5.6.19

Llafar Bro ar Newydd Wedd

GAIR O EGLURHAD

O fis Mehefin ymlaen, bydd ein papur bro yn newid yn sylweddol, o ran diwyg a lliw. Mae’r newidiadau hyn yn anorfod oherwydd y ffordd y bydd y papur yn cael ei argraffu o hyn allan.



Y manteision                       
•    Bydd pob rhifyn o hyn ymlaen yn llawn lliw ac yn llawer mwy deniadol i’r llygad. 

•    Bydd yr argraffu yn fwy proffesiynol yr olwg ac yn gwneud gwell cyfiawnder â phob erthygl ac eitem newyddion.

•    Bydd y lluniau yn rhai a fydd yn dal sylw ac yn gofnod pwysig i’r oesoedd a ddêl (e.e. lluniau o’r ysgolion ac o’r meysydd chwarae ac yn y blaen).

•    Fydd dim angen i griwiau ddod ynghyd bob mis i blygu’r papur gan y bydd y gwaith hwnnw’n cael ei wneud gan y wasg.

Yr anfanteision
•    Bydd raid codi pris y papur, i gyfarfod cost ychwanegol yr argraffu.

Y noson blygu olaf. Cymdeithas Seren a rhai o selogion Llafar Bro
Rhaid pwysleisio nad oes gan Wasg Carreg Gwalch, na phwyllgor Llafar Bro chwaith, ddim dewis ond derbyn y sefyllfa sydd ohoni, bellach. Mae’r wasg yn gorfod buddsoddi’n drwm mewn peiriannau newydd drudfawr a bydd cost yr argraffu, oherwydd hynny, yn cynyddu’n sylweddol. O ganlyniad, ni fydd gan Llafar Bro, mwy nag unrhyw bapur bro arall sy’n dod o’r wasg honno, ddim dewis ond codi pris y papur, yn ogystal â phrisiau’r hysbysebion hefyd, yn ôl eu maint.

Edrych yn ôl
Cafodd Llafar Bro, ein hunig bapur Cymraeg lleol, ei sefydlu yn ôl yn 1975. Bryd hynny, roedd y sialens o’i roi at ei gilydd ac i’w argraffu yn llawer mwy nag ydyw erbyn heddiw. 

Ond fe ddoed i ben â hi ac fe lwyddwyd i gadw’r papur yn fyw dros y deugain mlynedd oedd i ddod, diolch nid yn unig i’r gwirfoddolwyr hynny oedd yn barod i roi o’u hamser er mwyn gwireddu’r freuddwyd ond hefyd i bobol yr ardal hon oedd mor gefnogol i’r fenter o gael papur yn ein hiaith ein hunain. 

Edrych ymlaen
Mae’r her, erbyn heddiw, yn bur wahanol. Lle bu’r gwerthiant dros y blynyddoedd yn 1,500 o leiaf bob mis, mae’r nifer hwnnw bellach wedi syrthio’n is na 1,000. Mae’r ffaith honno ynddi ei hun yn destun pryder i ni a rhaid gofyn pam, mewn ardal mor Gymreig â hon, bod peth felly’n digwydd, yn enwedig o gofio bod poblogaeth cylch Llafar Bro yn 7,000 a mwy.

Dros y blynyddoedd, bu’r pwyllgor yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i gadw pris y papur mor rhesymol â phosib ond fe gawn ein gorfodi rŵan i fod yn fwy ymarferol er mwyn gallu cyfarfod y gost ychwanegol. O reidrwydd, felly, bydd raid codi pris y papur i 70c. Naill ai hynny neu, yn fuan iawn, orfod dod â’r papur i ben, a does neb am weld peth felly’n digwydd.

Mae rhai o bapurau bro eraill yr ardal yn codi hyd at £1.25 y rhifyn. Gobeithio y cytunwch fod 70 ceiniog yn dal yn fargen am newyddion, erthyglau, cyfarchion, lluniau, hanesion, a llawer mwy, ac y gallwn ni ddibynnu nid yn unig ar eich cefnogaeth chi, y ffyddloniaid, ond y cawn hefyd weld Llafar Bro, ar ei newydd wedd, yn ennill darllenwyr newydd, yn ogystal â denu’r hen rai yn ôl.

Felly, ewch ati i fynegi eich barn ac i awgrymu hefyd sut y gellid gwella ar y cynnwys bob mis, naill ai trwy e-bost, trwy Facebook, neu trwy adael llythyr neu nodyn yn Siop yr Hen Bost. Fe gaiff pob awgrym ei ystyried gan y Pwyllgor. 
-------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Mai 2019
Diolch yn fawr i Alwyn Jones am y lluniau

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon