31.12.21

Cwmni Bro -dysgu a rhannu

Llwyddiant Ysgubol i Gwrs Cynefin a Chymuned Bro Ffestiniog

Cafodd nifer o bobl bleser mawr o gymryd rhan mewn teithiau maes a darlithoedd cwrs Cynefin a Chymuned oedd yn cael ei gynnal gan Gwmni Dolan ac yn cael ei noddi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llechi Cymru yn ystod hydref 2021. 

Cafodd y rhai oedd ym mynychu'r cwrs y fraint o glywed am hanes economaidd yr ardal gan Selwyn Williams, gan gynnwys hanes Llanberis hefyd, ardal sy’n debyg iawn i Flaenau Ffestiniog yn ddiwydiannol. 


Cafwyd taith o Landecwyn i Fwlch y Gorddinan gyda Twm Elias (gwelir y llun), yn egluro’r tirlun a’r hanes ynghlwm a phob llecyn o dir. Penderfynodd ardaloedd Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle gynnal cyrsiau Cynefin a Chymuned eu hunain hefyd, i ddathlu’r hanes a thirlun eu bro nhw. 

Mewn oes lle mae’r iaith Gymraeg dan fygythiad, lle mae enwau brodorol ar dai, mynyddoedd ac afonydd yn cael eu Seisnigo, lle mae hanes yn cael ei golli gan y genhedlaeth nesaf, a lle mae nifer o bobl yn symud mewn i gymdeithas heb wybod am gefndir y lle; mae cwrs fel hyn yn allweddol i ddangos gwerth cymuned, integreiddio pobl mewn i’r fro, a chryfhau statws yr enwau sydd dan fygythiad o gael eu colli. 

Bydd trafodaeth yn codi o fewn y misoedd nesaf i redeg y cwrs blwyddyn nesaf, a’r blynyddoedd i ddod.
- - - -

Y Zapatistas yn galw yn Stiniog!

Cafodd swyddfa Cwmni Bro'r pleser o gyfarfod aelodau'r grŵp gwleidyddol yma o Chiapas, Mecsico, ddiwedd Hydref.

Roedd yn uno dri chriw sy'n teithio'r byd dros y misoedd nesaf i rannu eu stori, ac i ddysgu gan eraill hefyd.

Ffurfiwyd Ejército Zapatista de Liberación Nacional (Byddin Rhyddid Cenedlaethol y Zapatistas) ym 1983 ac maent wedei ymladd yn erbyn anghydraddoldeb cymdeithasol tuag at y boblogaeth frodorol ers hynny.

maen nhw'n dal i ymgyrchu trwy ddulliau di-drais, dros hawliau bobl gynhenid, hawliau merched, statws eu hiaith a'u traddodiadau, a mwy.
- - - - - -

Addasiad o ddarnau a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021.


28.12.21

Gwreiddiau -Yr Erial

Dilyniant i erthygl un o hogia Maen Fferam

Dros y blynyddoedd mae sawl un wedi ysgrifennu yn Llafar Bro am eu dyled i’r addysg a gawsant yn ysgolion y fro. Ym 40au a 60au y ganrif ddiwethaf, i drigolion Blaenau, ‘roedd Slate Quarries, Central a’r Cownti yn eiriau cyfarwydd iawn ar dair o’n hysgolion. 

Ond fel i bopeth arall daeth newid i fyd addysg. Cyfunwyd yr Ysgol Ramadeg -Y Cownti- a’r Ysgol Fodern -y Central- yn y 50au fel rhan o bolisiau addysg cenedlaethol i sefydlu ysgolion cyfun yng Nghymru. Dyma pryd y diddymwyd arholiad yr 11+ gyda’r bwriad o hyrwyddo cydraddoldeb a chyfle cyfartal i bob disgybl. 

Cymerodd flynyddoedd i gyflawni hyn yng Nghymru ac fel y gwyddom, yn Lloegr ni chwblahwyd y broses ac mae rhai awdurdodau lleol yn dal i gynnal ysgolion gramadeg. Beth bynnag yw eich barn ar y chwyldroad yma, rhaid cydnabod blaengaredd a gweledigaeth Cyngor Sir Meirionnydd am fod yn un o’r Awdurdodau cyntaf ym Mhrydain i ymateb i’r her. 

Ond i lawer ohonom fe erys yn y co’ y canolbwyntio a’r hyfforddi dwys ar gwricwlwm cyfyng iawn. Buasai'r Gymraeg, Saesneg a Syms a mwy o Syms, yn ddisgrifiad teg o’r hyn a ddysgem yn ddyddiol. Pasio’r arholiad ac ennill Gwobr Brymer oedd y nod. Ac fe roedd Prifathro Maenofferen J S Jones yn feistrolgar tu hwnt yn ein paratoi ar gyfer yr arholiad. Yn wir prin iawn oedd y profiadau addysgol eraill y clywn cymaint amdanynt heddiw- yr amgylchedd’, sgiliau personol a chymdeithasol! Y llechen las a phensal nid lap top neu iPad oedd ein 'notebooks' ni pryd hynny! 

Ar hyd y blynyddoedd fel y newidiwyd ac addaswyd cyfundrefnau, a chwricwlwm byd addysg newidiwyd hefyd y drefn o asesu gwaith y dysgwyr. Wedi mynd mae arholiadau'r CWB; TA; Lefel O ac eraill i wneud lle i’r gyfundrefn newydd fu’n destun cymaint o bryder yn ystod y pandemig yma. Ar y cyfan mae’r Lefel A wedi dal ei thir a’i statws ar gyfer disgyblion ôl-16 ers blynyddoedd lawer. Bydd nifer ohonom fu’n astudio Daearyddiaeth at Lefel A yn y 50au yn cofio y byddai’n ofynnol i bob ymgeisydd sgrifennu traethawd estynedig ar destun daearyddol.

Ym 1956 es i ati i sgwennu fy nhraethawd ar ‘Chwareli Blaenau’. Dyma’r adeg es i ar grwydr i'r chwareli megis Llechwedd, Maenofferen a Lord i dynnu ychydig o luniau i’w cynnwys yn y traethawd sydd yn fy meddiant hyd heddiw. Pan soniais am Dŷ’r Mynydd yn y rhifyn diwethaf cyfeiriais at fy nhaid Wmffra Jones fel un o’r tȋm a adeiladodd yr Erial fu’n ran anatod o dirlun y Blaenau am flynyddoedd. Gan obeithio y bydd o ddiddordeb amgeuaf lun o’r ‘criw’ a adeiladodd yr Erial ym 1932. 

 

Mae fy nhaid yn eistedd ar yr ochr dde yn rhes flaen y llun gyda phren mesur yn ei law. Mae ambell i wyneb yn gyfarwydd imi ond ofnaf na allaf enwi ‘run ohonynt. Tybed all darllenwyr Llafar Bro daflu goleuni ar y mater?


Ychydig o luniau 'swyddogol’ sydd o’r Erial am y gwn i ond mae gennyf lun neu ddau o’r peiriant yn gweithio ym 1956 gan imi eu cynnwys yn y fy nhraethawd Lefel A. 

 


Dydy nhw mo’r lluniau gorau na’r cliriaf: ‘doedd y camera a ddefnyddiais ddim mor soffistigedig ȃ iPhones heddiw! Ond fe’i atodaf rhag ofn y gellir eu cynnwys ran diddordeb. Beth bynnag fo eu gwendidau fel lluniau maent serch hynny yn hanesyddol ac yn sicr o ddwyn atgofion . Wedi’r cyfan dyma’n Zip World ni yn y 50au onide? 

Gareth Jones

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021.

Pennod 1 Gwreiddiau


24.12.21

Stolpia -strach y bwrdd llifio

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Credaf mai yn haf 1969 yr aethom â’r ‘bwrdd mawr’, sef bwrdd llifio gyda llif gron a blaenion diemwnt arni hi i fyny i Felin Sing-Sing ar Lawr 7 am y tro cyntaf. Byrddau bach hen ffasiwn, h.y. byrddau llifio gyda llafnau haearn oedd yno pan ddechreuais i weithio yn Chwarel Llechwedd. 

Enghraifft o fwrdd bach ar gyfer llifio clytiau

Gan ein bod angen lle tipyn ehangach ar gyfer gosod yr un newydd gofynnwyd imi dorri rhai o’r byrddau bach yn ddarnau. Cofier mai haearn bwrw oeddynt, a serch fy mod innau yn eu taro gyda gordd haearn drom roeddynt yn gyndyn o falurio. Yn wir, byddai’r ordd yn trybowndio i fyny’n ôl yn aml iawn, ac heb wneud argraff arnynt gan eu bod wedi eu gwneud mor wydn. Os cofiaf yn iawn, mai byrddau llifio Owen Isaac Owen, Porthmadog oeddynt, ac wedi eu gwneud yn y ffowndri yno. 

Yr adeg honno, ar y ffordd haearn y byddid yn cludo y rhan fwyaf o bethau trwm, naill ai mewn wagen rwbel neu ar slêd, ond y tro hwn ar ben wagen lechi (neu wagen slaitj, yn ôl term y chwarel) y gosodwyd y bwrdd mawr. Clymwyd y bwrdd llifio efo cadwyni yn sownd yn y wagen wag a gwthiwyd hi yn raddol gydag injian, i gyswllt ‘Inclên No. 7’ ac aeth pethau yn bur dda. Pa fodd bynnag, gan mai amrediad cyfyng oedd ar echelydd olwynion wageni llechi, yn wahanol i wageni rwbel a’r sledi, roedd yn rhaid i led y ffordd haearn fod yn union 1 troedfedd a 11½ modfedd, neu byddai’n dod oddi ar y bariau, a dyna a ddigwyddodd tra roedd ar ei ffordd i fyny’r inclên, a mwy na hynny, trodd ar ei hochr. 

O ganlyniad, bu’n rhaid ei chodi yn ôl ar y bariau gyda phwli a thacl (block and tackle) a bu’n rhaid i Robin Williams, y fforddoliwr, gywiro pob rhan o ffordd haearn yr inclên i’r mesur cywir. Do, bu hi’n dipyn o strach, a chymerodd bron i ddwy awr inni gael yr horwth i fyny i ben yr inclên. A meddwl am y peth heddiw, gellid fod wedi gwneud y gwaith o fewn deng munud gyda pheiriannau modern y dyddiau hyn a’i gludo i fyny’r ffordd a oedd wedi ei gwneud ychydig ynghynt. 

Nid aeth pethau yn dda iawn y diwrnod canlynol chwaith, ar ôl iddo gyrraedd i fewn i Felin Sing-Sing. Roeddem wedi paratoi gwaith estyll (shuttering) ar gyfer wal goncrit i ddal y ‘bwrdd mawr’ yn ei le, ond yn anffodus, pan ddaeth y lori a dadlwytho’r concrit chwyddodd y coedwaith gryn dipyn gan nad oedd yn ddigon cryf i’w gynnal, a bu’n ofynnol inni roi pob math o bwysau trwm arnynt. Pan galedodd y concrit wal braidd yn foliog oedd y canlyniad. Wel, dyna yw hanes gwaith a bywyd, ynte, - pethau yn mynd yn rhwydd iawn ambell ddiwrnod, ond yn hollol groes, ac o chwith ar ddyddiau eraill.

Llif y ‘bwrdd mawr’

- - - - - -

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2021


21.12.21

Tra môr... Y Stiniogwyr Rhyngwladol

Colofn newydd gan Gai Toms yn nodi hynt a helynt rhai o blant ardal Llafar Bro sydd bellach yn byw dramor.
 

Mandy Shreenan, Florida, Unol Daleithiau America.
 
Lle ges di dy fagu?  Tanygrisiau
 
Beth yw dy atgof o Danygrisiau? Fy nghartref. Mae Tanygrisiau yn cynrychioli adref i mi o hyd.
 
Pa flwyddyn es ti i’r UDA? 1984! Cefais gyfle i fynd i Galifornia fel nani i ddwy hogan fach.
 
Be ydi ymateb bobl America am dy fod yn Gymraes, a Charles (dy ŵr) yn Albanwr? Ar y dechrau, roeddynt yn gofyn i mi ddweud pethau yn Gymraeg. Gwirioni'n hurt oeddan nhw wrth i mi ateb gyda 'Llanfairpwllgwyngyllgogerychchwyrndrobwllllantysiliogogogoch'! Mae rhan fwyaf o Americanwyr yn gwybod am yr Alban, ond dim gymaint am Gymru...dyna pryd mae'r wers daearyddiaeth yn cychwyn! 

Dy hoff le yn yr UDA? Anodd! Dwi'n hoffi llawer o lefydd yn yr UDA! Dwi'n caru San Fransisco, ac yn hapus iawn yma yn ne-orllewin Florida, ond fy hoff le yw Ogunquit, Maine. Ystyr Ogunquit yw 'lle prydferth wrth y môr' yn iaith yr Abenaki. Hen bentref pysgota hardd uwch y clogwyni. Roeddan yn mynd am day out yno tra'n byw yn New Hampshire. Byddwn yn mynd i Ogunquit hefyd wrth ymweld â'r plant, mae'n wir yn brydferth yno.
 
Sut mae Florida yn cymharu gyda New Hampshire o ran y tymhorau? Mae nhw'n hollol wahanol! Mae gan NH bedwar tymor tra mae Florida efo dim ond dau, y gwanwyn a'r haf. Dwi'n caru'r gwanwyn yn NH pan mae'r blodau a'r coed yn blaguro; mae'r hafau yn wych, yr hydref yn lliwgar... ond mae'r gaeafau yn hir, a lot fawr o eira! Wrth gymharu, Florida yw'r Sunshine State, mae'r gaeafau yn rhyfeddol a'r hafau yn boeth. Rydym hn ddigon lwcus i allu dianc hafau poeth Florida i ymweld â'r plant. Os fyswn i'n gorfod dewis - Florida!
 
Oes yna dalaith fysat ti'n hoffi ymweld â hi? Rydym wedi teithio i ran fwyaf o daleithiau'r tir mawr, ond heb fod i North Dakota na Minnesota. Hoffwn fynd i Alaska neu Hawaii i weld y golygfeydd anhygoel!
 
Ydi cinio dydd Sul yn draddodiad wythnosol yn yr UDA? Os ddim, beth ydi'r peth agosa iddo? O be wyddwn i, tydi cinio dydd Sul ddim yn draddodiad yma yn yr UDA. Mae'r wlad mor ddiwylliannol amrywiol. Mae'n siwr bod ambell i deulu efo'i traddodiadau, ond dim byd genedl gyfan. Yn tŷ ni, nos Wener ydi curry night... Chicken Tikka a bara Naan, iym!!
 
Gwers orau profiad bywyd? I fod yn ddiolchgar, yn hyderus, yn barchus a trio cadw'n bositif; hyd yn oed drwy'r amseroedd anodd. Ond yn bwysicach byth, i fod yn garedig.
 
Wyt ti isio dweud helo i rywyn ym Mro Ffestiniog? Hoffwn ddweud helo mawr i nheulu a fy ffrindiau yn Stiniog. Dwi heb fod yn ôl ers 2013. Dwi’n cadw cysylltiad efo llawer ohonoch. Hoffwn ddweud helo mawr i fy mrawd, Kev XXX. 

DARLLENWYR!! Ydych chi'n nabod Stiniogwyr tramor a fysa'n fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad ysgafn fel hyn? Neu, oes gennych stori / hanes am gymeriadau Stiniog tramor? Cysylltwch!

- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2021

 

Chwiliwch hefyd am erthyglau yn ein cyfres 'Ar Wasgar' (o'r 1990au) -mae nifer ar y wefan.

17.12.21

900 o resymau...

Dyma'r 900fed erthygl ar ein gwefan!

Ers Mai 2012, mi fuo ni'n trosglwyddo rhai o erthyglau diweddar y papur, ac erthyglau hŷn o'r archif, ar y wefan blogspot yma. Os ydych yn gyfarwydd â'r wefan, gobeithio eich bod wedi mwynhau'r amrywiaeth. Os ydych yn newydd, ewch ati i bori!

Ar gyfrifiadur mae'r wefan yn gweithio orau gan fod posib pori a chwilio mewn tair gwahanol ffordd: yn ôl dyddiad; yn ôl geiriau allweddol yn y 'Cwmwl Geiriau'; neu trwy deipio geiriau eich hun er mwyn chwilio trwy'r cwbl!  

Ar ffôn, gallwch weld y dewisiadau yma trwy glicio 'View web version' wrth droed yr erthygl, wedyn chwyddo'r testun fel liciwch chi efo bys a bawd.

Fel bob dim arall ynglŷn â Llafar Bro, gwaith gwirfoddol sy'n gyfrifol am y wefan. Gall bawb helpu eich papur bro trwy barhau i brynu copi papur bob mis, er mwyn cael yr erthyglau dros fis yn gynt, a'r holl newyddion, hanesion a chyfarchion sydd ddim yn cael eu gosod ar y we.

Mae 900 yn rif perthnasol am reswm arall hefyd. Dyna faint o gopiau papur yr ydym yn argraffu bellach. Wyddoch chi bod yn nes at fil a hanner o gopiau yn gwerthu ar un adeg? Byddai'n braf medru gwerthu mwy eto, felly cofiwch brynu eich copi eich hun yn hytrach na derbyn copi ar ôl eich modryb! Gallwch gefnogi menter Cymraeg yn y gymuned: dim ond punt y mis. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.

Wyddoch chi fod tanysgrifiad digidol ar gael bellach? A'i fod yn rhatach nag oedd yn wreiddiol!

Gallwch dderbyn copi pdf o'r rhifyn gyfa' trwy ebost ar y noson gyhoeddi bob mis, a hynny am ddim ond £11 y flwyddyn.

Be amdani? Wnaiff £11 ddim torri'r banc i'r rhan fwyaf ohonom, ond mae'n gwneud byd o wahaniaeth i ddyfodol ein papur bro!

Ewch i'n tudalen danysgrifio am fanylion.

Diolch bawb.

- - - - -

Y 10 erthygl mwyaf poblogaidd yn y gwanwyn.

13.12.21

Gwresogydd Tŷ Crwn Llys Dorfil

Ni ddaeth y cloddio o hyd i unrhyw dystiolaeth fod yna le tân yn y tŷ crwn yn Llys Dorfil.  Nid yw tân yn hanfodol i gynhesu tŷ crwn, ond mae’n rhaid cael gwres.  Yn y canol roedd pant crwn wedi ei suddo yn y llawr a'i leinio â chlai, a tybir mai hwn oedd safle'r gwresogydd. 

Ein rhagdybiaeth ni yw bod gwres wedi'i drosglwyddo o dân allanol trwy ddefnyddio cerrig berwi i'r pant crwn ar lawr y tŷ crwn. Byddai'r math hwn o wres yn ddigon i gadw'r oerni draw. Hefyd ni fyddai unrhyw fwg gwenwynig yno i amharu ar y bobol na’r anifeiliaid.   


Mae cerrig berwi yn gerrig sydd yn pwyso rhwng dau a thri phwys yr un.  Rydych chi'n eu rhoi yn uniongyrchol mewn tân nes eu bod yn chwilboeth.  Yna, eu tynnu allan a'u rhoi mewn cynhwysydd sy'n llawn o ddŵr. Mae'r garreg yn oeri yn sydyn ac mae'r dŵr yn cynhesu. Daliwch ati i wneud hyn ac mae gennych ddŵr cynnes i ymolchi neu ddŵr berwedig i goginio ynddo.  

Cynhaliodd Mr Wilfred L. Bullows dreial mewn twll bach wedi'i leinio â chroen dafad, a darganfu y gallai pedwar galwyn o ddŵr gael ei ferwi gyda cherrig berwi wedi'u cynhesu mewn tua deugain munud.   

Rwy'n cofio ar nosweithiau gaeafol oer, byddai fy nain yn rhoi bricsen yn y popty i gynhesu, ac yna ei lapio mewn tywel a'i osod yn fy ngwely, roedd hwn yn foethusrwydd dros ben.   

Yr oedd yr un peth yn cael ei wneud miloedd o flynyddoedd yn ôl yn Oes yr Haearn yn y tŷ crwn yn Llys Dorfil i gadw'n gynnes. Rhoddwyd y cerrig berwi  mewn pant wedi'i leinio â chlai yng nghanol y tŷ crwn, gyda chrwyn anifeiliaid drosto a oedd yn ffurfio troed i’r man cysgu.  

Roedd cylch mewnol o byst yn dal y to i fyny, a rhyngddynt roedd plethwaith a dwb.  Hon oedd y stafell fyw a chysgu, a rhwng yr ystafell fewnol a'r wal allanol yma y cadwyd yr anifeiliaid.  

Byddai'r math hwn o wres, heb orfod dygymod a'r mwg gwenwynig, yn caniatáu i'r bobol ddewis deunydd llawer mwy diddos na gwellt, fel plethwaith a chlai ar gyfer y to, a hefyd anogwyd glaswellt i dyfu arno. Nid oedd rhaid i do clai fod ar 45° fel to gwellt ond ar raddfa lai a oedd yn llawer hawddach i’w gynnal a'i gadw.  Sawl tŷ crwn arall a gynheswyd fel hyn tybed? 


Bill a Mary Jones, Cymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2021

Ar  ddechrau Hydref, bu Aled Hughes, Radio Cymru ar safle Llys Dorfil, yn holi Bill a Mary Jones, yn ogystal â Dafydd Roberts, a rhai o selogion eraill y cloddio.

Mae'r darn a ddarlledwyd ar raglen Aled, bellach ar gael ar wefan Sounds y BBC 'am fwy na blwyddyn'. 

Dyma ddolen.

 

Dafydd Roberts, Bill Jones, ac Aled Hughes, yn Llys Dorfil



9.12.21

Hydref Y Dref Werdd

Cadw'n Gynnes

Mae’r hydref wedi cyrraedd, a thebyg bod sawl un ohonom wedi ildio, a wedi rhoi matsen yn y tân, neu danio’r boelar bondigrybwyll am y tro cynta'. Na phryderwch! Mae’r Dref Werdd wedi bod wrthi dros yr haf yn meithrin cysylltiadau, yn mireinio’n cynlluniau ac yn dysgu mwy am yr heriau sy’n ein gwynebu wrth i ni ystyried y costau ynni cynyddol a’r angen dybryd sydd i ni leihau ein allyriadau carbon. 

Llwyddom i ddenu ambell bwysigyn yma dros yr haf i'w herio nhwytha i weithredu, ac i amlinellu’r sefyllfa ar lawr gwlad iddynt. Unwaith eto eleni byddem yn helpu rhai ohonoch hefo’r Warm Home Discount, sydd yn rhoi £140 o gredyd ar eich cyfrif trydan dros y gaeaf. Os ydych yn bryderus am eich costau, galwch heibio efo’ch bil trydan er mwyn i ni wirio os ydych yn gymwys i'w hawlio. 

Rydym hefyd yn cydweithio hefo’r Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru i gyfeirio pobl at gynlluniau effeithlonrwydd ynni - Arbed ECO a Nyth. Mae rhain yn gynlluniau all roi cymorth drwy insiwleiddio eich tŷ neu newid eich cyfarpar i fod yn fwy effeithlon. Drwy wneud hyn, bydd lleihad yn eich costau ynni. 

Mae’n siŵr bod rhai ohonoch yn bryderus am yr holl gythrwbwl sydd yna ar hyn o bryd gyda phrisiau nwy a thrydan sy’n codi mor syfrdanol. Does dim diben pryderu a gwneud dim ynghylch y peth. Rydym yn erfyn arnoch i gyd i alw heibio am sgwrs.
Mae’n siŵr fod yna o leia un tric y medrwn rannu a chi a wnaiff wneud petha’n haws!
 Oriau Agor: Dydd Llun, Mercher a Gwener, 10.00 - 4.00 . 

Neu codwch y ffôn - 01766 830082 / 07435 290553 

Cynefin a Chymuned i Blant

Roeddem fel criw yn ddigalon i weld diwedd yr haf, oedd yn golygu diwedd i’n sesiynau wythnosol yn gwneud gwahanol weithgareddau yn y coed yn dilyn chwe wythnos llawn hwyl gyda’n gilydd. Ond, roedd yn werth disgwyl am sesiwn mis Medi ble cawsom fynd ar daith natur gyda Paul Williams a’n harweiniodd i lawr coed Cwmbowydd. 

Croen larfa gwas neidr
 

Bu i ni ddysgu llawer iawn o bethau am fyd y pryfed, cynefinoedd bywyd gwyllt a sut i adnabod coed a phlanhigion. Sesiwn gwerth chweil - diolch yn fawr iawn, Paul.

Eda’ Eco

Mae gofod Eda’ Eco wedi ei greu ar lawr cyntaf y Siop Werdd ers rhai misoedd bellach. Gofod sy’n cynnwys dau ffwrdd gyda’r holl offer a deunydd gwnïo y gallwch feddwl am! Ond digon distaw ydi hi i ddweud y gwir, felly rydym wedi penderfynu rhoi benthyg yr offer i aelodau’r gymuned gael creu/trwsio/ a’i wneud gartref gartref. 

Cysylltwch hefo ni os ydych eisiau benthyg yr offer - manylion isod. 

Cynllun Digidol

Cofiwch am y dyfeisiau digidol sydd ganddom i’w benthyg allan i’r gymuned. Os hoffech chi gael cyfle i ddysgu sut i yrru e-byst, cadw mewn cyswllt gyda theulu a ffrindiau, edrych ar hen luniau o’r ardal ar y we, gwneud ychydig o siopa neu unrhyw beth arall, gadewch i ni wybod - manylion cyswllt isod. 

Apêl am Wirfoddolwyr

Unwaith eto rydym yn gwneud apêl am wirfoddolwyr i helpu gyda chynllun cyfeillio dros y ffôn - SGWRS. Mae SGWRS yn brosiect i daclo unigrwydd a chreu cysylltiadau ac mae’r prosiect bellach yn flwydd oed! Yn ystod y flwyddyn mae dros 400 o oriau o sgwrsio wedi eu cofnodi gydag adborth cadarnhaol iawn gan bawb sy’n ymwneud â’r cynllun. Mae gwirfoddolwyr yn sgwrsio am hyd at awr yr wythnos gyda Ffrindiau. Gallwch hawlio hyd at £3 yr alwad mewn costau.  

Rydym hefyd yn galw am wirfoddolwyr i helpu’r rhai sy’n benthyg dyfais ddigidol ganddo ni ddod i ddeall sut i’w ddefnyddio. Os ydych chi’n deall dyfeisiau android ac yn hapus i roi ychydig o amser i helpu eraill ddeall, gadewch i ni wybod.

Os hoffech chi drafod unrhyw un o’r uchod, ffoniwch neu gyrrwch e-bost i Non:  07385 783340 / non@drefwerdd.cymru

- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2021


5.12.21

Trefniadau Llafar Bro

Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol eleni eto dros Zoom -ar ddiwrnod Glyndŵr, Medi 16eg, a chafwyd cyfarfod boddhaol ac adeiladol. Gobeithio yn wir y medrwn gyfarfod wyneb yn wyneb y flwyddyn nesa!

Cyhoeddodd Emyr ei fod yn ymddeol o’i swydd, fel prif Ddosbarthwr Llafar Bro, ddiwedd y flwyddyn hon. Mae wedi bod wrth y swydd hon am gyfnod hir, hir iawn … 41 o flynyddoedd ers iddo ddechrau ym mis Tachwedd 1980. Bu’n casglu'r papurau yn ddeddfol bob mis o’r wasg yn Llanrwst, ac yna ei ddosbarthu i’r holl siopau, a sicrhaodd fod pob dosbarthwr lleol yn cael ei ddogn o gopïau. 

Ar ran holl wirfoddolwyr Llafar a’r holl ddarllenwyr hoffwn ddiolch i Emyr am ei waith clodfawr am gyfnod mor hir yn gwasanaethu ein papur bro a’r gymuned yn ei chyfanrwydd. Diolch Emyr… bydd colled ar eich ôl. (Bydd yn dal i ddosbarthu’r papur yn fisol o fewn ei ardal arferol yn Llan).  


Yn ogystal bu i Vivian  ymddeol fel is-ysgrifennydd. Bu Vivian yn Ysgrifennydd Llafar Bro o fis Medi 1988 i fis Medi 2018 ac arhosodd ymlaen fel is-ysgrifennydd tan mis Medi eleni. Diolch o galon i Vivian am flynyddoedd o waith yn hyrwyddo a chefnogi y papur bro, ac er y bydd yn dal y fynychu cyfarfodydd, siŵr o fod, dymunwn ymddeoliad braf a hir iddo.

Cytunodd Paul i aros ymlaen fel Cadeirydd ac felly Shian fel Ysgrifennydd a Sandra fel Trysorydd. Cytunodd y chwe golygydd i barhau yn eu swyddi. Cytunodd Glyn i barhau fel Trefnydd Hysbysebion ac felly Brian a Maldwyn fel Dosbarthwyr Drwy’r Post. Cytunodd Heddus ac Eira i barhau fel Teipyddesau.

Trafodwyd prisiau yn y cyfarfod blynyddol. Mae chwyddiant yn dechrau poeni’r wlad eto ac mae nifer fawr o wasanaethau cymunedol wedi dioddef yn arw yn ystod y pandemig. Mae costau gosod ac argraffu y papur wedi codi ac fel nifer o bapurau newydd ledled y wlad mae’n rhaid i ninnau yma yn Llafar Bro godi pris y papur o 80c i £1 y mis o fis Ionawr ymlaen. 

Dw i’n siŵr i chi gytuno fod Llafar yn werth pob ceiniog ac mae wedi bod yn gwasanethu ein cymunedau ers 1975 ac yn gobeithio parhau am flynyddoedd lawer i ddod … efallai am byth! Mae’n dibynnu are eich cefnogaeth … nid yn unig i brynu y papur yn fisol ond hefyd anfon newyddion y fro i ni er mwyn i ni fedru gwir gynrychioli pob cornel o’r gymuned. Diolch i chi am eich cefnogaeth.

O ganlyniad bydd costau tanysgrifio yn codi fel a ganlyn:

£25 y flwyddyn yng Nghymru a gweddill Prydain;

£53 y flwyddyn yng ngweddill Ewrop. 

Ydy, dan ni’n cytuno fod costau postio yn ddychrynllyd wedi mynd! Ni fydd Llafar yn gwneud dim elw o’r taliadau post wrth gwrs ac mae’r prisiau yn adlewyrchu'r gwir gost.

Diolch i’r holl ddosbarthwyr hen a newydd … maent yn gwneud gwaith rhagorol ac os ydych am ymuno â nhw rhowch wybod i’r cadeirydd.

Byddwn yn dal i gyhoeddi 11 copi y flwyddyn, bob mis ond mis Awst, fel sy’n digwydd rŵan. Byddwn yn parhau gyda chopïau lliw deniadol wedi eu hargraffu yn broffesiynol ac thrwy hyn medrwn gystadlu yn hyderus gyda unrhyw bapur bro arall yn y genedl!

Prynwch Llafar Bro bob mis a buddsoddwch yn eich cymuned!

TVJ

- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2021

[Tanysgrifiad digidol £11 yn unig, gyda llaw]


1.12.21

Ysgoldy Bach Tanygrisiau

Yn un o’r lluniau a ddefnyddwyd gan y BBC i gyhoeddi fod ein tref wedi ennill statws safle treftadaeth byd UNESCO, gwelais do  – llechen wrth gwrs – y tŷ lle’m magwyd. Brynmaes yw’r tŷ, yn sefyll rhwng y ffordd a’r graig serth sydd yn cario’r lein bach ac olion Pencraig. Mae hanes hir i’r tŷ.  


Mor fuan a’r 1830au dechreuodd Samuel Holland, y perchennog chwarel, adeiladu yn Nhanygrisiau. Yn ôl CADW, erbyn 1845 roedd 42 o anheddau wedi eu codi, ynghyd â thri capel! Ond mae’r rhan fwyaf o’i adeiladau yn dyddio o’r 1860au – a dyma pryd yr adeiladwyd Brynmaes. 

Mae yn adeilad hollol wahanol i’r tai eraill a godwyd ar y pryd. A’r rheswm yw nad tŷ oedd ei bwrpas, ond ysgol. Mae wedi ei gofrestru yn y cyfrifiad 1871 fel Holland’s School, yno rhwng Maesygraean ar yr un ochr a Phenygarreg a Fron Haul ar y llall – safle berffaith i ysgol yng nghanol y pentref. 

Ysgol breifat oedd, yn cael ei chefnogi gan Mrs Anne Holland fyddai yn cymryd diddordeb mawr yn ymdrechion ei gŵr. Yr athrawes yn 1871 oedd Janet Hughes (57), ac yma oedd hi’n byw hefyd hefo’i gŵr John Hughes, clerc o chwarel Holland, a’u merch Jane oedd yn cadw tŷ iddynt.


Adeilad o ddau hanner hollol wahanol oedd hwn. Lle byw y teulu oedd yr hanner chwith: cegin fawr a chegin gefn fach, grisiau a dwy lofft. Yr ochr dde oedd yr ysgol. Wrth fynd i mewn drwy’r drws ffrynt, roedd lobi fach a grisiau eraill ohoni. Ar y dde oedd drws i un o’r ddwy ystafell ddosbarth, hefo lle tân ar y wal bellaf a ffenest fawr yn edrych dros y caeau, ymhell cyn amser Rehau. I fyny’r grisiau oedd yr ystafell ddosbarth fawr. Roedd tair ffenest yn hon, dwy fawr i’r ffrynt ac un fach i’r cefn – hon yr agos dros ben i’r graig tu ôl i’r tŷ. Lle tân yn yr ystafell hon hefyd wrth gwrs.

Nid dyma’r unig ysgol yn yr ardal. Soniwyd yn y Cambrian News yn 1874 am Ysgol Mrs Holland a hefyd am ysgoldy bach arall Samuel Holland yn Llwyngell, Rhiw, yn ogystal ag ysgol arall ddi-enw.

Erbyn 1881, nid Mrs Holland’s School oedd enw’r adeilad ond Ysgoldy Bach. Mae’r teulu Hughes wedi ymadael ac yn eu lle mae Benjamin Jones, ciwrat Eglwys Dewi Sant, a’i wraig a phedwar o blant.  Ar y pryd roedd yr hen Eglwys Tun yn bod yn y cae dros ffordd i res Fron Haul.

Ni fu Benjamin a’i deulu yn byw yn Ysgoldy Bach yn hir iawn. Erbyn 1891 y preswylydd oedd Robert Pugh, chwarelwr, a’i wraig a phump o blant. Bu’r teulu yn byw yno am gryn amser. Ar ôl marwolaeth Robert symudodd ei wraig a’i merched i Lerpwl yn 1914 i gadw tŷ i’w mab, o’r enw Robert fel ei dad.  Yn anffodus, cyhoeddwyd yn yr Herald Cymraeg ym mis Medi fod “Robert Pugh, gynt o Ysgoldy Bach Tanygrisiau, wedi boddi yn China, wrth ddilyn ei orchwyl fel saer ar fwrdd llong”. 

William ac Ann Roberts oedd y perchnogion nesaf, ac fe newidwyd enw’r adeilad o Ysgoldy Bach i Brynmaes, yn bur debyg i arbed dryswch hefo’r ysgol swyddogol a’i ysgoldy oedd yn Nhanygrisiau erbyn hyn. Serch hynny, Ysgoldy Bach oedd bobl leol yn ei alw am flynyddoedd i ddod.

Ymunodd John mab William ac Ann â’r fyddin a fe’i laddwyd mewn damwain yr yr Almaen, lle ‘roedd yn garcharor rhyfel.  Mae cof amdano ar garreg fedd yn y fynwent yn Llan:  

John, annwyl fab William ac Ann Roberts, Brynmaes Tanygrisiau, bu farw yn Germani, Medi 5ed 1917 yn 19 oed, ac a gladdwyd yn Cologne. 

Yn 1925 bu farw William ei dad ond bywiodd ei fam tan 1952. ‘Roedd yn 88 mlwydd oed pan farwodd.

Dw i ddim yn siwr tan pryd y bu Ann Williams fyw yn Brynmaes, ond yn 1951 ‘roedd y tŷ wedi bod yn wag ers tro pan ddaru fy rhieni, fy mrawd Iwan a finnau gyrraedd yno o Rhiw. Dyma’r lle y magwyd fi – a lle arbennig i dyfu i fyny oedd. Efallai bod ambell i ddarllenwr yn cofio gweld fy nhad a mam yn eistedd ar yr hen stelin lechen tu allan i’r tŷ?

Efallai hefyd bod gan rhywun wybodaeth neu atgofion o Brynmaes – baswn wrth fy modd yn clywed amdanynt.
Alwena Brynmaes
- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021