30.3.23

Syniadau GwyrddNi yn siapio!

Os ydy unrhyw beth gwerth ei wneud yn dechrau gyda sgwrs dda, yna mae Neuadd Llan Ffestiniog yn le da iawn ar gyfer hynny. 

Ar nifer o nosweithiau yn Ionawr a Chwefror, daeth trigolion Bro Ffestiniog draw ar gyfer cyfarfodydd y Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Bro Ffestiniog, sy’n cael ei gydlynnu a’i hwyluso gan fudiad GwyrddNi. Mae’r criw yn y broses o ateb y cwestiwn: 

Sut allwn ni ym Mro Ffestiniog ymateb yn lleol i newid hinsawdd?

Yn ystod y cynulliadau blaenorol daeth aelodau ynghŷd i ddod i adnabod ei gilydd, i rannu eu profiadau o newid hinsawdd yn lleol a dechrau rhannu eu sgiliau a’r hyn yr hoffen ddysgu neu wybod mwy amdano. Maent hefyd wedi bod yn dychmygu’r dyfodol gwell y gellir ei greu yn lleol petai ni’n dechrau ymateb i newid hinsawdd rwan. Trwy’r trafodaethau maent bellach wedi cytuno ar bedwar pwnc i’w harchwilio ymhellach: Tyfu Bwyd, Insiwleiddio Cartrefi, Rhannu Sgiliau ac Ynni Cymunedol. 


Yn ystod y trydydd Cynulliad hwn bu cyfle i ddatblygu rhai o’r themâu a’r syniadau hyn ymhellach, gyda’r nod o ddylunio prosiectau a chynlluniau fydd yn cael eu tynnu ynghyd mewn Cynllun Gweithredu. Yn ystod y Cynulliad hwn cawsom hefyd gyfle arbennig i glywed gan ddisgyblion ysgol leol, sydd wedi cymryd rhan mewn cynulliad yn eu hysgol dan arweiniad Swyddog Addysg GwyrddNi sef Sara Ashton-Thomas, sydd hefyd yn hogan leol! Roedd syniadau’r plant yn wych ac yn rhoi tân ym moliau pawb oedd yn bresenol! 

Mae’r cwbl wedi arwain at sgyrsiau pellach am brosiectau ychwanegol gan gynnwys cynllun datblygu natur lleol. Daeth undeg pedwar aelod newydd i’r cynulliad hefyd  - unigolion o nifer o swyddi a meysydd gwahanol - er mwyn rhannu eu profiad a’u harbenigedd, gan helpu’r criw i siapio a datblygu eu syniadau ymhellach. 

Bydd Cynllun Gweithredu Cynulliad Bro Ffestiniog yn barod yn fuan, ar ôl y Cynulliad Cymunedol olaf ym Mawrth, a bydd modd i chi ei ddarllen ar wefan GwyrddNi.

Gallwch hefyd arwyddo Addewid GwyrddNi - ar ôl gwneud hynny byddwn yn ebostio’r cynllun atoch unwaith mae’n barod.

Efallai bod llawer ohonom yn teimlo nad yw hwn yn gyfnod cyffrous iawn, ond o edrych ar y cyfoeth anferth o syniadau sydd yn deillio o’r broses hon, mae’n sicr yn teimlo i mi fel bod y dyfodol yn dal yn llawn gobaith. 


Nina Bentley,
Hwylusydd Cymunedol GwyrddNi ym Mro Ffestiniog
- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2023




26.3.23

Adloniant; Diwylliant; Chwyldo!

Ar Nos Wener olaf Ionawr cafwyd noson o sgwrs a chân yng nghaffi Antur Stiniog ynghanol y Blaenau. Cangen Bro Ffestiniog o Yes Cymru, yr ymgyrch dros annibyniaeth oedd wedi trefnu’r noson, y cyntaf mewn cyfres o nosweithiau i ddiddanu a diddori.

Daeth cynulleidfa dda i fwynhau noson efo Elidyr Glyn -prif leisydd y grŵp poblogaidd Bwncath, ac enillydd Cân i Gymru 2019- yn canu rhai o’u hanthemau yn ogystal ag ambell glasur fel Y Dref Wen a Strydoedd Aberstalwm, a chloi’r noson efo pawb yn cyd-ganu Yma o Hyd

Elidyr Glyn a Myrddin ap Dafydd. Llun Gai Toms

Yno hefyd oedd y Prifardd ac Archdderwydd Cymru, Myrddin ap Dafydd yn rhoi sgwrs ddifyr iawn yn plethu’r cwricwlwm addysg newydd, adnoddau naturiol a thrafnidiaeth Cymru, a newid hinsawdd. Ar ôl egwyl fer bu’n adrodd rhai o’i gerddi, yn ddwys ac yn ddoniol, a’r gynulleidfa yn gwrando’n astud ac ymateb yn deimladwy. 

Fe gafwyd ymateb gwych gan bawb i’r noson gynta yn y gyfres. Roedd yn arbennig o braf gweld dwsin o bobl ifanc yn dod i mewn i wrando’n benodol ar Elidyr a chael tynnu eu lluniau efo fo!

Awyrgylch braf Tŷ Coffi Antur Stiniog. Llun Paul W

Cyfres Caban ydi enw'r digwyddiadau yma, i adlewyrchu caban y chwareli, lle'r oedd y gweithwyr yn trafod materion gwleidyddol a diwylliannol y dydd, ac yn canu a diddanu ei gilydd yn ystod egwyl o’u gwaith. Y gobaith efo’r gyfres ydi llenwi bwlch ar ôl i Gymdeithas y Fainc Sglodion ddod i ben, yn ogystal â chynnig adloniant a chodi trafodaeth am ddyfodol ein cymunedau a’n cenedl. Gobeithio y gwelwn ni chi yno tro nesa’.

 

  


Bu ail noson* y gyfres ar Nos Wener olaf y mis bach, Chwefror 24ain, a'r olaf yn y gyfres ar Nos Wener olaf mis Mawrth, i gyd yng nghaffi Antur Stiniog. 


Gobeithir cynnal gig neu ddau yn y misoedd i ddod hefyd, o bosib yn Y Pengwern, a bydd ail gyfres Caban y gaeaf nesa gyda lwc. 




Bu criw o’r cefnogwyr yn chwifio baneri wrth drofan Bwlch y Gwynt ar fore oer ond braf yn Ionawr hefyd, i godi ymwybyddiaeth i’r ymgyrch, a chael ymateb gwych eto gan y gyrrwyr a’r teithwyr. Mae croeso i bawb ymuno yn ein cyfarfodydd a’n gweithgareddau; dewch draw am sgwrs!

- - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2023

* Hanes yr ail a'r drydedd noson yn y gyfres

 

Diolch o galon i BroCast Ffestiniog (ffilm) ac i griw Radio Yes Cymru (podlediad) am roi'r noson ar gof a chadw.


Sgwrs Myrddin Radio Yes Cymru

 

22.3.23

Hanes Rygbi. Cae'r Ddôl

Yn mis Gorffennaf 1976 cafodd pwyllgor Clwb Rygbi Bro Ffestiniog y syniad i ofyn am dir i gael cae rygbi ar y Ddôl pan oedd y cynllun i symud tomen Glanydon i gyffiniau caeau Tanygrisiau – ond cafwyd ar ddeall mae adennill tir i gael tir diwidiannol oedd y cynllun – felly gofynwyd os oedd yn bosib cael cae o dan ysgol Glanypwll a'r lladd-dy. Gwnaed mwy o ymholiadau wrth i aelodau'r clybiau criced a rygbi edrych i mewn i’r posibilrwydd o cael caeau a’r y DDol. 

Gwnaed cais yn mis Hydref 1976 i gyngor Meirionnydd am gae wrth yr hen ysgol a chais i ddefnyddio'r ysgol fel clwb gan Glyn E Jones (trysorydd) ac edrychwyd i mewn i’r ochr ariannol fel  grantia. Cafwyd Pwyllgor Arbennig yn Hen Ysgol y Ddôl, 30 Hydref  1976 i drafod addasu'r adeilad i fod yn glwb i’r Clwb Criced a'r Clwb Rygbi. 

Roedd Dr Boyns a Glyn E Jones wedi bod yn canfasio cynghorwyr lleol a oedd yn unfrydol dros y syniad o gaeau chwarae yn Nhanygrisiau fel roedd y trigolion. Roedd y Cyngor am brynu'r hen ysgol a rhoi les o un mlynadd ar hugain i’r clybiau criced a rygbi. 

Mis Ionawr 1977 prynwyd yr  hen ysgol am £6,000  

Y Ddôl
 

12 Fedi 1977   PAWB yn anfodlon am gyflwr y caeau. Roedd Dr Stewart o Goleg Aberystwyth sydd yn awrdurdod cyndnabyddedig ar feysydd chwarae wedi bod yn archwilio'r caeau ac yn ei adroddiad yn dweud y byddai y caeau yn dirywio o flwyddyn i flwyddyn os na bydd rhywbeth yn cael ei wneud yw gwella .

Cyfarfod Blynyddol 1980                                                                                                                             Capten 1af Elfed Roberts        Capten 2ail R A Davies (Popeye)                                                   Etholwyd Swyddogion ;      Cadeirydd Dr A Boyns    Ysg. Merfyn C Williams    Try. Glyn E Jones Ysg. Gemau Michael Jones    Ysg. Aelodaeth Raymond Cunnington      Rheolwr Cae Gwynne Swyddog y Wasg. Huw Joshua    Arall Gareth Davies   Capten 1af Gwilym James     Ch 24 C 18 E 6  Capten  2 ail Michael Jones     Hyfforddwr i'w benodi

12 Fehefin 1980    Pwyllgor ( Manod )
Gofynwyd i Mike Smith fod yn Hyfforddwr y Clwb o Fis Awst 1980                                                  Gareth Davies fel Is Capten tim 1af     Diolch i pawb oedd yn helpu ar Nos Fawrth yn y Clwb

Tyllau wedi ei gwneud i’r pyst – ond y pyst heb gyrraedd o’r goedwig                                                Tancard newydd - Chwaraewr Gorau yr Ail Dim  - Rhodd Tony Coleman

Medi 1980  Gêm cyntaf a’r y Ddol   

Colli!   Bro  4  v    Bethesda 13  

Bro II  6  v   Bethesda II  32                                 

4Hydref 1980   y ddau dîm yn ennill adref ar y Ddôl  

Bro   15  Abergele  6

Bro II   12   Abergele II   6

- - - - - - - - - -

Crynodeb o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2023. Rhan o gyfres Gwynne Williams


18.3.23

Y Pigwr- dyfodol Bro Stiniog

Ydych chi’n cofio’r Pigwr?  Yn dilyn anogaeth ambell ddarllenwr, daeth ychydig ysbrydoliaeth i roi ychydig eiriau ar bapur i geisio codi ymwybyddiaeth o anghyfiawnderau’r cyfnod anodd hwn. 

Da oedd darllen am gynlluniau’r cwmni llechi Welsh Slate i "ailagor dwy chwarel leol", a chreu 19 swydd newydd ynddynt. Yn anffodus, nid yw’n hollol glir ym mha ran o’r plwy’ y mae’r chwarel "Ffestiniog" dan sylw, ac mae Cwt-y-bugail, dros y ffin ym mhlwy Penmachno, wedi bod ar gau ers degawdau (ac yn yr ardal warchodedig bellach! -Gol). 

Yr Oclis a Gloddfa Ganol, o wefan Welsh Slate

Beth bynnag, mae’r arwyddion yn newyddion da, a diolch i’r cwmni am fuddsoddi yma. Ond wedi meddwl, mae tipyn o ffordd i fynd i geisio ailgodi’r hen dre ‘ma yn ei hôl i’r hyn a fu. 

Pan ystyriwch fod 4 mil o weithwyr yn gweithio’n chwareli Stiniog yn y 19eg ganrif, a phoblogaeth y plwy yn agos i 12,000 ar droad yr 20fed ganrif, i’w gymharu â’r 4,500 sydd yma ar hyn o bryd. Ia, dyna chi, yr ail boblogaeth uchaf yng ngogledd Cymru, ar ôl Wrecsam yn 1901 – yn uwch na Llandudno, Bae Colwyn, Rhyl, Bangor, a’r gweddill y cyfnod! Bu’r dirywiad yr aruthrol, a’i effaith wedi gadael sawl marc ar ein cynefin. 

Mae’r effeithiau i’w gweld y hollol glir i ni, sy’n cofio dyddiau tipyn gwell, cyn i griw Thatcher ddechrau newid y drefn o lywodraeth leol yn 1974. Mae nifer o wleidyddion wedi cau llygaid ar effeithiau’r dirywiad ar ddyfodol Blaenau Ffestiniog fel y dref ddiwydiannol, fasnachol, lwyddiannus yr oedd ar un adeg. 

Mae ambell ddamcaniaeth yn honni bod yr hyn sydd wedi digwydd yma wedi ei gynllunio’n fwriadol, gan y rhai sy’n rheoli o bell, fel rhan o’r plan i ladd cymunedau Cymraeg eu hiaith. Pan feddyliwch amdano, ystyriwch  hanes y cymunedau Cymraeg hynny i gyd dros y blynyddoedd diweddara’. Onid yr un yw tynged pob un ohonynt? Diffyg gwaith i gadw’r bobl ifainc yn eu cymunedau, a’u gorfodi i symud oddi cartre i ennill eu bara menyn. Hynny’n cyfrannu at dai gweigion yn cael eu gwerthu i estroniaid, am brisiau na fedrai’n hieuenctid fforddio’u prynu erbyn hyn.

A gwyddoch yn iawn, siawns, ganlyniadau hynny ar y fro parthed tai haf ac Air B&Bs sydd i’w gweld yn eu hugeiniau o’n cwmpas. Dim ond gobeithio y bydd y cynlluniau diweddar i greu swyddi yn ddechrau’r adfywiad. Roedd erthygl tudalen flaen Llafar Bro fis Ionawr parthed sefyllfa’r iaith Gymraeg yn ein bro yn agor ein llygaid i’r sefyllfa.  Deffrwch bobol annwyl, cyn iddi fynd yn rhy hwyr o ddifri’!

Pigwr

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2023

                       

14.3.23

Prysurdeb y mentrau cymunedol!

Debyg y bydd 2023 yn flwyddyn pwysig arall i’r fenter cymunedol arloesol ANTUR STINIOG.

Yn 2022 ‘roedd yr Antur yn dathlu 10 mlynedd o fasnachu ac arwain y ffordd yng Nghymru ym maes datblygu twristiaeth cynaliadwy ac wrth ail fuddosddi elw er budd yr economi a chymuned leol.

Bydd eleni yn siwr o fod yn flwyddyn gyffrous arall wrth i’r fenter fynd ati i berchnogi a chymuedoli rhai o adeiladau hanesyddol pwysicaf y dref gan gynnwys Caffi Bolton, Siop Ephraim, safle'r hen dŷ golchi ac Aelwyd yr Urdd.

Mae’r datblygiadau yma yn rhan o weledigaeth ehangach Antur, mentrau cymunedol eraill yr ardal, a busnesau bach lleol i fynd ati i ail berchnogi ein enocomi leol a sicrhau dyfodol ffynnianus i’n Bro -a’n pobl ifanc yn enwedig.

Yr Aelwyd ddoe a heddiw (1. llun trwy law BroCast Ffestiniog cyn i'r estyniad gael ei dymchwel   2. llun Paul W)

 Bu ‘diwrnod agored’ yn llawn gweithgareddau yn Aelwyd yr Urdd ar Chwefror 4ydd i rannu atgofion am yr aelwyd a syniadau ar gyfer datblygu a diogleu’r adeilad i’r dyfodol.

Yn ystod mis Mawrth neu Ebrill (gwyliwch y cyfryngau cymdeithasol) bydd digwyddiad tebyg yn cael ei gynnal yn Stryd yr Eglwys er mwyn clywed syniadau ar gyfer datblygu’r rhan yma o’r stryd fawr.

Felly os oes ganddoch chi atgofion neu eisiau rhannu syniadau am y datblygiadau cyffrous yma cysylltwch â Calfin ar 01766 831 111 neu eiddo@anturstiniog.com
Ceri Cunnington
- - - - - - - - -

CWMNI BRO FFESTINIOG yn serennu unwaith eto.

Llongyfarchiadau enfawr i griw Cwmni Bro am gyrraedd rhestr a luniwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, o'r 100 unigolyn neu fenter neu sefydliad sydd wedi ei hysbrydoli fwyaf. Dyma'r broliant a sgrifenwyd iddynt:

"Mae tîm Cwmni Bro Ffestiniog yn gyfrifol am hwyluso cydweithrediad rhwng busnesau a mentrau cymunedol sy'n cyflogi tua 150 o bobl yn lleol. Maent yn cynnig cyflogaeth barhaol ac yn darparu cyfleoedd gyrfa i weithwyr proffesiynol sy'n dymuno aros yn eu cymuned, lle mae traddodiad o fenter amgylcheddol, economaidd, gymdeithasol, ddiwylliannol a chymunedol".

- - - - - - - - -

Mae'r Dref Werdd wedi bod yn brysur eto: maent wedi dechrau ar y gwaith o blannu perllan gymunedol ger Hafan Deg, rhwng Afon Barlwyd a Rhesdai Cambrian.

Lluniau o dudalen ffesbwc y Dref Werdd

Mi fuon nhw hefyd, trwy roddion hael beicwyr mynydd Antur Stiniog yn clirio llwyni Rhododendron ymledol yn ardal y llwybrau beicio lawr allt, er mwyn adfer cynefinoedd naturiol y safle. Byddant hefyd yn plannu coed brodorol dros y misoedd nesa er mwyn creu cynefinioedd newydd i fywyd gwyllt.

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2023


10.3.23

Rhod y Rhigymwr- lili wen fach

Fel y gŵyr llawer ohonoch, mae’n cartref ni ar ben yr allt sy’n arwain o bentre’r Llan tua Chwm Cynfal, ac ar fin priffordd yr A470. Er mwyn mynd i’r ardd lysiau ac at y lein ddillad, mae’n rhaid croesi’r briffordd honno. 

Bob diwedd Ionawr, yng nghysgod y clawdd terfyn rhwng yr ardd a chae Clogwyn Brith, fe ddaw clystyrau o flodau bach eiddil i’r golwg. Ar waetha gwyntoedd a glawogydd di-ddiwedd y gaeaf, ac ar waetha gorchuddio’r tir gan flancedi trwchus o eira, a hwnnw’n ei dro’n rhewi’n gorn, gellir gweld y blodau’n gwthio’u pennau’n swil drwy’r tir. 

Blodau bach gwynion ydyn nhw ... rhai y cyfeiriwn atyn nhw fel yr ‘eirlys’ neu’r ‘lili wen fach’ yn y brőydd yma. 


Yr enw Lladin ar y math yma o flodyn ydy ‘Galanthus’ ... ‘gála’ [llaeth/ llefrith] ac ‘ánthos’ [blodyn]. Mae’n debyg mai ym 1753 y rhoddwyd yr enw Galanthus arno, ond bu’n cyn-deidiau yma yng Nghymru’n cyfeirio ato ag amrywiol enwau am rai cannoedd o flynyddoedd cyn hynny. Enwau eraill a glywyd amdano ydy ‘blodyn yr eira’, ‘cloch maban/baban’, ‘cloch yr eiriol’, ‘eirdlws’, ‘mws yr eira’ a ‘thlws yr eira’.

Dyma’r planhigyn cyntaf i flodeuo yng ngwledydd Prydain. Ers talwm, arferid dathlu Gŵyl Fair y Canhwyllau [2 Chwefror] ar y dydd yr agorodd ei betalau. Mae’r naturiaethwr, Twm Elias yn sôn fod y blodau wedi cael eu lledaenu drwy’r wlad gan fynachod yn y Canol Oesoedd. Y syniad oedd eu plannu ger y mynachlogydd er mwyn addurno capeli’r mynachlogydd ar adeg dathlu’r Ŵyl arbennig honno.

Yn ei Lyfr Blodau, a gyhoeddwyd ym 1909, disgrifia Richard Morgan yr eirlys fel yma ...  ‘Efe yw blodyn gobaith, a blaenffrwyth blodau’r flwyddyn.

Mae’n siŵr i lawer ohonoch chi, fel finnau gofio canu’r gân fechan swynol honno’n yr ysgol gynradd ers talwm:

‘O lili wen fach, o ble daethost di,
A’r gwynt mor arw ac mor oer ei gri?
Sut y mentraist di allan drwy’r eira i gyd?
Nid oes flodyn bach arall i’w weld yn y byd?’

Y bardd Nantlais pia’r geiriau a’r cerddor, Daniel Protheroe gyfansoddodd y gerddoriaeth.

Dros y blynyddoedd, apeliodd anwyldeb a gwytnwch y blodyn bychan yma, ei harddwch syml a’i arwyddocâd fel cennad y gwanwyn at amryw o’n beirdd.

Meddai Iorwerth Glan Aled amdano tua chanol y 19eg ganrif:

‘Plentyn cynta’r gwanwyn yw,
Yn yr awel oer mae’n byw.’

A chawn Eifion Wyn yn holi:

‘Beth a welais ar y lawnt,
Gyda’i wyneb gwyn, edifar?
Tlws yr eira, blodyn Mawrth,
Wedi codi yn rhy gynnar.’

Yn ail bennill ei delyneg yntau i’r ‘Eirlysiau’, cawn Cynan yn dyfynnu llinellau hen emyn ‘yr atgyfodiad’ a welwyd mewn casgliad a gyhoeddwyd yn Lerpwl ym 1841:

Oblegid pan deffroais
Ac agor heddiw’r drws
Fel ganwaith yn fy hiraeth,
Wele’r eirlysiau tlws
“Oll yn eu gynnau gwynion
Ac ar eu newydd wedd
Yn debyg idd eu Harglwydd
Yn dod i’r lan o’r bedd”.

Un o gerddi hyfrytaf cyfrol Waldo Williams, ‘Dail Pren’ ydy honno i’r ‘Eirlysiau'. Fyddwn ni byth yn gweld eirlys ar ei phen ei hun, ond mewn clwstwr bob amser. Yn nycnwch y blodau bach sy’n gwthio’u pennau o dywyllwch du ‘eu gwely pridd’ tua’r golau, mae’r bardd yn holi - ‘Mae dewrach ‘rhain?’ 

Er mor fychan a gwylaidd ydyn nhw, maen nhw ‘fel y dur’ ac yn dioddef holl gur yr oerfel sy’n arwain maes o law at ‘y tywydd braf.’ Mae gan y bardd neges i ninnau yma ... mae am i ni gofio a diolch am y rhai fu’n ddewr ... y clystyrau bychain rheiny o bobl fu’n barod i godi’u lleisiau dros gyfiawnder mewn tir ac amodau anodd, er mwyn i ninnau gael byd dipyn gwell:

‘Gwyn, gwyn
Yw’r gynnar dorf ar lawr y glyn.
O’r ddaear ddu y nef a’u myn.
Golau a’u pryn o’u gwely pridd
A rhed y gwanwyn yn ddi-glwy
O’u cyffro hwy uwch cae a ffridd. 

Pur, pur,
Wynebau perl y cyntaf fflur.
Er eu gwyleidd-dra fel y dur
I odde’ cur ar ruddiau cain,
I arwain cyn y tywydd braf
Ymdrech yr haf. Mae dewrach ‘rhain? 

Glân, glân,
Y gwynder cyntaf yw eu cân.
Pan elo’r rhannau ar wahân
Ail llawer tân fydd lliwiau’r tud.
Ond glendid glendid yma dardd
O enau’r Bardd sy’n llunio’r byd’.

- - - - - - - - - -

Rhan o golofn Rhod y Rhigymwr gan Iwan Morgan, o rifyn Chwefror 2023

6.3.23

Dathlu’r hen draddodiadau

Dathlwyd dau ‘hen draddodiad’ yn llwyddiannus iawn yn Nhrawsfynydd.

Darn gan Elfed Wyn ap Elwyn
 
Eleni bu Trawsfynydd yn dathlu’r Hen Galan (Dydd Gwener, Ionawr 13eg) mewn ffordd arbennig iawn, gyda chanu calennig a gydag ymweliad y Fari Lwyd.

Cafodd y Canu Calennig ei berfformio gan blant Ysgol Bro Hedd Wyn am 2yp o flaen yr ysgol, lle buont yn canu ‘Blwyddyn newydd dda i chi’ ac yn rhedeg o gwmpas y buarth gyda Mari Lwyd yn arwain y ffordd! Sefydlwyd cronfa dorfol gyda’r nod o gasglu £120 i brynu Calennig i’r plant (bocs i bob plentyn yn cynnwys £1, ffrwythau a rhai melysion), ond llwyddodd y gronfa i godi £220, sy’n golygu bod bydd yr ysgol hefyd am dderbyn yr arian sy’n weddill i'w ddefnyddio fel maent yn mynnu.

Am 7yp dechreuodd Côr Meibion Prysor ganu cân y Fari Lwyd, tra roedd criw y rhaglen HENO yn ffilmio’r digwyddiad yng ngwaelod y pentref. Roedd degau wedi ymgynnull i gael golwg ar y Fari Lwyd yn gwneud ei thaith i fyny tuag at dafarn y pentref, Y Cross Foxes. Roedd y côr yn canu wrth ddilyn y Fari drwy’r pentref, ac yn ôl y traddodiad, rhannodd y côr yn ddau grŵp, gydag un grŵp hefo’r Fari yn canu tu allan ac yn anelu i gael mynediad mewn i’r dafarn, a grŵp arall y tu mewn yn gwrthod gadael iddynt gael mynediad. Yn y diwedd aeth pawb i mewn i’r Cross ar ôl mwynhau’n fawr iawn!

Mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn digwydd bob blwyddyn o hyn ymlaen, ac yn gobeithio y byddant yn dod yn fwy poblogaidd. Y gobaith yw y bydd mwy o bentrefi a chymunedau ledled Cymru yn dathlu ac yn dechrau neu’n ailddechrau traddodiadau yn eu hardal leol.
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2023
(Llun gan Ian Harrington)


2.3.23

Stolpia. Pytiau am Glan-y-pwll a Rhiw

Diolch i Gwyndaf Owen, Wrecsam am rannu ei sylwadau parthed y timau pêl-droed yn newid eu dillad pob dydd i’w cit chwarae yn Siop Mafeking (Meffcin / neu Methgin ar lafar gan y plant) ac yna yn croesi’r ffordd i fynd i’r cae yn Haygarth Park. Tybed pwy arall sydd ag atgofion am yr hen gae pêl-droed hwn?

 throi at chwarae pêl-droed eto, nid oes dwywaith amdani hi bod gan y to ifanc presennol dipyn mwy o gyfleusterau cymeradwyol ar gyfer ymarfer y gêm nad oedd gennym ni’r hogiau yn yr 1950au yn ardaloedd y Rhiw a Glan-y-Pwll. Efallai ei bod hi’n anodd i rai gredu heddiw, ond yng ngodre Tomen Fawr Chwarel Oakeley yr oedd un o’n caeau chwarae ni. I ddechrau cychwyn, nid oedd yn gae gwastad iawn, ac ychydig i lawr oddi wrtho byddai tir gwlyb, yn ogystal â nant o ddŵr oer yn llifo allan o waelod y domen, ac yno y byddem yn disychedu ein hunain ar ôl bod yn rhedeg yn ôl a blaen gyda’r bêl. Deuthum i ddeall rhai blynyddoedd wedyn nad oedd y dŵr iachaf i’w yfed. Pa fodd bynnag, nid wyf yn credu iddo wneud dim drwg i’r un ohonom ac y mae nifer dda o’r hogiau yn dal efo ni hyd heddiw.

Peth arall am chwarae ar y cae yng ngwaelod y domen fawr hon, yn enwedig ar wyliau a phan fyddai’r chwarel yn gweithio, roedd gofyn bod yn hynod wyliadwrus pan fyddai’r gweithwyr yn tipio rwbel trosti a chadw llygad nad oedd y cerrig mwyaf yn treiglo i lawr ac am y creadur a oedd yn y gôl ar yr ochr agosaf at y domen. Yn wir, y mae gennyf gof o ambell garreg enfawr y treiglo i lawr a heibio’r cae ac i’r tir gwlyb ar yr ochr isaf iddo.

 

 

< Plant ar y lein fach ger y Groesffordd a’n cae chwarae ni islaw y saeth ar y Domen Fawr.

 

 

 

 

 

Cae arall a fyddai yn fan chwarae pêl droed i ni oedd Cae Alun, sef pwt o dir a geid y tu ôl i’r rhesdai sydd ar yr ochr isaf i bont y lein fawr. Gyda llaw, prin y gellir gweld dim o’r cae heddiw gan ei fod dan goed rhodis (rhododendron) a sgrwff.

Cae Alun (dan y saeth) yng ngodre’r bryncyn a rhwng y ddwy reilffordd, y lein fach a’r lein fawr.

Cofio hefyd chwarae ar y tir gyferbyn â Chae Alun, sef tros y lein fach a’r afon Barlwyd, ond y drwg efo’r lle hwnnw byddai’r bêl, o dro i dro, yn glanio yn yr afon ar ôl cic gam gan un ohonom, ac wrth gwrs, golygai hynny y byddai’n rhaid i ni redeg i lawr ei glan efo pren hir o’r felin goed gerllaw i’w nôl hi o’r dŵr. Y mae gennyf gof o chwarae gêm pêl-droed ryw unwaith neu ddwy yng Nghae Baltic yn y Rhiw hefyd, yn ogystal â sledjio i lawr yr allt o’r ffordd fawr i lawr heibio Capel Soar. Er nad oedd gennym y lleoedd gorau i chwarae pêl droed, yn ddiau, cawsom lawer o hwyl, a melys yw’r atgofion am y dyddiau hynny.
- - - - - - - - - - - -

Rhan o gyfres Steffan ab Owain.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2023