14.8.18

Straeon Hanner Nos

“Mae drychiolaethau ar hyd y lle” 
Cyfres fer gan Bruce Griffiths.

A fyddwch chi’n credu mewn ysbrydion?  Na fyddwch, mae’n siwr; ni fyddech chi byth yn cyfaddef y fath beth.  Fe ddywedodd T.H. Parry Williams nad oedd yn credu mewn ysbrydion, ond bod arno eu hofn!  Ac meddai’r enwog Dr Samuel Johnson ynghylch y gred mewn ysbrydion “Mae pob dadl yn ei herbyn; ond mae pob cred o’i plaid.”  Pobl ddoeth a chall iawn yw’r geiriadurwyr ‘ma!  Eto, yn yr oes oleuedig hon, ni flinodd pobl ar glywed ac ar adrodd stori ysbryd.  Ni welais i ysbryd erioed; ni hoffwn i weld un ychwaith.  Ond dyma rai hanesion od ac annifyr a glywais i gan bobl nad oedd gennyf unrhyw le i amau eu geirwiredd, er mai anghredinwyr llwyr oedd rhai ohonynt, fel mae hi ryfeddaf!


Pan oeddwn yn yr hen Ysgol Cownti pwyswyd arnaf gan Miss Annie Roberts, yr athrawes Gymraeg, i gyfrannu ysgrif ar “Gwmbowydd” i Flodau’r Grug, cylchgrawn yr ysgol (fy ngwaith llenyddol cyntaf!!!).  Mi fum i’n cribinio trwy lyfrau hanes yr ardal am eu cyfeiriadau prin at y cwm, ond yr unig beth diddorol yn yr ysgrif oedd stori a glywswn droeon gan fy mam, sef bod ysbryd geneth yn cerdded y llwybr drwy’r cwm y noson cyn y Nadolig, neu ar nos Galan, geneth a lofruddwyd gan ei chariad.  Rhaid bod y stori hon ar lafar gwlad pan oedd fy mam yn llances, yn nauddegau’r ganrif ddiwethaf, dyweder.  Wrth adolygu Blodau’r Grug, sylwodd Ernest Jones, prif groniclydd ‘Stiniog, ar y stori a dweud i rywun weld yr ysbryd yng nghoed Cwmbowydd yn ddiweddar.  Pa sail sydd i’r stori tybed?  Er na chredai fy mam mewn ysbrydion, soniodd droeon am dŷ lle cerddai ysbryd, heb fod ymhell o’n cartref ni, ar Ffordd Wynne, yn rhywle rhwng yr hen Ysgol Sentral a Phont y Felin.  Ni wn i ragor: a wyr rhywun ohonoch yn amgenach?

Pan oeddwn yn byw ym Methania, cofiaf gymydog imi (nas enwaf) ac sy’n hanu o ardal Minffordd, yn dweud hanesyn rhyfedd. Un diwrnod yr oedd ym mharlwr ei gartef ym Minffordd a thrwy’r ffenestr gwelodd gydnabod iddo’n sefyll wrth y giât ac ar fedr dod at y drws ffrynt.  Rhyfeddodd yn fawr: y tro diwethaf iddo glywed amdano, ‘roedd y cyfaill yn ddifrifol wael yn ysbyty’r Port.  Erbyn agor y drws nid oedd neb yno.  Yn nes ymlaen clywodd i’r cyfaill farw yn yr ysbyty ar union yr un adeg ag y gwelsai ef wrth y giat!  Ac eto, meddai fy nghymydog, nid yw’n credu mewn ysbrydion!

Anghredadun rhonc fyddai fy nhad, John Griffiths: ac eto ganddo fo y clywais i stori ryfedd arall.  Adeg y rhyfel bu’n rhaid iddo fo a miloedd o Gymry eraill hel eu pac a mynd i Loegr i chwilio am waith.  Aeth i weithio mewn ffatri alwminiwm mewn lle o’r enw Stockton ger Leamington Spa.  Un diwrnod yr oedd o a gweithiwr arall yn agor ffos neu cloddio rhywbeth, fel eu bod y tu ôl i glawdd o bridd ac islaw lefel y ddaear.  Clywsant swn traed gweithiwr arall yn agosau atynt, ond o’r golwg iddynt.  Yr oedd yn hawdd ei adnabod ar ei gerddediad, felly dyma nhw’n ymsythu i’w gyfarch.  Aeth swn y troedio heibio iddynt, ond nid oedd neb i’w weld.  Bryd hynny y cofiasant i’r cyfaill hwnnw farw wythnos ynghynt.

Mae cof gennyf – yn anffodus, brith gof yn unig – o Mrs Catherine (Cadi) Griffiths, Tŷ’r Stesion, Tanygrisiau yn son am rhywbeth sinistr.  Magwyd hi yn Sgwâr y Parc.  Yr oedd yno dŷ, meddai, yr oedd ar bawb ofn mynd iddo.  Yr oedd gan yr un a drigai yno – ni chofiaf p’un ai gŵr ynteu gwraig – allu annifyr iawn.  Gallai wneud i bethau dienaid symud trwy estyn llaw neu fys atynt.  O’r gadair freichiau ger y tân gallai estyn llaw a pheri i’r heyrns tan ddawnsio a symud o flaen y lle tân.  Wel!  Ni chlywswn erioed y fath beth: ‘roedd yn peri i ias redeg i lawr fy nghefn i, ac am a wn i mae meddwl am y peth yn codi arswyd o hyd.

A all cathod weld pethau sy’n anweledig i ni?  Mae llawer wedi credu hynny.  Soniodd fy Nain droeon am yr adeg pan oedd ei mab, f’ewythr Tomi o annwyl goffadwriaeth, yn ei wely yn ddifrifol wael.  Bob dydd deuai’r gath i’w lofft i orwedd ar ei wely a chadw cwmpeini iddo.  Ond un diwrnod, ni ddaeth y gath ddim ymhellach na throthwy’r llofft.  Mi safodd hi, syllu ar wyneb y claf, troi, a sgrialu trwy’r tŷ nes bod y matiau’n fflio, ac allan a hi.  Ni ddaeth yn ei hôl tan dridiau’n ddiweddarach, ar ôl cynhebrwng Tomi druan.
----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Hydref 2002.
[Llun -Paul W.]

10.8.18

Pant Llwyd

Y drydedd bennod yng nghyfres Atgofion Pant-llwyd, Laura Davies

Mab hynaf Laura Roberts, Dafydd, a’i wraig oedd yn byw drws nesaf ond cwsmeriaid Kitty Ephraim oedd hi.  Galwn yn tŷ nesaf, lle trigai Mr a Mrs Joe Hughes, rhieni Gwen a Dafydd (nid wyf yn sicr o enwau’r rhai ieuengaf).  Priododd Dafydd a Gladys Jones, merch Mr a Mrs Ellis Jos, Bron y Graig, Llan a bu i’r ddau ymgartrefu yng nghyffiniau Llandudno.  Cwsmar Mrs Ephraim oedd Mr a Mrs Jôs, Tŷ Mawr.  Cyn hyn ‘roedd Tŷ Mawr yn gartref i un o arwyr enwocaf Pant Llwyd – Ifan Jôs, Rhosydd (Syr Ifan yn ddiweddarach – y fo oedd goruchwiliwr Chwarel Groes y Ddwy Afon hyn 1906 a Chwarel y Rhosydd 1906 i 1929.  Bu’n gapten yn y rhyfel byd cyntaf a chymerodd ran flaenllaw ym mywyd sir Feirionnydd – ei fam oedd Elin Jones.


Drws nesa, yn Moelwyn View, ‘roedd merch Mr a Mrs Jones, Lizzie a’i gŵr, Ben Robats (cigydd) – rhieni'r efeilliad Gwen a Richard, yn byw.  Wedi i’r teulu yma ymfudo i Sir Fôn, cyn y rhyfel, aeth John Huw Roberts a’i wraig i fyw yno, o Dan y Bryn.  Symud ymlaen ‘rwan’ trigai Mr a Mrs Danial Robets, rhieni Mrs Ethel May Jones (mam Denis a Philys, Llain Wen) drws nesa.  Ym Mhreswylfa trigai gŵr gweddw, Dafydd Jôs, ei howscipar, Miss Naomi Jôs a’r plant, Beti, Annie a Doris.  Arferai Dafydd Jos werthu cig Seland Newydd.  Bob dydd Gwener, deua’r cig mewn sachau o’r stesion a byddai bwrdd y gegin yn llawn o ddarnau o gig oen wedi eu pacio mewn papur menyn yn barod i’w ddosbarthu o gwmpas y pentra’.

Mr a Mrs Morris Jôs oedd yn byw yn drws nesaf (rhif 24 Frondeg heddiw).  Rhieni i Jos, Sal ac Ifor (collasant dri baban).  Mi ‘roeddwn yn adnabod Ifor yn dda gan ei fod wedi bod yn was bach gyda ni pan oeddem yn byw yn Sofl y Mynydd yn y dauddegau.  Priododd Jos a Miss Margaret Davies o Benrhyndeudraeth a hwy yw rhieni Robat Maldwyn a Nan Rowlands, Llan.  Un wych iawn am adrodd oedd yr hen Fusus Jôs.

‘Roedd y tri tŷ wedyn yn rhan adfeilion.  Ond erbyn heddiw maent wedi eu hadgyweirio – diolch Iddo!  Nid oedd y ddau dŷ olaf o Bant Llwyd, Tan y Bryn, yn rhan o’r rhes ond safai’r ddau ar led wahan, yn y pen uchaf.  Ar y pryd oeddwn i’n gofio, Mr a Mrs Huw Robats, rhieni Annie, John Huw, Robat Elis, Emrys a Meurig Tegid a drigai yno.  Byddai buwch Huw Robats yn pori ar y llechwedd yng nghefn y tŷ.  Wedi i Huw Robats fudo oddi yno mi ddaeth John – mab Mrs Robats – a thad Nansi Belle Vue, yno i fyw.  Mrs Ephraim oedd yn byw yn drws nesa’ wedyn.  Cartref hefyd i Chris (a gollodd ei fywyd yn y rhyfel), Maggie, John a Ned Ephraim.

Mae y tai, deg ar hugain i gyd ar y llaw dde a rhyw amcan mai tua cant a hanner o bobl a phlant yn byw yno.  Ar draws y ffordd safai’r Capel Bach fel arweinydd i’r gynulleidfa ar draws y ffordd.  Adeiladwyd ef yn 1905 ac fe’i caewyd tua 1960 a’i werthu i wneud tŷ.  Cofiaf yn glir ac yn dda am y cyngherddau, sosials, a ‘steddfoda yn yr hen Gapel Bach.

Fel y soniais, man meithrin diwylliant cefn gwlad oedd Pant Llwyd yn y tridegau.  Cynhaliwyd gwasanaethau, Ysgol Sul, cyfarfodydd gweddi, Band of Hope, cyfarfodydd dirwestrol a chymdeithasol.  Dysgwyd Rhodd Mam a’r Hyfforddwr.  Dysgodd William Ephraim ddegau o blant i ganu.  ‘Roedd yna gryn ddysgu adrodd a chanu.  Debyg mai yma y dechreuoedd Parti Côr Telyn y Bryniau, gyda Wil Yoxal, Wally Defis, Arthur Ellis, Andrew Roberts, Ellis Robarts, Mabel Robarts, Mrs Ephraim, Dol Robarts, Annie Laura, Mary Owens, Alice Stephens, John Pritchard a Dafydd Price yn arweinydd.
(i’w barhau)
-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis web view i weld y dolenni)

Llun -Paul W


6.8.18

Stolpia -Wagan Gynta'r Rýn

Cyfres Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y '50au, gan Steffan ab Owain.

Erbyn yr 1950au roedd y ‘Lein Fach’ fel y gelwid Rheilffordd Ffestiniog gennym, a’r ryn o wageni a gariai lechi ‘Stiniog i lawr i Borthmadog wedi dod i ben, ac o ganlyniad, roedd bariau’r rheilffordd, yn ogystal â rhai o’r hen wageni wedi dechrau rhydu. Cofiaf bod un wagen wedi ei gadael ar ei hochr ger y lein yn y Dinas, yng ngwaelod yr inclên a ddeuai i lawr o’r Gloddfa Ganol.


Cofiaf  hefyd bod un arall wedi ei gadael nid ymhell o’r Bont Fawr (Bont Goch), ac er nad oedd hi wedi bod mewn defnydd am beth amser, medrodd yr hogiau mawr a oedd yn hŷn na ni ei chodi yn ôl ar y cledrau, ac yna gwthio hi rhyw ychydig i lawr y lein at y Dinas. Er bod yr hen wagen yn gyndyn o hwylio neu redeg yn rhwydd ar y lein i ddechrau, dechreuodd ei holwynion droi yn rhwyddach yn y man, a chawsom bas i lawr arni hi hyd at Y Groesffordd, lle byddai y diweddar Ali a Len ei frawd yn byw. Rhoesom naid oddi arni yn y fan honno ac yna aed ati hi i’w gwthio’n ôl at y Dinas, ac i ryw bedwar o hogiau bach wneud hynny, roedd yn dipyn o strach, credwch fi! Wedi ei chael at y fan lle roedd hi’n hwylus inni neidio arni hi y diwrnod canlynol, gosodwyd cerrig dan yr olwynion i rwystro iddi redeg i lawr yn ei hôl.

Beth bynnag, roeddem i gyd yn edrych ymlaen am gael pas (reid) arni hi drannoeth, ond pan aethom yno, roedd rhai o’r hogiau mawr wedi tynnu’r cerrig a rhedeg y wagen ymhell i lawr y lein er mwyn iddynt hwythau gael pas arni a dipyn o hwyl. Aeth dyddiau heibio cyn i’r wagen ddod i’r fei drachefn, ac o beth a gofiaf, rhyw un tro arall a gawsom yn eistedd ynddi a chael pas a hwyl iawn yn mynd i lawr y lein fach. Ychydig wedyn penderfynodd rhai o ddynion yr ardal ei thaflu ar ei hochr fel nad oedd neb yn mynd i gael anaf yn chwarae efo hi.

Roedd y Bont Fawr a Phenybont yn fan chwarae answyddogol inni ar ddydd Sadwrn ac yn ystod gwyliau’r haf hefyd. Mae hi’n anodd credu heddiw, ond rwyf yn rhyw led gofio Io, Ken, Dei Clac a finnau yn mynd i fyny i ben y bont gyda hen hancesi poced, neu ddarnau bach o hen gynfas gwely, tameidiau o linyn, cyllell boced, a phytiau o hen soldiwrs plwm, neu washars, ac yna gwneud parasiwtiau i’w gollwng i lawr o’r bont i’r hen lein fach islaw. Neu weithiau, byddid yn gwneud awyrennau papur a’u hedfan o ben y bont, i ble bynnag y byddai’r gwynt yn eu cipio. Cofiwch, roedd tipyn o waith cerdded i lawr o’r bont i nôl y parasiwtiau, ac ar ôl gwneud hynny rhyw un waith neu ddwy, buan iawn y blinid ar y gêm, a throi at rywbeth arall i’w chwarae.

Peth arall a gofiaf tra’n chwarae ar y lein fach oedd gweld mochyn bach (porchell) yn rhan uchaf y rheilffordd, sef wrth y bont a fyddai rhwng y Bont Fawr a’r rhan a fyddai yn arwain at bont y ffordd fawr ger Chwarel Llechwedd. Methaf â chofio yn iawn os oedd yn fyw neu’n farw, a methasom ni’r hogiau a meddwl o ble ar y ddaear y daeth y creadur i’r fan honno. Wrth gwrs, roedd rhai yn cadw moch yn Nhalyweunydd y pryd hynny, ac y mae hi’n bosib mai wedi dianc o’i dwlc yn y fan honno yr oedd y porchell. Efallai bod un o’r hogiau yn cofio’r digwyddiad yn well na mi. 
--------------------------------------------
   
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.
Dilynwch Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Os yn darllen ar ffôn rhaid dewis 'web view').

Llun o gasgliad yr awdur.


2.8.18

Ffermydd Bro Ffestiniog -6

Parhau â chyfres Les Darbyshire, efo ail ran Plwyf Trawsfynydd.

Mae’r hen ffordd o’r Traws i Lanuwchlyn yn llawn o ffermydd diddorol a hanesyddol  i fyny i Benstryd.

Cychwynwn eto o hen bont Traws a mynd at y fferm gyntaf sydd ar y ffordd yma sef  Rhyd y Felin, a wedyn ymlaen i Dŷ’n Llyn, Tŷ’n Rhos, Derwgoed, Bryn Llefrith, Tyddyn Bach, Plas Capten, Gilfach Wen a Phenstryd. Dwy fferm arall  gyfagos ydi Rhiw Goch ac Adwy Goch. Mae’n rhyfedd fel mae hen enwau’r ffermydd yn cael eu llefaru, maent yn fiwsig i’r glust  ac mae mwyafrif ohonynt yn disgrfio natur y cylch neu eu lleoliad. Ond erbyn hyn, mae ystyr gwreiddiol yr enwau bron a’u colli. Cymerwn fel esiampl Brynllefrith. Dywedir bod carreg ateb yn ffridd y ffarm, a bod rhith ynglŷn â phob llef yno: LLEF- RITH.                     

Diddorol yw hanes ffarm Plas Capten. Yr hen enw arni oedd Gelli Iorwerth. Newidwyd yr hen enw pan wnaeth Capten John Morgan etifeddu’r ffarm. Roedd y Capten yn hannu, ar ochor ei fam, o deulu Llwydiaid Rhiw Goch. Swyddog ym myddin Siarl y Cyntaf oedd, ac yn ei gefnogi yn ystod y Rhyfel Cartef. Pan drechwyd byddin Siarl, bu rhaid i’r Capten ddianc a daeth i Gelli Iorwerth. Ond nid oedd yn ddigon diogel yno a bu rhaid iddo ymguddio mewn ogof. Ymgeleddwyd ef gan wraig a oedd yn byw yn ffermdy Wern Gron. Gelwir yr ogof gan rai yn ‘Siambr y Capten’, neu yn briodol ‘Carreg yr Ogof.’  Bu’n llechu yn yr ogof i ddianc oddi wrth filwyr Cromwell, a oedd am ei waed.  Bu iddynt wybod lle’r oedd a gorchmynwyd ef i ildio a rhoi ei hun o flaen y maen, ac fe’i saethwyd yn farw yn y fan ar lle.

Diddorol fel mae hanes yn ail adrodd ei hun - yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe ollyngodd awyren o’r Almaen un-ar-ddeg o fomiau rhwng Tomen y Mur a Phlas Capten a disgynnodd tair ohonynt yn Wern Gron, ond y bobl leol yn ddiolchgar nad oedd dim difrod wedi ei wneud!

Bedd Porus, dafliad carreg o Benstryd (llun Paul W)

Mae cylch Penstryd yn ddistaw y dyddiau yma. Dim ond fferm fach a’r capel sy’n aros, a diolch fod drws y capel yn dal yn agored. Yn ei fri ’roedd y pentre’n llawn bwrlwm o weithgareddau. Ar wahân i’r fferm, roedd Penstryd yn fan pwysig o ran trafnidiaeth. Cyfarfyddai pedair cangen o’r ffordd Rufeinig yn Mhenstryd, sef un i Ddolgellau, un i Harlech, un i Domen y Mur ac un i Lanfachreth. Mae enw Penstryd yn dod o’r cyfnod Rhufeinig - y gair ‘Stryd’  yn dod o’r gair ‘Strata’, sef ffordd Rufeinig wedi ei phalmantu ac i ddangos lleoliad, y gair ‘Pen’ i arwyddo bod y ffordd wedi cyrraedd ei brig.     

Roedd Penstryd yn bentre ar ben ei hun a thai gweithwyr i’r rhai oedd yn gweithio yn y mân-weithfeydd ar y bryniau cyfagos. Roedd Penstryd yn nodedig am ei gofaint, yma y gwnaethpwyd miloedd o glipiau neu bedolau gwartheg. Byddai llanciau cryfion yn cwympo’r gwartheg ar y gwastadedd a llu o ofaint yn eu pedoli cyn eu cychwyn i ffeiriau yn Swydd Gaint ac Essex. Mae’n werth nodi enw fferm gyfagos, er ei bod ym mhlwyf Llanfachreth, sef ffarm Dolgefeiliau - a oedd hefyd yn lleoliad i bedoli gwartheg – tybed a oedd cystylltiad rhyngddi â  gofaint Penstryd? Tybed ai ym Mhenstryd oedd y pedolau’n cael eu gwneud ond yn cael eu gosod yn Nolgefeiliau, trwy bod y ffarm honno yn ymyl Afon Eden a digonedd o ddŵr ynddi i ddyfrhau’r holl anifeiliaid a bod digonedd o borfa dda iddynt? Roedd hi’n daith o ryw dair milltir i’r gofaint o Benstryd i Ddolgefeiliau.

Rhiw Goch – dyma un o’r ffermydd hanesyddol mwyaf pwysig yn y fro. Bu teulu’r Llwydiaid yn berchen y plasdy yn ystod y 15fed, 16eg, a’r rhan fwyaf o’r 17eg ganrif. Nid oes cofnod o bryd yr adeiladwyd y tŷ. Roedd y Llwydiaid  yn bobl pwysig ym Meirionnydd, yn ddisgynyddion o Owain Gwynedd. Bu Robert Lloyd yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd ym 1586 a 1601, a bu hefyd yn Uchel Siryf ar bedwar achlysur.

Ym 1577, ganwyd John Roberts, y merthyr, yn Rhiw Goch. Magwyd ef yn brotestant yn Eglwys Sant Madryn, y Traws, ond trodd at yr hen grefydd babyddol a dod yn fynach. Cafodd ei addysg yn Ffrainc. Bu’n gweithio’n ddirgel yn Ffrainc, ac ef oedd y mynach cyntaf i ddychwelyd ar ôl i Harri VIII ddiddymu’r mynachlogydd, a hynny’n gyfrinachol. Adnabuwyd ef gan yr awdurdod Prydeinig fel drwgweithredwr ac roedd ysbïwyr yn ei wylio. Fe’i daliwyd, ac er iddo gael cyfle i ddianc, fe arhosodd i fynd gerbron y llys, pryd y dyfarnwyd ef yn euog o deyrnfrawdwriaeth. Cafodd ei grogi, ei ddadberfeddu a’i chwarteru  ar y 10fed o Ragfyr 1610.    

Gwynfendigwyd John Roberts ym 1929 a chanoneiddwyd ef ym 1970 gan y Pâb John Paul VI.  Bellach, gallwn ddweud fod un o blant y Traws wedi ei anrhydeddu’n Sant!

Mae llawer o wŷr amlwg wedi bod yn byw yn Rhiw Goch ers y cyfnod yna,  a bu’r ffermdy’n ffynnu tan ddechrau’r ganrif diweddaf pan ei phrynwyd  gan y Swyddfa Rhyfel ac addasu’r tŷ i fod yn ‘Officer's Mess’. Tua 1956, fe’i prynwyd gan Mrs Sally Snarr, Cross Foxes, Traws a’i addasu fel gwesty. Roedd gŵr Mrs Snarr yn ringyll a chogydd yn Rhiw Goch adeg yr Ail Ryfel Byd.
------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Mehefin 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (rhaid dewis web view os yn darllen ar ffôn).