28.6.19

Rhod y Rhigymwr -Pedwar o'r Tap yn hapus!

Rhan o golofn reolaidd Iwan Morgan.

Wrth chwilio drwy bentwr o luniau’r diwrnod o’r blaen, deuthum ar draws dau lun a dynnwyd o Dîm Talwrn Bro Ffestiniog ym 1996.

Yn ôl y manylion ar dri thlws a dderbyniwyd, bu’r tîm yma’n bur llwyddiannus, gan ennill mewn Talyrnau a gynhaliwyd yn ‘Y Tap’, Neuadd Llan a Neuadd Rhydymain.

Tîm talwrn Bro Ffestiniog 1996

Y tu ôl i un o’r lluniau, ceir y ddau englyn canlynol gan Rhiain:

Pedwar o’r ‘Tap’ yn hapus! – Ein hawen
    Yn ieuanc a graenus;
Gu deirawr go hyderus
Uwch tasgau yn chwartiau chwŷs.

Hen westai go ddirwestol – yn cyrraedd
    Cwr y ‘pen brenhinol’,
Mwydran yn ddi-gymedrol
Ar win ffawd yr awen ffôl.

Os cofiaf yn iawn, y Parch. John Gwilym Jones oedd y ‘meuryn’ yn un o’r talyrnau – un y ‘Tap’ yn ôl pob tebyg – oherwydd ato fo y cyfeirir yn yr ail englyn. Dyddiau da!
------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2019

1 comment:

  1. Diolch am gynnwys y llun Mr Golygydd. Atogofion difyr. Cawsom lawer o hwyl yng nghwmni'n gilydd. Chwith mawr am Rhian y Ddôl, bardd uchel ei pharch.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon