26.2.18

Daeth i Ben

Do, ddiwedd 2017, wedi 12 mlynedd a 34 o wythnosau daeth i ben rownd ‘Cylch Papur y Gymuned’ dyddiol i ardal Tanygrisiau pan gauwyd drysau'r siop bapur olaf yn y dref, sef Siop Glenna.
Cychwynwyd y rownd bapur ar Fai 23, 2005 wrth i Siop Anona yn y Brif Heol roi'r gorau i ddosbarthu papurau i’r pentref.

Y dosbarthwyr gwreiddiol oedd Bill Jones, Evan Jones, Gareth Humphreys, Michael Evans, Raymond Rice, Dafydd Gwallter, Douglas Hughes, Morris Jones, John Jones a  Wil Price.
Bu llawer tro ar fyd ers y cychwyn a cholled fawr iawn oedd colli Gareth a Raymond, ac yn ddiweddar colli Bobby Williams o’n mysg drwy farwolaeth. Oherwydd gwahanol amgylchiadau bu raid i rai o’r ffyddloniaid ddod a’u gorchwyl i ben.

Dros y blynyddoedd daeth eraill i’n cynorthwyo, sef Brenda, Steffan, Ritchie, Ceinwen, Sylvia, Bobby, Michelle, Dei Em, Arwyn Terressa. Gydag 20 wedi bod yn gysylltiedig â’r papur ers y cychwyn dim ond Dafydd Gwallter a Wil sydd wedi goresgyn.


Drwy’r cyfnod dosbarthwyd dros 110,000 o bapurau i’r pentref gydag o leiaf 100,000 yn ‘Daily Post’. Drwy ymdrech y dosbarthwyr codwyd dros £15,000 tuag at elusennau ac achosion teilwng yn lleol a hefyd ledled y byd. Ymysg rhai o achosion a gefnogwyd, mae’r dosbarthwyr yn hynod falch eu bod wedi medru ariannu cofeb lle magwyd Merêd ym Mryn Mair, a hefyd cofeb man geni'r Athro Gwyn Thomas yn nhŷ Capel Carmel.

Tra bydd pentref Tanygrisiau yn ffynnu, bydd y ddwy garreg yma yn glod teilwng o’u tarddiad.

Cefais y fraint o gael bod yn gadeirydd ar bwyllgor y papur ers y cychwyniad a hoffwn ddiolch o waelod calon i’r holl ddosbarthwyr a wnaeth y fenter yn werth ei gwneud. Hefyd, diolch i Glen yn y Tap am ein porthi bob noson pwyllgor, i Sarah am wneud y rota’n gyson, i Carol am ei chardiau Nadolig blynyddol ac i Neris am archwilio’r llyfrau.  Diolch hefyd i bawb am eu rhoddion Nadolig cyson i’r gronfa. Nid oes yr un gymdeithas yn llwyddiant os nad oes gennych ysgrifennydd a thrysorydd da. Gwn mai dymuniad fy nghyd ddosbarthwyr fuasai i mi ddiolch yn arbennig i Ceinwen am ei hymroddiad amhrisiadwy i ni yn gwneud y ddwy swydd yma. Diolch yn fawr Ceinwen.

Cafwyd pwyllgor ar Ragfyr 18 a phenderfyniad unfrydol y dosbarthwyr oedd eu bod am gadw’r pwyllgor yn fyw gan fod gennym ychydig arian ar ôl yn y gronfa. Bydd y rhain yn cael eu cyfrannu’n ddoeth yn ôl eu penderfyniad.

I gloi, mi rydym yn ymddiheuro am ein methiant i gyflawni ein dyletswydd am un diwrnod yn ystod ein galwedigaeth - y diwrnod pryd y methwyd dod a phapurau Blaenau dros y Crimea yn ystod y tywydd garw 2012-2013 - SORI !
Gyda diolch, Wil Price.

LLUN

Diwrnod olaf y rownd bapur – Glenna, Wil, Ceinwen, Dafydd

22.2.18

Cwmni Bro

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2018.

Pa fath o Gymru yr ydym am ei chreu? 
Cymru fel cymuned o gymunedau, neu Gymru gyda gwladwriaeth sy'n gwasanaethu cyfalaf preifat ac yn canoli yn hytrach na datganoli grym?

Cynhaliodd Cwmni Bro Ffestiniog ddigwyddiad unigryw ym Mlaenau Ffestiniog ar Chwefror yr 2il, 2018.

Mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ddatblygiad hollol arloesol yng Nghymru, sef rhwydwaith o fentrau cymdeithasol llwyddiannus sydd wedi dod at ei gilydd i gydweithio dan faner un cwmni bro. Eisoes mae Cwmni Bro Ffestiniog wedi cyflawni llawer o ran datblygu'r economi a'r gymdeithas leol o'r gwaelod i fyny, gan ddechrau adfer y traddodiad diwylliannol o fentergarwch cymunedol neu, mewn geiriau eraill, y gymuned yn gwneud pethau trosom ni ein hunain.




Mae datblygiad pellach, a llwyr wireddu gweledigaeth Cwmni Bro Ffestiniog yn nwylo trigolion yr ardal, i raddau helaeth, ond mae hefyd yn dibynnu ar gefnogaeth llywodraeth, ar wahanol lefelau, ac ar asiantaethau, cyrff ac elusennau sydd â chyfrifodeb i hybu datblygiad ein cymunedau.




Bwriad cyntaf y digwyddiad ar yr 2il o Chwefror oedd:
> dangos yr hyn y mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ei gyflawni;
> rhannu'n gweledigaeth ynglyn â'r ffordd ymlaen ;
> trafod potensial y Cwmni Bro, nid yn unig o ran datblygiad Bro Ffestiniog ond hefyd fel model o ddatblygu cymunedol  integredig y gellir ei efelychu gan gymunedau ar hyd a lled Cymru.

Ail fwriad y digwyddiad oedd rhoi cyfle i gyrff llywodraeth ac asiantaethau perthnasol ymateb i'r model o ddatblygiad cymuned a arloesir ym Mro Ffestiniog a thrafod sut orau y gallent hwy gefnogi, nid yn unig Cwmni Bro Ffestiniog ond hefyd gyfrannu at wireddu'r weledigaeth ehangach  a photensial y math hwn o ddatblygiad  ar draws Cymru a thu hwnt.

Llun gan Cell

Gobeithiwn y bydd adroddiadau pellach ar waith y cwmni yn Llafar Bro yn rheolaidd.


18.2.18

Log Ysgol Maenofferen

Ail ran cyfres newydd Agnes Edwards, yn edrych ar lyfrau log Ysgol Maenofferen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

17/01/41  Amryw adref o’r ysgol ar ôl cael eu trin yn erbyn difftheria, a hefyd tywydd garw.

20/01/41  Storm o eira enbyd wedi para dros y penwythnos ac wedi ail ddechrau eto.  Lluwchfeydd mawr yn rhwystro trafnidiaeth.  Gyrrwyd yr hanner dwsin o ferched a ddaeth i’r ysgol adre’n ôl.
21/01/41  Dim bysiau’n teithio.  Ychydig o blant wedi dod i’r ysgol a chael eu gyrru adre’n ôl.
22/01/41  Tywydd mawr.  Dim glo ar gyfer y tanau a’r toiledau ddim yn gweithio.  Cafwyd gorchymyn i gau'r ysgol am weddill yr wythnos.


5/02/41  Storm eira arall.  Presenoldeb iach.

17/02/41  Y meddyg yn rhoi ail driniaeth i rwystro dal difftheria.  Oer ac yn pluo eira.

19/02/41  Tywydd mawr.

09/05/41  Mae newid yn oriau agor yr ysgol.  Mae’r clociau wedi eu rhoi ymlaen awr arall, felly mae’r ysgol yn dechrau am 9.40 a.m. a’r plant yn cael eu gollwng allan am 12.30.  Prynhawn yn dechrau am 1.30 tan 3.45.

04/06/41  Ffenestri wedi eu torri yn y cloakrooms.  Golwg eu bod wedi eu torri o’r tu mewn. Dirgelwch
09/06/41 Dwy ffenest wedi ei thorri eto.  Un yn Std. 4 ac un yn Std. 5. Gadawyd neges yn y Swyddfa, gan nad yw’r gofalwr yn medru dyfalu sut gwnaed y difrod.

23/01/42  Eira mawr yn golygu llai o blant.  Yn y prynhawn meiriolodd yr eira ac yr oedd cymaint o wlybaniaeth dan draed fel y penderfynwyd mai’r peth gorau oedd cau'r ysgol am y pnawn.

02/03/42  Am fod Gŵyl Dewi Sant ar y Sul y flwyddyn hon, fe geir y gwyliau ar ddydd Llun.  Felly dim ysgol ar ddydd Llun.

20/04/42  Mae’r clociau wedi eu rhoi ymlaen awr arall ond mae’n gorchymyn wedi dod gan yr Awdurdod Addysg fod pob ysgol i ddechrau am 9.00 a.m. Mae’r cinio ym Mrynbowydd yn dal i gael ei ddarparu ond bydd newid yn y fwydlen.

22/02/42  Presenoldeb yn isel oherwydd y tywydd garw ac un neu ddau yn dioddef o’r crafu (scabies).  Yr ysgol yn cau dros y Sulgwyn a’rrheolwyr yn caniatáu cau dydd Mawrth hefyd.

28/02/42  Wardeniid A.R.P. yn yr ysgol i archwilio ar gas masks y plant.

22/07/42  Dilyw o law heddiw.  Pan gyrhaedodd y genethod i Frynbowydd roeddynt yn wlyb diferol, felly, fe’n gyrrwyd adref am 1 o’r gloch.

24/07/42  Diwrnod gwlyb iawn eto.  Gyrru’r genethod adre’n fuan. Yr ysgol yn cau am wyliau haf.

14/09/42  Pris cinio’r ysgol wedi codi i 1/6 yr wythnos a 4 ceiniog am un cinio.  Pan fo mwy nag un plentyn o’r un teulu yn cael cinio, yna 1/3 y pen yr wythnos.

16/10/42  Haint y frech goch.

21/10/42  Blackout Regulations yn gorchymyn mai oriau’r ysgol fydd 9.30-11.45 ac 1.00-3.45 p.m.

26 a 27/11/42  Dim ysgol ar 26 a 27 fel y gallai’r athrawon fynychu Cwrs Cymraeg o dan Adran Gymraeg y Bwrdd Addysg.  Cynhelir y cwrs ddydd Iau, Gwener a bore Sadwrn yn yr Ysgol Ganol.
24/12/42  Treulio heddiw yn adrodd, actio a chanu carolau.  Cau'r ysgol yn y pnawn.
-------------------------------

Detholiad yw'r uchod, o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod. (Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar y ffôn.)
Llun Paul W


 

14.2.18

Rhod y Rhigymwr -Awen Meirion

Cyfres fach hynod ddifyr a gyhoeddwyd yn chwedegau’r ganrif ddwytha gan Lyfrau’r Dryw, Llandybïe, oedd ‘Cyfres Barddoniaeth y Siroedd’, dan olygyddiaeth Emlyn Evans. Gwn fod o leiaf saith ohonyn nhw wedi eu cyhoeddi. Gwelodd y bumed gyfrol, ‘Awen Meirion’ olau dydd yng Ngorffennaf 1961.

Mae’r gyfrol yn cynnwys cerddi caeth a rhydd, a cheir nodiadau bywgraffyddol am bob bardd. 
Dyma rai o gynhyrchion y beirdd o ddalgylch ‘Llafar Bro’ ynghyd â chrynodeb o’u hanes fel ag y nodwyd yr adeg honno:

LLOYD, Owen Morgan. 
Ganed ym Mlaenau Ffestiniog ym 1910. Addysgwyd yn yr Ysgol Gynradd a’r Ysgol Sir, Prifysgol Bangor a Choleg Bala-Bangor. Enillodd gadair yr Eisteddfod Ryng-Golegol, cadeiriau Eisteddfod Môn (ddwywaith) a Chadair Eisteddfod Powys. Bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr yn Siroedd Caernarfon, Morgannwg a Môn cyn dod i Ddolgellau. Pregethu yw ei ddiddordeb pennaf, yna ysgrifennu i’r wasg a cheisio cynghanedd (‘Ymryson y Beirdd’!) mewn eglwys a byd.

Dyma rai o’i gynhyrchion

SIOP Y PENTREF
Llethwyd y silff, llwythwyd sach, - emporiwm
Parod i bob masnach,
Enwog warws hen geriach,
Pantri bwyd y pentre’ bach.

CNOCELL Y COED
I fan y pryf yn y pren – y myn ffordd,
Main ei phig, fronfelen;
Yn ddi-ball bydd ebill ben
Yn ergydio ar goeden.

BRYS
I beth y rhuthrwn drwy’r byd? – Gwirion yw
Gyrru’n wyllt drwy fywyd.
Daw blino brysio ryw bryd
A daw sefyll disyfyd.

JONES, Wmffra [Mawddach]. 
Y wennol. Llun Paul W.
Ganed ym Mlaenau Ffestiniog ym 1890 a’i addysgu’n Ysgol y Manod a’r Ysgol Sir. Bu’n gweithio ar y ffordd haearn ac yn orsaf feistr. Enillodd bedair cadair eisteddfodol. Yn byw yn Llanelltyd ac yn olygydd papur wythnosol ‘Y Dydd’, cylch Dolgellau.

Y WENNOL
O bell ar asgell wisgi – y wennol
Ddwg wanwyn i’n llonni;
Ymaith hed cyn caledi
A’r haf aur â hefo hi.

WILLIAMS, Jonah Wyn. 
Cysodwr yn byw ym Mlaenau Ffestiniog, lle ganed ef ym 1921. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd oherwydd afiechyd. Cyfrannodd gerddi ac ysgrifau i bapurau newydd a chylchgronau. Rhai dylanwadau: celfyddyd, cyfeillion, Catholigiaeth – derbyniwyd ef i’r Eglwys Gatholig ym 1958, Diddordebau: arluniaeth, cerddoriaeth, y piano a Ffrangeg.

FY NHAD [Er Cof]
Yn ei boen soniai beunydd – am annwyl
A mwynaf Waredydd;
Yn hindda ei brynhawnddydd
Hwyliodd ef i’r bythol ddydd.

JONES, Joseph Wyn. 
Ffermwr ym Mryn-teg, Trawsfynydd. Ganed yn  Nhrawsfynydd ym 1921 a bu’n Ysgol Gynradd Bronaber ac Ysgol Sir Ffestiniog.

Y CODWR CANU
Dyma sŵn y do-mi-so – yn ei sedd,
Yna saif a’i tharo;
Heb organ na phiano
Mae hi’n awr yn dominô!

Ymddangosodd cerdd yn y gyfrol o waith llenor ifanc a aned yn Nhyddyn Bach, Trawsfynydd ym 1938 ...
ROWLANDS, John. 
Aeth i Ysgol Gynradd Bronaber, Ysgol Sir Ffestiniog a Choleg y Brifysgol, Bangor, gan raddio yn y dosbarth cyntaf mewn Cymraeg ym 1959 ... enillodd lu o wobrau yn adran ieuenctid yr Eisteddfod Genedlaethol ac am ysgrif agored yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1959 ... a chafodd Goron Prif Lenor yr Urdd ym 1960. Cyhoeddwyd ei nofel ‘Lle bo’r Gwenyn’ ym 1960.

Mae’n drigain mlynedd union er pan gyfansoddodd y nofelydd arloesol a’r beirniad llenyddol y gerdd ganlynol:

ANWADALWCH [ar ddechrau 1958]

Mae mil-naw-cant-pum-deg-saith o dyllau pryfed yn yr Efengyl
a greodd unwaith enaid o’m llwch-lli.
Ac i fyny o’r dyfroedd
ni ddaw blodau’r genesis ifanc ym mreichiau ei gilydd
i rwygo croth â bywyd.
Ac y mae gwaelod cwpan y Gwaed a droes yn win yn dod i’r golwg.
Rhyw lingran y mae fy nhywod innau wrth y bar.

Rwy’n dy gasáu di, O Dduw, am fy nhwyllo
Gyda’th ddoli o Grist; mae ‘nghynddaredd
am dy frathu, a blingo dy regalia ffug!
Ac ‘rwyf am falu dy ddoli yn deilchion ...

Ond O! mae oglau sent ar ffrog y flwyddyn newydd;
Mae blodau’n tyfu arni, a Gwanwyn arall yn dyffeio Gaeaf ...
Ac mae fy nannedd a’m hewinedd innau’n llareiddio megis ŵyn.
‘Rwyf eto’n cysgu gyda Duw ...
Ond hwyrach nad yw hyn
ond bwrw Sul mewn gwesty gyda merch,
a bydd Yntau’n fuan eto ar y clwt,
nes cawn ni fwrw Sul yn nwydus unwaith eto gyda’n gilydd.
---------------------------------------

Rhan o erthygl Iwan Morgan a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Rhaid dewis 'web view' os ydych yn darllen ar eich ffôn.)



10.2.18

O'r Pwyllgor Amddiffyn -tair mlynedd ar ddeg o frwydro

Rhan o erthygl Geraint Vaughan Jones, o Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2018.

Dair blynedd-ar-ddeg yn ôl yr ymddangosodd y golofn hon gyntaf a hynny yn rhifyn Ionawr 2005.

Bydd rhai ohonoch yn cofio mai’r frwydr ar y pryd oedd dros ail-agor y clinig ffisiotherapi ar Ffordd Tywyn ar ôl i hwnnw gael ei gadw ynghau am wythnosau lawer. Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd oedd yn rhedeg pethau ar y pryd a ‘salwch y ffisiotherapydd’ oedd eu hesgus dros gadw’r lle ynghau. Ond roedd mwy iddi na hynny, wrth gwrs, fel y cawsom weld yn fuan iawn pan symudwyd ward y dynion yn yr Ysbyty Coffa er mwyn rhoi cartre newydd i’r gwasanaeth ffisio.

Byddwch yn cofio fel y cafodd ward y dynion ei symud i stafell fach gul drws nesaf i ward y merched ac fel y bu’n rhaid i’r cleifion rannu’r un ward dydd (day room) ar ôl hynny. A’r cam nesaf wedyn oedd llunio esgus i gau’r Ysbyty am nad oedd digon o breifatrwydd i’r cleifion!

Un enghraifft yn unig oedd honno o’r twyll y buom yn ei herio, dro ar ôl tro, dros y blynyddoedd. Ac rydym yn dal i orfod gwneud hynny, dair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach! Yn anffodus, ac am ba reswm bynnag, fe benderfynodd ein haelod yn y Cynulliad beidio cefnogi ein brwydr, a hynny er bod yn dyst i ralïau, protestiadau, deisebau a hyd yn oed refferendwm lle’r oedd 99.6% ohonoch wedi datgan eich barn yn gwbl glir. Hynny yw, fe wrthododd gynrychioli ei etholwyr yn y cylch hwn. Yna, o fewn ychydig wythnosau ar ôl cael ei ail-ethol unwaith eto yn etholiad Mai 2016 ar faniffesto Plaid Cymru, fe benderfynodd droi ei gôt ac mae bellach wedi ei benodi yn weinidog yn llywodraeth Carwyn Jones yng Nghaerdydd.

Mewn geiriau eraill, mae etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn cael ei chynrychioli bellach gan un sy’n rhoi ei gefnogaeth i’r blaid a ddaeth yn drydydd yn yr etholiad hwnnw!
.................................

Mae’r newydd yn fy nghyrraedd bod ein cyfeillion ni ym mwrdd iechyd y Betsi ar fin penodi is-gadeirydd newydd i’r Bwrdd, i olynu Margaret Hanson, gwraig David Hanson yr aelod seneddol Llafur dros Delyn. Mae’r Betsi yn ein hatgoffa ni’n aml am y broblem fawr sydd ganddyn nhw o recriwtio doctoriaid a nyrsys i ogledd-orllewin Cymru, ond mae’n ymddangos na fu’n broblem o gwbl cael nifer dda i ymgeisio am swydd is-gadeirydd i’r Bwrdd. Tybed, felly, a oedd gan y cyflog rywbeth i’w neud â’r peth? £56,000 y flwyddyn am weithio 13 diwrnod y mis!

Ac yn ôl a ddeallwn, mae’r Betsi hefyd ar fin penodi aelod ‘non-executive’ i’r Bwrdd, i gynrychioli un o’r awdurdodau lleol. Ydi o’n ormod i obeithio mai un o Gyngor Gwynedd a gaiff ei benodi? Ac y bydd hwnnw neu honno yn barod i godi llais dros yr ardal yma am unwaith? Ond dydyn ni ddim yn dal ein gwynt, gyfeillion!         
GVJ
.................................

Gallwch weld hanes yr ymgyrch efo'r dolenni* isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(*Ddim i'w gweld ar fersiwn ffôn -dewiswch 'View Web Version' ar y gwaelod)


6.2.18

Sgotwrs Stiniog -Prinder Pryfed

Ydych chi wedi sylwi bod llai o bryfaid ar ffenest flaen eich car i gymharu â blynyddoedd yn ôl? Roedd llawer o sylw yn 2017 gan y byd gwyddonol i'r gostyngiad ym mhryfetach y byd, ond roedd awdur Sgotwrs Stiniog, y diweddar Emrys Evans wedi datgan pryder dros ddegawd yn gynharach...

Rwyf wedi mynegi rhywfaint o bryder fod rhai o lynnoedd yr ardal wedi mynd yn brin iawn o’r pryfed yr ydym ni fel pysgotwyr pluen yn arfer eu gweld bob blwyddyn yn eu hamser yn ystod y tymor, rhai fel y cogyn, y gwahanol rwyfwyr, a rhai pryfed cerrig. Rhyw bythefnos cyn y Nadolig cefais lythyr gan un sy’n byw yn Ossett yn Lloegr. Un o’r Blaenau ydyw ac yn dod drosodd i’r hen ardal yn weddol aml, ac yr ydym yn falch o’i groesawu’n ôl bob amser. Mae’n hoff iawn o bysgota.

Llun -Paul W
Prociodd ‘pwnc y prinder pryfed’ iddo ymateb, a dyma ran o’i lythyr imi, yn rhoi ‘gair o brofiad’ fel y buasid yn ei ddweud yn y seiat ers talwm:
‘Gwelais yn eich erthygl yn Llafar Bro, eich bod wedi sylwi ar ddiffyg pryfed eleni. Ni allaf roi barn bersonol ar bryfetach dydd na nos eleni gan na chefais ond rhyw dridiau di-bysgod yng ngogledd yr Alban ddechrau Mehefin, pan y dylai popeth fod ar ei orau yno. Ar wyneb y dŵr oedd fy mhlu i, ond yn isel gyda ‘Black Montana’ y cafodd fy ffrind bysgod ar haul, gwynt, a glaw. A ddywed hyn rywbeth am ddiffyg pryfed?’
Gyda’i lythyr anfonodd dudalen o’r papur newydd y ‘Daily Telegraph’, rhifyn yr 20fed o Dachwedd diwethaf.

Ar y dudalen mae erthygl gan ŵr o’r enw Jon Beer, ac ynddi mae’n sôn am yr union bwnc, sef prinder pryfed, a hynny o safbwynt prysgotwyr pluen. Dyma ambell i sylw o’r erthygl yma. Gall Prydain fod yn wynebu gostyngiad difrifol ym mhoblogaeth pryfed, nid yn anffodus, y math o bryfed sy’n mynd i’r bowlen siwgr ac ar ein bwyd. Y creaduriaid dan sylw yw pryfed y dŵr, sef rhai fel y cogyn, y rhwyfwr a’r pry cerrig, fel sydd gennym ni yn Stiniog.

Meddai Jon Beer: “Mae’r pysgotwyr yn eu hoffi oherwydd fod y pysgod yn eu hoffi.

Llun -Gareth T Jones
Ers 1970 mae Asiantaeth yr Amgylchedd (a’r awdurdodau a fu o’i blaen) wedi bod yn cymryd samplau o’r pryfed dŵr yma a mathau eraill o fywyd sydd i’w gael yn y dŵr, ac mae y ‘National Riverside Survey’ yn datgelu gostyngiad sylweddol ym mhoblogaethau y rhan fwyaf o bryfêd y dŵr. Gelwir am gynorthwy pysgotwyr yn yr astudiaeth yma, oherwydd (medd yr erthygl), fod gan y pysgotwyr ddiddordeb dwfn yn ansawdd y bywyd sydd yn nŵr ein hafonydd a’n llynnoedd.

Llawer o ddiolch am y llythyr, am yr erthygl o’r ‘Telegraph’, ac am ei ddiddordeb. Brysia drosodd i’r hen ardal ar sgiawt eto.
--------------------------------------------------

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2005.
Dilynwch erthyglau Sgotwrs Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn -cliciwch 'View web version')



2.2.18

Gwynfyd -Chwyn

Erthygl o'r archif: pennod o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro. 

Planhigion gwyllt yn tyfu lle nad oes eu heisiau. Dyma sut  mae’r Geiriadur Mawr yn disgrifio CHWYN. Rwan, tydw i erioed wedi bod yn arddwr ac felly tydw i ddim yn deall yr obsesiwn efo chwynnu. Ac yn y geiriadur hefyd, ar gyfer CHWYNNU, ceir ‘glanhau’, sy’n ategu’r farn gyffredinol mai pla neu niwsans ydi chwyn.


Efallai imi gynnig yr un egwyddor yn y golofn hon am adar fel yr aderyn to, ond meddyliwch, ystyriwch am funud petai dant y llew yn brin; mi fyddai botanegwyr yn ei drysori a phawb yn rhyfeddu at y pen hyfryd o betalau melyn llachar. Byddai plant y wlad ddim wedi ei alw’n flodyn pi-pi yn gwely ers dechrau hanes, nac ychwaith yn dweud yr amser trwy chwythu’r hadau pluog oddi ar y goes. Mi fyddai’n anghyfreithiol hel y dail er mwyn eu hychwanegu i salad, ag i hel y gwreiddiau i wneud ‘coffi’ neu  foddion.

Mewn ffaith mae hanes y blodyn yma yn ddigon difyr gyda dros 200 o is-rywogaethau wedi eu cofnodi ym Mhrydain, a phob un yn debyg iawn i’w gilydd!

Un mantais fod pawb yn gwybod am fy niddordeb i mewn natur ydi’r rhwydd hynt dwi’n gael i esgeuluso’r ardd acw trwy hawlio ei fod o fwy o fudd i natur os yn wyllt a blêr! Tydi gerddi taclus, trefnus, sydd yn apelio i’r llygad, ddim bob tro yn dda i fywyd gwyllt ‘da chi’n gweld!!

Mi fyddai gwylwyr rhaglenni garddio S4C yn twt-twtian o weld y fath olwg sydd ar y tocyn pitw o ddrysni sydd wrth ddrws y ty ‘cw, ond hyd yma eleni bu 17 gwahanol aderyn yno gan gynnwys y pila bach sydd yn bwyta hadau dant y llew a phoeri plu y parasiwt wrth fynd atynt. Mae llwyd y gwrych yn nythu yma fel rheol yn y mieri a’r neidr ddefaid i’w weld ar ddiwrnod poeth yn torheulo ar y twmpath canghenau; felly hefyd sawl math o iar bach yr haf a phryfed eraill.


Mae’n anhebygol felly y gwelwch fi yn torri ‘nghefn yn chwynnu, tocio a phalu er mwyn meithrin blodau estron (sydd wedi gorffen am byth ar ôl deuddydd), heb son am ddefnyddio cemegau i ymwared â bywyd gwyllt naturiol yr ardal, ond, pawb at y peth y bo, ynde.

I mi nid oes gwella ar natur. Wrth wneud arolwg adar ym mis Ebrill ar un o warchodfeydd yr ardal gwelais y blodyn brydferthaf imi ei weld erioed, trilliw y twyni. O deulu’r blodyn yma y datblygwyd rhai o’r pansis addurnol i’r ardd, ac fel yr awgryma ei enw, mae i’r blodau dri lliw, piws, melyn a gwyn, ond yno ‘roedd tuswau melyn a phiws pur yn ogystal a’r ffurfiau amryliw hardd, a thuswau yn cynnwys un neu ddau o bob math. Yno, ‘roedd yn ei gynefin ac yn chwarae rhan pwysig yn yr ecoleg, mewn gardd, byddai’n ddiffrwyth ac annaturiol.
------------------------------------------------

Erthygl gan Paul Williams, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1997. 
Lluniau PW.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar y ffôn.)