29.12.15

‘Stiniog a’r Rhyfel Mawr- 'myned allan i faes y gwaed'

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Cynhaliwyd cyfarfod ymrestru  awyr-agored o flaen gwesty'r Cross Foxes yn Nhrawsfynydd ar nos Fercher ddiwedd Medi 1915, ac un arall yn y Neuadd Gyhoeddus yno ar y nos Sadwrn dilynol. Yn ystod y pnawn Sadwrn daeth y Recruiting Band o'r Blaenau i godi'r ysbryd. Ond yn ystod yr areithio yn y cyfarfod gyda'r nos, fe drodd pethau'n chwerw pan gododd rhai ar eu traed gan gyfeirio at rai nad oeddynt wedi ymrestru. Fe'i galwyd yn llwfriaid, a cheisio codi cywilydd arnynt. Ond cafwyd ymddiheuriad y trefnwyr tuag at ymddygiad o'r fath yn rhifyn 2 Hydref o'r Rhedegydd. Meddai'r geiriau:
...Drwg gennym am y camargraff roddwyd am nifer y rhai sydd wedi ymuno o blant y Traws. Hysbyswyd nad oedd ond 34 wedi ymuno. Ond trwy ei ddoethineb unionodd Mr Lewis Davies, y Recruiting Officer, y cam trwy ddweyd mai hyn yr oedd ef wedi ei dderbyn i enlistio. Ond fel y cofir, fod y nifer fwyaf wedi ymddangos o dro i dro yn ein colofnau, a chyrhaeddasant rhwng pobpeth yn ymyl 80.
Rhoddwyd enwau rhai milwyr oedd wedi ymrestru, a chynnwys enw Robert Evans, Maengwyn Street, oedd wedi mynd i wasanaethu mewn ffatri arfau yn Sheffield. Roedd Robert wedi gorfod gadael ei swydd fel athro ysgol i wneud y gwaith hwn yn Swydd Efrog, ac yn amlwg ddim yn fodlon ymrestru gyda'r fyddin.

Yn rhifyn 9 Hydref o'r Rhedegydd cafwyd newyddion am rai eraill yn symud o'r ardal. Llongyfarchwyd T.H.Roberts, (Singers) High Street, oedd wedi mynd i Ffrainc gyda'r Mwynwyr, ac wedi ei benodi yn 'Orderly' i'r Lefftenant Evan Jones. Roedd nifer dda o 'Stiniog, a phob rhan o Feirionnydd, yn dal i ymuno â'r cwmni lleol o filwyr, y 37ain Ffiwsilwyr Cymreig. Am ryw reswm, ni fu sôn am Lewis Davies, Y Gloch, swyddog recriwtio'r ardal ers peth amser yn y wasg. Ond yn amlwg, yr oedd yn dal i weithredu yn ei swydd, wrth weld fod niferoedd y milwyr ymrestredig yn cynyddu.

Dan bennawd 'Y Cyngor Dinesig', ar yr un dyddiad, adroddwyd bod pump o aelodau Brigâd Dân y dref wedi ymrestru â'r fyddin, ac un arall yn barod i ymuno.  Er bod hanner y tîm yn gadael, roedd y cyngor yn eu canmol yn fawr, ac ar yr un pryd yn penderfynu gwrthod derbyn ceisiadau am ddynion tân newydd gan rai oedd mewn oedran i ymrestru.

Ffarweliwyd hefyd â chriw o ddynion oedd wedi mynd i sir Gaerfyrddin, i wneud gwaith yn ymwneud â'r rhyfel. Roedd un ohonynt, Perorfryn, wedi'i benodi yn fforman yn y gwaith. Dywedwyd fod digon o waith yno, a chyflog da am ei wneud. Ond nid felly oedd y sefyllfa weithfaol ym mro Ffestiniog, fel yr adroddwyd yn y papur diwinyddol Y Tyst ar 13 Hydref 1915. Proses oedd wedi dechrau ers deng mlynedd oedd y wasgfa yn y diwydiant llechi, yn ôl yr adroddiad. Dywedwyd fel yr oedd yng nghof llawer ar y pryd fod 4,000 yn gweithio yn y chwareli ar un adeg, ond erbyn 1915, nid oedd prin fil o weithwyr yn y diwydiant. Meddai'r gohebydd 'Y mae nifer luosog o'r chwarelau wedi cau...Y mae dynion wedi gwasgaru i bob rhan o'r byd...' Yr oedd consyrn y papur ynglŷn â'r gostyngiad yn niferoedd aelodau enwad yr Annibynnwr yn yr ardal i'w weld yn glir hefyd.
Yn naturiol, y mae yr eglwysi oeddynt unwaith mor llewyrchus wedi dioddef yn fawr. Yn y blynyddoedd llewyrchus, cyfrifid aelodau y saith eglwys perthynol i'n Henwad yn y plwyf dros ddwy fil; heddyw, nid ydynt lawer lluosocach na hanner y nifer hwnnw. Ond y mae y gweddill yn ymwroli i wneud eu goreu yn yr argyfwng, a disgwylir yn eiddgar am doriad gwawr ar derfyn y rhyfel sydd wedi dwyn y fath drychineb ar y gwledydd.
Ychydig wyddai'r gohebydd hwnnw fod oes aur yr enwadau crefyddol yn yr ardal, a thrwy Gymru gyfan, yn prysur ddod i ben, a'r Rhyfel Mawr yn bennaf gyfrifol am y dirywiad enbyd hwnnw. Odditan yr adroddiad hwn, dywedwyd fod
'nifer fawr wedi ymuno a'r fyddin. Cyfrifir fod yn agos i 1,000 o fechgyn Ffestiniog wedi ymrestru o dan faner eu gwlad... Y mae cryn nifer wedi myned allan i faes y gwaed yn Ffrainc a'r Dardanelles. Prudd ysgrifennu fod nifer ohonynt wedi colli eu bywydau, a llawer wedi eu clwyfo....'

-----------------------------------

 Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2015.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

[Celf- Lleucu Williams]

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon