17.9.26

Teithio'n Ddiogel i'r Ysgol

Mae'r Cynghorydd Glyn Daniels wedi ymuno â rhieni a llywodraethwyr Ysgol Maenofferen i alw am ddatrysiad hirdymor i wella diogelwch o amgylch yr ysgol wrth i gynllun gwerth £240,000 drwy'r Gronfa Teithio Llesol symud ymlaen.

Dyfarnwyd y cyllid i fynd i'r afael â phryderon iechyd a diogelwch parhaus sy'n ymwneud â mynediad i'r ysgol, gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd YGC wedi datblygu pedwar cynnig gwahanol. Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud eto ynghylch pa opsiwn fydd yn cael ei weithredu.

Yn dilyn cyfarfod diweddar gyda Network Rail, nodwyd ei bod yn annhebygol y bydd yr hen reilffordd o’r Blaenau i’r Traws yn ailagor yn y dyfodol*. O ganlyniad, mae rhieni, llywodraethwyr a Glyn -sydd hefyd yn swyddog hysbysebion Llafar Bro- yn annog y rhai sy'n ymwneud â'r prosiect Teithio Llesol i archwilio'r posibilrwydd o greu croesfan i gerddwyr dros yr hen reilffordd yn uniongyrchol i dir yr ysgol. 

Mae'r cynnig i greu croesfan i gerddwyr dros yr hen reilffordd yn uniongyrchol i dir Ysgol Maenofferen wedi cael ei godi dro ar ôl tro dros nifer o flynyddoedd, ond nid yw wedi dwyn ffrwyth hyd yma. Mae cefnogwyr y cynllun yn credu y byddai'r groesfan yn gwella diogelwch yn sylweddol drwy leihau tagfeydd traffig o amgylch yr ysgol a darparu llwybr mwy uniongyrchol a diogel i ddisgyblion a'u teuluoedd. 


[Mi welwch yn y llun yma gan Gwyn J Roberts, o Westy’r Queens pa mor agos ydi tir yr ysgol o’r maes parcio/safle bws- gol].

Dywedodd Glyn fod y cyllid Teithio Llesol yn gyfle unigryw i fynd i'r afael â phryderon hirsefydlog a sicrhau gwelliant parhaol i'r gymuned.

"Mae hwn yn gyfle na ddylid ei golli. Os yw'n annhebygol y bydd yr hen reilffordd yn ailagor, dylem ystyried o ddifrif sut y gellir defnyddio'r tir hwn er budd plant lleol, teuluoedd a'r gymuned ehangach. Gallai llwybr diogel ac uniongyrchol i mewn i'r ysgol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd, diogelwch a lles pawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol."

Mae rhieni a llywodraethwyr yr ysgol yn dweud y byddai'r cynllun yn annog mwy o deithio cynaliadwy tra'n gwella diogelwch disgyblion, rhieni, staff a thrigolion lleol. Wrth i'r trafodaethau barhau ynghylch dyluniad terfynol y prosiect, mae'r cefnogwyr yn gobeithio y bydd y cynnig synhwyrol hwn yn cael ystyriaeth ddifrifol o'r diwedd fel ateb ymarferol a chyraeddadwy i Ysgol Maenofferen a chymuned ehangach Blaenau Ffestiniog.
Cysylltwch â Glyn ar cynghorydd.glyndaniels@gwynedd.llyw.cymru

- - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2026 

*Roedd y Cyng Elfed Wyn ap Elwyn wedi cyfeirio yn yr un rhifyn at hen lein Blaenau-Traws hefyd:

Rydw i wedi bod yn ceisio cael eglurder ynghylch dyfodol y lein dren rhwng Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd. Mae nifer o gyfarfodydd wedi'u trefnu dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn ymchwilio i'w dyfodol a'r potensial sydd yno i'r gymuned ei defnyddio. Edrychaf ymlaen at gydweithio gydag aelodau eraill o'r gymuned i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn fuan er mwyn gweld beth hoffai pobl ei weld yn digwydd. 

Mae Llafar Bro wedi dilyn hynt yr ymgyrch i greu llwybr cerdded a beicio ar yr hen reilffordd ers blynyddoedd, ac yn rhannu rhwystredigaeth y gymuned efo diffyg cydweithrediad yr awdurdodau...

Rhywfaint o'r hanesion trwy'r DDOLEN YMA.

  

Hanes a Threftadaeth Bro Ffestiniog

Melin Maenofferen
Mae ein treftadaeth bensaernïol i’w weld yn glir o’n cwmpas – o gapeli i dai cynharaf y fro i olion diwydiannol. Un o’r enghreifftiau amlycaf yw melin lechi Maenofferen, adeilad pedwar rhan gafodd ei adeiladu rhwng 1870 a 1897 yn Chwarel Maenofferen. Mae’r adeilad yn un rhestredig gradd II*, ac yn un o’r melinau llechi mwyaf cyflawn ar ôl yn y gogledd. 

Elusen Slate Heritage International sydd yn gyfrifol am y felin, ac mae gwaith wedi cael ei wneud yn ddiweddar i sefydlogi’r adeilad, gan gynnwys y distiau anferth ddaeth yno o Ganada. Ddechrau Mehefin cafwyd noson agored yn yr Aelwyd er mwyn i’r gymuned gael gwybod am y gwaith sydd wedi digwydd yno, a dechrau rhannu eu syniadau am ei dyfodol. Daeth dros 30 o bobol i’r digwyddiad, a diolch iddyn nhw am rannu eu barn a’u brwdfrydedd.

Bythefnos wedyn, yn ystod yr haul poeth, daeth tua 35 o bobol ar ymweliad i’r felin er mwyn gweld y datblygiadau yno eu hunain. Cafwyd cyflwyniadau yn y felin gan Michael Bewick o elusen Slate Heritage International, y pensaer Rob Chambers, a Dan Amor o gynllun Llewyrch o’r Llechi Cyngor Gwynedd. Roedd yn gyfle i bawb ddechrau dychmygu sut allai dyfodol y felin edrych, a holi cwestiynau am y gwaith gwerth tua £600,000 sydd wedi ei wneud yno i sicrhau nad yw cyflwr yr adeilad yn gwaethygu. Mae croeso i chi gysylltu â fi ar cadi@cwmnibro.cymru i rannu syniadau neu gydag unrhyw gwestiynau.

Gwefan hanes lleol
Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes lleol a diogelu straeon ein bro? Cynhaliwyd sgyrsiau cychwynnol er mwyn trafod sefydlu gwefan hanes lleol ar gyfer Bro Ffestiniog. Byddai’r wefan yn byw dan rwydwaith bro360, prosiect gan Gwmni Golwg i sefydlu gwefannau bro ledled Cymru. Gallai unrhyw un o’r fro greu proffil a chyfrannu pwt o hanes, hen luniau o’r ardal, erthygl hanesyddol, clip sain neu fideo, cyn iddyn nhw gael eu golygu a’u cyhoeddi gan olygydd lleol, y cwbl yn Gymraeg. Hyd yma, mae’r gwefannau eraill yn rhai newyddion lleol a hon fyddai’r gyntaf i gael ei defnyddio yn benodol ar gyfer hanes. Cysylltwch i glywed mwy a mynegi eich diddordeb. Pobol y fro fydd yn siapio’r wefan.

Taith hanes Tanygrisiau
Fore Sadwrn, Gorffennaf 25 bu taith gerdded hanes o amgylch Tanygrisiau yng nghwmni haneswyr lleol. Cyfle i glywed ychydig o hanesion a straeon am y pentref, a dysgu mwy am gefndir y gymuned sydd yn ceisio prynu eu post. 

Cadi Dafydd, Swyddog Datblygu Hanes a Threftadaeth, Cwmni Bro Ffestiniog
- - - - - - - 

Addasiad o erthygl yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2026

 

1.9.26

Cynefin -blodau prin a dyfodol Cwm Cynfal

Yr Amgylchedd ym Mro Stiniog.

Pytiau o'r golofn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2026 

Planhigion prin

Er mod i wedi cerdded o gwmpas Llyn Tanygrisiau ers blynyddoedd, mae natur wastad yn llwyddo i fy synnu. 

Roeddwn i’n meddwl bod gen i dipyn o ‘lygad barcud’, ond y mis hwn daeth dau ddarganfyddiad arbennig i’r amlwg ar hyd y llwybr.

Y cyntaf oedd tegeirian llydanwyrdd (greater butterfly orchid, Platanthera chlorantha). 

Nid fi oedd wedi’i weld chwaith, ond fy mhartner wrth fynd â’r ci am dro. Fo hefyd oedd yn ddigon craff i’w adnabod! Er bod y rhywogaeth yn gallu tyfu mewn dolydd gwair niwtral, mae’r planhigyn hwn yn fwy cyffredin yn ne Lloegr, gan ffafrio priddoedd calchog. Felly roedd ei gweld ar lan gwlyb Llyn Tanygrisiau yn dipyn o syndod.

 

Yr ail ddarganfyddiad oedd tri phoplysen ddu (black poplar, Populus nigra), a’r rheiny yn ddarganfyddiad i mi. Mae’r goeden hon yn brin iawn ym Mhrydain heddiw, yn enwedig os ydynt yn goed benywaidd. Mae hen gewyll a gwarchodwyr rhydlyd o’u cwmpas yn awgrymu iddynt gael eu plannu sawl degawd yn ôl.
Fy ngobaith yw edrych ymhellach i’w tarddiad, ac efallai trefnu profion DNA. Os byddant yn goed benywaidd, gallent gyfrannu at gynhyrchu hadau a helpu ymdrechion i gynyddu nifer y goeden brin hon yng Nghymru. Mae’n braf cofio nad oes ots faint o weithiau rydych chi’n cerdded yr un llwybr – mae natur wastad yn cadw ambell syrpreis.  MT
 

Rhaeadr y Cwm

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi rhoi caniatâd i’r cynllun trydan dŵr gael ei ddatblygu yn lleoliad nodedig yma, ar ôl ymgyrch hir o wrthwynebu. 

Bydd yn tynnu hyd at 70% o’r dŵr o’r afon gan newid y rhaeadr odidog yma am byth. Mae Cymdeithas Eryri wedi gaddo parhau i ymgyrchu yn erbyn y datblygiad, ac efallai bydd mwy ar hynny yn y rhifyn nesa.  PW

 

25.7.26

Stolpia- Ychydig o Ddaeareg Lleol

Y mae ein bro yn llawn rhyfeddodau daearegol, o’r Migneint, y Manod Mawr a’r Bach draw i’r Moelwynion. Yn y dyddiau a fu byddai amryw o’r hen chwarelwyr â chryn wybodaeth am y gwahanol fathau o Lygadau a Gwythiennau a geid yn haenau’r llechgreigiau. 

Tybed faint o’r to presennol sydd wedi clywed am y termau chwarelyddol canlynol- 

Llygad Newydd, Llygad Coch, Llygad Cefn, Llygad Thomas Edwards, Hen Lygad. 

Enwau ar haenau o lechfaen yw ‘Llygad’ yn y cyswllt hwn. Dyma rai o’r  gwythiennau yn yr Hen Lygad-

Ithfaen Glas, Y Wythïen Wen a’r Teulu, Gwythïen y Crych Du, y Wythïen Gam, Y Wythïen Fawr.

A cheir y canlynol yn y Llygad Coch- 

Ithfaen Uchaf, Tew y Tair Wythïen, Wythïen Derfyn, Y Ddifyr, Y Tolc Dwbl, Y Las Isaf, ayyb. 

Eto yn y Llygad Cefn-

Y Wythïen Fflat, Hollt Goeden, Wythïen Llyffant, Wythïen Asgwrn, Wythïen Glapiog, ayyb.

Bu amryw o ddaearegwyr amatur yn ein hardal pan oedd y chwareli yn eu hanterth, ond magwyd tri ohonynt a ddaeth yn bur amlwg yn eu dydd, sef Griffith John Williams, awdur Hanes Plwyf Ffestiniog (1882), William Vaughan, ac Owen Rowland Jones. 

Penodwyd y tri ohonynt yn Arolygwyr y Mwynfeydd. Yn ddiau, G.J Williams oedd yr enwocaf ohonynt. Bu’n gweithio yn chwarel Holland ac Oakeley am ysbaid, ond gwelodd rhai ei allu a chafodd gyfle i astudio yn y Coleg Normal. Yn dilyn ei gyfnod yno cafodd swydd athro yn Ysgol Glanypwll a thrachefn fel Prifathro yr Ysgol Uwchraddol. Aeth i astudio daeareg yn Llundain wedyn a derbyniwyd ef fel Fellow of the Geological Society yn 1884, ac yna yn 1895 penodwyd i swydd fel Arolygydd y Mwynfeydd gyda Dr Le Neve Foster.  Cyhoeddodd bapur ar ddaeareg yr ardal, sef Manod and the Moelwyns yn 1891.

GJ Williams a graptolit Dubach y Bont

Rhai blynyddoedd  yn ôl bellach, bum ar amryw o deithiau daearegol efo’r diweddar gyfaill Merfyn Williams, Croesor (cyn bennaeth Plas Tan-y-bwlch) a dysgais gryn dipyn am ddaeareg yr ardal yn ei gwmni ef gan ei fod yn gallu gwneud y pwnc yn ddiddorol. Mae gennyf gof ohono yn dangos y creigiau pyroclastig ger Llyn Bywydd a’r bomiau folcanig ger Llynnoedd Cerrig y Myllt yng nghesail y Cnicht i ni.  

Bum yn chwilio am ffosiliau  yn ein bro a thu hwnt ar ôl bod yn Bwlch y Batel, ger Croesor, a chanfod rhai tebyg i gregyn cocos. Cefais hyd i ambell graptolit ger Llyn Dubach y Bont ar y Migneint, hefyd. 

Llyn Conglog a'r 'bom folcanig'

Credaf bod yr enghreifftiau gorau o fomiau folcanig y wlad yn ein bro. Ceir un enfawr yn mesur tua 6 troedfedd o hyd,  ac yn pwyso rhyw 3 tunnell go dda ger Llyn Conglog. Tynnwyd fy sylw ati hi ar ôl i Gwilym Arthur Roberts, y naturiaethwr o Rydysarn ddod ar ei thraws beth amser yn ôl. Diolch Gwil am y lluniau.
- - - - - - - - 

Pennod o gyfres Steffan ab Owain. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2026

 

23.7.26

Cadeiriau'r Ysgwrn

Yr haf hwn, mae'r Ysgwrn wedi croesawu cadair genedlaethol arall a grëwyd gan y saer a’r ffoadur o Wlad Belg - Eugene Van Fleteren yno. Dyfarnwyd y gadair i’r bardd a’r gweinidog John Thomas Job yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1918, a chaiff ei harddangos ym mharlwr Yr Ysgwrn tan yr hydref. Am y tro cyntaf erioed, bydd hi’n eistedd ochr yn ochr â Chadair Ddu enwog Hedd Wyn.

‘Fleur-de-lis’ oedd bardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym 1917. ‘Yr Arwr’ oedd testun yr awdl a gwyddom mai’r llanc ifanc 30 oed o Drawsfynydd - Ellis Humphrey Evans [Hedd Wyn] oedd hwnnw. Fe’i lladdwyd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917 - rai wythnosau cyn cyhoeddi ar lwyfan y Brifwyl mai fo oedd y Prifardd. Mae’r hanes yn gyfarwydd iawn i ni.

Awdl yn y mowld rhamantaidd oedd un Hedd Wyn. Nododd beirniaid y gystadleuaeth ei bod ‘o ran iaith a mydr a chynghanedd, yr orau’n y gystadleuaeth’ a’n bod ‘yng nghwmni gŵr o ddychymyg a menter’. Cyflawnwyd cryn gamp gan y bardd di-goleg o’r Traws. Pery hyn i ni ddychmygu beth fyddai ei hanes petai wedi cael byw.

Eu Nêr a Folant’ osodwyd yn destun yr awdl ym 1918 - blwyddyn ola’r Rhyfel Mawr. Dyma destun ‘a lithrodd yn ôl i’r hen, hen rigolau’ yn ôl yr Prifardd a’r ysgolhaig, Alan Llwyd. Awdl ddiwinyddol a thraethodol a ddisgwyliwyd felly. ‘Enaf’ oedd ffug-enw’r bardd a gadeiriwyd - sef, John Thomas Job – a anwyd yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Roedd eisoes wedi ennill y gadair genedlaethol ddwywaith - yng Nghasnewydd (1897) a Llanelli (1903) a’r goron yn Lerpwl (1900). Cafwyd ynddi ‘ddisgrifiadau o Gymru’r Emynau: yr addoliad, yr Ysgol Sul a’r gymanfa ganu’.

Mae un llinell o awdl J.T Job yn un a ddefnyddiwyd laweroedd o weithiau i ddisgrifio’r emynyddes o Ddolwar Fach ym Mwynder Maldwyn - Ann Thomas (Griffiths). Hyd nes i mi fwrw golwg ar yr awdl yn ddiweddar, wyddwn i ddim mai yno yr ymddangosodd y llinell fawr honno – un a ddefnyddiais sawl tro fy hun wrth gyfeirio at Ann:

‘Hithau a enwaf weithian:
Y danbaid, fendigaid Ann ...’

[Gyda llaw, ‘Enaf’ oedd enw cyntaf mab J.T Job – Enaf Morrice Job 1918-94 a briododd Gwenhwyfar Ellis Wiliams 1923-2018 oedd yn gyfyrdres i fy nhad. Dyma rieni’r Parchedig Dafydd M. Job fu’n weinidog Eglwys Efengylaidd Bangor - Capel y Ffynnon - am dros 40 mlynedd]                                        IM
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2026