Daeth datblygiadau i’r ardal, agor y rheilffordd o’r Bala i Flaenau Ffestiniog yn 1883, trwy dir Llwyncrwn, ac yna cronni’r afon Prysor i wneud y llyn a gorsaf bŵer i greu trydan yn 1928. Pryd hynny, roedd peth o’r tir yn eiddo Stâd Wood, pryd y prynodd fy nhad y tir at Islyn a daeth ffordd newydd drwy’r tir o Drawsfynydd tua Gellilydan. Dim hon oedd yr unig ffordd drwy’r tir, un gangen o’r ffordd Rufeinig yn mynd trwodd am Penstryd, o Domen y Mur, a’r llall, Sarn Helen eto drwy gaeau Pant Selar o Domen y Mur am Gastell Prysor.
Roedd terfynau fferm Llwyncrwn yn amlwg. I’r de, afon Islyn yn llifo o waith Aur Bwlch y Llu, Doldinas (Roberts), Bwlch Gwyn (Robert Jones) i lawr am Dyddyn y Felin (Thomas Griffith) a Goppa (John Jones). Roedd Ceunant Coch yn derfyn i’r gogledd, gyda Coedcaedu (Hugh Jones a’r teulu) a’r olion Pabyddol, ac yna Tomen y Mur (Gwynfor Williams yn ffermio yn fwy diweddar). Mae'r llyn i’r gorllewin, a chofiwn enwau rai o’r ffermydd a aeth o dan y llyn a’i donnau, Bryn Rwy, Bryn Hir a Ty’n Ddôl.
Dros y ffridd i’r dwyrain roedd tyddyn Tŷ’r Mynydd lle y magwyd 13 o blant gan Tom a Lizzie Williams. Cafwyd chwarel lechi Braich Du, a chofiaf Hugh Thomas o Riwlas, Bangor a Glyn Williams yn enedigol o Lanfair, yn gweithio yna. Dod ar y bws fore Llun, lletya yn Llwyncrwn, a mynd adref ar y bws ar fore Sadwrn. Mae byngalo ar y ffordd i mewn i Harlech wedi ei doi gyda llechi o’r chwarel.
Enwau digon cyffredin oedd ar y caeau yn cynnwys Cae Lloi, Llechwedd, Cae Dan Tŷ, Cae Eithin. Roedd Ffridd Pennau Moelion lle y deuai Ned Thomas, Coed Rhygun a gweithwyr i dorri mawn. Hon yn grefft arbennig, gosod y mawn ar wyneb y ffôs a dorrwyd i’w sychu cyn eu cario a’u gosod yn drefnus yn y sied mawn yn danwydd at y gaeaf.
Tŷ fferm chwe llofft gyffredin oedd Llwyncrwn, gyda chegin fyw fawr ble roedd dwy ddresel, dau gloc mawr, cwpwrdd tridarn, setl a’r cadeiriau a byrddau arferol, y piano a’r grât gyda phopty a boiler a’r tân yn eu cynhesu. Yn y parlwr, roedd cwpwrdd gwydr ble cedwid y gwin mwyar duon, ac organ a fyddai fy nhad yn ei chwarae. Cwpwrdd cornel yn y parlwr bach a’r bwtri cefn. Pob cysur wrth olau lamp neu gannwyll, nes daeth y ‘generator’ i oleuo’r tŷ.
Diolch am gael treulio fy nyddiau cynnar ar ei aelwyd hapus a chroesawgar bob amser gyda’m teulu mewn mangre mor fendigedig a chael eu mwynhau.
Fel yr ysgrifennodd O. M. Edwards:
‘Mae i bob bryn ei hanes,Ac ychwanegaf innau... ‘Ei hatgofion’.
Ac i bob ardal ei hanes...’
--------------------------------
Pennod 1
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2018, fel rhan o gyfres 'Ffermydd Dalgylch Llafar Bro' Les Derbyshire.
(Heb y llun, gan Paul W)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon