boced am ei wyneb a gwn yn ei law yn gorchymyn i ni godi ein breichiau wrth ein pennau. Yr oedd lleidr arall yr ochr arall i’r cerbyd. Dychrynais yn enbyd, wedi’r cyfan nid peth dymunol ydyw i ddyn gael ei ddeffro o drwmgwsg i wynebu llawddryll.

Pwysodd un o’r lladron ei lawddryll yn fy meingefn, a rhoddodd law yn fy mhoced a chymerodd bum dolar, yr oll oedd yn y boced honno. Dechreuais fynd drwy’r pocedi eraill, ond dywedais wrtho mai pum dolar oedd yr oll feddiannwn. Yn rhyfedd iawn coeliodd fi, ond pe tae wedi chwilio yn fanwl mi fuasai wedi dod o hyd i gant a hanner o ddoleri mewn poced yn fy nghrys. Llwyddodd y lleidr arall i gymeryd $200 o boced fy nghyfaill, ac ugain doler oddi ar frawd oedd yn eistedd y tu ôl. 

“Penderfynais fod fy mywyd yn werth mwy na phum doler”

Tra yn sefyll a’m breichiau i fyny meddyliais am geisio taro y lleidr a fy mhenelin, ond penderfynais fod fy mywyd yn werth mwy na phum doler. Penderfyniad doeth oedd hynny, mae’n debyg, gan y buasai y lleidr wedi gallu fy saethu yn hawdd cyn i mi ddod a’m braich i lawr. Wedi dwyn yr arian gorfododd y lladron i’r gyrrwr bwyntio ei gerbyd tua’r gorllewin a’i siarsio i beidio ei dilyn, neu fwled fuasai’r atebiad! Am weddill y siwrnai 3000 milltir, rhaid oedd i mi dalu’r costau i gyd o LA i Philadelphia, ac yna i Efrog Newydd. Buasai yn well i mi fod wedi teithio gyda’r trên – ac yn llawer rhatach!

Cefais brofiad rhywbeth yn gyffelyb yng nghanol dinas Efrog Newydd: un diwrnod yr oeddwn yn cerdded yn araf ac yn edrych o gwmpas yn ddigon didinwed. Yn sydyn cerddodd dau ddyn i’m hwyneb, a gafaelodd un yn fy ngôt, gan fygwth fy lladd yn y fan a’r lle os na roddwn fy holl arian iddo. Rhaid oedd penderfynu mewn amrantiad beth i’w wneud yn yr argyfwng. Ceisiais yr hen ‘bluff’, yr oeddwn yn meddwl mai dau rodresgar oeddynt, ond rhoddasant fygythiad terfynol i mi, yr arian neu fwled. Penderfynais ymddangos fel pe mewn dychryn, yn wir yr oeddwn wedi dychryn, ac wn i ddim sut olwg oedd arnaf, ond dywedodd un rhywbeth wrth y llall, a gollyngodd fi, ac ar yr eiliad honno neidiais rhwng dau gerbyd ar ochr yr heol. Mae’n debyg mai dyna’r symudiad cyflymaf wnes erioed yn fy mywyd. Aeth y ddau ymlaen ac anadlais yn rhydd drachefn.

Mae’r crwydryn gan amlaf eisiau llonydd, ond hefyd, camgymeriad mawr i unrhyw grwydryn ydyw rhoi ei drwyn ym musnes rhywun arall. Y gyfrinach ydyw i’r crwydryn feindio ei fusnes ei hun, a gadael i bawb a phob peth arall weithio eu hiachawdwriaeth eu hunain. Mae yn bwysig iawn cadw allan o bob helynt, oherwydd nid oes fawr o gydymeimlad â dieithryn mewn unrhyw fan. Fel mater o ffaith anhawdd ydyw cael y gwir grwydryn i son am ei brofiad. Y gŵr sydd yn cymeryd arno ei fod wedi crwydro llawer ydyw’r mwyaf awyddus i siarad am ei deithio. Mae’n debyg bod llawer o resymau am hyn. Yn y lle cyntaf, unigolyn ydyw’r gwir grwydryn, a gwyr nad ydyw ei ddiddordebau ef yn ddiddorol i eraill. Yn yr ail le mae llawer o hanes bob crwydryn yn gyfryw na ellid yn hawdd eu hadrodd na’u croniclo; ond mae’n debyg bod hynny’n wir yn hanes yr helyw o blant dynion. Hefyd profiadau personol sydd gan y crwydryn ac nid llawer o brofiadau cymdeithasol.

------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998. 
Yn yr un rhifyn oedd llythyr at y Golygydd:

Annwyl Olygydd,
Wrth ddarllen Llafar Bro y mis yma a gweld hanes Nem Roberts ynddo fe ddaeth llawer o atgofion i’m meddwl. Yn y flwyddyn 1930 yr oeddwn yn byw yn Los Angeles, Califfornia, ac yn mynychu’r Capel Cymraeg ar 12th Vanenski. Ymysg yr aelodau yno yr oedd Nem Roberts o Ffestiniog a chefais aml sgwrs ag ef a llawer hwyl wrth iddo son am rhai troeon yn ei fywyd. Yn y flwyddyn 1932 yn 23 oed yr oeddwn yn gadael LA ac yn dychwelyd i Gymru gan deithio fy hunan ar y trên i Efrog Newydd, taith o filoedd o filltiroedd ac a gymero rhai dyddiau.

Erbyn hyn yr oedd Nem Roberts wedi gadael LA ac yn Efrog Newydd felly dyma gysylltu ag ef a bu yn garedig iawn. Fe ddaeth i’r orsaf yn Efrog Newydd i fy nghyfarfod a mynd a fi i dŷ ffrindiau yr oeddem ni’n dau yn eu hadnabod gan eu bod hwythau wedi byw yn LA. Bu hen siarad a bwyta ar ôl cyrraedd cartref Mr a Mrs Wright a daeth Nem hefo nhw drannoeth i fy rhoi yn ddiogel ar fwrdd y ‘Sythia’ ar y fordaith yn ôl i Gymru.

Ymhen rhai blynyddoedd wedyn a finnau wedi priodi ac yn byw yma daeth Nem drosodd i Ffestiniog a daeth i’m gweld. Cefias y fraint o roi croeso iddo i dalu tipyn bach am ei garedigrwydd i mi yn Efrog Newydd.

Rwyf yn mwynhau darllen Llafar Bro ac wedi cadw barddoniaeth o waith Rhagfyrun Pierce (gynt) oedd yn gefnder i mi.

Bessie Glyn Williams. Porthmadog.

--------------------------

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.