22.7.19

Arddangosfa'r Gymdeithas Hanes

Galwch draw i Siop Antur Stiniog yn Stryd Fawr y Blaenau!

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi fod yr Arddangosfa Hanes sydd wedi symud i Siop a Thŷ Coffi Antur Stiniog ers mis go-lew bellach yn andros o lwyddiannus, ac mae’n fraint i ni fel cwmni cymunedol ei chynnal.

Criw o wirfoddolwyr gweithgar a gwybodus iawn o Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog sy'n gyfrifol am ddatblygu'r arddangosfa wych yma. Mae’n dangos trawstoriad eang a diddorol iawn o hanes ardal ‘Stiniog sy’n dyddio mor bell yn ôl a diwedd y 1800au!

Mae’r arddangosfa yn cynnwys Car Gwyllt go iawn o chwarel y Graig Ddu (cyflwynwyd gan y Gymdeithas Hanes er cof am Emrys Evans), hanes Clybiau Pêl Droed ‘Stiniog dros y degawdau, a llawer mwy – cofiwch alw i mewn i weld drosoch eich hun! Mae’n bosib iawn y byddwch chi’n nabod nifer o wynebau!

(Llun -Alwyn Jones)


Yn fwy diweddar rydym yn falch iawn o weld Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog yn 1898, yn cael ei hychwanegu at y Goron o'r eisteddfod honno, oedd yno eisoes.


Diolch i gymwynas Cyngor Tref Ffestiniog, mae'n wych gweld y ddwy eitem werthfawr iawn yma efo'u gilydd eto!


Tybed oes tref arall yng Nghymru lle mae'r gadair a'r goron wreiddiol yn eu holau efo'u gilydd, ac ar gael i'r cyhoedd eu gweld o ddydd i ddydd?


Bu tri o aelodau'r Gymdeithas yn siarad am y ddeuawd ar raglen Heno ar S4C ganol mis Gorffennaf.


 el aelodau staff Siop Antur Stiniog, rydym yn lwcus iawn o fod yn dystion i gymaint o sgyrsiau difyr sydd i’w clywed gan fynychwyr yr arddangosfa - yn enwedig pan mae pobl leol yn trafod yr hyn sydd i’w weld yno ac yn rhannu’u hatgofion, straeon - ffeithiau am ein cymuned yn cynnwys disgrifiadau o sut mae’r dref wedi newid dros y degawdau diwethaf - ac wrth gwrs, clywed am gymeriadau unigryw sydd wedi byw yn yr ardal dros y blynyddoedd!

Fel caffi, siop a man gwybodaeth yn y dref, rydym yn cael croesawu nifer fawr o ymwelwyr, ac mae’n bleser mawr gweld cymaint ohonyn nhw’n cymryd  diddordeb yn ein hetifeddiaeth a’n hanes. Mae hefyd yn syndod darganfod faint o pobl sydd â chysylltiadau â’r ardal.

Pobl leol ydi’r gwirfoddolwyr sydd yn rhedeg yr Arddangosfa Hanes, ac wrth drafod, mae’r cwestiwn yn codi’n aml, pam nad oes ‘na ganolfan dreftadaeth yn yr dref? Adeilad pwrpasol i arddangos ac addysgu pobl am ein hanes a’n treftadaeth - fel sydd yna yn Llanberis. Ydi hyn yn rhywbeth gallwn feddwl am ddatblygu fel cymuned? Beth yw eich teimladau chi?

Mae’r Arddangosfa Hanes Lleol ar agor dydd Llun- ddydd Gwener 9.00-14.30, ac ar ddydd Sadwrn o 10.00-15.00, yn Siop a Tŷ Coffi Antur Stiniog-

Mae yno groeso cynnes i bawb!
------------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mehefin 2019.


19.7.19

Ciwio i brynu Llafar Bro?

Rhifyn Mehefin 2019
Mae ein papur bro wedi newid yn sylweddol o ran diwyg a lliw o rifyn Mehefin eleni, a gobeithiwn y cytunwch ei fod yn werth ei weld.


Mae cwpled y diweddar Siôn Gwyndaf wedi ymddangos ar dudalen flaen y papur o'r dechrau un:
Ieuanc a hen ddarlleno
O leufer brwd, ‘Lafar Bro’
.

Yn ddiweddar, ychwanegodd Dewi Prysor y canlynol at y gwpled:
Mewn lliw! Mae pawb yn ciwio
Yn un haid i’w brynu o.
Does gennym fel tîm sy’n ei ddarparu ar eich cyfer chi’r darllenwyr yn fisol ond hyderu’n fawr y gwireddir geiriau Dewi, ac y bydd y ddiwyg newydd yn anogaeth i’w werthu.

Rhifyn Gorffennaf 2019

Yn nyddiau’r bri ar y cyfryngau cymdeithasol, rydw i’n gofidio’n aml am ddyfodol y papurau bro a gyfrannodd mor helaeth ers dros ddeugain i gynnal yr iaith Gymraeg yn ein hardaloedd. Ail-adroddaf y geiriau a welwyd ar dudalen flaen rhifyn diweddar:
“Gobeithio y gallwn ni ddibynnu nid yn unig ar eich cefnogaeth chi, y ffyddloniaid, ond y cawn hefyd weld Llafar Bro, ar ei newydd wedd, yn ennill darllenwyr newydd.”
---------------------------
Addasiad yw'r uchod o eiriau Iwan Morgan, yn rhifyn Mehefin 2019.

Mae gwerthiant Llafar Bro wedi gostwng dros y blynyddoedd d'wytha; allwch chi ein helpu i werthu mwy? Rhowch hwb i'ch teulu, ffrindiau a chymdogion i brynu copi eu hunain.

Mae 70 ceiniog y mis yn ffordd rad iawn o gefnogi menter Gymraeg yn y gymuned. Neu gallwch danysgrifio i'w dderbyn trwy'r post, i chi'ch hun, neu'n anrheg i rywun arall.

Diolch bawb am eich cefnogaeth!


Llafar Bro ar ei newydd wedd


12.7.19

Dadorchuddio Plac Afallon

Wel am ddiwrnod i’w gofio – diwrnod i ddadorchuddio plac ar Afallon, Tanygrisiau, dydd  Sadwrn, Mai 18fed.

Cychwynnodd y dathlu gyda chylchdro o gwmpas y pentref a chyfle i glywed hanesion y cymeriadau brith sydd wedi byw yma, nifer ohonynt wedi gadael eu hôl ymhell tu hwnt i ffiniau’r fro. Cafwyd cipolwg ar ddatblygiad y pentref a’r math o gymdeithas a groesawodd gwpl ifanc i’w mysg ym 1903.

Dod fel gweinidog i Gapel Bethel wnaeth R. Silyn Roberts, a Mary ei wraig yn rhoi gorau i’w swydd yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn gwasanaethu cymuned ddiwylliedig oedd â chwant am addysg.

Yn ystod y dydd, clywsom am sawl maes lle bu cyfraniad y ddau yma yn amhrisiadwy, ond fel ‘addysgwyr’ roeddem yn eu cofio amdanynt yn bennaf. I’r rhai ohonoch sydd efo 'ffôn clyfar’ a sydd yn gyfarwydd â chodau ‘QR’, mae gwybodaeth ddigidol ar gael am y plac ger giât Afallon, neu mae modd mynd i safle we historypoints.org am fwy o wybodaeth amdanynt.


Wedi’r dadorchuddio, agorodd Gai Toms ddrysau Stiwdio Sbensh inni. Dyma safle hen festri capel Bethel, ac yno cawsom hanes y modd rhyfeddol y sianelwyd egni crefyddol pobl ifanc i lwybrau ymarferol. Ffrwyth eu llafur hwy oedd yr adeilad. Yn y gwagle hwn, gosodwyd llwyfan a fyddai’n cynnal sawl enw hanesyddol; yno hefyd crëwyd llyfrgell fechan lle byddai Silyn yn defnyddio nofelau Daniel Owen i arwain trafodaethau ar faterion cymdeithasol y dydd.
Petai waliau’n gallu siarad ynte...

Ymlaen wedyn i festri Carmel am baned a phedwar cyflwyniad hollol wahanol ar Addysg Oedolion, a sut bu i’r ardal hon fod mor flaengar mewn materion addysg – ambell un yn teimlo efallai bod hi’n amser i fod ar flaen y gad unwaith eto!

Diolch i griw rownd bapur Tanygrisiau am gyfrannu’r plac, a diolch yn arbennig i Gapel Carmel am ddiweddglo croesawus iawn i’r diwrnod. Ymadawodd pawb yn llawer mwy gwybodus a chyda gwên ar eu hwynebau.

Iona Price, Angharad Tomos a Luned Meredith.
------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2019.


6.7.19

Enwau Lleoedd yn Chwarel Llechwedd

Pennod cyntaf cyfres o erthyglau o'r archif.
Yn dilyn y stŵr diweddar dros enw Llechwedd, mae cyfres Steffan ab Owain dal yn berthnasol iawn heddiw.

Yn gyntaf oll, hoffwn eich atgoffa mai’r hen enw ar y chwarel oedd Llechwedd Cyd, neu Llechwedd y Cyd (gweler y map). 

Mae’r enw hwn yn un diddorol, a dyma beth yw esboniad G.J. Williams arno yn ei gyfrol ‘Hanes Plwyf Ffestiniog' (1882):

Credai yr hen bobl fod llechau yn y fan hon, a defnyddient rai o geunant y Cribau i doi, fel y sylwyd.  Ond yr oedd anhawsder i gael agor chwarel yma, gan y perthynai Ffridd y Llechwedd i amryw o foneddigion, a gelwid hi o’r herwydd ‘Ffridd y Llechwedd Cyd’. Fodd bynnag, cymerwyd prydles ar y lle gan J.W. Greaves, Ysw., yn y flwyddyn 1846, ac agorodd y chwarel, (a, Yr oedd gan Mrs Oakeley hawl i gadw 19 o wartheg yn y Llechwedd Cyd, Arglwydd Newborough 7, a chynrychiolwyr R. Parry, ysw, (Ystad Glan y Pwll i. – Tithe Schedule).

Gyda llaw, byddai lle arall yn yr ardal yn cynnwys y gair ‘cyd’ ynddo hefyd, sef Rhos y Cyd (neu Rhos y Gyd, weithiau) ar dir hen Stad Cefn Bychan.

A dod yn ôl rwan at Chwarel Llechwedd.  Efallai y dylwn grybwyll hefyd bod o leiaf dwy ffridd arall ar ei thir, sef Ffridd Blaen Llechwedd a Ffridd Ddu.

Heb os nac onibai, gellir dweud mai un o’r pethau mwyaf ysblennydd yn perthyn i’r chwarel ydyw Plas Waenydd.  Sut bynnag, cyn i J.W. Greaves, perchennog cyntaf y chwarel adeiladu’r plas hwn yn 1869 bwthyn bach crwn oedd yn sefyll ar y man a’r lle.  Mae’n resyn o’r mwyaf ei fod wedi cael ei chwalu, oherwydd yn ôl ein haneswyr gwnaed ef o hen gorlan gron a muriau cryf iddi hi, ac roedd corn simdde yn ei ganol.  Oherwydd ei ffurf galwyd ef yn Tŷ Crwn.  Sylwais ar yr enw wrth fynd trwy Gyfrifiad 1851 rai blynyddoedd yn ôl, ac yn ôl hwnnw Richard Morris (gof), ei wraig Mary, a’u plant David, Jane, Richard a Mary oedd yn preswylio ynddo y pryd hynny.  Roeddynt i gyd yn enedigol o blwyf Llandwrog ac eithrio Mary a anwyd yma ym mhlwyf Ffestinog.

Gyda llaw, i Dŷ Crwn, a hynny ar noson stormus iawn, y daeth y Wyddeles Mrs Lerry, y ceir ei hanes yn Y Fainc ‘Sglodion, J.W.J. i ymofyn llety yn gyntaf yn ein bro.  Ac wedi iddi gael aros yno dros nos, a gweld yr ardal ar ôl i’r storm dawelu a’r haul ddechrau gwenu y syrthiodd mewn cariad a Thalywaenydd.  Ychydig wedyn ymsefydlodd yn un o dai Talywaenydd Isaf, a ddifrodwyd yn yfflon ar ôl toriad argae Llyn Ffridd yn 1874.  Ar ôl y rhyferthwy hwnnw, fodd bynnag, penderfynodd adael yr ardal am byth a dychwelyd i fyw i Iwerddon.
-------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1988, mewn cyfres o'r enw Llên Gwerin.