23.1.14

Crwydro Carreg yr Ogof

Dyma'r golofn gynta' o gyfres o erthyglau a ymddangosodd dro'n ol yn Llafar Bro, gan Keith O'Brien, yn tywys y darllenwyr o amgylch ei hoff lecyn, ym mhlwyf Trawsfynydd.

Ydych chi'n cofio y gallwch weld ol-rifynnau o Llafar Bro yn llyfrgell y Blaenau? O'r rhifyn cyntaf un maen nhw wedi eu rhwymo'n daclus ac wedi eu cadw at ddefnydd trigolion Bro Ffestiniog a thu hwnt. Gallwch ddilyn pob un o erthyglau Crwydro Carreg yr Ogof, a llawer, llawer mwy!


CALON YN Y GRAIG
 



Ar hirddydd haf ni cheir un man gwell i wylio’r haul yn machlud na Charreg yr Ogof, Traws, gyda’r bel fawr oren yn suddo’n ara’ deg tu cefn i Foel Hebog, a hwnnw, fel petai yn arbed iddo foddi yn nyfnder dwr y llyn tua chyffiniau Pandy’r Ddwyryd.
 
Llun o gyfri' Flickr Keith
Tybed sawl gwaith bu i John Owen syllu ar yr un ddefod brydferth naturiol hon, sydd wedi ei hail chwarae yn gyson pob dydd ers cyn cof, cyn i’r diciâu ddyfod a’i gymryd ymaith yn ddyn cymharol ifanc. Brawd i’m hen-daid, Robert Owen, gof y pentre’, oedd John, a gwelir ei enw wedi ei gerfio yn yr ithfaen ar ben deheuol Carreg yr Ogof, neu Garragrogo ar lafar gwlad. Mae’n debyg i’w salwch olygu na fedrai weithio, ac o ganlyniad cafodd amser i ffurfio calon yn y graig gyda’r geiriau J. OWEN a’r flwyddyn 1898 wedi eu nodi yn daclus yng nghanol y galon.


Wrth gwrs, machlud tra gwahanol byddai ef wedi tystio yn ei amser, gan nad oedd llyn yng Nghwm Coed Rhygen yn 1898. Y Gors Goch, fel y gelwid, oedd yr olygfa o ben y graig adeg honno. 

Yno byddai’r pentrefwyr yn cyrchu i gynaeafu mawn ar gyfer cynhesu eu tai. Hawdd byddai dechrau trafod y gorchwyl difyr yma, hefyd y llyn a’r ffermydd oddi tano - ond rhaid gwrthsefyll y demtasiwn; traethawd am Garreg yr Ogof a’i gysylltiadau yw hwn - nid y llyn fel y cyfryw. Serch hynny, ni ellir ei osgoi yn gyfan gwbl. Gyda dyfodiad y llyn yn 1926, bu i Gweno, chwaer fy hen-daid, ysgrifennu’r rhigwm canlynol yn llyfr llofnodion ei nith, Nel:


Garrag’r Ogo’ garegog,

gwair rhos a gwair medi;

Oll o dan y dwr, biti, biti, yn te Nellie?




Tyllau Canon

Gadawn y llyn am funud, gan droi ein golygon tua wyneb copa’r graig ar yr ochr ogleddol, yno canfyddwn tua deg-ar-hugain o dyllau ebill, i gyd wedi eu cysylltu a’u gilydd trwy rychau wedi eu cynio i’r graig. Ffurfir y rhain mewn siap hirgrwn, a’u gelwir yn dyllau canon. 

Wrth edrych yn fanwl ar ambell dwll fe welwn ôl llosgi, y rheswm y tu ôl i hyn yw, bod y tyllau i gyd wedi eu llenwi a phowdwr du yn ogystal a’r rhychau cysylltiol, er mwyn iddynt danio mewn cyfres o un i’r llall ar achlysuron arbennig. Beth sy’n wych am y lleoliad hwn wrth gwrs yw’r garreg ateb a geir o gyfeiriad Cae Adda. Gellir dychmygu y byddai’r ffenomen naturiol yma’n effeithiol i ddyblu swn y ‘magnelau’ - 60 ergyd!


Troed y Diafol
Cyn gadael top y graig codwn ein golygon tuag at y de ac fe welwn nid nepell i ffwrdd, garreg sgwâr ei golwg, ger man a elwir yn Llyn Boddi Cathod - dim marciau am ddyfalu beth oedd yn digwydd yn fan honno!

Mae’r blocyn gwenithfaen yma tua wyth troedfedd o hyd a phum troedfedd mewn lled, gydag uchder o bedair troedfedd. Ar ochr ddwyreiniol y graig gwelwn ôl ebill ymhle holltwyd darn ohoni ryw dro, yn ffodus mae hyn wedi creu stepen i ni gymryd golwg mwy manwl ar wyneb ucha’r graig. Y peth mwyaf amlwg a welir yn gyntaf yw ôl dysgl fas tua deng modfedd o ddiamedr. Yn ôl llen gwerin, ôl troed ‘y Diafol’ yw hwn - ac fe wnaeth ef hyn pan yn camu o’r blocyn i Garreg yr Ogof!

Uwchben Troed y Diafol mae tarian ddestlus wedi ei cherfio i’r graig ac o fewn y darian ceir y disgrifiad canlynol: JMR BORN 1914. Mae’n bosib mai John Meirion Roberts, Madryn House, oedd y cyfaill hwn, neu ‘Hacks’ Mei fel y gelwir ef. Cafodd ei lysenw trwy fod yn yrrwr cerbydau ‘hackney’. Roedd yn fachgen hynaws iawn yn ôl pob son.

Mae yno galon hefyd a llythrennau ynddi ar ymyl y graig i’r dde o’r darian, ond nid yw’n bosib dehongli’r manylion.
 







12.1.14

Noson i'w chofio

Darn allan o rifyn Rhagfyr 2013, gan Dafydd Roberts, yn son am noson o ffilmiau archif o Fro Stiniog yn 'stafell fawr Cell; ac isod, disgrifiad o'r noson a lluniau o wefan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Deallwn fod y noson yn un o gyfres o ddigwyddiadau mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn mynd i'w cynnal yn y Blaenau yn yr wythnosau nesaf. Cyn gynted y gwyddwn be fydd ymlaen, mae Llafar Bro'n siwr o adael i chi wybod!


NOSON I'W CHOFIO



Fel un oedd yn bresennol yn y Cell ar noson dangos hen ffilmiau o'r Blaenau ychydig wythnosau yn ôl, mae'n rhaid dweud ei bod yn noson hynod o ddiddorol. Braf oedd gweld cynulleidfa dda wedi ymgynnull. 

Dangoswyd amrywiaeth o ddarnau ffilm, ac mae'n siwr fod llawer mwy yng nghrombil y Llyfrgell Genedlaethol – efallai y cawn gyfle i weld rhagor yn y dyfodol agos. 

Y ffilm wnaeth fy nharo fwyaf oedd yr un yn dangos agoriad swyddogol yr Ysbyty Coffa yn 1927 - gweld y cannoedd, os nad miloedd, o bobl oedd wedi ymgynnull i ddathlu'r achlysur. Gwelwyd gorymdaith hirfaith yn dod i fyny Stryd yr Eglwys. 

Golygfa wedyn o flaen yr Ysbyty lle 'roedd llwyfan wedi’i godi ar gyfer y siaradwyr. Golygfa arall tu cefn i'r Ysbyty, uwchben Cwmbowydd yn dangos y torfeydd oedd yno a'r holl ffordd i Ben Carreg y Defaid.

Mor wahanol oedd yr olygfa pan gaewyd yr Ysbyty Coffa a'r claf ola' yn cael ei chludo i Alltwen: dim ond naw dyn bach yn bresennol i dystio i'r achlysur trist. Diwrnod na chaiff ei anghofio byth.
-EDR

  
O wefan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru:


Yn ogystal a dangos clipiau o raglennu teledu a ffilmwyd yn Blaenau dros y blynyddoedd, dangoswyd hefyd ffilmiau hŷn oedd yn dangos y dref yn ystod 20au a 30au’r ganrif diwethaf.

Ymysg y ffilmiau hyn oedd ffilm o 1927 oedd yn dangos agoriad swyddogol yr Ysbyty, sydd wedi ei chau, yn ddiweddar iawn.


Roedd ymateb y gynulleidfa eto yn gadarnhaol iawn, gyda sawl un wedi adnabod rhai o’r wynebau ar y sgrin.



10.1.14

Pigo

Mae rhifyn Ionawr wedi cyrraedd!

Beth am fynd ati i feddwl am newyddion neu gyfarchion teuluol y gallwch yrru i mewn ar gyfer rhifyn Chwefror.

Y dyddiad cau ydi diwrnod olaf Ionawr.


Gallwch yrru ebost at y golygydd neu unrhyw un o'r pwyllgor, gweler y dudalen 'Pwy 'di pwy?'
neu gallwch roi eich newyddion i'r gohebydd lleol, neu i siop yr Hen Bost.

Mi wnaiff yn iawn ar gefn amlen neu ar bapur crand... y cynnwys sy'n bwysig!

Peidiwch a bod yn swil am safon eich sillafu aballu, bydd y golygydd yn medru twtio a chywiro. Ewch ati i gyfarch eich teulu a'ch ffrindiau. Diolch





Dyma golofn y Pigwr o rifyn Rhagfyr; be ydych chi'n feddwl am y pwnc dan sylw y tro hwn? Gadewch inni wybod.

COLOFN Y PIGWR


Wrth i'r siec o ganpunt gyrraedd yr hen gojars fel cyfraniad blynyddol i gadw'r oerni draw, onid yw'n amser gofyn ambell gwestiwn ynglŷn â hyn?  Er toriadau ar fudd-daliadau a grantiau mewn sawl cyfeiriad dros y blynyddoedd, mae'r tâl tanwydd yn parhau. Er i'r llywodraeth gosbi sawl teulu gyda'r dreth llofftydd, mae'r taliad tanwydd pob gaeaf yn dal i gyrraedd pensiynwyr. A dyna lle mae'r anghysondeb yn bodoli. Tra bo'r can punt yn cael ei groesawu'n gynnes (a maddeuwch y chwarae ar eiriau) mewn nifer fawr o gartrefi anghenus, mae'n rhaid gofyn a yw'r taliad yn angenrheidiol ym mhob achlysur? Tra bo toriadau rheolaidd yn y gwasanaethau a gymerem yn ganiataol ar un adeg, rhaid gofyn cwestiynau. Tra bo ein gwasanaeth iechyd yn gwegian, a ninnau yn y dre hon wedi colli ein hysbyty, ynghŷd â dau feddyg, mynnwn onestrwydd. 

Ni thelir grantiau i fyfyrwyr ein colegau bellach, i gyd oherwydd sefyllfa ariannol druenus y wlad. Ond dal i gael ei anfon i bob un dros 60 oed mae'r tâl tanwydd. A dyna lle mae'r anghysondeb. 

Meddyliwch, mewn difri', ar sefyllfa fel hyn: Gŵr priod, 60 oed, mewn gwaith, yn ennill cyflog anferthol o £100,000 mewn swydd fras, a'r wraig o'r un oed, hithau'n brifathrawes,  er enghraifft, ar £60,000 y flwyddyn o gyflog, yn derbyn dau gan punt o dâl tanwydd. 

Beth am aelodau seneddol? (ac mae nifer fawr ohonynt dros 60). Meddyliwch am rai fel Alex Ferguson, a Roy Hodgson, dau reolwr, neu gyn-reolwyr cyfoethog timau pêl-droed, yn derbyn y tâl. Onid yw'r cwîn a'i gŵr, a'i mab hynaf, a'i merch yn cael y siec o £100 bob blwyddyn? Beth am filiwnyddion rif-y-gwlith y wlad? Mae'n warth o beth fod y miloedd ar filoedd o ex-pats Prydeinig, sydd wedi cefnu ar oerni Prydain, ac wedi ymddeol i'w hafanau yn Sbaen yn derbyn y nawdd. (Nid af i fanylu am rai sy'n derbyn dau bensiwn, ac yn dal i weithio ymhell wedi oed ymddeol) 

Ydyn, mae'r rhain i gyd yn derbyn yr arian hwn, heb ei wir angen o gwbl, tra bo galwadau am arian mewn sawl cyfeiriad arall yn cael clust fyddar gan y llywodraeth. Mae'n hwyr glas i wleidyddion fod yn ddigon dewr i dynnu sylw at y fath anghysondeb, a gweithredu i unioni'r camwedd. Byddai'r arbedion a wneid yn galluogi talu mwy o lwfans tanwydd i'r rhai sydd wirioneddol ei angen. 

A sôn am wastraffu arian mewn cyfnod o gyfyngder, glywsoch chi am y cynllun hurt o osod ymylon concrid newydd, diangen, bob cam o'r bont dros y rheilffordd ger hen stesion London i gyfeiriad croesffordd Sgwâr Oakeley? Ac wedi cwblhau'r gwaith, gorfod codi pob un, a'i hail-osod yn ôl, oherwydd nad oeddynt yn ddigon uchel i blesio peirianwyr y priffyrdd! Colli'r ffordd, ta be?