Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi fod yr Arddangosfa Hanes sydd wedi symud i Siop a Thŷ Coffi Antur Stiniog ers mis go-lew bellach yn andros o lwyddiannus, ac mae’n fraint i ni fel cwmni cymunedol ei chynnal.
Criw o wirfoddolwyr gweithgar a gwybodus iawn o Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog sy'n gyfrifol am ddatblygu'r arddangosfa wych yma. Mae’n dangos trawstoriad eang a diddorol iawn o hanes ardal ‘Stiniog sy’n dyddio mor bell yn ôl a diwedd y 1800au!
Mae’r arddangosfa yn cynnwys Car Gwyllt go iawn o chwarel y Graig Ddu (cyflwynwyd gan y Gymdeithas Hanes er cof am Emrys Evans), hanes Clybiau Pêl Droed ‘Stiniog dros y degawdau, a llawer mwy – cofiwch alw i mewn i weld drosoch eich hun! Mae’n bosib iawn y byddwch chi’n nabod nifer o wynebau!
(Llun -Alwyn Jones) |
Yn fwy diweddar rydym yn falch iawn o weld Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog yn 1898, yn cael ei hychwanegu at y Goron o'r eisteddfod honno, oedd yno eisoes.
Diolch i gymwynas Cyngor Tref Ffestiniog, mae'n wych gweld y ddwy eitem werthfawr iawn yma efo'u gilydd eto!
Tybed oes tref arall yng Nghymru lle mae'r gadair a'r goron wreiddiol yn eu holau efo'u gilydd, ac ar gael i'r cyhoedd eu gweld o ddydd i ddydd?
Bu tri o aelodau'r Gymdeithas yn siarad am y ddeuawd ar raglen Heno ar S4C ganol mis Gorffennaf.
el aelodau staff Siop Antur Stiniog, rydym yn lwcus iawn o fod yn dystion i gymaint o sgyrsiau difyr sydd i’w clywed gan fynychwyr yr arddangosfa - yn enwedig pan mae pobl leol yn trafod yr hyn sydd i’w weld yno ac yn rhannu’u hatgofion, straeon - ffeithiau am ein cymuned yn cynnwys disgrifiadau o sut mae’r dref wedi newid dros y degawdau diwethaf - ac wrth gwrs, clywed am gymeriadau unigryw sydd wedi byw yn yr ardal dros y blynyddoedd!
Fel caffi, siop a man gwybodaeth yn y dref, rydym yn cael croesawu nifer fawr o ymwelwyr, ac mae’n bleser mawr gweld cymaint ohonyn nhw’n cymryd diddordeb yn ein hetifeddiaeth a’n hanes. Mae hefyd yn syndod darganfod faint o pobl sydd â chysylltiadau â’r ardal.
Pobl leol ydi’r gwirfoddolwyr sydd yn rhedeg yr Arddangosfa Hanes, ac wrth drafod, mae’r cwestiwn yn codi’n aml, pam nad oes ‘na ganolfan dreftadaeth yn yr dref? Adeilad pwrpasol i arddangos ac addysgu pobl am ein hanes a’n treftadaeth - fel sydd yna yn Llanberis. Ydi hyn yn rhywbeth gallwn feddwl am ddatblygu fel cymuned? Beth yw eich teimladau chi?
Mae’r Arddangosfa Hanes Lleol ar agor dydd Llun- ddydd Gwener 9.00-14.30, ac ar ddydd Sadwrn o 10.00-15.00, yn Siop a Tŷ Coffi Antur Stiniog-
Mae yno groeso cynnes i bawb!
------------------------------------
Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mehefin 2019.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon