23.12.15

Her dathlu penblwydd Canolfan Mileniwm Cymru

Erthygl gan David Jones*

Wel am antur bois bach, am antur.  Taith 230 milltir mewn cwch rhwyfo dros 9 diwrnod yr holl ffordd o Borthmadog i Gaerdydd gyda chriw hwyliog o Flaenau Ffestiniog a Phorthmadog. Dechrau Medi oedd hyn, ond mae’r stori yn mynd yn ôl bron i ddechrau’r flwyddyn, ac i’r paratoadau ar gyfer dathlu pen-blwydd deng mlynedd Canolfan Mileniwm Cymru yn y brif ddinas.

Mae Clwb Rhwyfo Madog yn berchen ar bedair hirgwch Celtaidd.  Mae’r clwb yn cymryd rhan mewn rasys rhwyfo môr yn erbyn clybiau eraill ledled Cymru ac ambell i ras hirach. Gwahoddwyd y Clwb y gymryd rhan yn y dathliadau yng Nghaerdydd ar Fedi 12fed. Dathliadau a ddarlledwyd yn fyw ar S4C ar y noson. Derbyniodd clwb Madog MYC y gwahoddiad, ond os ydych yn adnabod aelodau’r clwb byddwch yn gwybod na allent wneud dim byd y ffordd hawdd, o na! Yn hytrach na mynd â’r cychod i lawr ar gefn treilar daeth y syniad o rwyfo'r holl ffordd i lawr yr arfordir. 

Mi gofiwch i lechen gael ei chario o 'Stiniog ar y trên bach a’i throsglwyddo i sgwner ym Mhorthmadog i’w chludo i Gaerdydd i’w gosod yn yr adeilad newydd yn 2005. Beth fasa’n well  felly ond ail greu'r siwrne yma gyda llechen i goffau’r 10 mlynedd gyntaf.  Ac felly fu. Galwad sydyn i Reolwr Llechwedd a gytunodd mewn eiliad i greu llechen briodol.  Penderfynwyd hefyd codi arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru a Hosbis yn y Cartref.

Roedd y llechen newydd bellach yn nwylo (a gofal!) dwy o’r rhwyfwyr o’r Blaenau, sef Jill Williams a Christine Bloor ac yn barod i gael ei throsglwyddo i Eric Jones, y dringwr mynyddoedd enwog oedd am gychwyn taith y llechen o ‘Stiniog ar y wifren wib yn Llechwedd gan wibio dros wyneb y ceudyllau.

Wedi iddo lanio rhoddwyd y llechen i Gareth Davies, beiciwr lawr mynydd a feiciodd i lawr cwrs Antur Stiniog cyn mynd ymlaen i orsaf y trên bach yn y Blaenau.  Yna roedd Prince, injan hynaf Rheilffordd Ffestiniog yn disgwyl gyda thryciau llechi a hefyd y gyrrwr Tony Williams, y giard David Jones, sydd hefyd yn un o’r rhwyfwyr, ynghyd â Clare Britton, cadeirydd Siambr Fasnach y Blaenau.

Ym Mhorthmadog roedd aelod seneddol Dwyfor-Meirionnydd, Liz Saville Roberts a Michael Bewick (Llechwedd) yn derbyn y llechen. Cawsant eu cludo i ben arall yr harbwr mewn car clasurol. Roedd aelodau’r clwb allan mewn grym i weld y llechen yn cael ei derbyn gan un o drefnwyr yr her, Richard Aherne, a’r rhwyfwyr yn barod i gychwyn ar y rhan hiraf o’r daith mewn cwch rhwyfo ben bore wedyn.

A drannoeth, roedd llawer o fwrlwm i lawr wrth yr harbwr gyda sawl criw teledu a radio yn cyfweld aelodau’r clwb, ac yna ychydig wedi naw o’r gloch cychwynnodd Madog, y cwch rhwyfo, ar y cymal cyntaf o’r daith hir i Gaerdydd.  Ymysg y criw cyntaf roedd dau rwyfwr o’r Blaenau, sef Dilwyn Williams a Christine Bloor.

Roedd y Glaslyn yn dawel wrth i’r Madog lithro heibio Borth y Gest  gyda dwy hirgwch arall o’r clwb yn cadw cwmpeini cyn belled â’r bar.  Allan yn y môr agored roedd y gwynt o’r gogledd yn helpu’r rhwyfwyr ond hefyd yn codi’r tonnau.  Bu i’r criw cyntaf newid efo’r ail griw ar y môr gyferbyn â Mochras, a rheini efo criw ola’r diwrnod tu allan i’r Bermo, gyda’r môr yn codi'r holl ffordd.  Da oedd cyrraedd Aberdyfi ganol y pnawn, a chael pryd o fwyd yn y clwb rhwyfo lleol.


Drannoeth roedd y gwynt wedi codi eto, a dim sicrwydd y byddai’n bosib rhwyfo.  Ond dyna oedd y penderfyniad a lansiwyd Madog i ddal y llanw. Y tro yma daeth y criw i mewn i hafan harbwr Aberystwyth er mwyn newid efo’r criw nesaf, ac wedi asesu cyflwr y môr ymlaen aeth Madog a’i chriw newydd.  Ond gwaethygu wnaeth y gwynt  a chwipio’r tonnau nes eu bod yn 10 troedfedd neu fwy.  Roedd hyn yn sialens go iawn i’r criw gyda’r cwch yn cael ei chodi a’i gollwng bob yn ail.  Ond mae’r hirgwch yn feistr ar ei chrefft, a llwyddwyd ei lliwio i mewn i harbwr Aberaeron prin dafliad carreg o’r Cei Newydd a oedd y gyrchfan benodol am y diwrnod.

Roedd y cwch diogelwch a oedd yn dilyn Madog ac yn cludo'r criw yn ôl ac ymlaen o’r lan wedi cael trafferthion, a’r tywydd yn rhy arw i’r criw lansio'r bore wedyn, a bu raid cerdded Llwybr yr Arfordir yn hytrach na rhwyfo.  Ond roedd hyn yn gyfle i gwrdd efo clybiau rhwyfo eraill a gwneud ychydig o gymdeithasu.  Roedd y clybiau hefyd yn llawn gwybodaeth am beryglon lleol o gwmpas yr arfordir, ac o ganlyn cafodd y cam o Dale ger Aberdaugleddau i Ddinbych y Pysgod ei rwyfo'r ffordd arall er mwyn dal y llanw gydol y dydd, a diwrnod yng nghynt na’r bwriad er mwyn osgoi maes tanio'r fyddin oedd yn segur ar y penwythnos.

Tra roedd hyn yn mynd ymlaen ymunodd rhai o’r criw efo aelodau eraill ddaeth i lawr o Borthmadog i gymryd rhan yn y rasys cynghrair cychod Celtaidd yn Aberystwyth er mwyn cadarnhau ennill Cynghrair y Gogledd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Bu mwy o drafferthion a helynt eto ar yr arfordir deheuol gyda’r tywydd a’r cychod diogelwch, ond gorffennwyd yr her trwy gyfuno ddau gymal olaf yn un cymal hir gyda thri chriw yn cymryd rhan.
Cyrhaeddwyd Bae Caerdydd gyda Delwyn Williams unwaith eto yn y criw a dwy arall o’r Blaenau sef Cerys Symonds ac Angie Britton yn eu mysg.

Cafwyd croeso mawr wrth iddynt lanio tu allan i Ganolfan y Mileniwm gyda chamerâu teledu yno unwaith eto i weld Richard Aherne yn trosglwyddo'r llechen bwysig i Ganolfan y Mileniwm.
Wedi ychydig o ddathlu ymunodd clybiau eraill ledled Cymru efo'r criw yn y Bae i gymryd rhan yn y perfformiad Ar Waith Ar Daith ar y nos Sadwrn a Sian Cothi, yn fyw ar y teledu yn cydnabod y gamp.   Ar ddiwedd y perfformiad aeth y cychod allan i’r Bae unwaith eto gyda fflamau tanllyd ar bob cwch yn goleuo’r tywyllwch a thân gwyllt llachar uwchben. Noson fythgofiadwy i orffen taith fythgofiadwy i’r clwb ac i bob un a gymerodd ran.

Mae'r clwb hefyd yn hel arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru a Hosbis yn y Cartref a gellir rhoi tuag at yr achosion yma ar wefan justgiving (MYCRowing).

-------------------------------

* Addaswyd o ddwy erthygl a ymddangosodd yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2015.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon