29.12.20

Edrych ‘nôl ac edrych ‘mlaen

Be’ yda’ chi’n gofio am 1975? Os dwi’n onest, tydw i’n cofio fawr ddim! Saith oed oeddwn i, ond mae albym gadwodd fy rhieni yn nodi fy mod yn nosbarth 2 (‘standard tŵ’) Ysgol y Bechgyn, Maenofferen, ac wedi cyrraedd union 4 troedfedd o daldra! Mae’n debyg fod gen’ i ddannedd sâl ar y naw, ac mi ges i gyfres o 6 pigiad at asthma... Mae’n amlwg mae ddim isio cofio ydw i!

Yng Nghymru, roedd Gerallt Lloyd Owen wedi ennill cadair Steddfod Cricieth, T.Llew Jones wedi cyhoeddi ‘Tân ar y Comin’ ac Edward H. Dafis wedi rhyddhau eu hail albym ‘Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw’. Y flwyddyn honno hefyd, pleidleisiodd pobl Prydain mewn reffarendwm yn llethol o blaid aros yn y Farchnad Gyffredin Ewropeaidd; daeth Pol Pot a’r gyfundrefn greulon Khmer Rouge i rym yng Nghambodia; a bu farw’r unben Franco yn Sbaen.
 

Roedd yna fwrlwm yng Nghymru ganol y saithdegau hefyd, gyda  sefydlu nifer o bapurau bro, ac ar frig y don honno, cyhoeddwyd Llafar Bro am y tro cyntaf erioed ym mis Hydref 1975. Efo rhifyn Rhagfyr 2020, mae papur misol Bro Ffestiniog wedi cyrraedd carreg filltir nodedig iawn.
 

Roedden ni’n benderfynol o nodi’r llwyddiant yma mewn ffordd uchelgeisiol, a dyna pam ein bod wedi dosbarthu copi am ddim i bob cartref yn y fro. Gwnaed hyn yn bosib gan gyfraniadau hael gan Gwmni Bro Ffestiniog a’r Dref Werdd, a grant Hwb Cymunedol  ar gyfer ymateb i effeithiau Covid. Mi fyddai wedi bod yn amhosib dosbarthu’r papurau i dair mil a hanner o dai, heb ymdrech anghygoel staff y Dref Werdd fu’n cydlynnu criw brwd o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi eu hamser i’r cynllun.
 

Mae llawer o bethau’r saithdegau wedi diflannu (mae gen’ i ddannedd go lew rwan, diolch am holi) neu wedi mynd yn angof, ond mae Llafar Bro yma o hyd. Gobeithio y cytunwch fod ein papur cymunedol  yn edrych yn well wrth fynd yn hŷn, a’i fod yn parhau i ddarparu erthyglau diddorol a newyddion o bwys i bobol wych Bro Ffestiniog!
 

Diolch enfawr i’r gwirfoddolwyr sydd wedi dod a Llafar Bro i’r byd 500 o weithiau ers 1975, a diolch hefyd –ymlaen llaw- i’r gwirfoddolwyr ddaw a’r 500 nesa’ atom. Pwy a ŵyr nad oes yn eich tŷ chi, blentyn neu berson ifanc, sydd a’i fryd ar ddim byd ond y ffôn symudol a ffilmiau TicToc heddiw, ond a fydd efallai, yn y dyfodol yn sgwennu darn fel hwn ar gyfer y milfed rhifyn!  

 

Mwynhewch Llafar Bro am ddim y mis yma, ond cofiwch os medrwch, gyfeillion, brynu rhifyn Ionawr a phob mis wedyn,  a gyrru newyddion a lluniau i mewn trwy’r flwyddyn hefyd, er mwyn cyfrannu at ddyfodol eich papur bro chi. 

Diolch bawb.
Paul, cadeirydd Cymdeithas Llafar Bro.
 

(Gyda llaw, mi fydd ychydig gopïau ar gael yn y siopau os hoffech brynu ail gopi, ac os gwyddoch am dyddyn diarffordd neu rywun sydd heb dderbyn eu copi nhw, cynghorwch nhw i gysylltu â ni cyn gynted â phosib.)
----------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020



24.12.20

Cysur cymdogaeth

Cerdd gan Vivian Parry Williams, ar gais BroCast Ffestiniog, yn ystod gofid covid. 

 

Ffordd o fyw a newidiodd yn sydyn,
mae’r effaith i’w weld ar bob stryd,
y gelyn a ddaeth yn ddi-rybudd,
i’n dychryn, ac i newid ein byd.


R’wyn colli cyfarfod ’rhen gwmni,
a ffrindiau dros sgwrs yn y dre’,
gan obeithio ’daw’r haul unwaith eto
i godi’r hen hwyliau ynte.


Mae’n chwith am yr hyn oedd yn arfer
mewn lle sydd mor annwyl â hwn,
’does unlle’n y byd fel ein hardal
am wir gyfeillgarwch, mi wn.


A diolchaf bob dydd am gymdogaeth
a chymdeithas arbennig ein bro;
mae hynny yn eli i’r galon,
i f’anwesu yn llon, fel bob tro.


A phan ddaw yr haul dros ein bryniau   
i adfer yr hyn oedd yn bod,
cawn ddiolch i Dduw am ein gwarchod,
a gweddïo am yr hyn sydd i ddod.



Yn y ffilm fer isod gan BroCast Ffestiniog, mae Ceri Cunnington yn adrodd y gerdd

22.12.20

Tanysgrifiad 2021

Gweler isod y prisiau perthnasol i dderbyn 11 rhifyn o Llafar Bro trwy’r post (bob mis heblaw Awst).  


Cymru a gwledydd Prydain:    £20*   (neu   £12.76*)
*£20 i danysgrifwyr newydd ond £12.76 i’r rhai hynny oeddynt wedi tanysgrifio eleni ond sydd wedi colli derbyn pedwar rhifyn (Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf) drwy’r post oherwydd yr argyfwng Covid. Cyhoeddwyd y pedwar rhifyn yn ddigidol ac roeddynt yn rhad ac am ddim ar lein.

Gweddill Ewrop:        £43*   (neu   £27.40*)

*£43 i danysgrifwyr newydd ond £27.40 i’r rhai hynny oedd wedi tanysgrifio eleni.

Gweddill y byd:            £50


Erbyn hyn, mae'n bosib tanysgrifio'n ddigidol hefyd:

Pris derbyn 11 rhifyn pdf trwy e-bost:    £20 -i bedwar ban y byd!

PWYSIG - Gofynnir i bawb sydd am dderbyn Llafar Bro bob mis i gysylltu â’r Trysorydd, Sandra Lewis, i drefnu’r tâl perthnasol, cyn gynted â phosib, os gwelwch yn dda. 

sandralewis62[AT]icloud.com    neu    01766 831 539


NEU beth am drefnu tanysgrifiad i Llafar Bro fel anrheg Nadolig!  

 

Gan ddymuno Nadolig dedwydd a diogel, a blwyddyn newydd well i bob un o'n cefnogwyr.

 

20.12.20

Galwad am Ysgrifennydd i GPD Amaturiaid y Blaenau

Fel y gwyddoch mae Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau wedi mynd o nerth i nerth dros y dair mlynedd ddwythaf. Ar y cae, mi gafwyd dyrchafiad i Adran 1 cynghrair Welsh Alliance, a bu’r timau ieuenctid yn hynod lwyddiannus hefyd. Gwelwyd adfywiad anhygoel oddi ar y cae hefyd, gyda ysbryd gymunedol braf yn lledu drwy’r clwb a’r gymuned. Cynyddodd y torfeydd o gefnogwyr, a’r niferoedd o unigolion sy’n ymuno i helpu a gwirfoddoli ymhob agwedd o’r Clwb, ac mae nifer y noddwyr ymysg busnesau lleol hefyd yn tyfu. Bellach mae Cae Clyd ar bnawn dydd Sadwrn yn ddigwyddiad cymdeithasol a theuluol, yn dod â’r gymuned at ei gilydd.


Hefyd, dros y flwyddyn a hanner ddwytha cafwyd ymdrech wirfoddol anferthol gan y chwaraewyr, y pwyllgor a’r cefnogwyr, gyda chefnogaeth caredig sawl cwmni lleol, i gwblhau datblygiadau angenrheidiol i Gae Clyd er mwyn cyflawni gofynion rhaglen ailstrwythuro pyramid cynghreiriau Cymdeithas Bêl-Droed Cymru. Cyflawnwyd y gwaith trwy ymdrech arwrol a llwyddodd yr Amaturiaid i gael eu derbyn fel clwb Tier 3, ac i chwarae yn y gynghrair newydd ‘Ardal Gogledd-Orllewinol’ – ar lefel tri ym mhyramid cenedlaethol Cymru. 



Erbyn hyn mae pwyllgor CPD Amaturiaid y Blaenau wedi tyfu a ffynnu. Mae criw da a bywiog yn rhannu pob math o ddyletswyddau (ac mae croeso i unrhyw un rhoi cais i ymuno). Fodd bynnag, mae’r Clwb yn chwilio am unigolyn i ymgymeryd â swydd yr Ysgrifennydd – rhywun fyddai’n hapus i ymuno efo’r criw a bod yn rhan o’r bwrlwm a’r cyfnod cyffrous sydd o’n blaenau fel clwb pêl-droed. Nid yw dyletswyddau’r swydd yn drwm, ond mae nhw’n rhai allweddol. Os oes ganddoch ei hawydd hi, cysylltwch â Dafydd Williams ar 07717 430 665 am fwy o wybodaeth. Byddwn yn falch iawn i’ch croesawu i’n plith.

DPW

16.12.20

Rhod y Rhigymwr -Beirdd y Bore

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Wrth fwrw golwg drwy fy silffoedd llyfrau’r diwrnod o’r blaen, a cheisio penderfynu be oedd i fynd i’r bocs ailgylchu neu peidio, dyma ddod o hyd i gyfrol fechan gan Dafydd Owen, a gyhoeddwyd ym 1945… ‘Beirdd y Bore’.  Ynddi, ceir astudiaeth fer o un-ar-bymtheg o feirdd Cymreig fu farw’n ifanc. Mae’n cynnwys enwau cyfarwydd fel Ann Griffiths, Dolwar Fach, Hedd Wyn a Ieuan Gwynedd … y gŵr o gyffiniau’r Brithdir a Rhydymain y coffawyd dwy ganrif ei eni’n ddiweddar. Mae enwau eraill llai cyfarwydd – dau ohonynt efo cysylltiad â dalgylch Llafar Bro.

Y cyntaf o’r rhain ydy IOAN TWROG [1837-51]

...bachgen oedd yn eithriad hyd yn oed ymhlith beirdd ieuainc.’  Pan oeddwn yn astudio llenyddiaeth Saesneg yn Ysgol Tywyn ers talwm, deuthum ar draws beirdd athrylithgar o’r wlad honno a fu farw’n ifanc … y ‘Beirdd Rhamantaidd’ Percy Bysshe Shelley [1792-1822] a John Keats [1795-1821], yn 29 a 25 oed, ond mae clywed am fachgen ifanc o Ddyffryn Maentwrog a allai ysgrifennu ‘marwnadau, englynion, darlith a chân i’r milflwyddiant cyn bod yn ddeuddeg oed’ yn rhywbeth anhygoel.

Maentwrog gan Llywelyn2000, CC BY-SA 4.0 trwy Wikimedia Commons

Pregethwr efo’r Bedyddwyr Albanaidd oedd tad ‘Ioan’ … William Roberts, Maentwrog. Roedd brawd i’w fam – John Roberts, ‘Siôn Twrog’ yn fardd pur adnabyddus yn yr oes honno. Dysg oedd popeth i ‘John Bach’. Yn bedair oed, gallai ddarllen yn rhugl, a dywedir y byddai yn ‘pregethu’ i’w gyfoedion yn bump oed. Cafodd addysg yn gynnar, ac erbyn cyrraedd naw oed, dechreuodd gyfansoddi ei doreth barddoniaeth, cyfieithiadau, traethodau a phregethau.

Anfonodd bryddest – ‘Y Morwr’ ac englyn – ‘Castell Harlech’ i Eisteddfod Madog ym 1851, a dywedid mai’r englyn hwnnw a fuasai’n fuddugol ‘pe bai wedi cyrraedd mewn pryd’:

Ei fawredd ddengys ei furiau, - cadarn
Y codwyd ei dyrau
A’i lydan adeiladau –
O dan hwn, gwêl donnau’n gwau.

Cafodd ei urddo’n yr eisteddfod honno â’r enw ‘Ioan Twrog’, ond ymhen mis wedi hynny, clywyd ei fod yn wael iawn. Bu farw ar 19 Rhagfyr 1851 … yn 14 oed.

Yn nes at ein dyddiau ni, cafwyd Richard Jones, a adwaenid dan yr enw barddol AP ALUN MABON [1903-40]. 

Fe’i ganwyd ym Mryn-tirion, Glan-y-pwll, a’i addysgu yn ysgolion Glan-y-pwll a Phen-sarn, Amlwch. Yno ym Môn, gyda’i ewyrth, y dechreuodd farddoni. Gwnaeth enw iddo ei hun drwy gipio gwobr am draethawd ar Forgan Llwyd o Wynedd.

Dychwelodd i’w hen ardal yn ŵr ifanc pwyllog a rhadlon, gan ymhyfrydu yn y gelfyddyd o drin geiriau. Aeth i weithio i’r chwarel, ond fel nifer o’i gyfoedion, aeth llwch y garreg i’w ysgyfaint a thorrodd ei iechyd i lawr cyn ei fod yn ddeg-ar-hugain oed. Treuliodd amser hir yn ysbytai Machynlleth a Thalgarth, ond gwyddai nad oedd gwella i fod. Nid rhyfedd felly mai cerddi cystudd a digalondid oedd y rhan fwyaf o’i gyfansoddiadau. Ond yr oedd yn ffrind i’r ardal, a chanodd lawer englyn a thelyneg ar ôl ei gyfeillion. Cysurodd lawer ar eraill, ond prin oedd ei gysur ef. Er hynny, ni chollodd ffydd mewn daioni a chyfeillgarwch.

Ugain oed oedd pan enillodd ei gadair eisteddfodol gyntaf. Roedd wrth ei fodd efo Awdl ‘Yr Haf’ a gweithiau R. Williams Parry, a hoffodd yn fawr weithiau Crwys, Eifion Wyn a Hedd Wyn. Ceisiodd godi ei galon ar waethaf pob cystudd, a gobeithio yn erbyn gobaith:-

Ond er i mi gael fy nghaethiwo fel hyn
Rhwng muriau f’ystafell yn glaf,
Rwy’n disgwyl ca’i wella a mynd am dro
I’r meysydd cyn diwedd yr haf.

Ac fel’na rwy’n byw – rhyw gysuro fy hun
Y daw pethau’n well yn eu tro;
Mae’r dyfodol yn dywyll, mae’n wir, ‘rhen Ddei,
Ond mae gen i ffydd ynddo Fo.

Bu farw’n 37 oed, ar ddydd cadoediad, 1940 a’i gladdu ym Mynwent Bethesda. Cyhoeddwyd cyfrol goffa iddo, wedi ei dethol a’i golygu gan J. W. Jones ym 1941 – ‘Gwrid y Machlud’.

Gyda bygythiad y Gofid yn parhau o fewn y tir, byw mewn gobaith wnawn ninnau y cawn ryddid yn fuan o gaethiwed y clo.

IM
-------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2020

 

 

12.12.20

Dosbarthu rhifyn 500

 Roedd lojistigs y peth yn anferth: danfon 3500 copi o Llafar Bro i bob tŷ yng nghôd post LL41..!

Ond doedd y dasg ddim yn dychryn criw diwyd Hwb Cymuned a'r Dref Werdd. Aed ati i drefnu myrdd o wirfoddolwyr a rhannu tri phlwyf Bro Ffestiniog yn strydoedd a stadau, ardaloedd ac anheddau. 


Am y tro cyntaf erioed daeth Llafar Bro o'r wasg yn Llanrwst i Stiniog mewn cerbyd trydan, a chymaint oedd pwysau'r 32 bocs, roedd Gwydion yn poeni wrth weld lefel y batri'n suddo'n gyflym iawn ar ei ffordd i fyny'r Crimea. Trwy lwc roedd digon ar ôl i'w gludo dros y top ac i lawr yn saff pen yma!

 

Ar fore dydd Iau, roedd criw rhaglen Heno, S4C yn swyddfa'r Dref Werdd i ddal y cyfri a'r dosbarthu ar gamera, cyn i bobol orau'r byd -pobol Bro Ffestiniog- fynd efo pecynnau o Llafar Bro i'w rhoi trwy ddrysau pawb. 20 i fan hyn, 100 i fan draw, fesul dipyn, nes i'r newyddion gyrraedd ar y grŵp watsapp nos Wener fod pob man wedi ei wneud.

 

Ymdrech anhygoel gan griw arbennig. Diolch o galon i bob un.

Mae'n anochel efallai bod ambell dŷ wedi cael dau rifyn ac ambell un arall heb gael yr un o bosib. Os nad ydych wedi derbyn copi, gadewch i ni wybod, ac mi drefnwn ni rywbeth efo chi!

Os hoffech, gallwch lawrlwytho copi pdf o wefan Bro360. Cofiwch annog eich teulu a'ch ffrindiau ym mhedwar ban y byd y gallen nhwythau lawr-lwytho'r rhifyn am ddim hefyd.

Mae'r gwaith o gyhoeddi rhifyn 500 Llafar Bro wedi golygu llawer iawn o chwys a llafur cariad, gwirfoddol, ac mae o wedi dangos eto mor arbennig ydi ysbryd cymunedol Bro Ffestiniog! 

Mae wedi golygu costau ychwanegol hefyd wrth reswm i argraffu pedair gwaith yn fwy o gopiau na'r arfer- a'u rhoi nhw am ddim! Felly hoffai Llafar Bro ddiolch eto i Hwb Cymuned am y grant covid, ac i'r Dref Werdd a Chwmni Bro Ffestiniog am y gefnogaeth ariannol hael; yn ogystal â chymorth ymarferol amhrisiadwy y dair fenter.

 

Cofiwch, os ydych awydd dosbarthu Llafar Bro bob mis i'r rhai sy'n ei brynu yn eich stryd chi (nid pob tŷ!) -cysylltwch os gwelwch yn dda.




 

Geirau: Paul W

Lluniau: Y Dref Werdd/Hwb Cymunedol

Logo: Dime Elenov

- - - - - -

DATHLU 500



7.12.20

Dyma'n lle ni

Erthygl wadd, yn arbennig i'n gwefan, gan Elin Hywel.

Wrth droedio tir adra fyddai’n meddwl yn aml pa mor wahanol oeddwn i bob tro i mi daro’n nhroed i’r ddaear yma? Pa bethau oedd yn llenwi 'mhen?
 

Dwi’n siŵr mod i’n cofio i mi sefyll yn y fan hyn flynyddoedd ynghynt yn damnio mod i heb wisgo côt i fynd i’r ysgol a bod y glaw yn fwy fel bwledi o rew na dŵr. Poen yr oerfel yn crisialu’r atgof debyg iawn. Dyddiau yma, pan fyddai’n gwylio’r hynaf yn mynd i’r ysgol – heb ei chôt, fyddai'n gweiddi o ben grisiau “ti di cofio masg?” Rhyfedd ‘di troad amser. Ac er fod y ddau yn brofiadau yn bell ar wahân dim ond sefyll yn y fan yma sydd raid ac mae profiad merch a mam yn plethu’n un.
 

I mi mae perthynas cof a lle yn annatod, un yn galluogi’r llall. Heb hanes, heb gof, heb brofiad ac emosiwn beth ydi lle ond diarth? A lle a’r gallu i blethu llanast profiad yn yr un eiliad oesol. Braint o allu hawlio’n lle mewn cymunedau sefydlog ydi hynny hefyd wrth gwrs. Cymunedau sydd yn galluogi ni i fyw a bod yn yr un lle drwy gydol ein hoes os dewiswn wneud. Er i ni wynebu bygythiadau lu fel cymunedau drwy hanes yma ydym ni o hyd, yn brysur yn ein hunfan.
 

Mi fyddai’n meddwl fwyfwy dyddiau yma am sut ddown ni drwyddi fel cymunedau bach Cymreig yng ngolau gofidiau heddiw. Ella ma' oed ydi hynny ond mae’n dipyn o beth i lenwi’r meddwl.  Tra fod ein cymunedau o dan y don a’n pennau yn bell o dan y parad mae’n anodd 'i gweld hi. Cyfrifoldeb trwm ar ysgwyddau gwantan.
 

Cynefin; milltir sgwâr; bro. Llun -Paul W

Un mater sydd wedi amlygu hyn i mi ydi y mater o newid enwau cartrefi. Mae’n fater sydd wedi amlygu droeon o’r blaen felly pam eto rŵan yn nghanol y gwyllt a gofid? Pam fod hyn o bwys a pam fod y poen o golli’r ddolen yma yn boen sydd yn crisialu angen i wrthsefyll yn mor effeithiol? Dyma i chi fynegiant pur o berthynas lle a cof. Cof cymuned, cof cenedl, cof cenedlaethau. Drwy enw rwyf i yn dyst i brofiad byw fy nghyn-neiniau. Mae rhywbeth mor syml ag enw yn newid ein profiad o fyw yn ein cymunedau i fod yn oesol.
 

Un agwedd yn unig ydi hyn o bŵer enw i le, enw i’n lle ni. Yn reddfol rydym yn deall fod tŷ neu dir, foed ac iddo gartref neu ddim yn rhan sylfaenol o’n cymunedau ac fod eu henwau yn eu lleoli yno. Fod perchnogi tŷ neu dir yn nhermau farchnad agored, cyfalafol, unigolyddol yn gamarweiniol llwyr yn nhermau creu cartref a gwirioneddau diwylliant cymunedol Cymreig. Mae gwrthdaro diwylliannol, gwleidyddol, emosiynol a  moesol yma. Nid ased personol mo cartref ond ein lle ni yn ein cymuned. Cymuned sydd yn ein cynnal ni, yn rhoi y lle i ni. Dyma wir gyfalaf cartref yn hytrach na pherchnogi tŷ, nid arian o un llaw i’r llall. Rydym ni yn ein tro yn ymroi i gynnal cyfalaf ein cartref drwy warchod breuder yr hun sydd yn annatod a enw, i gynnal hanes, iaith a hunaniaeth y lle yma o’i wreiddiau i’r dail. Yn ôl daw balchder a’r hyder sydd yn dod o fod o rywle sefydlog i warchod breuder ein henaid. Bosib ai enw ein lle ni sydd felly yn dynodi ein hawlfraint i ni gael ein cynnal fel yma gan gymuned ein lle? Lle bynnag fu i ni ddechrau’r daith dyma’n lle ni rŵan.
 

Felly, sut i roi sylw teg i’r mater yma? Rhaid gwrthod yr honiad ein bod yn esgeuluso materion sydd wir o bwys. Mae Cymru wedi newid yn ddiweddar, mae’r Cymry wedi cael hyder na welwyd ers tro byd. Mae gwrthod ein gallu i ymateb i fygythiadau niferus a gwahanol ar yr un pryd yn fynegiant o ormes ein pobl. Rydym yn gymdeithas cymhleth, fel pob cymdeithas, ac mae gwarchod ein treftadaeth, ein hunaniaeth, ein hanes a’n hiaith yn hawl. Mae cynnal enw cartref yn un ffordd gallwn ni oll daenu edefyn cof cymuned dros geunant amser, ac mae’n fraint cael cynnal cyfoeth ein hanes, ein diwylliant a’n cariad.

Elin Hywel
Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Swyddog ar y Cyd – Cydraddoldeb a Chymunedau, Undod

Mwy o wybodaeth:
www.cymdeithas.cymru
www.undod.cymru

Ymddangosodd erthygl Elin wedyn yn Gymraeg ac yn Saesneg ar blog Undod.

2.12.20

Tŷ Hynafol, Pwerdy a Thrên Bach Port

Erthygl gan Philip Lloyd

Tynnais y llun o drên ar Reilffordd Ffestiniog yn cyrraedd yr arhosfan anghysbell ger tŷ hynafol Y Dduallt yn 1979. ‘Linda’, un o’r ddwy injan a ddaeth o Chwarel Y Penrhyn sy’n tynnu’r cerbydau. ‘Blanche’ yw’r llall. Fe’u hadeiladwyd yn 1893 ac maen nhw’n dal ar waith.


Enw’r arhosfan yw ‘Campbell’s Platform’ gan mai’r Cyrnol Andrew Campbell, cyn-filwr a chyfreithiwr gyda hen Gyngor Sir Feirionnydd, oedd perchennog Y Dduallt ar y pryd. Roedd ganddo gerbyd petrol a chaniatâd i’w yrru i lawr y lein i Danybwlch, lle y cadwai ei VW i gwblhau’r daith i’w swyddfa yn Nolgellau. Mae’r trenau’n mynd heibio i’r arhosfan heb aros heddiw fel arfer, gan mai trigolion Y Dduallt a’u hymwelwyr yn unig sy’n cael ei ddefnyddio.


Roedd yr ymgyrch dros adfer y rheilffordd ar ôl cyfnod segur rhyfel 1939-1945 wedi dechrau yn gynnar yn y 1950au. Adroddodd rhifyn Ebrill 11, 1952 o’r Cymro ar gais Cymdeithas Rheilffordd Ffestiniog am gefnogaeth Cyngor Dinesig Ffestiniog i’w hymdrechion. Mynegodd y cynghorwyr eu parodrwydd ‘i nawddogi unrhyw ymdrech i ail-agor y lein bach hyd ar y Dduallt’, gan farnu ‘bod y cynlluniau trydan-dŵr yn golygu na ellid edfryd y lein bach o’r Dduallt i fyny’. Byddai cronfa ddŵr isaf y pwerdy arfaethedig (Llyn Ystradau erbyn hyn) yn boddi rhan ohoni ger Tanygrisiau. 



Agorwyd llai na milltir o’r rheilffordd ar hyd y Cob yn haf 1955, ac roeddwn i ymhlith y rhai a fu’n mwynhau’r daith o Borthmadog i Boston Lodge. Y bwriad oedd adfer y 13½ milltir rhwng Port a’r Blaenau erbyn 1962. Ond achosodd y gwaith o adeiladu’r pwerdy ugain mlynedd o oedi, a dyfarnodd tribiwnlys tir £65,000 o iawndal i gwmni’r rheilffordd oddi wrth y Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog yn 1971. Tynnais y llun o’r pwerdy ar draws Llyn Ystradau, gyda chronfa uchaf Llyn Stwlan yng nghesail y mynydd, yn 1964 yn fuan ar ôl iddo agor.


Flwyddyn cyn imi dynnu’r llun yn yr arhosfan ger Y Dduallt, ail-agorwyd y lein hyd at Danygrisiau ar ôl ei chodi uwchlaw Llyn Ystradau gan y dargyfeiriad troellog, y twnel a’r llwybr newydd y tu ôl i’r pwerdy a welir ar ran orllewinol map o waith y diweddar Michael Seymour, athro ieithoedd modern ac archifydd cyntaf cymdeithas y rheilffordd. Heblaw’r dargyfeiriad, y twnel a’r llwybr newydd, mae’r map yn dangos y lein fel y bu hi cyn ei boddi gan Lyn Ystradau a sawl nodwedd cynharach. 


Wrth gynnwys llun o hen orsaf Glanypwll yn rhifyn Gorffennaf o Llafar Bro, soniais am fy nghysylltiadau teuluol â Phenrhyndeudraeth. Terfynaf drwy nodi mai yn Y Dduallt y ganwyd fy hen daid, David Lloyd, yn 1830. Ond pwysleisiaf nad ei ddisgynyddion ef oedd y Llwydiaid a ddisgrifiwyd gan G.J. Williams yn ei Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf (1882) fel hyn: ‘[aethant] i gyfreithio, a dywedir iddynt golli, nid yn unig y Dduallt, ond eu holl eiddo’.


O.N. ‘Strydoedd di-enw’ oedd pennawd adroddiad Y Cymro yn Ebrill 1952. Cyfeiriai at drafodaeth Pwyllgor Iechyd a Ffyrdd y cyngor ar y priodoldeb o osod arwyddion dwyieithog ar strydoedd y Blaenau. Barn Mr. J. D. Roberts oedd ‘bod Stiniog yn wahanol i bobman arall yn hyn o beth, ac yr oedd dieithriaid yn gorfod holi a stilio wrth chwilio o gwmpas am strydoedd arbennig’. Penderfynwyd ‘i wneud ymholiadau am gost 12 o arwyddion’.
-----------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2020

Capsiynau i’r lluniau a’r map  
Campbell’s Platform, 1979

Pwerdy Tanygrisiau, 1964