Showing posts with label codi arian. Show all posts
Showing posts with label codi arian. Show all posts

28.7.23

Cymwynaswyr

Eillio dros Elusen 

A welsoch chi’r Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn yn ddiweddar? 

Y mae’n anodd iawn ei adnabod y dyddiau hyn wedi iddo eillio ei farf drwchus adnabyddus er budd elusen. Codwyd £1,203 i ofal cancr Macmillan – elusen sydd wedi bod yn gefn mawr i lawer o drigolion y fro, gan chwalu’r nod gwreiddiol o fil o bunnoedd. 

Cyflawnwyd y cneifio yn nhafarn y Tap ddiwedd Ebrill. Ymddengys hefyd y bu’n rhaid i Elfed druan fynd ar ei liniau wedyn efo brwsh a phadell i hel y cnwd!

Coban Las i Linda

Yn hwyrach nag arfer eleni, cyhoeddwyd rhestr o’r rhai sy’n mynd i dderbyn anrhydeddau’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddechrau Awst. Ceir hanner cant ar y rhestr, a rheiny’n cynnwys enwau amrywiol. I ni yma’n dalgylch Llafar Bro, mae ‘na un enw sy’n rhaid cyfeirio ato.

Fel yma y crynhoir hynny’n y rhestr:


“Bu LINDA JONES yn weithgar yn ardal Blaenau Ffestiniog ers blynyddoedd, ac yn un o sefydlwyr Cwmni Seren, un o fentrau cymdeithasol blaenllaw Cymru. Y prif nod yw cynnig cymorth proffesiynol i bobl ag anableddau dysgu. Sefydlodd westy tair seren yn Llan Ffestiniog - Gwesty Seren - i ddarparu llety ar gyfer pobl ag anableddau corfforol a dysgu, prosiect arloesol a'r unig gyfleuster o'i fath yng Nghymru. Mae LINDA hefyd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog sy'n hwyluso cydweithrediad rhwng busnesau a mentrau cymunedol, ac sy'n cyflogi tua 150 o bobl leol.”

Mae’n fraint gan holl ddarllenwyr Llafar Bro estyn eu llongyfarchiadau gwresog i’n ‘LINDA PENGWERN’ ni, fu hefyd yn gwasanaethu Ward Teigl fel aelod Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ers sawl blwyddyn bellach. 

Dyma anrhydedd rwyt ti’n ei llawn haeddu, Linda ... dymunwn yn dda i ti’n dy goban las ar faes Boduan ar fore Gwener, 11 Awst!
- - - - - - - - -

Addaswyd o ddarnau a ymddangosodd yn rhifyn Mehefin 2023



17.5.23

Apêl Daeargryn

Roedd mis Chwefror yn fis ofnadwy i drigolion Twrci a Syria, gyda’r daeargryn a darodd y gwledydd hynny yn lladd mwy na hanner can mil ac yn gadael miliwn a hanner yn ddigartref. Hon oedd y ddaeargryn waethaf yn Nhwrci ers mil a hanner o flynyddoedd, a'r fwyaf yn Syria ers dwy ganrif. Amcangyfrifir fod cost y difrod yn fwy na chan biliwn o ddoleri. 

Mewn ymdrech i godi arian at yr ymgyrch fyd-eang i gynorthwyo’r dioddefwyr, cynhaliwyd bore coffi yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog ar Ddydd Sul y 26ain o Fawrth. Dechreuwyd am 11 y bore ac aethpwyd ymlaen tan 3 y pnawn. Roedd pobl o bob oed yn bresennol, yn drigolion lleol ac yn ymwelwyr, gyda bwrlwm bywiocaol bro i’w deimlo, ac awyrgylch hyfryd lond y lle. Mae hi’n codi calon yn wir gweld pobl yn dod ynghyd i godi arian at achos da fel hyn, yn anrhydeddu hen draddodiad Cymreig o estyn dwylo dros y môr, ac yn dangos y dref mewn golau hynod gadarnhaol i ymwelwyr hefyd.

Dywedodd un o staff y Tŷ Coffi:

“Roedd hi’n ddiwrnod anhygoel ac yn werthfawr dros ben gweld pobl yn mwynhau eu hunain ac yn barod i gefnogi’r apêl. Roedden nhw’n hael iawn. Dw i’n synnu faint o arian a godwyd.”
Ar adeg mynd i’r wasg, roedd £3,200 wedi ei godi, a mwy o arian eto i gyrraedd. Cafwyd tombola, raffl a chacennau hyfryd. Roedd adloniant byw gan Hanna Seirian a’r Parchedig Wynne Roberts - Elvis Cymru. Bu Ken Parry yn paentio wynebau’r plantos – ac wynebau rhai oedolion hefyd! Ac at hyn, cafodd un o gynghorwyr y fro, Elfed Wyn ap Elwyn, ei noddi i gael ei goesau wedi eu cwyro (ond nid ei locsyn, afraid dweud!) 


Un o’r rhai a oedd yno ar y diwrnod oedd Andrew Cockerill o’r Manod, a ddywedodd: “Roedd y diwrnod yn ffantastig. Roedd o’n braf gweld cymaint o bobl leol yma i gefnogi’r achos.” 

Diolch yn neilltuol i’r canlynol:

- Wynne Roberts (Elvis)
- Y chwiorydd Hanna a Gwawr Evans – y naill am ganu a’r llall am helpu’n fedrus iawn efo’r tombola.
- David Williams, Llan.
- Ken Parry am ei fedrau arlunio
- Gai Toms, am drin y system sain.
- Gwenlli, am greu fideo i’w roi ar sianel ‘BROcast Ffestiniog’, i gadw cofnod o’r achlysur i’r oesoedd a ddêl.
- Tŷ Coffi Antur Stiniog, am gynnal y digwyddiad.
- Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn am fynd drwy’r boen o gael ei gwyro
- Non Rowlands – am wneud y cwyro (gweler uchod).
- I bawb a gyfrannodd pethau at y raffl.

- - - - - - -

Ymdddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Ebrill 2023


4.9.21

Cysylltiadau America

Pennod o gyfres Cysylltiadau Dalgylch Llafar Bro ag America gan W. Arvon Roberts

Eglwys Bresbyteraidd Cymraeg Bangor, Pensylfania

Dechreuodd y Cymry ymsefydlu yn Bangor ac East Bangor, Sir Northampton, Pa, tua 1864.  Cawsant eu tynnu i’r ardal gan y diwydiant llechi.  Pan gyrhaeddodd Robert M. Jones (1822-1886), maer cyntaf Bangor, enw y pentrefan oedd New Village.  Enw’r lle yn wreiddiol oedd Titusville.  Gwelodd Jones ei gyfle i newid yr enw i Bangor, ar ôl Bangor, gogledd Cymru.  Brodor a anwyd yn Caeberllan, Bethesda, oedd R.M. Jones, ac yn fab i weinidog Methodistiaid Calfinaidd.  Ymfudodd i’r America yn 24 oed, ac ymsefydlodd yn Slatington, Pennsylfania, lle yr agorodd chwarel lechi.  Ef hefyd oedd sefydlydd tref Bangor, yn ddiweddarach gwnaeth ei gartref yn Portland, saith milltir i ffwrdd o Bangor.  Ar ôl ei farw codwyd cofadail iddo ar lawnt Ysgol Uwchradd, Bangor, ac un arall yn y Llyfrgell Cyhoeddus yno.

Map comin Wikimedia


Sefydlwyd Eglwys Bresbyteraidd Cymraeg Peniel, Bangor, gan sefydlwyr Cymraeg yn 1873.  Cyn corffori’r eglwys cychwynodd yr Ysgol Sul cyntaf yno yn 1867, mewn ystafell fechan uwchben storfa William Speer, lle saif Ariandy Merchant erbyn heddiw.  Yn y gwanwyn a’r haf, 1873, yr oedd yr aelodau yn addoli mewn ty ysgol bychan lle y mae yr Eglwys Lutheriaid yn sefyll heddiw.  Yn Mehefin o’r un flwyddyn dechreuont adeiladu eglwys eu hunain ar Stryd North First, a rhoddodd y Cymry yr enw Peniel arno.  Corfforwyd yr eglwys yn 1886 o dan yr enw y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg neu hefyd Eglwys Presbyteriadd Bangor.  I fyny hyd yr amser hwnnw ac am yr ugain mlynedd canlynol, yr oedd y gwersi Ysgol Sul a’r llaw-lyfrau i gyd yn yr iaith Gymraeg.  

Cerdyn post o gasgliad yr awdur
 

O’r 1890au wrth i’r gynulleidfa gynnyddu, rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r Gymraeg a dechreuwyd siarad a cynnal gwasansaethau yn Saesneg.  Yr oedd angen adeilad ehangach ar gyfer y gynulleidfa oedd yn dal i gynnyddu, ac mewn cyfarfod yn Ebrill, 1908, penderfynu ychwanegu rhagor o le at yr adeilad.

Aeth yr eglwys ar dân yn 1912 a bu’r gynulleidfa yn defnyddio yr Eglwys Bresbyteraidd Cyntaf (sefydlwyd yn 1874) hyd nes iddynt godi capel newydd.  Adeiladwyd Peniel newydd yn fuan ar ôl hynny a ddefnyddiwyd hyd at 1948 pan ymunodd yr Eglwys Presb. Cyntaf ac Eglwys Presb. Peniel i ffurfio Eglwys Presb. Bangor.  Unwaith eto, llosgodd hen eglwys Peniel pan oedd y gwaith o rhoi y system twymo yn mynd ymlaen.  Yn 1972 unodd Henaduriaeth Bangor gyda Eglwys Presb. Roseto, a sefydlwyd gan yr Eidalwyr yn 1894, ac adeiladodd y gynulleidfa unedig adeilad modern ar Kennedy Drive yn nhref Roseto.  Y mae’r eglwys bellach yn deml i’r seiri rhyddion.

***********

Yn 1874 bu Robert Roberts a’i briod, aelodau gwerthfawr yn Eglwys Peniel, wrthi’n ddiwyd yn casglu arian at ddileu dyled yr eglwys honno.  Un a roddodd gymorth i Robert Roberts yma yng Nghymru, i sicrhau casgliad rhagorol yn Ffestiniog a’r cylchoedd, oedd Thomas Roberts, Rhiwbryfdir.  


Wele adroddiad o’r casgliad:

Rhiwbryfdir, Ffestiniog    £28.16.6
Bethesda, Ffestiniog    £4.0.0
Tanygrisiau, Ffestiniog   £3.18.3½
Tabernacl, Ffestiniog    £7.0.0
Dolwyddelan (Blaenau a’r Llan)    £5.0.0
Peniel, Ffestiniog     £8.4.6
Croesor, Ffestiniog    £1.10.0
Penrhyndeudraeth    £2.10.3½
Evan Jones, Ffriddlwyd, Ffestiniog     10.0

Casgliadau 1877:

Ffestiniog –Sett Quarry    £1.0.6
Bronygoeden    3.0
Chwarel Croesor   £1.14.0
Penrhyndeudraeth    9.0
Boncuchaf Welsh Slate    £2.12.6
R. Owen, Ysw.   £1.0.0
Trwy law J. Hughes, Tre’r ddôl   £1.12.6
Dosbarth Talywaenydd     17.10
Bonc D.E. Welsh Slate    19.9½
Tanygrisiau, trwy law Miss Coly a Miss Ellen Jones    £6.12.8
Dosbarth Glanypwll      18.2
Dosbarth Salem    £2.7.3
Lefel Galed, trwy law Mr. Owen   £4.0.1
Trwy law T. Hughes, Castell Barlwyd    10.6
Casgliad Conglywal     £2.5.0
Dosbarth Frondeg   £5.12.0
Cwmorthin    £9.0.0
Chwarel Conglog     £2.14.6
Chwarel Rhosydd     £3.0.0
Cwm Penmachno    £5.9.5
Chwarel Wrysgan    £2.2.0
Moelwyn      10.0
Trwy law J. Davies, Graigddu     £1.15.0
Trwy law Miss A. Owen a J. Jones    £1.4.6
Trwy law R. Jones a D. Williams    10.4
Trwy law Miss C. Williams, A. Roberts    18.0
Trwy law J. Richards      11.0
Trwy law T. Hughes    12.6
Trwy law J. Blunt     £1.8.0
Henry Richard, A.S.     £1.0.0
-------------------------------------


[Derbyniwyd yr erthygl uchod ar gyfer rhifyn Medi, ond yn anffodus nid oedd lle i'w chynnwys]


16.3.19

RALI a RHEW- blwyddyn gyffrous Brei

DIWEDD DA I'R TYMOR RALÏO
Derbyniodd Brian Roberts, (Brei Bach), Blaenau Ffestiniog, dlws ‘Gyrrwr y Flwyddyn’ wedi tymor llwyddiannus yn cystadlu yn y ‘Classic VW Cup’, y llynedd.  Aeth Brei draw i Westy’r Hilton yn Watford ar Ragfyr y 3ydd i dderbyn y gwpan ar y Noson Wobrwyo, diwedd tymor.

Dechrau digon cymysglyd a gafodd wrth iddo fethu’r ras gyntaf ac felly wastad yn trio dal i fyny.  Er hyn, llwyddodd i wneud argraff yn gyson. Gorffennodd yn 10fed yn Brands Hatch ar ôl gorfod cychwyn yng nghefn y grid.  Methodd rhagbrofion weithiau am resymau technegol gyda’r car, ond dal i lwyddo i gael ei enwi fel ‘Gyrrwr Gorau’r Dydd’.

Y gallu i gael canlyniadau da, wrth orffen yn gyson yn y chwech uchaf, a alluogodd Brei i guro’r gwpan.  Y gobaith am y gorffennol iddo yw cystadlu eto yn y gystadleuaeth hon a hefyd ym Mhencampwriaeth Cymru.  Gobeithia’i hefyd rasio mewn un neu ddau o rasus ‘endurance’ o 3 neu 6 awr fel rhan o dîm. 

Mae’r car ym Mryste ar hyn o bryd yn cael ei drwsio yn dilyn damwain yn Caldwell Park ond disgwylir iddo fod yn barod erbyn y tymor newydd.  Cofiwch brynu Llafar Bro i gael y canlyniadau!
 
Cyn hynny, mae amser cyffrous iawn o flaen Brei wedi iddo dderbyn gwahoddiad i fynd i Norwy i gystadlu fel gyrrwr bobsled tîm Prydain yn y 2019 IBSF Para Bobsleigh World Cup

BREI'N EI BOBSLED
Llwyddod Brei ymuno â thîm para-bobsled Prydain ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd eleni, cystadlu mewn dwy ras.  Er nad oedd erioed wedi eistedd mewn bobsled o’r blaen, mae’n llwyddo i wneud argraff ar y llwyfan fwyaf.

Rydym oll yn yr ardal yn ymwybodol fod Brei wedi colli defnydd ei goesau ers blynyddoedd bellach yn dilyn damwain beic modur dychrynllyd ond gan ei fod rŵan yn rasio ceir, mae ei gorff wedi hen arfer gyda’r straen mae bobsled yn ei greu ar y corff.

Brei a'r Ddraig Goch ar ei helmed. (Hawlfraint llun IBSF)
Ar gwrs Olympaidd Lillehammer yn Norwy oedd ei ras gyntaf ble gorffennodd yn safle 14 ar y Sadwrn a 13 ar y Sul. Mae’r cystadlu’n parhau am ddau ddiwrnod gyda dau dro arni pob dydd.  Cyfuniad yr amseroedd sy’n penderfynu eich safle ar ddiwedd y dydd. 

Nid aeth popeth fel y gobeithiwyd chwaith gan fod ei helmed wedi bod yn stemio’i fyny wrth rasio.  “Roedd hyn yn niwsans”, meddai, “mae’r corneli’n cyrraedd mewn fflach ac mae angen llygaid barcud arnoch”.  Doedd hyn heb ddigwydd iddo ynghynt ond roedd hi’n oerach yma na ble buon yn ymarfer yn flaenorol. Er hyn, gorffennodd yn 15fed ar ôl y rhediad cyntaf.  Ni chafwyd gymaint o drafferth gyda’r stemio ar yr ail rediad a llwyddodd i orffen yn 11eg.  Roedd cyfuniad ei amseroedd yn golygu ei fod wedi gorffen yn 13eg allan o 22, ymdrech dda iawn ar ei ddiwrnod cyntaf.

Roeddwn yn amau bysa’r sled yn gallu mynd ynghynt felly bu’m yn gweithio’n galed yn sandio’r llafnau at y dydd Sul yn dilyn namau a gafwyd arnynt ar rew caled y Sadwrn”.

Gwnaeth hyn wahaniaeth pendant wrth iddo fod y 7fed cyflymaf ar rediad cyntaf y Sul.  Yn anffodus bu ei helmed yn stemio’i fyny eto erbyn corneli gwaelod ei ail rediad a gorffennodd yn 14eg.  Cyfuniad yr amseroedd yn ei osod yn y 12fed safle.  Ymdrech dda iawn wir ac roedd Brei wedi ei blesio gyda hyn.

Ymlaen wedyn i’r ras nesaf yn Oberhof yn yr Almaen.  Cwrs anodd iawn meddai Brei ac roedd y gyrwyr eraill i gyd wedi cystadlu arno o’r blaen. 

Siomedig iawn oedd y cyntaf ond llwyddais i orffen yn 11eg ar yr ail”.  Cyfuniad amseroedd yn ei roi yn yr 15fed safle.  “Dwi’n hapus iawn efo’n natblygiad hyd yma”, meddai, “roedd y cwrs yn un anodd a llwyddodd i ddal allan ambell ddreifar mwy profiadol na mi.  Dwi ‘di dysgu lot fawr yma”.

Daeth tymor cyntaf pencampwriaeth Cwpan y Byd i ben yn St. Moritz-Celerina yn y Swistir ganol Chwefror. Bu perfformiad cadarn arall ganddo wrth iddo orffen yn 12fed wedi rhediad y Sadwrn a 13eg ar y Sul.


Nid yw’r tîm yn cael ei  ariannu felly mae’n rhaid i Brei dalu costau ei hun.  Llwyddodd i dderbyn ychydig o gymorth noddedig tuag at St. Moritz ond mae’r costau yn aruthrol ac yn anffodus nid oedd yn bosib cystadlu yn Lake Placid yn yr Unol Daleithiau

Y gobaith rwan ydi parhau i gynilo fel y gallai rasio eto'r tymor nesa.

Dymunai'r Llafar bob llwyddiant iddo. Cofiwch fynd i'w dudalen gweplyfr/facebook i gael yr hanes i gyd a sut gallwch wneud cyfraniad. 

----------------------------------------

Addaswyd yr uchod o erthyglau a ymddangosodd yn rhifynnau Ionawr, Chwefror, a Mawrth 2019. 


26.2.18

Daeth i Ben

Do, ddiwedd 2017, wedi 12 mlynedd a 34 o wythnosau daeth i ben rownd ‘Cylch Papur y Gymuned’ dyddiol i ardal Tanygrisiau pan gauwyd drysau'r siop bapur olaf yn y dref, sef Siop Glenna.
Cychwynwyd y rownd bapur ar Fai 23, 2005 wrth i Siop Anona yn y Brif Heol roi'r gorau i ddosbarthu papurau i’r pentref.

Y dosbarthwyr gwreiddiol oedd Bill Jones, Evan Jones, Gareth Humphreys, Michael Evans, Raymond Rice, Dafydd Gwallter, Douglas Hughes, Morris Jones, John Jones a  Wil Price.
Bu llawer tro ar fyd ers y cychwyn a cholled fawr iawn oedd colli Gareth a Raymond, ac yn ddiweddar colli Bobby Williams o’n mysg drwy farwolaeth. Oherwydd gwahanol amgylchiadau bu raid i rai o’r ffyddloniaid ddod a’u gorchwyl i ben.

Dros y blynyddoedd daeth eraill i’n cynorthwyo, sef Brenda, Steffan, Ritchie, Ceinwen, Sylvia, Bobby, Michelle, Dei Em, Arwyn Terressa. Gydag 20 wedi bod yn gysylltiedig â’r papur ers y cychwyn dim ond Dafydd Gwallter a Wil sydd wedi goresgyn.


Drwy’r cyfnod dosbarthwyd dros 110,000 o bapurau i’r pentref gydag o leiaf 100,000 yn ‘Daily Post’. Drwy ymdrech y dosbarthwyr codwyd dros £15,000 tuag at elusennau ac achosion teilwng yn lleol a hefyd ledled y byd. Ymysg rhai o achosion a gefnogwyd, mae’r dosbarthwyr yn hynod falch eu bod wedi medru ariannu cofeb lle magwyd Merêd ym Mryn Mair, a hefyd cofeb man geni'r Athro Gwyn Thomas yn nhŷ Capel Carmel.

Tra bydd pentref Tanygrisiau yn ffynnu, bydd y ddwy garreg yma yn glod teilwng o’u tarddiad.

Cefais y fraint o gael bod yn gadeirydd ar bwyllgor y papur ers y cychwyniad a hoffwn ddiolch o waelod calon i’r holl ddosbarthwyr a wnaeth y fenter yn werth ei gwneud. Hefyd, diolch i Glen yn y Tap am ein porthi bob noson pwyllgor, i Sarah am wneud y rota’n gyson, i Carol am ei chardiau Nadolig blynyddol ac i Neris am archwilio’r llyfrau.  Diolch hefyd i bawb am eu rhoddion Nadolig cyson i’r gronfa. Nid oes yr un gymdeithas yn llwyddiant os nad oes gennych ysgrifennydd a thrysorydd da. Gwn mai dymuniad fy nghyd ddosbarthwyr fuasai i mi ddiolch yn arbennig i Ceinwen am ei hymroddiad amhrisiadwy i ni yn gwneud y ddwy swydd yma. Diolch yn fawr Ceinwen.

Cafwyd pwyllgor ar Ragfyr 18 a phenderfyniad unfrydol y dosbarthwyr oedd eu bod am gadw’r pwyllgor yn fyw gan fod gennym ychydig arian ar ôl yn y gronfa. Bydd y rhain yn cael eu cyfrannu’n ddoeth yn ôl eu penderfyniad.

I gloi, mi rydym yn ymddiheuro am ein methiant i gyflawni ein dyletswydd am un diwrnod yn ystod ein galwedigaeth - y diwrnod pryd y methwyd dod a phapurau Blaenau dros y Crimea yn ystod y tywydd garw 2012-2013 - SORI !
Gyda diolch, Wil Price.

LLUN

Diwrnod olaf y rownd bapur – Glenna, Wil, Ceinwen, Dafydd

21.12.17

Rhod y Rhigymwr -Yn wresog rhoddwn groeso

Llai na blwyddyn i fynd ... a bydd Cerdd Dant yn dod yn ôl at ei wreiddiau. Gwnaeth tre’r Blaenau a’r pentrefi o’i chwmpas gymaint i adfywio’r hen grefft yn ystod hanner cynta’r ugeinfed ganrif, ac onid gwych o beth felly ydy gweld yr Ŵyl Cerdd Dant Cenedlaethol (a gychwynnodd union 70 o flynyddoedd i eleni) yn dod atom ... am y tro cyntaf un!

Hwyrach bod rhai ohonoch chi’r darllenwyr yn cofio iddi gael ei chynnal yn Neuadd Trawsfynydd union 60 mlynedd yn ôl ... ym 1957 - pan oedd yn ei babandod.

Meibion Prysor a Dylan Rowlands yn y Cyngerdd Cyhoeddi. [Llun Paul W]
Cafwyd Cyngerdd Cyhoeddi cofiadwy dros ben yn Ysgol y Moelwyn ganol Hydref. Hyfryd oedd cael gwrando ar ddoniau lleol yn cymryd rhan, a phwy na all anghofio cyfraniad arbennig plant ysgolion cynradd y dalgylch, dan arweiniad Wenna Francis Jones (wyres yr hen Delynor Dall o Feirion, Dafydd Francis, ‘Llys y Delyn’, Yr Adwy Goch, Rhiwbryfdir) yn cyflwyno medli o ganeuon gwerin. 
 

Mae blwyddyn brysur iawn o’n blaenau i barhau i godi arian er mwyn sicrhau rhoi croeso twymgalon i gerdd dantwyr a thelynorion, cantorion gwerin, llefarwyr a dawnswyr o Gymru benbaladr atom ar y 10fed o Dachwedd, 2018:

Yn wresog rhoddwn groeso
Yma i’r Ŵyl a geir ym mro
Gwythïen y lechen las,
A heddiw, mae mor addas
Datgan i ‘swyn y tannau’
Angerdd cerdd i’n bywiocáu.

O rwbel ei chwareli
Yn nyddiau heth, cododd hi
Lenorion, cerddorion ddaeth
Yn gewri drwy ragoriaeth;
Diwylliant diwydiant oedd
Yn rhodio hyd ei strydoedd.

I sain cordiau tannau tyn
Doi aelwyd ‘Llys y Delyn’
Yn fan trafod gosodiad,
A rhoddi i glws gerddi gwlad
Liaws o gyfalawon –
Rhai yn lleddf a rhai yn llon.

Do, heb os, daeth newid byd
I faeddu sawl celfyddyd,
Er y Gymraeg yma rydd
Lifeiriant i leferydd 
Ei chymdogol drigolion –
Un dre’ o fil yw’r dref hon!

Cyn mentro i lawr ar yr 11eg o Dachwedd i Ŵyl Cerdd Dant 2017 yn Llandysul, i ganu’r ‘Cywydd Croeso’ uchod ar gainc un arall o’r fro a roes fri i hen grefft y tannau ... y delynores Mona Meirion - ‘Morannedd’ - bu Meibion Prysor yn cymryd rhan mewn gwasanaeth arbennig ... ‘Gwasanaeth y Cofio’ ym Moreia, Capel y Fro, Trawsfynydd.
Rhan fydd o weithgareddau a drefnwyd yn y Traws ym mlwyddyn Canmlwyddiant Hedd Wyn. 

Cyflwynwyd trosiad o gerdd ingol y bardd John McCrae (1872-1918) ... 
‘In Flanders Fields the poppies blow. Between the crosses, row on row ...’

Yng nghaeau Fflandrys yn y tes
Rhwng croesau ceir, yn rhes ar res
Babïau coch; ac uwch ein pen
Y cân ehedydd yn y nen,
Nas clywn yn sŵn bwledi pres.

Y Meirwon ’ym. Does fawr ers pryd
Y gwelsom haul yn g’leuo’r byd,
Fe’n carwyd ni, r’ym fudion mwy 
Yn Fflandrys draw.

Ein ffrae â’r gelyn cymrwch chi:
 llaw ffaeledig taflwn ni
Y ffagl; fe’i cewch i’w dal yn hir.
Os siomi wnewch y meirw ar dir
Y pabi coch, ni chysgwn ni 
Yn Fflandrys draw.

-------------------------------


Rhan o erthygl Iwan Morgan a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Rhaid dewis 'web view' os ydych yn darllen ar eich ffôn.)


3.11.17

Teimlo Pob Cam

Yn y bumed erthygl yn ein cyfres arbennig ar y MYNYDD, mae’r cynghorydd tref a’r chwarelwr Erwyn Jones yn crwydro ucheldiroedd yr ardal yn rheolaidd. Yma mae’n disgrifio taith anarferol ddiweddar i gopa’r Wyddfa.

Wrth feddwl am ffyrdd i hel arian, rhaid bod rhyw fath o her neu aberth ynghlwm â’r gweithgaredd, os am ei wneud yn un  llwyddiannus, ac yn ddi-os, teimlais bod un o fy syniadau i yn mynd i ateb y gofynion yma. Yn  ystod cyfarfod o bwyllgor Cylch Meithrin Blaenau Ffestiniog, rhai misoedd yn ôl pellach, cafwyd sesiwn o feddwl am syniadau i godi arian, ac un syniad y cynigais i’r het oedd cerdded i gopa’r Wyddfa, ond nid o gychwyn ar un o’r llwybrau traddodiadol, ond o gychwyn yn ‘Stiniog, a darfod wedyn ym Mhen y Pass. Nid wyf yn gor-ddweud drwy nodi aeth y pwyllgor yn ddistaw, ag ambell olwg digon syn gan sawl un!

Fy mwriad oedd gwneud y daith yn unigol, nid oeddwn yn disgwyl i neb arall ymgymryd â’r her, yn enwedig o gysidro ei bod yn daith o ychydig dros 16 milltir, ond ymhen dim, roedd Sara Ashton Thomas a Gillian Jones wedi cynhesu at y syniad o gymryd rhan.

Daeth y syniad gwreiddiol o wneud y fath daith gan Dei (siop yr Hen Bost), rai blynyddoedd yn ôl bellach, a dyma a’m ysgogodd i wneud y daith am y tro cyntaf, llynedd, ac wrth wneud y daith, meddyliais y byddai’n syniad ardderchog ar gyfer taith noddedig er budd y Cylch.
Ar ôl pennu dyddiad, paratoi ffurflenni noddi, a chreu tudalen ‘Just Giving’ ar y we, dyma fynd ati i ‘neud y daith! Felly, ar fore Sadwrn, 12fed  o Awst, dyma Sara, Gillian a fi yn cwrdd â’n gilydd ger giât Cwmorthin, am 7 y bore, i gychwyn yr her!!

Roedd pethau’n edrych yn addawol o ran y tywydd wrth gychwyn- haul braf, mymryn o wynt ysgafn, a digon cynnes – dim i boeni amdano. Yn wir, gwaeddodd cyfaill wrth i mi gerdded drwy Glanypwll “Gaddo hi’ n braf drwy’r dydd!” Ha! Ychydig a wyddai fod ei enw am droi’ n fwd ‘nes ymlaen!

Cawsom dywydd sych wrth gerdded trwy Gwmorthin, tuag at Rhosydd. Nid oes dianc rhag y dystiolaeth o brysurdeb y cwm yma yn y gorffennol, gydag olion y chwareli yn allor i’r llafurio a fu yma, ac yn wir, os oedd thema a fyddai’n gyfeiliant i ni ar hyd y daith, ac eithrio’r amlwg, megis llynnoedd, mynyddoedd a byd natur, yna diwydiant chwarelyddol byddai hwnnw. Chwareli Cwmorthin, Conglog a Rhosydd yr ochr yma i’r fro, a chwareli llechi Cwm Llan a Bwlch Llan yng ngheseiliau’r Wyddfa, ynghyd a’r mwyngloddiau dirifedi sydd wedi eu gwasgaru ar hyd a lled yr Wyddfa.

Wedi i ni gyrraedd Llyn yr Adar, dyma’r tywydd yn troi, ac yn wir, dyma sut buodd hi am weddill y daith: cawodydd o law mân, niwl, ag ambell ysbaid heulog.

Roeddwn yn teimlo bod y niwl yn fendith mewn un ffordd- nid oedd yr Wyddfa i’w gweld! Fel un sydd wedi gwneud y daith sawl tro bellach, mewn tywydd sych a chlir, un peth sy’n gallu torri’r enaid, o Lyn Adar ymlaen, ydi gweld copa’r Wyddfa. “Pam?” clywaf rhai yn gofyn,- mae’r ateb yn ddigon syml, o’r pwynt yma ymlaen, i lawr allt yw’r daith, yr holl ffordd i Nant Gwynant. Un o’r pechodau mwyaf gan gerddwyr mae’n debyg yw colli uchder yn ddi-angen, ond does dim osgoi hyn ar y daith hon, gyda phob cam yn mynd â ni yn agosach at lefel y môr! Cryn 58 metr yw Nant Gwynant uwchlaw’r môr, a’r Wyddfa fel cawr, 1085m uwchben!

Ar ôl cyrraedd maes parcio Nant Gwynant, roeddem wedi cyrraedd hanner ffordd, a’r darn caletaf eto i ddod. Dilyn llwybr Watkin, neu o leiaf rhan ohono oedd y nod, gan gerdded at Gwm Llan, yna gwyro tua’r chwith ychydig cyn cyrraedd yr enwog 'Maen Gladstone' ag anelu at Fwlch Cwm Llan, i fyny Allt Maenderyn, dros y Clogwyn Du a Bwlch Main, yna dilyn llwybr Rhyd Ddu tua’r copa.

Os mai cymharol ddistaw yw’r llwybr yma- nid felly y copa! Roedd hi’n fwrlwm gwyllt yno, gyda chiwiau anferthol i fynd mewn i Hafod Eryri, a chiw hirach fyth i gyrraedd y copa ei hun. Ar ôl ysbaid ar y copa er mwyn tynnu lluniau, a phostio ein gorchwyl ar y gwefannau cymdeithasol, roedd hi’n amser cychwyn i lawr – bendith ar ôl yr holl ddringo o’r nant, ond os rhywbeth, roedd cerdded lawr y Llwybr Pyg yn fwy o felltith, a phob cam i’w deimlo i’r byw!

Wedi 11 awr o gerdded, taith o 16 milltir, braf oedd cyrraedd maes parcio Pen y Pass am tua 6 yr hwyr. Mae ein diolch yn fawr i fam Sara am ddod i’n cwrdd yno, a bod yn dacsi i ni nôl i Betws!
Casglwyd dros £700 tuag at y Cylch, a carem ni’n tri ddiolch yn fawr iawn i bawb a’n cefnogodd ar y daith, ac a gefnogodd y Cylch Meithrin drwy y cyfraniadau hael.
--------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde*.

 

Celf gan Lleucu Gwenllian

*Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.

 

16.7.16

Taith arbennig #hogiallechenlas

Heddiw, mae tri o hogia Stiniog yn cychwyn ar antur anhygoel. Pob lwc iddyn nhw ar daith fythgofiadwy. 

Cafwyd brecwast ffarwel fore dydd Gwener, Gorffennaf 15, wrth i dri llanc ifanc o’r Blaenau - Connaire Cann, Steven Price ac Iwan Williams, o dan yr enw -‘Hogia Llechan Las’ baratoi am daith o 10,000 o filltiroedd o Gaffi’r Llyn yn Nhanygrisiau i Mongolia!


Mae'r siwrna’ yn cychwyn yn swyddogol o drac rasio Goodwood ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 16. Fe fyddan nhw’n mynd drwy Ffrainc, Gwlad Belg, Yr Almaen, Denmarc, Sweden, Norwy, Rwsia, Kyrgystan a Mongolia, ynghyd â 250 arall o geir o bob cwr o’r byd.

Mi fydd y daith yn cymryd yn agos i chwe wythnos i’w chwblhau ac maent wedi prynu ‘Nissan Micra’ yn barod at yr orchwyl – car, meddai Iwan, y buasech yn mynd â’ch nain i siopa ynddo!!

Maent eisoes wedi cael llawer o noddwyr i’w cefnogi a byddent yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniad tuag at eu hymdrech.

Bydd pob ceiniog a gyfrennir yn mynd tuag at elusen ‘Macmillan’ – achos teilwng iawn ac yn agos at galon llawer iawn ohonom. Maent yn ddiolchgar iawn i bawb a’u noddodd ac mae’r safle we, sef www.justgiving/com/iwanwilliams-3  yn dal ar agor, neu mi gewch eu noddi drwy unrhyw berthynas teuluol i’r hogia os dymunwch.

Pob lwc i chwi,  hogia, a dymuniadau gorau am siwrna’ bleserus i gefnogi achos mor dda.

Maent wedi addo cadw cofnodion dyddiol o’r siwrna a gobeithio yn fawr y cawn flas ohono yn Llafar Bro ar eu dychweliad.
--------------------------------------

Addasiad ydi'r uchod o erthygl a ymdangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2016.
 
Yn wir, mae Llafar Bro yn edrych ymlaen i gyhoeddi hanesion yr hogia', ond os na fedrwch aros tan hynny, gallwch ddilyn eu hynt ar eu tudalen Gweplyfr/facebook

Mae ganddynt gyfri' Trydar/twitter hefyd-


Clip o'r hogia ar raglen HENO S4C


1.2.16

Antur Stiniog


Cyn y Dolig cynhaliwyd trydydd diwrnod codi arian blynyddol gan Antur Stiniog ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.
Llun- Dan Struthers

Daeth nifer o feicwyr –llawer ohonynt mewn gwisg ffansi- i gymryd rhan a chodi arian at achos mor wych.

Roedd tri o bencampwyr beicio mynydd y byd wedi dod draw hefyd, sef Rachael a Gee Atherton, a Danny Hart, a rhoddodd pob un grysau wedi’u llofnodi ar gyfer y raffl.

Ar ôl codi £6000 yn y 2 flynedd ddiwethaf, roedd pawb yn awyddus i ychwanegu at y cyfanswm arbennig yma. Rhwng y raffl ac un cwsmer rheolaidd yn shafio’i ben, codwyd £1000, a rhwng pob peth codwyd £2300 ar y diwrnod.

Hoffai Antur Stiniog ddiolch i’r beicwyr a gymrodd ran, a’r holl gefnogwyr a chwmnïau a gyfranodd wobrau ar gyfer raffl mor lwyddianus, i godi swm mawr o arian at elusen sy’n bwysig nid yn unig i feicwyr mynydd, ond i bawb yng Nghymru.

Mi fuodd criw o Antur Stiniog i lawr i faes awyr Caernarfon ddiwedd Ionawr, er mwyn cyflwyno siec i'r gwasanaeth, a chael croeso mawr yno.


Roedd 2015 yn flwyddyn dda iawn i dîm rasio Antur Stiniog hefyd efo 29 lle ar y podiwm trwy'r flwyddyn.

Mae 2016 -sydd wedi'i dynodi yn Flwyddyn Antur Cymru gan y bwrdd croeso- yn argoeli i fod yn flwyddyn dda arall, efo nifer o rasus ar y gweill.

Mae Antur Stiniog yn cydweithio efo'u cyfeillion yn BikePark Wales er mwyn gosod her ar benwythnos cyntaf Ebrill 2016. Bydd y newyddion i gyd yn Llafar Bro, felly ewch ati i ymarfer!

#AnturCymru