Wel am ddiwrnod i’w gofio – diwrnod i ddadorchuddio plac ar Afallon, Tanygrisiau, dydd Sadwrn, Mai 18fed.
Cychwynnodd y dathlu gyda chylchdro o gwmpas y pentref a chyfle i glywed hanesion y cymeriadau brith sydd wedi byw yma, nifer ohonynt wedi gadael eu hôl ymhell tu hwnt i ffiniau’r fro. Cafwyd cipolwg ar ddatblygiad y pentref a’r math o gymdeithas a groesawodd gwpl ifanc i’w mysg ym 1903.
Dod fel gweinidog i Gapel Bethel wnaeth R. Silyn Roberts, a Mary ei wraig yn rhoi gorau i’w swydd yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn gwasanaethu cymuned ddiwylliedig oedd â chwant am addysg.
Yn ystod y dydd, clywsom am sawl maes lle bu cyfraniad y ddau yma yn amhrisiadwy, ond fel ‘addysgwyr’ roeddem yn eu cofio amdanynt yn bennaf. I’r rhai ohonoch sydd efo 'ffôn clyfar’ a sydd yn gyfarwydd â chodau ‘QR’, mae gwybodaeth ddigidol ar gael am y plac ger giât Afallon, neu mae modd mynd i safle we historypoints.org am fwy o wybodaeth amdanynt.
Wedi’r dadorchuddio, agorodd Gai Toms ddrysau Stiwdio Sbensh inni. Dyma safle hen festri capel Bethel, ac yno cawsom hanes y modd rhyfeddol y sianelwyd egni crefyddol pobl ifanc i lwybrau ymarferol. Ffrwyth eu llafur hwy oedd yr adeilad. Yn y gwagle hwn, gosodwyd llwyfan a fyddai’n cynnal sawl enw hanesyddol; yno hefyd crëwyd llyfrgell fechan lle byddai Silyn yn defnyddio nofelau Daniel Owen i arwain trafodaethau ar faterion cymdeithasol y dydd.
Petai waliau’n gallu siarad ynte...
Ymlaen wedyn i festri Carmel am baned a phedwar cyflwyniad hollol wahanol ar Addysg Oedolion, a sut bu i’r ardal hon fod mor flaengar mewn materion addysg – ambell un yn teimlo efallai bod hi’n amser i fod ar flaen y gad unwaith eto!
Diolch i griw rownd bapur Tanygrisiau am gyfrannu’r plac, a diolch yn arbennig i Gapel Carmel am ddiweddglo croesawus iawn i’r diwrnod. Ymadawodd pawb yn llawer mwy gwybodus a chyda gwên ar eu hwynebau.
Iona Price, Angharad Tomos a Luned Meredith.
------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2019.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon