Showing posts with label Wynnes. Show all posts
Showing posts with label Wynnes. Show all posts

12.7.25

Stolpia -Tafarn y Wynnes Arms

Pennod arall o golofn reolaidd Steffan ab Owain

Sylwi yn Llafar Bro mis Ebrill bod menter cymunedol yn anelu i brynu ac adfer yr hen dafarn. Efallai y byddai un ddau o eiriau am ei hanes o ddiddordeb i rai ohonoch. 

Credaf mai yn y flwyddyn 1867 yr agorwyd y dafarn gan David Williams, Tyddyn Gwyn; cyn-chwarelwr a ffermwr. Bu ef a’r teulu yn ei chadw am flynyddoedd a dilynwyd hwy gan deulu Hughes. Daeth yr enw Wynne/Wynnes ar y dafarn ar ôl perchennog stâd Pengwern, sef Fletcher Wynn/Wynne. 

Gyda llaw,  cyfeirid ati fel ‘Y Ring’ gan yr hen bobol, fel y byddid yn galw North Western Hotel yn ‘Ring Newydd’. Tarddiad y gair Ring yw ‘Yr Inn’. Enghraifft arall yw’r gair bin a drodd yn ‘bing’ ar lafar gan y ffermwyr am alai, neu rodfa mewn beudy.

Tybed ai David Williams yw’r gŵr yn nrws y gwesty?


Bu amryw o dafarnwyr yn cadw’r Wynnes tros y blynyddoedd ac erbyn yr 1940au, neu ychydig yn  ddiweddarach, cedwid hi gan Mr a Mrs Bryan Bell fel y gwelir ar yr hysbyseb canlynol. Tybed a oes rhywun yn eu cofio yno?

Nid ymhell oddi wrth y gwesty yn y 19 ganrif ac ar y gongl lle byddai siop Dei Gruff, ceid tollborth bach a chlwyd (giât) ar draws y briffordd lle byddid yn gorfod talu i fynd drwyddi. Diddymwyd y tollbyrth yn lleol yn yr 1880au ac aed â’r giat oddi yno. Sylwodd rhywun ymhen blynyddoedd wedyn, sef rhyw dro yn y 1970au, os cofiaf yn iawn, bod y giât ar dir y Wynnes Arms a hysbyswyd y tafarnwyr a oedd yno y pryd hwnnw ei bod o werth hanesyddol. 

Gwerthwyd y giat i rywun o gyffiniau Ironbridge, ac ar ôl gwneud ychydig o waith ymchwil, deuthum i wybod ei bod yn Amgueddfa Blists Hill. Bum yno yn y 1990au a holais amdani hi,  a thynnais ei llun gan ei bod wedi ei gosod ger hen dollborth a  ddaeth o ran arall y wlad. Os cofiaf yn iawn, dyma lun ohoni yn ôl y swyddogion yno.

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2025



27.5.25

Y Wynnes Cymunedol

Mae'n debyg bod 17 menter gymunedol yn nalgylch Llafar Bro, gyda 77 o bobl ar eu byrddau ac mae'r Pengwern yn Llan Ffestiniog yn esiampl adnabyddus o sut mae mentrau cymunedol yn gallu bod yn destun llwyddiant.

Pan gaewyd y drysau yn Chwefror 2009, roedd sawl un yn ofni mai dyma'r tro olaf y gwelir tafarn yn Llan Ffestiniog. Ond, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn fuan wedyn, fe benderfynwyd datblygu menter gymunedol i'w hailagor ac yma fe anwyd Pengwern Cymunedol Cyf.

Yn dilyn ymdrechion arwrol i godi arian a gyda chymorth Llywodraeth Cymru, fe brynwyd yr adeilad yn Mawrth 2011, a dros y misoedd wedyn, fe adnewyddwyd yr adeilad gan dîm ymroddgar o wirfoddolwyr. Fe agorwyd y bar a'r ystafell weithgaredd erbyn diwedd Mai 2011 ac ymhen blwyddyn wedyn, roedd y gegin a'r bwyty wedi ei hailagor. Roedd tair ystafell wely ar gael erbyn Tachwedd 2013, ble mae bellach naw ar gael. 

Mae’r weledigaeth tu ôl i'r Pengwern ar ei newydd wedd, wastad wedi bod er budd cymuned Llan Ffestiniog, ond drwy ddefnyddio adnoddau o fewn y gymuned ehangach i wella ymhellach ar y gwaith da y maent wedi ei gyflawni dros y ddegawd a mwy ddiwethaf.

Tra bod y Pengwern yn hen law bellach o fewn byd y mentrau cymunedol, mae yna adeilad hanesyddol lleol arall sydd dim ond yn cychwyn ar y daith o ailagor y drysau.

Wedi ei gofrestru fel gwesty'n wreiddiol, gwelwyd enw Y Wynnes ar Gyfrifiad 1871 (ond mae'n bosib y gall fod ychydig yn hŷn), cafodd ei gofrestru rhyw ddegawd yn ddiweddarach fel tŷ tafarn. Yn ôl yn sôn, roedd yna barchedig lleol gyda'r enw Wynne (does neb yn siŵr os mai enw cyntaf neu cyfenw ydoedd hwn) a oedd yn berchen ar nifer helaeth o lefydd yn y Manod ac felly credir mai dyma tarddiad yr enw Y Wynnes ar y dafarn hynafol hon.

Fe gaewyd drysau'r Wynnes yn 2017, ac yn ôl Nia Parri-Roberts, sydd wedi byw yn Manod ers dros dri degawd, er ei bod hi'n adeg trist iawn, roedd y trigolion "wedi meddwl y byddai rhywun arall yn ei gymryd drosodd" ac nad oeddynt byth wedi meddwl na fyddai'n agor eto. Ymhen hir a hwyr, dywedodd Nia fod y gymuned wedi "dechrau sylweddoli mai adfail oedd gena ni, a doedd o ddim yn mynd i ailagor heb i ni wneud rhywbeth am y peth."

Bellach, yn dilyn cyfarfod cychwynnol, ble fynychodd 60 o bobl a mwy a sawl un arall yn ymddiheuro na fedrant fynychu ar y noson, mae'r gefnogaeth tuag at y syniad o brynu ac ailagor adeilad oedd yn arfer bod yn nghalon cymuned Manod, rhywle oedd wastad yn brysur ofnadwy, wedi bod yn hynod galonogol ac mae trafodaethau ar y gweill i weld be ellir ei wneud i adfer yr adeilad hanesyddol yma. Pan blannwyd y syniad yma, roedd y trigolion yn ei gweld hi fel 'breuddwyd fawr', a'r frawddeg "fysa ni'n cicio'n hun os nawn ni ddim trio" i'w glywed yn aml – ond bellach, gyda chefnogaeth gref ymysg y gymuned leol, mae'n teimlo fod posib gweld dyfodol llewyrchus i'r Wynnes, fel tŷ tafarn, ond sydd a gweithredoedd eraill o fewn ei waliau yn ystod y dydd, megis siop, caffi, rhywle i bobl ifanc, hŷn, dysgwyr, crefftwyr...mae'r posibiliadau yn niferus! 

Rhoddir y gair olaf i Gwenlli Evans, un o'r bobl sy'n gweithio yn ddiflino i sicrhau dyfodol i'r adeilad - "Cadw’r hen Wynnes, a dod â lot o bethau eraill mewn iddo fo". 

Cadwch lygad dros y misoedd nesaf am unrhyw ddiweddariadau gyda'r fenter gyffrous hon ac fe ddymunwn bob lwc iddynt.
- - - - - - -

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025

Ôl-nodyn.

Cafwyd diweddariadau gan wirfoddolwyr y cynllun yn rhifyn Medi a chefnogaeth gan Liz Saville Roberts yn rhifyn Hydref.

Lansiwyd y cynllun cyfranddaliadau ym mis Medi, ond er yr ymdrech arbennig, cafwyd y neges yma ar y 14eg o Hydref:

"Mae'n siom fawr i ni fel pwyllgor gyhoeddi bod rhaid i ni roi'r gorau i'r ymgyrch ar gyfer y Wynnes dros dro, oherwydd mae'r dyddiad ar gyfer y cyllid oedd gennym ni mewn egwyddor yn dod i ben a chryn dipyn i fynd i gyrraedd y targed.
Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn obeithiol ac yn benderfynol i wneud y freuddwyd yn wir!
Mae ein hymrwymiad i droi'r Wynnes yn dafarn gymunedol yn parhau'n gadarn!
Gyda'ch cefnogaeth barhaus, credwn yn gryf y gallwn ddod o hyd i ffyrdd newydd o wireddu'r freuddwyd. Diolch o galon am eich amynedd a'ch dealltwriaeth wrth i ni weithio tuag at ddyfodol llwyddiannus i'n cymuned.
Hoffwn ddiolch yn ddi-ffuant i Gyngor Gwynedd am roi y cyfle am gyllideb Cronfa Ffyniant i ni fel cymuned."

Gallwch fod yn siwr y bydd Llafar Bro yn dod ag unrhyw newyddion pellach i'ch sylw. 



28.3.25

Cyfnod cyffrous i’r Wynnes

Os wnaethoch chi ddigwydd gyrru ar hyd Heol Manod ar fore Sadwrn yn ddiweddar, efallai eich bod wedi gweld rhai o drigolion y pentref yn gwisgo festiau hi-vis, bagiau coch a ffyn codi sbwriel yn bob llaw.
Ar Chwefror 1af, unodd cymuned y Manod ar gyfer digwyddiad codi sbwriel a chodi calon, ond beth ysbrydolodd y bore?

Fel yr ydym eisoes wedi rhannu gyda chi ddarllenwyr Llafar Bro, ein nod yw prynu y Wynnes Arms, a’i hagor fel tafarn gymunedol, gan ddilyn arloesedd mentrau fel y Pengwern, Y Plu a’r Heliwr, a llawer mwy sy’n cymunedoli eu tafarndai i fod yn hybiau cymdeithasol a diwylliannol i’n pentrefi yng Nghymru.


Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i ennill grant Grymuso Gwynedd! Mi fydd hyn yn ein galluogi i gymryd y camau cyntaf tuag at ffurfio Cymdeithas Budd Cymunedol (CBS), hynny yw, menter wedi’i hariannu gyda siârs cymunedol, er budd, ac wedi ei harwain, gan y gymuned. Bydd y grant yn ein helpu i baratoi cynllun busnes a siârs, dyluniadau pensaernïol cychwynnol a strategaethau marchnata. Hefyd, rydym yn trefnu cyfarfod cyhoeddus arall i rannu'r holl fanylion, camau ac, yn bwysicaf oll, i chi cael rhannu barn! 

Cofiwch gadw llygad barcud am bosteri gyda rhagor o wybodaeth am y dyddiad, a’n dilyn ni ar grŵp Wynnes Cymunedol ar FaceBook – mae cyfnod cyffrous o'n blaenau!

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025

 


12.1.25

Ymgyrch Tafarn y Wynnes

Cynhaliwyd cyfarfod yng Nghapel Hyfrydfa ym mis Hydref i drafod prynu ac adfywio Tafarn y Wynnes. Roedd yr ymateb yn werth chweil, bu i oddeutu 60 o bobl droi fyny, yn ogystal â hyn roedd llawer wedi ymddiheuro gan ei bod methu mynychu ond yn awyddus i helpu hefo’r fenter.  

Yn cyfarfod roedd pawb yn cytuno bod eisiau ail agor Y Wynnes yn ôl fel tŷ tafarn yn ogystal â defnyddio’r adeilad fel canolfan i’r gymuned. Trafodwyd gweithgareddau oedd yn addas i bob oed, roedd y rhain yn cynnwys, caffi, siop, paratoi prydau parod, hybu’r iaith drwy gynnal gwersi Cymraeg, dyddiau a nosweithiau cymdeithasol. Peth braf oedd gweld bod llawer o bobl yn teimlo’n angerddol am ail agor yr adeilad a hefyd yn fodlon helpu yn yr ymgyrch.

Mae’r Wynnes bellach wedi cau ei ddrysau ers wyth mlynedd; er hyn mae llawer o bobl yn cofio’r Wynnes fel calon i’r gymuned, ac yn hel atgofion am yr adeilad. Mae gweld yr adeilad wedi dirywio yn dorcalonnus. Mae’r ffaith ei fod ar werth yn y cyflwr yma wedi cael pobl i siarad a thrafod sut mae llawer o bentrefi wedi gallu ail agor adeiladau er budd y gymuned. Barn pawb sy’n rhan o’r ymgyrch ydy mai'n bosib dilyn sawl tafarn cymunedol arall sydd wedi sefydlu yn llwyddiannus. 


Mae’r ymgyrch yn ei ddyddiau cynnar. Hyd yn hyn rydym wedi llwyddo codi ymwybyddiaeth am dafarn cymunedol ym Manod. Mae cais am grant wedi mynd mewn, yn ogystal ag eraill ar y ffordd. Bu i ni gael trafodaeth gyda Radio Cymru ac erthygl yng nghylchgrawn Golwg er mwyn rhannu’r gair. Y diweddaraf ydy ein bod wedi sefydlu pwyllgor sydd yn barod i weithio yn galed ar yr ymgyrch. 

Fel dechrau pob ymgyrch, rydym yn wynebu heriau, yr un mwyaf ydy bod yr adeilad ar werth am bris uchel, er fod y pris wedi dod lawr yn ddiweddar. Y camau cyntaf fydd cael prisiwr annibynnol ac asesu’r adeilad yn iawn. Siarad hefo’r perchennog a gofyn oes posib ei dynnu oddi ar y farchnad am ychydig amser, er mwyn cael trefn ar y sefydlu. Y peth pwysig sydd rhaid gwneud ydy symud yn gyflym. 

Y ffordd ymlaen fel sydd wedi cael ei drafod yn y pwyllgor diweddara: trafodaethau a chael cyngor gan dafarndai sydd wedi sefydlu. Mwy o geisiadau grantiau, a chyfranddaliadau cymunedol . Bydd mwy o wybodaeth am hyn i ddilyn yn fuan. I’r fenter yma lwyddo rydym yn awyddus i gael cefnogaeth mwy o bobl a busnesau o’r gymuned i ymuno yn y project yma.

Peth braf fysa gallu cyflawni'r uchelgais yma. Dychmygwch mor fendigedig fysa gweld Tafarn y Wynnes yn ôl yn ei ogoniant ac yn cynnig croeso cynnes i bawb. Edrychaf ymlaen at rannu mwy o wybodaeth a diweddariadau.

I unrhyw un sydd eisiau bod yn rhan o’r project cyffrous yma, (mi fydda ni wir yn gwerthfawrogi). Plîs cysylltwch hefo Nia neu Gwenlli. Hefyd cofiwch ddilyn ein tudalen facebook Wynnes Cymunedol er mwyn cael y newyddion diweddaraf.
Gwenlli@cwmnibro.cymru  

niapar71@gmail.com

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2024


25.4.14

Cwis y Cymdeithasau

Diolch i griw Pengwern Cymunedol am atgyfodi Cwis y Cymdeithasau eleni.

Cynhaliwyd y noson yn Y Pengwern ar nos Iau, 24ain Ebrill 2014, ar ol bwlch o bedair neu bum mlynedd. Clwb Gwawr y Blaenau fu'n gyfrifol yn y gorffennol ac roedd chwith garw ar ol y nosweithiau hynny lle'r oedd y cymdeithau lleol i gyd yn dod ynghyd i dynnu coes a mwynhau noson gymdeithasol.

Cafwyd noson ddifyr iawn yn y Pengwern o gwestiynau Cymreig a'r 'stafell yn llawn o dimau brwdfrydig.


Mae Llafar Bro yn bencampwyr Cwis y Cymdeithasau yn y gorffennol, a does dim sail o gwbl i'r honiadau ein bod yn llyncu mul ar ol dod yn drydydd eleni!


 Llongyfarchiadau i griw Y Wynnes, Rich O, Adrian, Val, a Dewi, ar eu buddugoliaeth eleni.










Merched y Wawr Blaenau yn mwynhau'r noson