24.9.21

Safle Treftadaeth y Byd

Fel y gwyddom bellach, bu’r ymgais i sicrhau dynodiad Safle Treftadaeth y Byd i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn llwyddianus gyda UNESCO yn rhoi eu penderfyniad cadarnhaol ddiwedd Gorffennaf. Yr ardal lechi yw pedwaredd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru, yn ymuno â llefydd fel Wal Fawr Tsiena, a’r Taj Mahal ar y rhestr rhyngwladol.  

Inclên enwog y Greigddu, a'r Blaenau yn y cefndir. Llun Paul W
 

Rhoddodd ein hardal do ar y byd, ac mae’r dirwedd llechi yn cael ei dathlu am ei chyfraniad byd eang yn darparu deunyddiau, pobl, sgiliau a thechnoleg i bedwar ban byd yn ystod y 19eg ganrif, yn ogystal a dathlu ein diwylliant, iaith a thraddodiadau arbennig sydd wedi siapio a diffinio ein cymunedau.

Y diwydiant llechi oedd y Cymreicaf o ddiwydiannau mawr Cymru a dyma’r ardal sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg heddiw; Mae dros i 70% o boblogaeth dyffrynnoedd llechi Gwynedd yn siarad Cymraeg, ac yn rhywbeth rydym yn ymfalchïo ynddi.

Fel rhan o ddatblygu’r dynodiad, mae Cyngor Gwynedd ac ystod o bartneriaid wedi bod yn cydweithio gyda chymunedau o fewn chwe ardal y cais ar y cynllun ‘LleCHI’ i ailgysylltu pobl gyda’u treftadaeth gyfoethog, i godi hyder a balchder ymysg trigolion a sbarduno adfywiad ein cymunedau.  Y murluniau ar siop Antur Stiniog ydi un o weithgareddau diweddar y cynllun yn Stiniog. 

 

Llun Cyngor Gwynedd

Hefyd, rhoddwyd brofiadau i bobl ifanc Bro Ffestiniog i ddysgu mwy am eu hanes a’u treftadaeth drwy gefnogi gweithgareddau Clwb Clinc, Cell a oedd yn cynnwys cerfio a hollti llechi, cyfweliadau, creu fideos byw ac ymgyrchoedd lleol.
Gwenan Pritchard, Cydlynydd Llechi Cymru.

----

Llun Paul W

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog

Mae’r gymdeithas yn cyd-weithio ar hyn o bryd efo Cyngor Gwynedd i ddiweddaru ac ail-argraffu y llyfryn Diwylliant Ymysg Diwydiant - sydd yn manylu ar y dywediadau a geir ar hyd y stryd. 

Fe'i cyhoeddir ar ei newydd wedd yn fuan iawn - ar yr un pryd ac y cytunir i'r cais i ddynodi Ardaloedd y Llechi ar restr Treftadaeth y Byd gobeithio.


----

Effeithiau Negyddol?
Nid pawb sy’n teimlo bod y dynodiad yn llesol, gyda’r mudiad Cylch yr Iaith, er enghraifft yn gweld peryglon difrifol yn codi o or-dwristiaeth ac angen mesurau penodol i warchod y cymunedau.

Dyma grynodeb o’r hyn oedd gan eu llefarydd, Howard Huws, i’w ddweud wrth Llafar Bro:
Mae nifer o fesurau y mae’n rhaid i Gyngor Gwynedd eu gweithredu er mwyn sicrhau na fydd y dynodiad yn cael effeithiau niweidiol ar ein cymunedau a’n hiaith. Mae’n eironig bod UNESCO ei hun, mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn gosod y Gymraeg yn y dosbarth ‘Bregus’ ar ei restr o ieithoedd Ewropeaidd sydd mewn perygl o ddiflannu.

Mae perygl i’r ardaloedd llechi ddod yn fwy o gyrchfannau gwyliau nag y maent eisoes. Mae Croeso Cymru â chwmni Twristiaeth Gogledd Cymru yn amcanu denu mwy fyth o ymwelwyr i ardaloedd fel Blaenau Ffestiniog os bydd yr enwebiad yn llwyddiannus.

Gan hynny, mae angen i Gyngor Gwynedd ateb y ddau gwestiwn canlynol:

1.    Sut mae’r Cyngor am sicrhau na fyddai mwy o stoc dai y Blaenau a’r cylch yn troi’n ail gartrefi a thai gwyliau tymor-byr, a dwysáu’r argyfwng tai? Mae astudiaeth academaidd yn dangos bod nifer dda o ymwelwyr i ardal yn dewis prynu tŷ yno fel ail gartref.

2.    Sut mae Cyngor Gwynedd yn mynd i sicrhau na fyddai denu mwy o ymwelwyr yn cynyddu’r mewnlifiad Saesneg ac felly’n gwanychu’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol? 

Cafwyd astudiaeth gan Bwyllgor Cludiant a Thwristiaeth Senedd Ewrop yn cyflwyno tystiolaeth fod Safleoedd Treftadaeth y Byd yn dioddef effeithiau gor-dwristiaeth, a bod Cymru eisoes yn un o'r lleoedd yn Ewrop sy’n amlygu hynny.

Mae’r duedd i ail gartrefi a thai gwyliau gynyddu mewnlifiad parhaol wedi’i dwysáu gan y pandemig, wrth i ragor o bobl ddod yma ar wyliau yn hytrach na mynd dramor; wrth i ragor benderfynu ymddeol yma’n gynnar; a rhagor symud i fyw yma a gweithio o gartref. Mae hynny’n codi prisiau eiddo, ac yn  gwaethygu’r argyfwng tai oherwydd na all pobl leol fforddio prynu tŷ yn eu hardal eu hunain.

Sut mae atal hynny? Rhaid i Gyngor Gwynedd gymryd camau a gosod mesurau penodol yn eu lle er mwyn sicrhau na fyddai’r dynodiad yn cael effeithiau negyddol ar y gymuned, er enghraifft gwneud Cyngor Tref Ffestiniog yn rhanddeiliad yn y Safle Treftadaeth y Byd trwy roi lle i’w cynrychiolwyr ar y Bwrdd Rheoli. Byddai hynny’n eu galluogi i fynegi barn gymunedol ar strategaeth, prosiectau a datblygiadau; Ail-lunio methodoleg yr asesiad ardrawiad iaith presennol fel ei fod yn llawer cadarnach, er mwyn gwneud yn siŵr na fyddai datblygiadau tai a datblygiadau twristaidd yn niwediol i’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Wedi’r cyfan, ein hiaith ydi ein treftadaeth gyfoethocaf fel bro ac fel gwlad, ac mae ei sefyllfa’n fregus. 

Gofynnwn i Gyngor Gwynedd ddangos ymrwymiad i wneud popeth sydd ei angen i sicrhau na fyddai dynodi ardaloedd y llechi yn Safle Treftadaeth y Byd yn gam a allai wneud sefyllfa’n hiaith yn fwy bregus fyth.
-----
Be ydi barn darllenwyr Llafar Bro? Gyrrwch air atom.


- - - -

Addasiad yw'r uchod o ddarnau a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021



17.9.21

Crwydro -Rhiwbach

Cyfres newydd am lwybrau'r fro.

Ar ôl prynu esgidiau cerdded newydd i’n teulu bach o bedwar, roedd rhaid mynd i chwilio am antur! Wrth fynd am dro uwch ben Llan Ffestiniog mi wnaethom ni ddarganfod hen chwarel Rhiw Bach. 

Roedd yr hen chwarel yn anhygoel ac yn llawn hanes. O enwau wedi cael ei cerfio mewn hen lechi, i hen hoelion wedi cael ei cuddio yn y waliau. 

Lluniau uchod gan Eirian Daniels Williams

Oes unrhyw un yn adnabod yr enwau yma sydd wedi ei naddu yn y waliau? Neu yn gallu rhannu ychydig fwy o hanes i ni am yr hen chwarel yma?  

Eirian Daniels Williams

 

Chwarel Rhiwbach yn y pellter, a chwarel Blaen y Cwm. Llun Paul W

Mae criw Llafar Bro yn cytuno efo chdi Eirian; mae Rhiwbach yn lle arbennig iawn, ac er ym mhlwyf Penmachno, mae cysylltiadau agos iawn ag ardal Stiniog yn hanesyddol, ac mae’n gyrchfan braf ar daith gerdded o’n hochr ni o’r mynydd.

Os ydi darllenwyr eraill Llafar Bro awydd mynd am dro, mae’n ddigon hawdd cyrraedd yno o ben uchaf Cwm Teigl: parciwch wrth fynedfa Chwarel Bwlch a dilyn y lôn drol i’r gogledd nes cyrraedd ffordd haearn Rhiwbach a throi i’r dde. Mi fyddwch yn fuan iawn ar ben uchaf inclên Rhiwbach, yn edrych dros yr hen chwarel a’i hadeiladau niferus. 

I’r rhai sy’n chwilio am daith hirach, gallwch gychwyn o Drefeini a chyrraedd ffordd haearn Rhiwbach trwy Chwarel Maenofferen. Cewch fwynhau’r daith heibio adfail Tŷ’r Mynydd (dyna le anhygoel i fyw!) a Llyn Newydd a Llyn Bowydd, a gweld golygfeydd gwych i bob cyfeiriad.

Mi ddylia fod copi o lyfr y diweddar Griff Jones, Cae Clyd (Rhiwbach Slate Quarry: Its history and development, 2005) yn y llyfrgell, ac o bosib yn Siop Lyfrau’r Hen Bost, ond yn y cyfamser mae Vivian, is-ysgrifennydd Llafar Bro wedi sgwennu’n helaeth am Rhiwbach hefyd.

Fel mae’n amlwg o brif stori rhifyn Gorffennaf/Awst, mae CADW, corff henebion llywodraeth Cymru, hefyd yn cytuno efo Eirian bod Rhiwbach yn arbennig. Diolch am rannu hanes eich taith; be am i ddarllenwyr eraill Llafar Bro yrru pwt o hanes un o’ch teithiau diweddar chithau?

Clwb Mynydda Cymru
Rhai eraill sydd wedi bod yn crwydro’n lleol yn ddiweddar ydi Clwb Mynydda Cymru. Mae’r aelodau wedi ymweld ddwywaith â Chwm Cynfal a Llyn Morwynion, gan gychwyn o’r Pengwern i Geunant Cynfal, heibio Pulpud Huw Llwyd, a dringo hyd at Lyn Morwynion a dychwelyd heibio Garreg Lwyd, Hafod Ysbyty a Chwm Teigl. Ar Orffennaf 14eg mi oedden nhw’n crwydro Bryniau Maentwrog, ac ar Sul y 18fed yn gwneud taith go heriol am 12 awr o ganol y Blaenau hyd bob un o gopaon Pedol Stiniog. Ewch i’w gwefan am fanylion pellach.

Cymdeithas Edward Llwyd
Ar y 12fed o Fehefin bu Cymdeithas Edward Llwyd yn crwydro Tanygrisiau a’r Llwybr Llechi, - cylch o gwmpas Dolrhedyn, Cwm Rhiwbryfdir, Tanygrisiau, Fron Fawr a Chefn Bychan- dan arweiniad Iona Price. Nid oes amnylion ar hyn o bryd am raglen haf y gymdeithas ond cadwch olwg ar eu gwefan hwythau.

---------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021



11.9.21

Henebion o Bwys

Cyn clywed am benderfyniad UNESCO ar ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, bu llawer iawn o weithgaredd ym myd llechi Bro Ffestiniog.

Mae CADW, corff henebion llywodraeth Cymru, wedi bod yn brysur iawn yn dynodi llawer o olion diwydiant llechi Stiniog fel henebion o bwys cenedlaethol yn ddiweddar. Dyma’r statws -a’r gwarchodaeth- a roir i’r cestyll a safleoedd archeolegol hynafol Cymru hefyd.

Efallai fod hyn yn hysbys i rai o’n darllenwyr, ond roedd yn newyddion newydd sbon danlli i Llafar Bro nes mynd ati i chwilio am wybodaeth mewn ymateb i erthygl fach hyfryd ddaeth i mewn gan un o’n dosbarthwyr lleol ni am grwydro chwarel Rhiwbach.

Dynodwyd inclêns Trefeini a Maenofferen; ffordd haearn Rhiwbach; argaeau Llyn Newydd a Llyn Bowydd; inclên Blaen y Cwm; ac inclên a chwarel Rhiwbach a’i hadeiladau amrywiol, yn heneb swyddogol a warchodir o hyn allan gan y gyfraith. Enw'r heneb ar y gofrestr o henebion o bwys cenedlaethol ydi Chwarel Rhiwbach, y Dramffordd a’r System Inclein (CN414), ac fe hysbyswyd y perchnogion tir o'r dynodiad swyddogol yn gynharach eleni, ar ôl cyfnod o ymgynghori.


Ffordd Haearn Rhiwbach ar lan Llyn Bowydd. Llun PW.

 

Bu’n ddigon anodd canfod manylion am hyn ar y we, ond o edrych yn fanylach (Archwilio -adnodd gwych ar gyfer nodweddion hanesyddol Cymru) mae’n ymddangos fod Cadw wedi dynodi’r canlynol hefyd: 

Dynodwyd Chwarel Diffwys yn heneb ym mis Gorffennaf y llynedd (CN413); Tomen Fawr yr Oclis ac olion Chwarel Nyth y Gigfran (CN422) ym mis Chwefror eleni; Chwarel y Wrysgan a’i hinclên drawiadol (CN423) fis Mai, a Chwarel Cwmorthin (CN425) fis Mehefin eleni! 

Mae Llafar Bro yn deall na fu ymgynghori efo Cyngor Tref Ffestiniog nac efo Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, ac yn siomedig, nid yw Cadw wedi rhannu unrhyw wybodaeth efo papur bro y cylch! Nid yw’n amlwg i mi fel rhywun sydd wedi crwydro pob un o’r chwareli yma llynedd ac eleni, fod arwyddion na hysbysiadau cyhoeddus wedi eu rhoi allan ar y safleoedd i annog y gymuned i ymateb i’r ymgynghoriad ychwaith. 

Serch hynny, testun balchder dwi’n siwr ydi’r cydnabyddiaeth o bwysicrwydd chwareli Stiniog i dreftadaeth Cymru.

Efallai y cawn fanylu mewn rhifyn arall o Llafar Bro. Be mae ein darllenwyr yn feddwl? Gyrrwch air atom.

Melin Maenofferen
Mae un o is-gwmniau Llechwedd, 'slate heritage international ltd' wedi cael £7,500 gan y Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol, er mwyn archwilio'r posibilrwydd o droi melin eiconig Maenofferen yn 'residential and activity centre for youth groups from across the UK'...

Mewn ymateb i ymholiad gan Llafar Bro, dywedodd llefarydd ar ran y gronfa “Bydd cyfleoedd i’r gymuned fod yn rhan o siapo’r cynlluniau am ddyfodol cynaliadwy.” 

Mae Cwmni Bro Ffestiniog wedi cysylltu â Llechwedd i gynnig hwyluso’r ymgynghoriad cymunedol hefyd, ac mi fyddwn yn rhannu unrhyw drefniadau efo chi yn y rhifyn nesa* ac ar ein cyfryngau cymdeithasol. 

Ai dyma'r defnydd gorau i safle mor bwysig? Onid oes digon o ganolfannau awyr agored yn Eryri eisoes, o Blas Dolymoch i Blas Gwynant a Bwlch Nant yr Haearn a llawer un arall? Be ydi'ch barn chi? Edrychwn ymlaen i gael cyfrannu at y drafodaeth.

Nôl yn y gwanwyn fe gyhoeddodd Clwb Clinc ieuenctid Cell -fel rhan o brosiect LleChi- ffilm fer am hogyn lleol -Owain Jones- yn apelio’n angerddol ac aeddfed iawn am warchod y felin ar gyfer y gymuned; gwarchod treftadaeth a hanes diwydiannol ein hardal i genedlaethau’r dyfodol. 


 Mae angen cryn waith i atgyweirio’r felin, a hoffai Owain weld amgueddfa yno neu rywbeth fel bod pobl leol yn cael gweld rhan bwysig o’u hanes. 


Melin Maenofferen; mae cyflwr y to yn dirywio o ddydd i ddydd. Llun PW.

--------------------------------------

* Yn anffodus wnaeth Llechwedd ddim ymateb o gwbwl i gais Cwmni Bro, ond gobeithir y bydden nhw'n gweld bod gan y gymuned hawl i'w llais ar ddyfodol yr adeilad.

 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn  rhifyn Gorffennaf/Awst 2021

Diweddariad -o ryw fath- o Ragfyr 2021


Cylch Meithrin Ffestiniog

Eitem a ddisgynnodd trwy'r rhwyd wrth drosglwyddo deunydd rhifyn Medi i'r wasg, gydag ymddiheuriad i Mari.

Llythyr agored i Llafar Bro

Llan Ffestiniog- Cylch Meithrin Ffestiniog
Mae diwedd tymor (arall) wedi bod. Tydi hi heb fod yn flwyddyn heb iheriau, ond mae’r ymroddiad a'r proffesiynoldeb parhaol mae’r staff wedi dangos mor galonogol i’r Cylch.

Mae fy nghyfnod i, fel Person Cofrestredig yn dod i ben y tymor hwn. Mi fuaswn yn hoffi diolch am y profiad ac i’r holl rieni sydd wedi, ac yn parhau i wirfoddoli. Heb bwyllgor, yn syml does ddim Cylch. Mae’n bleser pur yn gweld cymaint o fwynhad mae’r plant yn gael o fynychu’r Cylch, a'r parotoad i’r ysgol yn amhrisiadwy.

Ym 2017 mi ddaru’r Cylch gael cartref newydd sef y YM yn y pentref. Mae’r gefnogaeth rydym wedi- ac yn parhau i dderbyn ganddynt yn arbennig, felly diolch yn fawr i chwithau hefyd.

Felly dyna’r oll sydd ar ôl i’w ddweud, yw pob hwyl i chi gyd ar bwyllgor newydd (gwych) fydd yn parhau i wirfoddoli er mwyn cadw’r Cylch i lewyrchu a’i barhau i basio ymlaen i’r rhieni newydd am flynyddoedd i ddod.
Gyda chofion gorau,
Mari Williams.

4.9.21

Cysylltiadau America

Pennod o gyfres Cysylltiadau Dalgylch Llafar Bro ag America gan W. Arvon Roberts

Eglwys Bresbyteraidd Cymraeg Bangor, Pensylfania

Dechreuodd y Cymry ymsefydlu yn Bangor ac East Bangor, Sir Northampton, Pa, tua 1864.  Cawsant eu tynnu i’r ardal gan y diwydiant llechi.  Pan gyrhaeddodd Robert M. Jones (1822-1886), maer cyntaf Bangor, enw y pentrefan oedd New Village.  Enw’r lle yn wreiddiol oedd Titusville.  Gwelodd Jones ei gyfle i newid yr enw i Bangor, ar ôl Bangor, gogledd Cymru.  Brodor a anwyd yn Caeberllan, Bethesda, oedd R.M. Jones, ac yn fab i weinidog Methodistiaid Calfinaidd.  Ymfudodd i’r America yn 24 oed, ac ymsefydlodd yn Slatington, Pennsylfania, lle yr agorodd chwarel lechi.  Ef hefyd oedd sefydlydd tref Bangor, yn ddiweddarach gwnaeth ei gartref yn Portland, saith milltir i ffwrdd o Bangor.  Ar ôl ei farw codwyd cofadail iddo ar lawnt Ysgol Uwchradd, Bangor, ac un arall yn y Llyfrgell Cyhoeddus yno.

Map comin Wikimedia


Sefydlwyd Eglwys Bresbyteraidd Cymraeg Peniel, Bangor, gan sefydlwyr Cymraeg yn 1873.  Cyn corffori’r eglwys cychwynodd yr Ysgol Sul cyntaf yno yn 1867, mewn ystafell fechan uwchben storfa William Speer, lle saif Ariandy Merchant erbyn heddiw.  Yn y gwanwyn a’r haf, 1873, yr oedd yr aelodau yn addoli mewn ty ysgol bychan lle y mae yr Eglwys Lutheriaid yn sefyll heddiw.  Yn Mehefin o’r un flwyddyn dechreuont adeiladu eglwys eu hunain ar Stryd North First, a rhoddodd y Cymry yr enw Peniel arno.  Corfforwyd yr eglwys yn 1886 o dan yr enw y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg neu hefyd Eglwys Presbyteriadd Bangor.  I fyny hyd yr amser hwnnw ac am yr ugain mlynedd canlynol, yr oedd y gwersi Ysgol Sul a’r llaw-lyfrau i gyd yn yr iaith Gymraeg.  

Cerdyn post o gasgliad yr awdur
 

O’r 1890au wrth i’r gynulleidfa gynnyddu, rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r Gymraeg a dechreuwyd siarad a cynnal gwasansaethau yn Saesneg.  Yr oedd angen adeilad ehangach ar gyfer y gynulleidfa oedd yn dal i gynnyddu, ac mewn cyfarfod yn Ebrill, 1908, penderfynu ychwanegu rhagor o le at yr adeilad.

Aeth yr eglwys ar dân yn 1912 a bu’r gynulleidfa yn defnyddio yr Eglwys Bresbyteraidd Cyntaf (sefydlwyd yn 1874) hyd nes iddynt godi capel newydd.  Adeiladwyd Peniel newydd yn fuan ar ôl hynny a ddefnyddiwyd hyd at 1948 pan ymunodd yr Eglwys Presb. Cyntaf ac Eglwys Presb. Peniel i ffurfio Eglwys Presb. Bangor.  Unwaith eto, llosgodd hen eglwys Peniel pan oedd y gwaith o rhoi y system twymo yn mynd ymlaen.  Yn 1972 unodd Henaduriaeth Bangor gyda Eglwys Presb. Roseto, a sefydlwyd gan yr Eidalwyr yn 1894, ac adeiladodd y gynulleidfa unedig adeilad modern ar Kennedy Drive yn nhref Roseto.  Y mae’r eglwys bellach yn deml i’r seiri rhyddion.

***********

Yn 1874 bu Robert Roberts a’i briod, aelodau gwerthfawr yn Eglwys Peniel, wrthi’n ddiwyd yn casglu arian at ddileu dyled yr eglwys honno.  Un a roddodd gymorth i Robert Roberts yma yng Nghymru, i sicrhau casgliad rhagorol yn Ffestiniog a’r cylchoedd, oedd Thomas Roberts, Rhiwbryfdir.  


Wele adroddiad o’r casgliad:

Rhiwbryfdir, Ffestiniog    £28.16.6
Bethesda, Ffestiniog    £4.0.0
Tanygrisiau, Ffestiniog   £3.18.3½
Tabernacl, Ffestiniog    £7.0.0
Dolwyddelan (Blaenau a’r Llan)    £5.0.0
Peniel, Ffestiniog     £8.4.6
Croesor, Ffestiniog    £1.10.0
Penrhyndeudraeth    £2.10.3½
Evan Jones, Ffriddlwyd, Ffestiniog     10.0

Casgliadau 1877:

Ffestiniog –Sett Quarry    £1.0.6
Bronygoeden    3.0
Chwarel Croesor   £1.14.0
Penrhyndeudraeth    9.0
Boncuchaf Welsh Slate    £2.12.6
R. Owen, Ysw.   £1.0.0
Trwy law J. Hughes, Tre’r ddôl   £1.12.6
Dosbarth Talywaenydd     17.10
Bonc D.E. Welsh Slate    19.9½
Tanygrisiau, trwy law Miss Coly a Miss Ellen Jones    £6.12.8
Dosbarth Glanypwll      18.2
Dosbarth Salem    £2.7.3
Lefel Galed, trwy law Mr. Owen   £4.0.1
Trwy law T. Hughes, Castell Barlwyd    10.6
Casgliad Conglywal     £2.5.0
Dosbarth Frondeg   £5.12.0
Cwmorthin    £9.0.0
Chwarel Conglog     £2.14.6
Chwarel Rhosydd     £3.0.0
Cwm Penmachno    £5.9.5
Chwarel Wrysgan    £2.2.0
Moelwyn      10.0
Trwy law J. Davies, Graigddu     £1.15.0
Trwy law Miss A. Owen a J. Jones    £1.4.6
Trwy law R. Jones a D. Williams    10.4
Trwy law Miss C. Williams, A. Roberts    18.0
Trwy law J. Richards      11.0
Trwy law T. Hughes    12.6
Trwy law J. Blunt     £1.8.0
Henry Richard, A.S.     £1.0.0
-------------------------------------


[Derbyniwyd yr erthygl uchod ar gyfer rhifyn Medi, ond yn anffodus nid oedd lle i'w chynnwys]