Roedd 2018 yn nodi canrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe nodwyd yr achlysur drwy gofio am
Meddai Geraint:
y rhai aberthodd eu bywydau yn ystod y brwydro. I’r awdur lleol poblogaidd arobryn Geraint V. Jones, dyma oedd egin syniad am stori, a ffrwyth ei lafur ydi’i nofel newydd Elena, a gyhoeddwyd ddechrau Ebrill eleni gan Y Lolfa.
“Chefais i erioed gyfle i adnabod tad fy mam am iddo gael ei ladd ar Gefn Pilkem, ddiwedd Gorffennaf 1917. O fewn deufis roedd fy nain yn colli brawd hefyd, yn yr un ardal. Fe gafodd fy nhaid arall, tad fy nhad, ddod adre’n fyw, ond nid yn groeniach o bell ffordd, am iddo gael ei anafu ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme. Rwy’n cofio mai tawedog iawn oedd o pan fyddwn i’n ceisio’i holi am ei amser yn Ffrainc.”Wrth drafod syniad ei nofel ac o le daeth y stori, ychwanega:
“Anodd egluro’n foddhaol pryd nac ymhle yn union y mae unrhyw nofel yn cychwyn gen i. Dwi’n rhyw amau mai’r ysgogiad i Elena oedd y profiad o ymweld eto, yn 2017, â bedd fy nhaid yn mynwent fechan Dragoon Camp, nepell o Ypres, ac yna teithio’r hanner milltir byr o fan ‘no at fedd Hedd Wyn ym mynwent Artillery Wood. Wrth sefyll uwchben bedd y bardd, a dwyn i gof ddwy o’i gariadon yma ym Mlaenau Ffestiniog, cam bychain wedyn oedd sylweddoli bod pob bedd yn cuddio’i stori neu’i gyfrinach ei hun.”Mae Elena yn olrhain hanes Elin, cyfeilyddes Côr y Garn, sy’n dechrau dod o’i chragen wedi blynyddoedd o ofalu am ei mam a’i nain, ac yn cychwyn ar berthynas gyda Dewi Rhys. Wrth i’w doniau cerddorol hi ddod fwyfwy i’r amlwg, mae’r ddau yn turio’n ddyfnach i gefndir ei theulu yn ardal Tregarnedd. Mae hen gysylltiadau cudd ei thylwyth â llofruddiaeth arswydus fu ar gyrion y dref adeg y Rhyfel Mawr yn mynnu dod i olau dydd.
“Mewn rhyw ffordd neu’i gilydd mae pob un ohonom yn gaeth i’w orffennol a dydi Elin Puw, prif gymeriad y nofel yma, ddim yn eithriad yn hynny o beth.”
Llun Alwyn Jones |
Cynhaliwyd sesiwn lofnodi i ddathlu cyhoeddi Elena yn Siop yr Hen Bost, Blaenau.
Mae Elena gan Geraint V. Jones ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa) 312tt.
RHYWLE YN FFRAINC:
Detholiad o Ddyddiadur Milwr yn y Rhyfel Mawr.
Tom Price. 118tt. Gwasg Carreg Gwalch. £6.95
I Lonna Bradley, Llan Ffestiniog y mae’r diolch am sicrhau gweld y detholiad uchod o ddyddiadur ei diweddar dad, Tom Price, yn gweld golau dydd. Roedd Tom, fel nifer o’i gyfoedion a fu’n gwasanaethu yn y rhyfel erchyll honno, yn gyndyn iawn o sôn am ei brofiadau dros y cyfnod. Ond bu’r teulu’n ffodus o’i berswadio, yn ystod y 1960au, iddo gofnodi peth o’r hanes. Roedd Tom, fel ambell filwr arall, wedi cadw dyddiaduron, trwy gyfrwng y Gymreg, o’r cyfnod yr ymunodd â’r Pals Regiment yn Nhachwedd 1914.
Ac yn y gyfrol fechan ddiddorol hon cawn brofi symudiadau, profiadau a theimladau bachgen ifanc o ‘Stiniog, a’r cyfan wedi ei nodi, a’u codi o’i ddyddiaduron a gedwid mor ddeddfol ganddo. Daw’r profiadau hynny’n ôl yn fyw trwy ei ddisgrifiadau manwl yn y dyddiaduron o’r peryglon a’r erchyllterau a wynebid gan y milwyr druan rheiny.
Gwnaeth Lonna gymwynas â haneswyr a darllenwyr heddiw, ac yfory, trwy gadw’r cofnodion gwerthfawr rheiny’n saff, a sicrhau eu gweld yn cael eu cyhoeddi. Diolch yn fawr iddi. A diolch i Tom Price am ein hatgoffa, trwy gyfrwng ei ddyddiaduron, o erchylltra a chreulondeb rhyfeloedd.
V.P.W.
-----------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2019
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon