Yn mis Gorffennaf 1976 cafodd pwyllgor Clwb Rygbi Bro Ffestiniog y syniad i ofyn am dir i gael cae rygbi ar y Ddôl pan oedd y cynllun i symud tomen Glanydon i gyffiniau caeau Tanygrisiau – ond cafwyd ar ddeall mae adennill tir i gael tir diwidiannol oedd y cynllun – felly gofynwyd os oedd yn bosib cael cae o dan ysgol Glanypwll a'r lladd-dy. Gwnaed mwy o ymholiadau wrth i aelodau'r clybiau criced a rygbi edrych i mewn i’r posibilrwydd o cael caeau a’r y DDol.
Gwnaed cais yn mis Hydref 1976 i gyngor Meirionnydd am gae wrth yr hen ysgol a chais i ddefnyddio'r ysgol fel clwb gan Glyn E Jones (trysorydd) ac edrychwyd i mewn i’r ochr ariannol fel grantia. Cafwyd Pwyllgor Arbennig yn Hen Ysgol y Ddôl, 30 Hydref 1976 i drafod addasu'r adeilad i fod yn glwb i’r Clwb Criced a'r Clwb Rygbi.
Roedd Dr Boyns a Glyn E Jones wedi bod yn canfasio cynghorwyr lleol a oedd yn unfrydol dros y syniad o gaeau chwarae yn Nhanygrisiau fel roedd y trigolion. Roedd y Cyngor am brynu'r hen ysgol a rhoi les o un mlynadd ar hugain i’r clybiau criced a rygbi.
Mis Ionawr 1977 prynwyd yr hen ysgol am £6,000
Y Ddôl |
12 Fedi 1977 PAWB yn anfodlon am gyflwr y caeau. Roedd Dr Stewart o Goleg Aberystwyth sydd yn awrdurdod cyndnabyddedig ar feysydd chwarae wedi bod yn archwilio'r caeau ac yn ei adroddiad yn dweud y byddai y caeau yn dirywio o flwyddyn i flwyddyn os na bydd rhywbeth yn cael ei wneud yw gwella .
Cyfarfod Blynyddol 1980 Capten 1af Elfed Roberts Capten 2ail R A Davies (Popeye) Etholwyd Swyddogion ; Cadeirydd Dr A Boyns Ysg. Merfyn C Williams Try. Glyn E Jones Ysg. Gemau Michael Jones Ysg. Aelodaeth Raymond Cunnington Rheolwr Cae Gwynne Swyddog y Wasg. Huw Joshua Arall Gareth Davies Capten 1af Gwilym James Ch 24 C 18 E 6 Capten 2 ail Michael Jones Hyfforddwr i'w benodi
12 Fehefin 1980 Pwyllgor ( Manod )
Gofynwyd i Mike Smith fod yn Hyfforddwr y Clwb o Fis Awst 1980 Gareth Davies fel Is Capten tim 1af Diolch i pawb oedd yn helpu ar Nos Fawrth yn y Clwb
Tyllau wedi ei gwneud i’r pyst – ond y pyst heb gyrraedd o’r goedwig Tancard newydd - Chwaraewr Gorau yr Ail Dim - Rhodd Tony Coleman
Medi 1980 Gêm cyntaf a’r y Ddol
Colli! Bro 4 v Bethesda 13
Bro II 6 v Bethesda II 32
4Hydref 1980 y ddau dîm yn ennill adref ar y Ddôl
Bro 15 Abergele 6
Bro II 12 Abergele II 6
- - - - - - - - - -
Crynodeb o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2023. Rhan o gyfres Gwynne Williams
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon