9.12.15

Pobl y Cwm- Cymeriadau

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.    
Rhan 7 o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Roedd yn y Llan, yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif, hen gymeriadau doniol. Un oedd Huw Mate yn byw yn y Barics. Roedd ganddo drol a mul, roedd o yn byw hefo Jane ei chwaer, a byddai ffrae gyd-rhyngddynt yn aml iawn. 

Roedd hen rigwm wedi ei wneyd i Huw fel hyn:
O, na byddai haf o hyd
Huw Jane Tomos ar gefn mul
Mul yn strancio, Huw yn gigio,
Jane yn gwaeddi, Paid a labio.

Ceunant Bont Newydd. Llun -Paul W, 1af Rhagfyr 2015
Hen gymeriad arall oedd Jack Cochan. Byddai ef yn chware clecars hefo dau asgwrn rhwng ei fysedd, a byddai plant y Llan ar ei ôl. 

Un doniol iawn oedd y dyn bach tew oedd yn goleuo y lampau ar y stryd hefyd. Byddai genyf ofn mawr wrth weld Silfanws Evans, Tŷ Isa: hen greadur yn gwisgo trowsus melfared hefo London Yorks wrth y penaglinia, a rhyw het fawr ar ei ben yn hanner guddio ei wyneb, ac yn cario pastwn mawr, mwy na fo ei hun bob amser yn ei law.

Roedd yn y Llan y pryd hynny ffug senedd-dai. Yno y byddai pobl yn heidio i gael gwybod a thrafod pynciau y dydd. Y pryd hynny, ond ryw ddwywaith yn yr wythnos y byddai papur newydd ar gael, ac ni allai pawb ei gael gan mor brin oedd yr arian. A rhyw dair gwaith y byddai postman yn dod i ranu llythyrau. 


Roedd amryw teilwriaid a amryw cryddion yma, y rhai hyn sydd wedi diflanu yn llwyr a'r Llan erbyn heddyw. I dŷ John Davies teiliwr a tŷ Cadwaladr Williams, crydd, y byddai cyrchu mwya, i drin materion yr wythnos. Byddent hwy yn derbyn y papur newydd yn rheolaidd, a dyna lle byddai darllen a chwilio a dadlau ynghylch y senedd a phroblemau eraill. Byddai pawb a'i stori yno, ynghylch caru, priodi a geni. Byddai rhywun wedi torri cynffon ei gi yn aml trwy feddwi gormod neu ddwyn neu ffraeo. Fel ym mhob oes roedd y wlad yn cael yr hanes, o bant i bentan, ac yn eitha bodlon ar hynny.

Byddai gan fy nhad bob amser weithdy crydd a byddai rhai ohonom byth a beunydd yn colli ei bedol neu clem, neu eisiau hoelion yn y wadn. Roedd troed pedoli gre ganddo fel ym mhob cartre lle roedd criw o deulu. Byddai hefyd yn gwneud clogsiau i ni o gefnau hen esgidiau wedi treulio eu gwadnau, rhoi gwadnau pren iddynt. Byddem ni wrth ein bodd yn cael clogsiau i wneud digon o swn a thwrw wrth gerdded, ac yr oeddynt yn cadw y traed yn gynnes.


Byddai amryw o fân werthwyr yn dod hefo rhyw becyn i'r cymoedd i werthu, rhai hefo dilladau, eraill hefo rhyw fwydydd. Dafydd Gabriel o'r Manod, Mary Samuel o'r Llan, Richard Jones o Gellilydan ac Evan Williams, Trawsfynydd.

Dechrau yr haf o hyd y byddai y Sipsiwns a'i carafanau yn dod i aros yn eu tro i'r cwmpasoedd. Ceffylau a throliau a milgwns yn llenwi lle, a'r merched hefo'i basgedi yn gwerthu Lases, pina, studs a brwsus, ac yn dweyd ffortiwn - lwc i bawb brynai ganddynt, ac anlwc i rhai na phrynai. Begio bob amser am damaid o rywbeth, fod ganddynt griw o blant, ond i'r cwn fydda helfa yn mynd bob amser. 

Byddai rhyw hen wr bychan, gwargam yn dod heibio yn ei dro hefo hand organ a mwnci. Ei waith oedd gwneud min ar gyllill a sisyrnau. Mari Fox hefo ei choes bren a'i basged wellt. Piter y tinman o Pwllheli yn gwerthu caniau godro o bob math. Eryl Menai yn dod heibio yn ei dro yn hel rawn, ac yn gwneud pwt o gân i chwi ar y funud a bob amser yn eich canmol er mwyn cael pres. 

Rhyw dro dechrau y ganrif hon daeth ofn mawr dros y wlad pan laddodd Thomas Jones ei wraig ar fore oer o eira. Dyma y rhigwm wnaeth rywun ar y pryd:
Thomas Jones y llofrudd du
Lladd ei wraig ar ben Graig Ddu.
Hitia befo Mary Burton,
Caiff ei grogi rhwng dau gortyn.
Coch Bach y Bala  wedyn yn dengyd o'r jêl, pawb yn dal ei wynt mewn ofn iddo ddod at y tai. 

Run amser bron, bachgen o'r Llan yn llithro i geunant Bont Newydd wrth bysgota, cafodd afael mewn brigyn o goeden. Yno roedd o yn gweiddi am ei fywyd. Mi glywodd Lisa Jones, gwraig Bont Newydd y llais a cyrchu mawr a sydyn am bobl i fynd lawr i'w nôl. Rowd rhaff gref am ganol Richard Williams Tyn y fedwen, a'i ollwng o i lawr i nôl y bachgen a chafodd afael ynddo, a dynion cry y Cwm yn tynnu yn y rhaff a chodi'r ddau i fyny, a Huw Ceunant y galwyd y bachgen hwnnw hyd ei fedd. 

Cymeriad arall oedd yn dod o gwmpas y tai oedd Wil Wialen Fedw, byddai yn dod o wyrcws Penrhyn ac yn gwerthu wialen fedw am ryw geiniog neu ddwy, a roedd gryn brynu ar y wialen fedw yr adeg hono. A byddai hefyd yn gwneyd ysgubau gre i lanhau beudai yr anifeiliaid.

Byddai gennym ryw dri neu pedwar diwrnod pwysig yn mhob blwyddyn i edrych ymlaen atynt. Diwrnod cneifio, a'r diwrnod yr injian ddyrnu, a diwrnod gwneud mawn. Diwrnod arall i Lyn Morwynion trwy'r dydd i wneud pic-i-nic a mwynhau ein hunain heb bryder yn y byd. 


Oedd gen i gariad? Oedd siwr iawn, neu buasai fy mywyd i yn wag ac yn wahanol i'r to ifanc yn y Cwm. 

Yn y cyfnod hwn y torrodd y rhyfel fawr cynta allan, a dyna newid ar bopeth, y bechgyn ifanc yn mynd i'r fyddin wrth y cannoedd bob dydd. Yn yr adeg hono ymunodd dau frawd i mi a'r fyddin, Dei a Humphrey; dwy chwaer i mi wedi priodi; chwaer arall wedi mynd i'r America; Bob fy mrawd wedi mynd i weini ffarmwyr; a Maggie wedi mynd i weini i Beddgelert. 

Daeth profedigaeth arall i ni fel teulu. Daeth Humphrey adre am seibiant, aeth i ymdrochi ac fe foddodd yn 19 oed. Yn ergyd drom iawn arall i nhad druan eto, ac ni fu yntau yn hir iawn heb ei ddilyn yn wr ifanc 58 oed. Cadd yntau ei daflu o don i don.
--------------------------



Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol mewn dau rifyn, o fis Chwefror 2000.

 
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

  

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon