Ydych chi’n cofio’r Pigwr? Yn dilyn anogaeth ambell ddarllenwr, daeth ychydig ysbrydoliaeth i roi ychydig eiriau ar bapur i geisio codi ymwybyddiaeth o anghyfiawnderau’r cyfnod anodd hwn.
Da oedd darllen am gynlluniau’r cwmni llechi Welsh Slate i "ailagor dwy chwarel leol", a chreu 19 swydd newydd ynddynt. Yn anffodus, nid yw’n hollol glir ym mha ran o’r plwy’ y mae’r chwarel "Ffestiniog" dan sylw, ac mae Cwt-y-bugail, dros y ffin ym mhlwy Penmachno, wedi bod ar gau ers degawdau (ac yn yr ardal warchodedig bellach! -Gol).
Yr Oclis a Gloddfa Ganol, o wefan Welsh Slate |
Beth bynnag, mae’r arwyddion yn newyddion da, a diolch i’r cwmni am fuddsoddi yma. Ond wedi meddwl, mae tipyn o ffordd i fynd i geisio ailgodi’r hen dre ‘ma yn ei hôl i’r hyn a fu.
Pan ystyriwch fod 4 mil o weithwyr yn gweithio’n chwareli Stiniog yn y 19eg ganrif, a phoblogaeth y plwy yn agos i 12,000 ar droad yr 20fed ganrif, i’w gymharu â’r 4,500 sydd yma ar hyn o bryd. Ia, dyna chi, yr ail boblogaeth uchaf yng ngogledd Cymru, ar ôl Wrecsam yn 1901 – yn uwch na Llandudno, Bae Colwyn, Rhyl, Bangor, a’r gweddill y cyfnod! Bu’r dirywiad yr aruthrol, a’i effaith wedi gadael sawl marc ar ein cynefin.
Mae’r effeithiau i’w gweld y hollol glir i ni, sy’n cofio dyddiau tipyn gwell, cyn i griw Thatcher ddechrau newid y drefn o lywodraeth leol yn 1974. Mae nifer o wleidyddion wedi cau llygaid ar effeithiau’r dirywiad ar ddyfodol Blaenau Ffestiniog fel y dref ddiwydiannol, fasnachol, lwyddiannus yr oedd ar un adeg.
Mae ambell ddamcaniaeth yn honni bod yr hyn sydd wedi digwydd yma wedi ei gynllunio’n fwriadol, gan y rhai sy’n rheoli o bell, fel rhan o’r plan i ladd cymunedau Cymraeg eu hiaith. Pan feddyliwch amdano, ystyriwch hanes y cymunedau Cymraeg hynny i gyd dros y blynyddoedd diweddara’. Onid yr un yw tynged pob un ohonynt? Diffyg gwaith i gadw’r bobl ifainc yn eu cymunedau, a’u gorfodi i symud oddi cartre i ennill eu bara menyn. Hynny’n cyfrannu at dai gweigion yn cael eu gwerthu i estroniaid, am brisiau na fedrai’n hieuenctid fforddio’u prynu erbyn hyn.
A gwyddoch yn iawn, siawns, ganlyniadau hynny ar y fro parthed tai haf ac Air B&Bs sydd i’w gweld yn eu hugeiniau o’n cwmpas. Dim ond gobeithio y bydd y cynlluniau diweddar i greu swyddi yn ddechrau’r adfywiad. Roedd erthygl tudalen flaen Llafar Bro fis Ionawr parthed sefyllfa’r iaith Gymraeg yn ein bro yn agor ein llygaid i’r sefyllfa. Deffrwch bobol annwyl, cyn iddi fynd yn rhy hwyr o ddifri’!
Pigwr
- - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2023
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon