21.12.15

Colofn Yr Ysgwrn -Haenau Hanes

Newyddion o Gartref Hedd Wyn, gan Siân Griffiths a Jess Enston.
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2015)

Trysor o bapur wal yn y gegin
Mae gogoniant yr hydref wedi cyrraedd yr Ysgwrn unwaith eto, a daeth y tymor newydd ag ymwelwyr tra gwahanol i’r arfer i’r fferm.

Ganol fis Hydref cyrhaeddodd gweithwyr, JCBs a lorïau mawr cwmni RL Davies, a bellach mae rhyw gynnwrf dieithr yn tarfu ar y tawelwch. Wedi gwneud eu nyth yn y cae o flaen y tŷ gan osod ffensys, cratiau ac arwyddion amlwg, cychwynnwyd yn syth ar y gwaith o dyllu seiliau ar gyfer y sied amaethyddol newydd.

Yn ogystal â’r gwaith sy’n digwydd tu allan, mae 'na dipyn o waith ymchwil yn digwydd y tu ôl i’r llenni hefyd. Un peth sydd wedi bod yn diddori ein dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol  yn ddiweddar yw hynt a helynt papur wal yr Ysgwrn.

Fel y gwyddom mae cegin yr Ysgwrn yn ‘stafell go unigryw, ble mae cysgodion ddoe wedi gadael argraff ddofn ar yr hyn a welwn heddiw. Wrth weld y lle tân, y dresel a’r cloc mawr yn eu cartref naturiol cawn gip olwg ar ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu bellach.  Un arferiad ‘slawer dydd oedd gosod un haen o bapur wal ar ben y llall, er mwyn cadw gwres a chuddio waliau anwastad mae’n debyg. Roedd hi’n haws weithiau gweithio o amgylch y dodrefn yn lle trafferthu symud pethau trwm, ac fe welwn hyn yn amlwg  yn Yr Ysgwrn.


Yn ystod yr haf cawsom ymweliad gan gwmni Crick-Smith, arbenigwyr ym maes cadwraeth o Brifysgol Lincoln, oedd dan gomisiwn i astudio’r papur wal a’r paent yn y tŷ.  O ddarllen eu hadroddiad, mawr oedd ein dileit o ddeall eu bod wedi darganfod sawl haen o bapur ar wal y gegin – 26 i gyd!

Y cam nesaf fydd dewis haen sy’n adlewyrchu cyfnod penodol yn hanes Yr Ysgwrn. Gan nad yw hi’n bosib tynnu’r haenau oddi wrth ei gilydd, bydd un patrwm penodol yn cael ei gopïo a’i ail-greu. Bydd yr holl haenau gwreiddiol yn aros ar y wal, gyda’r copi’n cael ei osod drostynt.

Y sialens i ni fydd dewis ym mha gyfnod yn hanes yr Ysgwrn i osod y gegin. Y peth amlycaf i’w wneud fyddai mynd yn ôl i 1917, pan laddwyd Hedd Wyn. Ond oes peryg yn hynny o beth i anghofio effaith y rhyfel ar deulu’r Ysgwrn ac i anwybyddu blynyddoedd o groesawu ymwelwyr o bell ac agos i’w cartref?

Does dim ateb rhwydd i hynny, ond braf yw cael cnoi cil ar gwestiwn mor ddifyr, a chael bwrw iddi i ddatrys yr heriau a’r cwestiynau sy’n codi’n ddyddiol.

Cauodd Yr Ysgwrn dros dro ar Dachwedd y 30ain, er mwyn clirio’r tŷ a dechrau ar y dasg o atgyweirio’r dodrefn.

Os oes unrhyw un yn awyddus i gael gwybod mwy am unrhyw agwedd o’r gwaith, neu os oes rhywun yn awyddus i wirfoddoli i’n helpu efo’r datblygiad mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â mi Siân Griffiths neu Jess Enston ar 01766 770274      
----------------------------

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Mae criw Yr Ysgwrn wedi creu blog i gofnodi'r newyddion diweddaraf. Mae dolen wedi'i ychwanegu i'r rhestr 'Gwefannau o ddiddordeb' ar y dde. Gol.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon