5.12.15

O Lech i Lwyn -Adar Coed Cymerau

Pennod arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a'r awyr agored ym Mro Ffestiniog.
Y tro hwn, erthygl gan y diweddar Ken Daniels, o rifyn Tachwedd 1998.

Delor y cnau, gan Ken Daniels
Coedydd Cymerau
Ychydig wythnosau yn ôl, ar brynhawn heulog a braf, mi es am dro i un o’m hoff lecynnau – Coedydd Cymerau. Roedd y rhan fwyaf o ymwelwyr y byd adar wedi cychwyn ar eu taith yn ôl i’w cartrefi gaeaf, ond er hyn roedd digon i’w weld.

Mi es i lawr y llwybr sydd yn arwain tua’r Swch ac yno gwelais ddringwr bach a delor y cnau, yn brysur chwilio am bryfaid a chopynod ar foncyff coed.

Yna gwelais y gnocell fraith fwyaf, a hwn hefyd yn chwilio’n brysur am bryd o fwyd ar hen fedwen fregus.

Ar y ffordd yn ôl trwy’r coed clywais fwncath yn galw. Edrychais i fyny trwy’r brigau. Roedd tri yn hedfan mewn cylch uwch fy mhen – dau oedolyn a chyw a oedd wedi ei fagu gerllaw.

Gwarchodfa Coed Cymerau. Llun- Paul W, 1af Rhagfyr 2015

Ar ôl cyrraedd hen bont Cymerau eisteddais ar y clawdd am seibiant, gan gadw llygaid ar yr afon am y siglen lwyd a bronwen y dŵr. Ni welais yr un o’r ddwy y tro hwn. Mi fyddai glas y dorlan i’w gweld yma amser maith yn ôl, pan oedd yr hen afon tipyn glannach nac yr ydyw heddiw.

Pan oeddwn ar gychwyn o’r fan hon, tynnwyd fy sylw gan aderyn bychan yn mynd am y coed pinwydd yn gyflym iawn, a gwalch glas yn ei erlid.

Cofnodir chwe-deg a phedair o wahanol rhywogaeth o adar yng Nghoedydd Cymerau, gydag wyth-ar-ugain o’r rhain wedi nythu yno o dro i dro, a rhai ohonynt yn anghyffredin iawn.
------------------

Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon