6.7.19

Enwau Lleoedd yn Chwarel Llechwedd

Pennod cyntaf cyfres o erthyglau o'r archif.
Yn dilyn y stŵr diweddar dros enw Llechwedd, mae cyfres Steffan ab Owain dal yn berthnasol iawn heddiw.

Yn gyntaf oll, hoffwn eich atgoffa mai’r hen enw ar y chwarel oedd Llechwedd Cyd, neu Llechwedd y Cyd (gweler y map). 

Mae’r enw hwn yn un diddorol, a dyma beth yw esboniad G.J. Williams arno yn ei gyfrol ‘Hanes Plwyf Ffestiniog' (1882):

Credai yr hen bobl fod llechau yn y fan hon, a defnyddient rai o geunant y Cribau i doi, fel y sylwyd.  Ond yr oedd anhawsder i gael agor chwarel yma, gan y perthynai Ffridd y Llechwedd i amryw o foneddigion, a gelwid hi o’r herwydd ‘Ffridd y Llechwedd Cyd’. Fodd bynnag, cymerwyd prydles ar y lle gan J.W. Greaves, Ysw., yn y flwyddyn 1846, ac agorodd y chwarel, (a, Yr oedd gan Mrs Oakeley hawl i gadw 19 o wartheg yn y Llechwedd Cyd, Arglwydd Newborough 7, a chynrychiolwyr R. Parry, ysw, (Ystad Glan y Pwll i. – Tithe Schedule).

Gyda llaw, byddai lle arall yn yr ardal yn cynnwys y gair ‘cyd’ ynddo hefyd, sef Rhos y Cyd (neu Rhos y Gyd, weithiau) ar dir hen Stad Cefn Bychan.

A dod yn ôl rwan at Chwarel Llechwedd.  Efallai y dylwn grybwyll hefyd bod o leiaf dwy ffridd arall ar ei thir, sef Ffridd Blaen Llechwedd a Ffridd Ddu.

Heb os nac onibai, gellir dweud mai un o’r pethau mwyaf ysblennydd yn perthyn i’r chwarel ydyw Plas Waenydd.  Sut bynnag, cyn i J.W. Greaves, perchennog cyntaf y chwarel adeiladu’r plas hwn yn 1869 bwthyn bach crwn oedd yn sefyll ar y man a’r lle.  Mae’n resyn o’r mwyaf ei fod wedi cael ei chwalu, oherwydd yn ôl ein haneswyr gwnaed ef o hen gorlan gron a muriau cryf iddi hi, ac roedd corn simdde yn ei ganol.  Oherwydd ei ffurf galwyd ef yn Tŷ Crwn.  Sylwais ar yr enw wrth fynd trwy Gyfrifiad 1851 rai blynyddoedd yn ôl, ac yn ôl hwnnw Richard Morris (gof), ei wraig Mary, a’u plant David, Jane, Richard a Mary oedd yn preswylio ynddo y pryd hynny.  Roeddynt i gyd yn enedigol o blwyf Llandwrog ac eithrio Mary a anwyd yma ym mhlwyf Ffestinog.

Gyda llaw, i Dŷ Crwn, a hynny ar noson stormus iawn, y daeth y Wyddeles Mrs Lerry, y ceir ei hanes yn Y Fainc ‘Sglodion, J.W.J. i ymofyn llety yn gyntaf yn ein bro.  Ac wedi iddi gael aros yno dros nos, a gweld yr ardal ar ôl i’r storm dawelu a’r haul ddechrau gwenu y syrthiodd mewn cariad a Thalywaenydd.  Ychydig wedyn ymsefydlodd yn un o dai Talywaenydd Isaf, a ddifrodwyd yn yfflon ar ôl toriad argae Llyn Ffridd yn 1874.  Ar ôl y rhyferthwy hwnnw, fodd bynnag, penderfynodd adael yr ardal am byth a dychwelyd i fyw i Iwerddon.
-------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1988, mewn cyfres o'r enw Llên Gwerin.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon