16.12.20

Rhod y Rhigymwr -Beirdd y Bore

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Wrth fwrw golwg drwy fy silffoedd llyfrau’r diwrnod o’r blaen, a cheisio penderfynu be oedd i fynd i’r bocs ailgylchu neu peidio, dyma ddod o hyd i gyfrol fechan gan Dafydd Owen, a gyhoeddwyd ym 1945… ‘Beirdd y Bore’.  Ynddi, ceir astudiaeth fer o un-ar-bymtheg o feirdd Cymreig fu farw’n ifanc. Mae’n cynnwys enwau cyfarwydd fel Ann Griffiths, Dolwar Fach, Hedd Wyn a Ieuan Gwynedd … y gŵr o gyffiniau’r Brithdir a Rhydymain y coffawyd dwy ganrif ei eni’n ddiweddar. Mae enwau eraill llai cyfarwydd – dau ohonynt efo cysylltiad â dalgylch Llafar Bro.

Y cyntaf o’r rhain ydy IOAN TWROG [1837-51]

...bachgen oedd yn eithriad hyd yn oed ymhlith beirdd ieuainc.’  Pan oeddwn yn astudio llenyddiaeth Saesneg yn Ysgol Tywyn ers talwm, deuthum ar draws beirdd athrylithgar o’r wlad honno a fu farw’n ifanc … y ‘Beirdd Rhamantaidd’ Percy Bysshe Shelley [1792-1822] a John Keats [1795-1821], yn 29 a 25 oed, ond mae clywed am fachgen ifanc o Ddyffryn Maentwrog a allai ysgrifennu ‘marwnadau, englynion, darlith a chân i’r milflwyddiant cyn bod yn ddeuddeg oed’ yn rhywbeth anhygoel.

Maentwrog gan Llywelyn2000, CC BY-SA 4.0 trwy Wikimedia Commons

Pregethwr efo’r Bedyddwyr Albanaidd oedd tad ‘Ioan’ … William Roberts, Maentwrog. Roedd brawd i’w fam – John Roberts, ‘Siôn Twrog’ yn fardd pur adnabyddus yn yr oes honno. Dysg oedd popeth i ‘John Bach’. Yn bedair oed, gallai ddarllen yn rhugl, a dywedir y byddai yn ‘pregethu’ i’w gyfoedion yn bump oed. Cafodd addysg yn gynnar, ac erbyn cyrraedd naw oed, dechreuodd gyfansoddi ei doreth barddoniaeth, cyfieithiadau, traethodau a phregethau.

Anfonodd bryddest – ‘Y Morwr’ ac englyn – ‘Castell Harlech’ i Eisteddfod Madog ym 1851, a dywedid mai’r englyn hwnnw a fuasai’n fuddugol ‘pe bai wedi cyrraedd mewn pryd’:

Ei fawredd ddengys ei furiau, - cadarn
Y codwyd ei dyrau
A’i lydan adeiladau –
O dan hwn, gwêl donnau’n gwau.

Cafodd ei urddo’n yr eisteddfod honno â’r enw ‘Ioan Twrog’, ond ymhen mis wedi hynny, clywyd ei fod yn wael iawn. Bu farw ar 19 Rhagfyr 1851 … yn 14 oed.

Yn nes at ein dyddiau ni, cafwyd Richard Jones, a adwaenid dan yr enw barddol AP ALUN MABON [1903-40]. 

Fe’i ganwyd ym Mryn-tirion, Glan-y-pwll, a’i addysgu yn ysgolion Glan-y-pwll a Phen-sarn, Amlwch. Yno ym Môn, gyda’i ewyrth, y dechreuodd farddoni. Gwnaeth enw iddo ei hun drwy gipio gwobr am draethawd ar Forgan Llwyd o Wynedd.

Dychwelodd i’w hen ardal yn ŵr ifanc pwyllog a rhadlon, gan ymhyfrydu yn y gelfyddyd o drin geiriau. Aeth i weithio i’r chwarel, ond fel nifer o’i gyfoedion, aeth llwch y garreg i’w ysgyfaint a thorrodd ei iechyd i lawr cyn ei fod yn ddeg-ar-hugain oed. Treuliodd amser hir yn ysbytai Machynlleth a Thalgarth, ond gwyddai nad oedd gwella i fod. Nid rhyfedd felly mai cerddi cystudd a digalondid oedd y rhan fwyaf o’i gyfansoddiadau. Ond yr oedd yn ffrind i’r ardal, a chanodd lawer englyn a thelyneg ar ôl ei gyfeillion. Cysurodd lawer ar eraill, ond prin oedd ei gysur ef. Er hynny, ni chollodd ffydd mewn daioni a chyfeillgarwch.

Ugain oed oedd pan enillodd ei gadair eisteddfodol gyntaf. Roedd wrth ei fodd efo Awdl ‘Yr Haf’ a gweithiau R. Williams Parry, a hoffodd yn fawr weithiau Crwys, Eifion Wyn a Hedd Wyn. Ceisiodd godi ei galon ar waethaf pob cystudd, a gobeithio yn erbyn gobaith:-

Ond er i mi gael fy nghaethiwo fel hyn
Rhwng muriau f’ystafell yn glaf,
Rwy’n disgwyl ca’i wella a mynd am dro
I’r meysydd cyn diwedd yr haf.

Ac fel’na rwy’n byw – rhyw gysuro fy hun
Y daw pethau’n well yn eu tro;
Mae’r dyfodol yn dywyll, mae’n wir, ‘rhen Ddei,
Ond mae gen i ffydd ynddo Fo.

Bu farw’n 37 oed, ar ddydd cadoediad, 1940 a’i gladdu ym Mynwent Bethesda. Cyhoeddwyd cyfrol goffa iddo, wedi ei dethol a’i golygu gan J. W. Jones ym 1941 – ‘Gwrid y Machlud’.

Gyda bygythiad y Gofid yn parhau o fewn y tir, byw mewn gobaith wnawn ninnau y cawn ryddid yn fuan o gaethiwed y clo.

IM
-------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2020

 

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon