13.4.24

Stolpia- Tywydd Gaeafol (III)

Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Wel, mi gawsom ychydig o rew ac eira ym mis Ionawr, ond diolch i’r drefn nid oedd dim byd tebyg i’r hyn a gawsom yn ystod gaeafau 1962-63 ac 1981-82. Yn ôl yr arbenigwyr ar y tywydd, er nad oedd  gaeaf 1963 gyda chymaint o eira ag un 1947 roedd yn un o’r rhai oeraf a brofwyd yn y wlad ers 1740, ac yn ambell le aeth y tymheredd cyn ised a -20 °C. Sut bynnag, dywed eraill bod gaeaf 1929 wedi bod yn oerach a’r tymheredd wedi gostwng i -22 °C a bod yr eira yn rhewi arnoch fel y disgynnai o’r wybren.

Yn 1963 roeddwn yn gweithio yn Ffatri Metcalfe yng Nglan-y-pwll ac yn  ffodus mai’n Rhiwbryfdir yr oeddwn yn byw ar y pryd, ac felly, nid oedd llawer o waith cerdded trwy’r eira o’m cartref i’m gwaith. Cofier, roedd hi wedi dechrau bwrw eira ar 22 o Ragfyr 1962 a pharhaodd yr oerni hyd at yr wythnos gyntaf ym mis Mawrth. Rhewodd y ffynhonnau, yr afonydd, y llynnoedd fel ei bod yn anodd cael dŵr ar gyfer anifeiliaid y ffermydd a llawer iawn o gartrefi’r wlad. Yn wir, rhewodd y môr, hyd yn oed, mewn sawl lle, fel ei bod yn anodd iawn i bysgotwyr hwylio eu cychod.

Stryd yr Eglwys dan eira trwm, ond pa flwyddyn oedd hi?

Yma yn y Blaenau roedd y chwareli yn cael trafferth cael dŵr i’r peiriannau gan fod y peipiau wedi rhewi’n gorn, ac yn ôl un o hen chwarelwyr Llechwedd nid oedd yn cofio gaeaf mor oer yn ei fywyd, a bu’n ddadl rhyngddo ef ag un o’i gydweithwyr parthed yr oerni. Dywedodd y cyntaf nad oedd wedi gweld ei ddannedd gosod yn rhewi yn nŵr y gwydr erioed o’r blaen a bod hynny yn profi ei osodiad! Roedd tramwyo’r ffyrdd yn waith peryglus a chynghorid pobl i beidio a mentro gyrru cerbydau tros Fwlch Gorddinan (Y Crimea). Hen stori oedd cwyn y Parchedig Cledwyn Parry, Capel Ebeneser (W), sef bod y palmentydd a’r ffordd gerllaw’r capel yn llithrig ac nad oedd y cyngor yn clirio’r eira.

Yn ddiau, y mae mwy ohonoch yn cofio gaeaf 1981/82. Dechreuodd fwrw eira i ddechrau ar y noson cyn Nadolig 1981. Yna, ar y 7 Ionawr bu wrthi yn ddi-baid am 36 awr mewn llawer o ardaloedd yng Ngwynedd. Roeddwn yn fyfyriwr yng Ngholeg Harlech ar y pryd a chael a chael oedd hi i gyrraedd adref heb fynd yn sownd yn yr eira. Syrthiodd y tymheredd yn is nag 20 gradd C a bu’n lluwchio’n  drwm fel ei fod mor ddwfn a 15 troedfedd ar dir uchel, ac yn wir, ar lawr gwlad hefyd, fel rhannau o Benrhyn Llŷn. Roedd papur Daily Post gyda phennawd Saesneg a llun o’r awyr–‘Nid yr Alpau ond Blaenau Ffestiniog’. 

Dyma lun arall o’r Daily Post gydag eira i fyny ar Fwlch Gorddinan. Credir mai gaeaf 1982 y tynnwyd hwn. Wel, o leiaf cyrhaeddodd y car i fyny at y bwlch. Aflwyddiannus a fu amryw a fentrodd drwy’r rhew a’r eira tros y blynyddoedd.

Er ei bod yn bosib’ inni gael eira mawr yn ystod y mis hwn hefyd, rwyf fel y gweddill ohonoch yn ddiau, yn gobeithio mai tyneru a wnaiff y tywydd a chawn wanwyn hyfryd a haf hirfelyn i’w ddilyn.
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2024

10.4.24

Gweithio Efo'r Dref Werdd

Megan Elin, Gweithiwr Prosiect Addysgol

Cychwynais hefo'r Dref Werdd yn gweithio rhan amser yn Chwefror 2022 yn gynorthwyydd amgylcheddol hefo Meg Thorman, ein gweithiwr prosiect amgylcheddol. Mi wnes i ddysgu lot yn fy mlwyddyn gyntaf a mwynheais fy hun hyd yn oed mwy! 

Yn fy wythnos gyntaf ddysgais am Rododendrons, ag ers gweithio hefo nhw dwi’n cael trafferth i beidio'u gweld ym mhobman dwi’n mynd. 

Diolch i ariannu gan y gronfa gymunedol loteri genedlaethol mae wedi bod yn bosib i fi weithio gyda'r Dref Werdd a dwi bellach yn weithiwr prosiect addysgol ers blwyddyn, ac yn hapus iawn yn fy rôl newydd hefyd! Mae fy rôl Newydd wedi bod yn hyblyg iawn, a dwi wedi gallu arbrofi a chynllunio rhaglen o ryw fath hefo ysgolion cynradd yn yr ardal leol. 


Hyd at hyn mae pum ysgol wedi cytuno i weithio hefo fi. Rydw i efo disgyblion blwyddyn 3 o bob ysgol bob hanner tymor am flwyddyn, ac mae pob sesiwn yn cynnwys ffocws gwahanol o fewn yr amgylchedd ag y byd rydym yn byw ynddo. 

Dwi’n gobeithio bydd y sesiynau yma yn rhoi'r wybodaeth a’r rhyddid i’r plant ymateb ei hunain ar sut rydym yn gofalu a pharchu’r blaned hon. 

Rydw i hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau Dod Nôl At Dy Goed - dwi wrth fy modd efo’r sesiynau yma, ac wedi helpu trefnu rhai o’r sesiynau casglu sbwriel. Mae gen i dudalen ar Facebook, ‘Casglu a Chysylltu’ sydd yn cynnwys lluniau ‘cyn ac wedyn’ a gwybodaeth am ein digwyddiadau yn yr ardal leol. 

Y nifer gorau rydan ni wedi’u cael hyd yn hyn yw 27 o wirfoddolwyr o bob math o lefydd gwahanol fel Llwybrau Llesiant, Gisda a phob man arall! 

Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn, ag mi fydd yna mwy yn dod fyny blwyddyn yma!
- - - - - - -

Erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2024


Capel y Gorlan yn Dirywio

Mae Dafydd Linley yn crwydro llwybrau'r fro yn rheolaidd ac yn ymddiddori yn ein hanes lleol. Roedd yn drist iawn felly i sylwi yn ystod wythnos olaf Ionawr eleni fod wal orllewinol Capel y Gorlan yng Nghwmorthin, wedi dymchwel. 

 

Gwnaed ychydig o waith ar rai o adeiladau'r Cwm gan griw Cofio Cwmorthin a Chymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog, er mwyn gwarchod rhag adfeilio'n llwyr, ond anodd iawn ydi rhwystro dirywiad yn llwyr yn y fath le. Mi fuon nhw'n cyfarfod tra oedd Llafar Bro yn y wasg i weld os oes rhywbeth y gellid ei wneud ar y cyd efo'r perchennog tir yno i sicrhau bod y cyhoedd yn cadw'n glir.

Capel i'r Methodistiaid Calfinoedd oedd o, ac mae o wedi dirywio'n araf ers i rywun ddywn y llechi oddi ar y to yn y 1970au. Yn ôl gwefan Cofio Cwmorthin, 'galwyd y capel yn Gapel Cwmorthin ac yn ddiweddarach yn Gapel Conglog, ond credir mai Capel Golan oedd yr enw gwreiddiol'. Mae rhai, gan gynnwys ambell fap, yn ei alw'n Gapel Rhosydd hefyd.
- - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2024


9.4.24

Hanes Rygbi Bro- 1990-91 a 1991-92

Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o ddyddiadur Gwynne Williams 

28 Rhagfyr 1990 Mewn gêm i ddathlu Atomfa Traws yn 25 oed y sgôr oedd Bro 6- Tîm y Llywydd 25

1991
16 Ionawr Rhaid torri’r coed o flaen Hafan Deg a Fron Haul i lawr. Plannwyd rhain gan aelodau’r clwb a Jake -Pant Tanygrisiau.

22 Mai Cyfarfod Blynyddol 1990/1991 (Presennol 20)
Tîm 1af, Glyn Jarrett (c): Ch 27; E 14; C13.
2ail dîm, Bryan Davies (c): Ch21; E 10; C11
Nant Conwy enillodd Gwpan Traws 21. Athrofa De Morgannwg enillodd Dlws 7 Bob Ochr Tom Parry. Elw £529 33. Gwynedd 5 a 3 yn chwarae Cyn Derfynol Cwpan Howells yn Bro.
Chwaraewr y Flwyddyn: Glyn Jarrett; Chwaraewr Mwyaf Addawol: Hayden Williams; Chwaraewr y Flwyddyn II: Ian Evans; Clwb-berson: Sharron Crampton. Ethol: Llywydd Gwilym Price / Ll Anh RH Roberts/Dafydd E Thomas / Cad Dr Boyns /Ysg RO Williams / Trys Robin Davies / Gemau Michael Jones / Aelod Caradog / Cae Mike Osman / Cad Tŷ Glyn C / Capten 1af Glyn Jarrett /  Capten 2il Richard James / Hyfforddwr Gwilym James. Eraill Jon H / Gwynne / Derwyn Williams. Cyfethol Bryan /Tei Ellis /Morgan Price /Hayden Williams. Aelodau Anrhydeddus am Oes Glyn E Jones / Dr Boyns / Mike Smith /Aelod am Oes Deulwyn Jones. Ymddiriedolwyr Merfyn / Glyn E / Dr
Aelodaeth: Chwaraewr £7 / Cyff £ 8 / Cym £8 

Traws 21: 18fed Medi Harlech v Porthmadog; 25ain Bangor v Machynlleth; 9fed Tach Nant Conwy v Tywyn; 16eg Tach Bro v Dolgellau.

1992     
18 Ebrill Aduniad Pont y Pant; 28ain Cwpan Gwynedd- Bala 19 v Bro 5. Tîm: Geraint Roberts / Ken Roberts / Marc Atherton / Dafydd Jones / Keith Williams /Danny McCormick / Richard J / Hayden / Alun Jones / Garry Hughes / DylanT Kevin Griffiths / Gwilym James / Rhys Williams. Eilyddion Adrian Dutton /Alan Thomas / Mark Thomas / Dilwyn Williams /R O Williams / Glyn Jarrett
Cyfarfod Blynyddol 1991/1992. Penderfynu atyweirio to’r Clwb –ar frys! Wedi gwneud cais am grant.
5ed yn y gynghrair Ch10 E2 C 8
Trysorydd - Derbyniadau yn fwy na’r taliadau o £5,103.68 Aelodaeth £562
Chwaraewr y Flwyddyn Hayden Williams; Chwaraewr y Flwyddyn II Dilwyn Williams; Clwbddyn Gwynne Williams.
Ardal Gwynedd v Ardal Llaneli (Gwynedd> Ennill) Gwilym James (Capt) / Rob Atherton. Eilydd Hayden Williams / Danny McCormick
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2024


Senedd Stiniog- Detholiad Dechrau'r Flwyddyn

Pytiau o'r Cyngor Tref

Derbyniodd y Cyngor gais cynllunio i godi naw o dai ger Y Wenllys, Llan Ffestiniog, a bu dipyn o drafodaeth am y cynllun.  Dywedwyd fod tai eisoes yn cael eu codi yn y pentref ac y byddai’r rhain yn mynd i asiantaeth dai o Glwyd!  Amhosib fyddai cefnogi’r cais ar hyn o bryd gan nad oes sicrwydd mai i bobl leol oedd y tai am fod.  Dywedodd y ddau Gynghorydd o’r Llan, sef Marc Lloyd Griffiths a Linda Ann Jones, eu bod ill dau wedi derbyn nifer o gwynion gan drigolion y pentref ac nad oedd digon o wybodaeth am y prosiect ar gael.  Gwrthodwyd y cais, ond fe benderfynwyd ar ofyn wrth y Parc Cenedlaethol am fwy o gyngor a gwybodaeth.

‘Rhybydd o Gynnig’ – Cytunwyd yn unfrydol i gefnogi cynnig y Cyng. Mark Thomas i chwifio baner Llywelyn ap Gruffudd yng nghanol y dref pob mis Rhagfyr.  Disgyn Dydd Llewelyn yr 2il, ein Llyw Olaf, ar Ragfyr yr 11fed pob blwyddyn, dyddiad ei lofruddiaeth.

Codwyd wrychyn sawl cynghorydd gyda gwaith blêr, diog ac esgeulus Cyfoeth Naturiol Cymru, o ddeall fod Ceunentydd Cynfal a Llennyrch wedi cael eu disgrifio ganddynt o fod, “ger Porthmadog”.  Penderfynwyd e-bostio i fynegi siom y Cyngor Tref am hyn ac i’w hannog i gywiro’r disgrifiad a rhoi “ger Ffestiniog” yn ei le.  Daethom i ddeall fod y Dref Werdd, Cwmni Bro a Llafar Bro am wneud hyn hefyd

Cafwyd cais am gymorth ariannol gan Fudiad yr Urdd. Toedd dim gwrthwynebiad o ran egwyddor ond fe siomwyd rhai cynghorwyr gan y cais.  Dywedwyd fod y mudiad newydd gael pres da o werthiant eu hadeilad yn y dref i Antur Stiniog.  Adeilad yw hwn a godwyd, amser maith yn ôl, o bres prin chwarelwyr ‘Stiniog.  Dywedodd yr Urdd eu bod angen y pres i helpu cynnal yr Eisteddfodau a ballu yn y cylch.  Penderfynwyd cyfrannu at y rheini drwy roi pres yn uniongyrchol i’r ysgolion ar eu cyfer.

Rhai o’r prif faterion a godwyd yn y Pwyllgor Mwynderau oedd gyrru llythyr i Network Rail i ofyn sut oedd eu trefniadau’n siapio ynglŷn â chlirio’r lein.  Cadarnhawyd fod cytundeb bellach yn bodoli ar waith arfaethedig yn y Parc i dorri gwrychoedd a phlannu planhigion a ballu; a bod mwy o holi angen ei wneud cyn parhau ar y gwaith i greu maes parcio ym Mhant yr Ynn.

Gan fod y Cyngor wedi cysylltu’n mynegi siom fod staff Plas Weunydd yn colli eu gwaith oherwydd bod y Gwesty wedi derbyn trefniant bloc; daeth Michael Bewick, un o gyfarwyddwyr y cwmni i egluro’r sefyllfa. Esboniodd nad oedd neb am, nac wedi colli eu swyddi. Roedd un aelod o’r staff
wedi gadael ei swydd ar liwt ei hun, meddai. Derbyniodd y busnes y trefniant bloc am fod yr incwm amdano yn dda, a byddai’r elw’n mynd tuag at Gynllun Ynni Gwyrdd y cwmni. Diolchodd y Cyngor iddo am fynychu’r cyfarfod ac am ateb cwestiynau’r Cynghorwyr.
Diolchwyd hefyd i Andrew Williams a ddaeth i annerch y cyfarfod ar ran Hen Eglwys Llan Ffestiniog.
Eglurodd fod y cynlluniau darpariedig i ddatblygu’r adeilad bellach wedi cael eu pasio, sef codi wal ddringo ac agor caffi, ac y disgwylir ddechrau ar y gwaith yn fuan.

Ffair Llan. Ystyriwyd gohebiaeth a dderbyniwyd gan Gyngor Gwynedd ynglŷn â phroblemau iechyd a diogelwch yn sgil lleoliad y Ffair y llynedd. Cynigodd Y Cyng. Mark Thomas ac eiliodd Y Cyng. Dafydd Dafis y dylem lythyru’n ôl i’r Cyngor Sir yn diolch am yr wybodaeth, ac yn dweud nad yw’r Cyngor Tref eisiau cymeryd y cyfrifoldeb am drefnu’r Ffair na’r costau sy’n gysylltiedig â hi. Cytunodd pawb eu bod yn awyddus i weld y Ffair yn parhau.

Soniwyd mis neu ddau’n ôl fod y Cyngor wedi cytuno i gyfrannu at gais am arian gan Theatr Bara Caws. Trafodwyd hyn eto a chytunwyd y dylid cefnogi ceisiadau sy’n hybu’r celfyddydau os yn bosib, yn enwedig rhai drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal. Cynigodd Y Cyng. Dafydd Dafis ac eiliodd Y Cyng. Gareth Davies bod y Cyngor yn rhoi £100 at yr achos, a chytunodd pawb ar hyn.
David Jones a Sioned Graham-Cameron
- - - - - - - - -

Detholiad o newyddion y Cyngor Tref, o rifynnau Chwefror a Mawrth 2024




25.3.24

Clwb Camera Blaenau Ffestiniog

Sefydlwyd y clwb yn 1961, ac ymhlith yr aelodau cyntaf oedd Ted Breeze Jones a Gwilym Livingstone Evans. Cynhaliwyd y cyfarfodydd cynnar yn adeilad yr Urdd cyn symud i'r Caban ar Y Sgwâr.

Aelodau tua diwedd y 90au

Dros y blynyddoedd mae'r clwb wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau yn erbyn clybiau eraill, a sawl aelod wedi ennill anrhydedd gan y Gymdeithas Ffotograffiaeth Brenhinol am eu gwaith. Mae'r clwb yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Ffotograffiaeth Gogledd Cymru, ac mae lluniau aelodau yn ymddangos yn gyson mewn arddangosfeydd a chystadlaethau gan y Gymdeithas.

Mae tymor y clwb yn rhedeg o fis Medi i Ebrill gyda theithiau yn cael eu trefnu yn yr haf. Un o anturiaethau cynnar y clwb oedd i Ynys Enlli. Yn yr 80au aeth y clwb ar ymweliad i Ynys Llanddwyn, ond ni wnaeth dau aelod blaenllaw (Selwyn ac Arthur) ystyried y llanw a bu rhaid tynnu esgidiau, sana a throwsus i gyrraedd yn ôl ar dir sych. Ar achlysur arall cyrhaeddodd aelod lleoliad y daith a darganfod nad oedd ei chamera yn y bag!

Penmon gan Gareth Williams

Mae rhaglen y clwb yn amrywio o nosweithiau ymarferol ble byddem yn dysgu am feddalwedd ffotograffeg cyfrifiadurol; i nosweithiau gwerthuso lluniau ein gilydd, gyda chystadlaethau mewnol ar themâu penodol. Hefyd yn rhan o'r rhaglen bydd y clwb yn estyn gwahoddiad i ffotograffwyr o glybiau eraill i son am eu gwaith hwythau. 

Llyn Traws gan Helen Kelly

Un o uchafbwyntiau'r tymor presennol oedd noson yng nghwmni y Parchedig Richard Hainsworth o glwb yr Wyddgrug. Mae Richard yn arbenigo mewn ffotograffiaeth 'astro' a dangosodd luniau gwych o'r Llwybr Llaethog (Milky Way), y sêr a galaethau eraill.

Mae'r pandemig a'r cyfnod clo wedi newid y ffordd mae clybiau yn gweithredu; mae ymweliadau â chlybiau eraill wedi darfod (ar hyn o bryd), ac mae rhai clybiau wedi gorfod cau. Erbyn heddiw dim ond deuddeg aelod sydd yng nghlwb y Blaenau, a rydym yn awyddus i groesawu aelodau newydd o bob oedran, gallu a phrofiad. Does dim rhaid cael camera mawr heddiw, mae ffôn symudol a chamera compact yn cynhyrchu lluniau o ansawdd gwych.

Mae'r clwb yn cyfarfod yn y Ganolfan Gymdeithasol am 7:30yh (am tua 2 awr) ar nos Fercher, Medi i Ebrill. Am fwy o fanylion ewch i wefan y clwb neu cysylltwch â Dewi Moelwyn Williams ar 07855 988260.
- - - - - - - - - -

Darn o rifyn Chwefror 2024


22.3.24

Hen Furddunod a Phwerdy

Y siaradwr yng nghyfarfod Ionawr Cymdeithas Hanes Bro Ffestinog oedd Steffan ab Owain. Daeth criw da ynghyd i'w glywed yn traddodi ei drydedd darlith ar hen furddunnod y plwyf. 

Y tro hwn cychwynnodd gyda hanes Llennyrch y Moch a Thŷ Coch yn y Manod, cyn symud i dai a safai ger Llyn Dubach yn Chwarel Dŵr Oer. 

Oddi yno aeth â ni at Lyn Bowydd a Llyn Newydd ble yr oedd Hen Dŷ'r Mynydd a Thŷ'r Mynydd gan adrodd hanesion am drigolion yr annedd-dai hynafol hynny. 

Gorffennodd ei sgwrs gyda hanes y tai a oedd yn chwareli Maenofferen a Lord, sef Tyddynnod Maenofferen, Quarry Bank, Tŷ Pwdin, Tai Defn a'r Tŷ Uncorn Uchaf.

Cafwyd trafodaeth ddifyr ar y diwedd a rhannwyd straeon am gymeriadau a oedd yn byw yn rhai o'r hen gartrefi. Diolchwyd i Steffan gan Gwyn Lloyd Jones o'r Bala, sy'n aelod ffyddlon o'r gymdeithas.

Eifion Lewis oedd yn rhoi darlith cyfarfod Chwefror, a'i destun oedd Pwerdy Maentwrog. Cawsom hanes creu Llyn Trawsfynydd ganddo ac adeiladu'r argaeau gwreiddiol yn y 1920au; helaethu'r llyn yn y pumdegau efo camlesi, a'r argae newydd yn y 1990au.

14.3.24

Pwy a Saif Gyda Ni?

Cafwyd noson arbennig arall o adloniant; diwylliant; chwyldro ar nos Wener olaf Ionawr, yng nghaffi Antur Stiniog. Hon oedd y cyntaf o dair noson ym misoedd cyntaf 2024, dan ofal cangen Bro Ffestiniog o’r ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru. Efallai y cofiwch bod 5 noson wedi eu cynnal yng nghyfres Caban y llynedd.

Llun gan Hefin Jones

Y bytholwyrdd Tecwyn Ifan oedd yn canu y tro hwn, gydag ambell i gân llai cyfarwydd a nifer o’r clasuron. Denodd yr hen ffefryn ‘Y Dref Werdd’ gyd-ganu gan y gynulleidfa, a’r gytgan:

‘Awn i ail-adfer bro
awn i ail-godi’r to
ail-oleuwn y tŷ.
Pwy a saif gyda ni?’ 

Llun gan Cadi Dafydd
yn arbennig o deimladwy ac yn berthnasol iawn hyd heddiw. 

Y prifardd Ifor ap Glyn oedd y gwestai arall, yn adrodd rhai o’i gerddi, gan gynnwys ‘Mainc’ sy’n cyfeirio at fainc sglodion y chwarel. 

 

Roedd hynny’n taro nodyn am mae diwedd Cymdeithas Y Fainc Sglodion yn lleol ysbrydolodd ni i gychwyn y nosweithiau yma. 

 

Gwych oedd gweld y caffi yn llawn eto, a’r artistiaid yn cael gwrandawiad arbennig gan bawb oedd yno. 


Eto i ddod: hanes Gareth Bonello a Meleri Davies yn noson Caban Chwefror.

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2024

Cofiwch am noson ola'r gyfres (tan yr hydref) ar Ebrill y 5ed, efo Gwyneth Glyn a Twm Morys yn canu, a sgwrs gan yr awdur Mike Parker.


8.3.24

Tad a Mab Disglair

Roedd G.J. Williams yn brifathro Ysgol Gynradd Glanypwll yn 1862, pan gyhoeddodd ei lyfr Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf. Ond cyn dilyn cwrs yng Ngholeg Normal Bangor bu’n gweithio yn chwarel Llechwedd, ac roedd ganddo enw am fod yn ddaearegwr galluog. Yn 1891 derbyniodd gymhorthdal gan y Gymdeithas Ddaearegol at gyhoeddi ysgrifau ar fynyddoedd Manod a Moelwyn. 

Camwaith y tad
Doedd dim syndod felly iddo gael ei benodi’n ddirprwy i’r archwiliwr mwyngloddiau le Neve Foster, fel y dywed John William Jones yn y Bywgraffiadur Cymreig. Ond rhoddir 1895 fel blwyddyn y penodiad, ac erbyn hynny roedd le Neve Foster wedi gadael ei swydd. A oes camgymeriad yn y dyddiad, neu a fu iddo gael ei benodi gan olynydd le Neve Foster? 

Ganwyd Daniel, mab G.J. Williams, yn Ffestiniog yn 1894. Cafodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Prifysgol Cymru yn y ddinas, lle enillodd sawl ysgoloriaeth a graddio mewn mathemateg yn 1917 (cafodd aros yn y coleg yn ystod rhyfel 1914-18 oherwydd cyflwr bregus ei iechyd). Am ychydig bu’n astudio sefydlogrwydd awyrennau dan arweiniad ei gyn-bennaeth coleg ac arbenigwr arall yn y maes. Yna ymunodd ag Adran Aerodynameg y Labordy Ffisegol Gwladol yn Teddington, a dyna lle y bu am weddill ei yrfa. Ymgymerodd â gwaith damcaniaethol a thwnel-gwynt ar awyrlongau i ddechrau. Yna trodd at astudiaethau twnel-gwynt ar awyrennau.

Ond yn 1930 galwyd arno i newid ei ddyletswyddau. Yn y flwyddyn flaenorol adeiladwyd yr awyrlong R 101 dan nawdd y Weinyddiaeth Awyr i fod yr un gyntaf o ddwy a fyddai’n cynnal gwasanaeth teithio rhwng gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig. 

R 101, gwrthrych astudiaeth y mab (llun: yr Archifau Gwladol a Wikimedia Commons)
Hon oedd yr awyrlong fwyaf yn y byd ar y pryd – 731 troedfedd o hyd. Ar ôl ehediadau arbrofol ac addasiadau (gan gynnwys ymestyn ei hyd ac ychwanegu un bag hydrogen at y rhai oedd arni eisoes er mwyn cynyddu ei hysgafnder) aeth ar ei thaith dramor gyntaf ym mis Hydref 1930. Ond syrthiodd i’r ddaear yn Ffrainc gan ladd 48 o’r 54 ar ei bwrdd. Dyna un o drychinebau gwaethaf y degawd yn hanes awyrlongau, a rhoddwyd terfyn ar ddatblygiadau Prydain yn y maes. Ar gais cadeirydd y llys a sefydlwyd i ymchwilio i’r digwyddiad gofynnwyd i Williams gydweithio ar gyfrifiadau ar ehediad terfynol R 101. Derbyniodd ddiolchiadau gan y cadeirydd am ei waith.

Roedd yn aelod ffyddlon yng Nghapel Cynulleidfaol Kingston-on-Thames ac yn arbennig o weithgar gyda’r Ysgol Sul. Fe’i disgrifir fel aerodynamegydd yn y Bywgraffiadur Cymreig gan W. Dennis Wright, sy’n dweud i’w dad G.J. Williams fod yn archwiliwr mwyngloddiau yng ngogledd Cymru. 

Philip Lloyd

- - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024


4.3.24

Hanes Rygbi Bro- Tymor 1989-90

Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o ddyddiadur rygbi Gwynne Williams

Mehefin 1989
Pwyllgor: Cae – Cyflwr da, Jon wedi ei dorri; Pyst – wedi’u paentio gan Malcolm, Marc, A, Tony a Gwynne

Gorffennaf
Cyfarfod swyddogion Clwb a Bwrdd Datblygu – yn gefnogol
Pwyllgor  Cae – Wedi codi pyst a pyst lampau – cymorth John Harries/Merched yn glanhau/pres y bar i Post Tanygrisiau (Fred)/Rhodd –i hogia Traws am olchi crysau 

Awst
Ennill Plat 7 bob Ochr, Harlech. Gŵyl Drafnidiaeth ac Ynni (£1K i’r clwb). Pwyllgor Merched –Cad Rosemary Humphries/Ysg Margret Roberts/Trys Ann Jones. Ian Blackwell (Dolwyddelan) fel hyfforddwr /Deiseb gan rdigolion am y coed.

Medi
Cyfarfod Arbennig (Presennol: 20) Derbyn y Fantolen Ariannol – Colled o £800 taith Hwngari/ Newid Flwyddyn Ariannol  i 1 Chwefror hyd 31 Ionawr /Noson Ffarwelio â Mike Smith.     Pwyllgor y Clwb Criced yn ail ffurfio a defnyddio’r clwb. Traws 21: 8 tîm i gystadlu / Raffl -Gwneud Grand National

Hydref
Glyn Jarrett, Rob a Malcolm, Bryan, Eric, a Kevin Jones Ardal Rhondda v Ardal Gwynedd (Merthyr). Pwyllgor   Clwb – Tenders mynd allan 4 neu 5 Cwmni /Bil o £2.3K peirianydd adeiladol. Bryn, capt ail dîm ddim yn medru cario ymlaen – Arwyn Humphries yn Gapten. Clwb 300 – Arwyn wedi cymryd drosodd yn absenoldeb Morgan

Tachwedd
Dylan Thomas a Hayden Griffiths (Ymarfer efo tîm dan 18 gogledd). Gary Hughes Rob a Marc Atherton Meirionnydd Dan 23. Gwilym James Cwpan Howells 1988/1989. Noson Tân Gwyllt  a “Naughty Nightie Night”. Pwyllgor: Cyfethol Dafydd Williams. Rhodd o £70 i Mike Smith (Noson Ffarwelio) /Rhodd o £50 gan Deilwyn. Gofynodd Ian Blackwell os caiff C P Dolwyddelan ymarfer yn y  clwb. 

Ionawr 1990
TRAWS 21-  Gêm Derfynol Bro 3 v Harlech 24. Bryan Davies- Gwynedd. Pwyllgor: 2 ail dîm– Arwyn wedi brifo– Bryan yn cymryd y gapteiniaeth. Dan 13- colli’r gêm gyntaf Nant Conwy 18 – 0. Bar – Prynu peiriant hap chwarae £750. Llywydd – rhodd gan Gwilym Price o £50. Marwolaeth Des Treen Cadeirydd Undeb Rygbi Ardaloedd Cymru.

Chwefror
Pwyllgor: Cais i stiwardio Gŵyl Drafnidiaeth ac Ynni.

Mawrth
Cynhalwyd Noson y Merched yn y Clwb.

Ebrill
Cae –Tlws Regina (7 bob ochr) Curo Harlech. Pwyllgor Tŷ: Trafferthion twrch daer; gofyn i Glyn J a Tei Ellis am gyngor. Bore Sul trefnu gwaith ar y cae ar gyfer Cwpan Gwynedd (Nant Conwy  v  Harlech). Hunter Electrics archwilio sustem larwm a thrwsio’r cynhesydd dwr. Hafan Deg– Trigolion yn dal i gwyno am y coed.

Mai
Traws 9 v Bro 7. Kevin Griffiths, gwahardd am 5 wythnos gêm Bae Colwyn. Pwyllgor: Tymor nesa Cynghrair Gwynedd i’w gynnal ar sail gemau adref a ffwrdd. Coed– Llythyr wedi ei anfon at Gymdeithas Tanygrisiau (Hafan Deg). URC- gwrthod cais am aelodaeth lawn. Cinio Blynyddol/Cyfarfod Blynyddol:
Tîm 1af:   Chwarae 33  Colli 18  Ennill 14
2ail Dîm:  Ch18  C13  E4  Cyfartal 1
Ieuenctid  Ch4    C3    E1
Trysorydd- Derbyniadau yn fwy na thaliadau o £3,920. Aelodaeth- £598.
Ethol: Llyw (am 3 bl) Gwilym Price; Cad Dr Boyns; Trys Robin; Ysg RO; Gemau Michael; Tŷ Glyn; Aelodaeth Gwynne; Cae Mike Osman; Capt 1af a Hyff Glyn Jarrett; Capt 2ail Arwyn Humphries (Rheolwr); Eraill Dafydd Williams, Morgan Price, Jon, Derwyn Williams.  
Chwaraewr y Flwyddyn- Robert Atherton;    Chwaraewr Mwyaf Addawol- Kevin Griffiths; Chwaraewr y Flwyddyn II- Alan Thomas; Clwbddyn- Michael Jones.
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024



28.2.24

Ffrae iaith HSBC

Trist iawn fu’r dadlau diweddar am y Gymraeg â banc HSBC. Mae’r banc hwnnw bellach, fel sy’n hysbys i lawer, wedi penderfynu cau eu gwasanaeth ffôn Cymraeg. 

Yr unig ffordd o allu ymwneud efo ‘banc lleol y byd’ yn Gymraeg bellach yw drwy gael rhywun i’ch ffonio’n ôl – mewn tridiau. Fel pe bai gan bobl y moethusrwydd o allu aros tridiau i siarad efo rhywun am faterion ariannol sydd yn aml agen eu datrys yn syth! Mae’n haws mynd i Borthmadog, ar y bws, yn y glaw, mewn corwynt.

Pan symudais i’r Blaenau ddeng mlynedd yn ôl, un o’r pethau cyntaf a wnes i oedd ceisio agor cyfrif yn y gangen o fanc HSBC a fodolai yn y dref ar y pryd. Ond na! Gwrthodwyd gadael imi wneud hynny. Doedd y banc ddim yn derbyn cwsmeriaid newydd. Cofiaf ofyn ar y pryd “Pam? Eisiau cau’r banc ydach chi?” ac fe wadwyd hynny’n gryf. Ond mewn rhai blynyddoedd, dyna’n wir a ddigwyddodd. Fe gaewyd y banc yn llwyr. 

Pam sôn am hyn? Wel, fe aeth y llinell ffôn Gymraeg rwy’n credu yr un ffordd â’r gangen leol o’r banc HSBC a oedd yma ar un adeg – cyfyngu ar yr hyn a allai wneud, ac wedyn ei gau, gan roi’r cyfiawnhad nad oedd llawer yn ei ddefnyddio. 

I wneud pethau’n waeth, mae HSBC ers peth amser bellach yn codi tâl ar fentrau cymunedol bychain, fel Llafar Bro, am gael cyfrifon gyda nhw, a hyn mewn dyddiau o brysur bwyso ariannol. 

Pryd mewn difrif calon y cawn ni fel cenedl fanc cenedlaethol fel yr ydym yn ei haeddu? Mae sawl banc cynhenid gan Wlad y Basg, er enghraifft, gwlad sydd tua’r un faint â Chymru. Mae gan hyd yn oed Andora, gwlad fechan iawn, llai na Meirionnydd, efo poblogaeth o 79 mil, fwy nag un banc ei hun. 

Llun o gyfrif trydar Banc Cambria, sy'n gobeithio creu banc cymunedol i Gymru, ond yn methu cael cefnogaeth y diwydiant

Y mae’n hwyr glas i’r Llywodraeth yng Nghaerdydd roi’i gorau ar lusgo ei thraed a sefydlu banc cymunedol fel yr addawsai wneud - banc sy’n gwasanaethu ein gwlad a’n cymunedau, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel gwlad a chenedl, nid ydym yn haeddu dim llai na hynny.

Chwi ddarllenwyr Llafar Bro – ac yn enwedig chi sy’n rhedeg busnesau yn yr ardal – beth am gysylltu efo’ch straeon o ddiffyg gwasanaethau bancio yn yr ardal, ac yn arbennig diffyg gwasanaethau bancio trwy gyfrwng y Gymraeg?
GLJ.
- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024



22.2.24

Stolpia- Tywydd Gaeafol (II)

Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Ar wahân i ryw ychydig nosweithiau o rew, tywydd gwlyb a gwyntog a gawsom gan fwyaf ym mis Rhagfyr gydag un storm ar ôl y llall. Yn wir, bu sawl diwrnod yn ddigon tyner er nad oedd yn heulog. Tybed sut fath o dywydd a gawn yn ystod 2024? Amser a ddengys, ynte?

Soniwyd eisoes am rai o’r gaeafau caled a gafwyd yma yn ein bro a rhannau eraill o Gymru gynt yn y rhifyn diwethaf. Y tro hwn, rwyf am daflu golwg sydyn ar rai o’r gaeafau oer a ddioddefodd ein teidiau a’n hen deidiau yn ystod yr ugeinfed ganrif. 

Yn ôl yr ystadegau roedd gaeaf 1917, 1929 ac 1933 yn rhai pur ddrwg a chollwyd llawer o ddefaid mynydd trwy’r wlad yn dilyn yr oerfel mawr. Cafwyd cnwd iawn o eira yn y Blaenau a’r cyffiniau ym mis Chwefror a Mawrth 1937, hefyd. Ymdrechodd cwmni Crosville i gludo teithwyr ar y bws i Drawsfynydd ac i Eisteddfod Llawrplwy ym mis Chwefror, ond aflwyddiannus y bu oherwydd yr eira ar y ffyrdd. 

Bu’n ‘smit’ yn y chwareli, h.y. rhwystrwyd hwy rhag gweithio o achos y tywydd oerllyd, a methodd trên GWR a chyrraedd Stesion Grêt yn y Blaenau. Cafwyd eira trwm yn ystod wythnosau cyntaf mis Mawrth yn ogystal, digon i atal pobl rhag mynychu’r oedfaon yn y capeli, hefyd.

Diolch i Gareth, Ysgrifennydd ein Cymdeithas Hanes am y llun hwn yn dangos sut yr oedd hi yn ein tref y flwyddyn honno:

Cofnodwyd hefyd i’r ardal gael eira a rhew caled yn ystod gaeaf 1940, ond un 1947 a gofiai y to hŷn amdano am flynyddoedd wedyn. Dywedir iddo ddechrau gydag oerwynt o’r gogledd ar y 15fed o Ionawr a dilynwyd hwnnw gan eira ar 21 Ionawr. Bu’n bwrw eira yn drwm o’r diwrnod hwn ymlaen ac am ddyddiau wedyn mewn sawl ardal fel bod trwch yr eira yn 5 troedfedd yn amryw o leoedd, a lluwchfeydd oddeutu 20 troedfedd o ddyfnder ar y bryniau a’r mynyddoedd. 

Parhaodd y tywydd oer a disgynnodd yr eira yn ysbeidiol tan 15 Mawrth, a chan ei bod ond dwy flynedd er diwedd yr ail Ryfel Byd roedd hi’n fain am fwyd i lawer teulu gan fod yr holl wlad dan eira mawr ac roedd bron yn amhosibl i rai deithio i nôl neges o’r siopau. 

Bu Chwarel Oakeley, chwarel fwyaf yr ardal, ar gau o 13 Chwefror hyd at 18 Mawrth, a degau o weithwyr allan o waith. 

Rhew mawr yn Chwarel Oakeley 1947

Rhewodd mor ddrwg yn y Lefel Galed fel bod pibonwy a darnau o rew yn dal yng nghanol y lefel tan ddyddiau cyntaf mis Mehefin. 

Roedd rhew oddeutu 5 modfedd o drwch yng ngwaelod Trwnc y K, a chafwyd peth mor isel a lloriau tanddaearol yr L a’r M.

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024

20.2.24

Y Dref Werdd- Gerddi Cymunedol

I’r rhai ohonoch sydd heb fod i erddi Maes y Plas, beth am fynd yno am dro? Gardd farchnad gymunedol yw hi yn y Manod, lle mae digon o fwrlwm i’w gael. Mae yna dwnnel polithîn a llawer o lysiau yn tyfu yno’n barod. Gan fod yr ardd yn fawr, mae'n brosiect ymarferol iawn. 


Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn i ddysgu sgiliau garddio newydd, bod allan yn yr awyr iach, cadw’n heini, gwneud ffrindiau, neu os hoffech chi ddim ond gweld beth sy'n digwydd yna cysylltwch!

Rydym yn cynnal diwrnodau gwirfoddoli wythnosol ar ddydd Iau rhwng 10yb a 4yh i bobl sydd wir eisiau cymryd rhan.

Mae 'Safle Antur' yn werddon gudd ger Llechwedd, ar y ffordd allan (neu i fewn) i’r Blaenau. Roedd yn jyngl wedi gordyfu cyn i ni ymyrryd, yn llawn dop o rywogaethau anfrodorol ac ymledol fel Rhododendron ponticum, llysiau'r dial, a Buddleia


Mae'r safle hwn wedi cael llawer o sylw i’w chael i’r cyflwr y mae ynddi nawr. Yn wir, mae’r llecyn wedi troi yn fan cymunedol bendigedig mewn ardal goetir wedi'i hadfer. Er mwyn gwella bioamrywiaeth ar y safle ac annog mwy o fywyd gwyllt brodorol, rydym wedi creu cynefinoedd gwahanol megis pwll bywyd gwyllt, ac wedi plannu coed brodorol ychwanegol. 


I annog pobl i fynd allan i fyd natur rydym ni wedi creu llwybr natur ac adeiladu tŷ crwn hygyrch a ddefnyddir ar gyfer rhai o’n sesiynau lles a’n gweithgareddau gyda’r project ‘Dod Nôl at Dy Goed’.

Dyma rai lluniau 'cynt ac wedyn' i ddangos yn iawn faint o waith a wnaed ar y lleoliad yma! 

Dechreuwyd y syniad ar gyfer gardd gymunedol Hafan Deg ymhell yn ôl yn 2015.  Canfuwyd darn o dir segur a oedd wedi gordyfu ac yn denu sbwriel fel lleoliad a ellid ei droi yn fan gwyrdd cymunedol posibl. Gyda chefnogaeth ac anogaeth trigolion lleol a chymdeithasau tai, trawsnewidiwyd y llecyn i’r ardd fywiog a llwyddiannus y mae hi ar hyn o bryd. Yn allweddol i lwyddiant yr ardd yw'r gwirfoddolwyr lleol sy’n gofalu amdani ac yn tyfu’r bwyd yno. Mae sôn arbennig am Brian, prif arddwr wedi ymddeol. Mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn plannu, chwynnu, tyfu eginblanhigion ac yn gyffredinol yn cadw llygad barcud ar y lle! Mae'n cael cefnogaeth gan Damian sy'n helpu gyda'r gwaith o dorri gwair a thocio. 

Mae trigolion y stad yn mwynhau dod at ei gilydd yn yr ardd, a phob hydref maent yn rhannu ffrwythau a llysiau’r cynhaeaf.
- - - - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024


17.2.24

Yr Hawl i Gartref


Ym mis Tachwedd, ymwelodd trelar ‘Deddf Eiddo’ Cymdeithas yr Iaith â’r fro, gan basio drwy storm fawr ar Fwlch y Gorddinan ar ei ffordd yma. Roedd y trelar yn teithio drwy Gymru i gynhadledd Deddf Eiddo’r Gymdeithas yng Nghaerdydd gan ymweld â chymunedau gwahanol ar hyd y ffordd. 

 


Galwyd yng nghaffi Antur Stiniog, lle clywed am ddatblygiad tai dan arweiniad y gymuned gyda Ceri a Gwenlli o Gwmni Bro. Aed wedyn i’r Pengwern, lle cafwyd cyflwyniad difyr gan Sel Williams am y fenter gymunedol hynod lwyddiannus hon, ac am swyddogaeth anhepgor mentrau cymunedol yn y frwydr i gadw’n cymunedau, a’r Gymraeg, rhag edwino ymhellach. Eglurwyd fod mentrau cymunedol yn gweithredu fel rhyw fath o ffordd ganol rhwng cyfalafiaeth reibus ar un llaw, ac ideoleg fwy sosialaidd o ganoli pethau yn nwylo’r wladwriaeth ar y llall. Mae hefyd yn fwy triw i’r traddodiad a’r ysbryd Cymreig o gydweithio cymunedol, ac yn ateb unigryw Cymreig felly i lawer o broblemau cymdeithas.

Cynhaliwyd y gynhadledd i wyntyllu syniadau ynghylch sut i fynd i’r afael â’r problemau tai niferus sy’n tanseilio hyfywedd cymunedau Cymru. Ymysg y problemau hyn mae ail dai lluosog, tai gwag, diffyg tai cymdeithasol, prinder tai fforddiadwy, tai yn cael eu prynu gan ddieithriad a’u troi yn llety gwyliau er mwyn hel arian, a datblygiadau anferthol a di-angen o dai newydd wedi eu gyrru gan y gred gyfeiliornus fod yn rhaid codi mwy a mwy o dai, waeth beth fo’r angen lleol, i hybu’r economi. Ac ar yr un pryd (ac efallai oherwydd hyn i gyd) mae digartrefedd ar gynnydd. 

Un o’r siaradwyr yn y gynhadledd dai oedd ein Haelod o’r Senedd, Mabon ap Gwynfor. Meddai yntau am y sefyllfa dai: 

“Os oedd yn argyfwng ddwy flynedd yn ôl, mae’n gatastroffi erbyn hyn.” 

Soniodd hefyd am ymweliad o’i eiddo â Fiena, ble buwyd yn datblygu tai cymdeithasol ers 1923. Mae llawer o’r tai cymdeithasol hyn yn gymunedau bychain yn eu hawl eu hunain, gyda thramiau yn pasio’n gyson, ac yn cynnwys mannau gofal iechyd a llefydd gofal plant. Mae Mabon o’r farn y dylai Cymru fod yn gweithredu o fewn  fframwaith tai digonol y Cenhedloedd Unedig, a bod angen pasio deddf sy’n ei gwneud hi’n rheidrwydd darparu tai addas. Soniodd siaradwr arall am y sefyllfa yn Nenmarc, lle mae tai wedi eu codi yn benodol ar gyfer pobl ifanc. 

Meddai Mabon eto:

“Dydy’r farchnad rydd ddim yn gweithio yn ein cymunedau ni a dydy’r farchnad rydd ddim yn gweithio dros Gymru. Dyna pam bod angen ymyrraeth.”
Mae Mabon yn un o’r rhai sy’n galw am Ddeddf Eiddo fel y bu Cymdeithas yr Iaith yn galw amdani ers degawdau, ac am ddileu deddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref a luniwyd gan San Steffan, sy’n trin tai mewn cyd-destun economaidd yn hytrach nag fel angen cymdeithasol i ddarparu cartref.
Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i rai o argymhellion y gynhadledd! 

Gwych yw cyhoeddi y bydd Rali Fawr Nid yw Cymru ar Werth yn dod yma i Stiniog ar Fai y 4ydd ar Ŵyl Ryngwladol y Gweithwyr:

“Dyma'r cyfle ola am flynyddoedd i sicrhau deddfwriaeth! Dyma hefyd flwyddyn cyhoeddi Adroddiad Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Pwyswch am gynnwys cynigion Deddf Eiddo i reoli'r farchnad dai a rhoi grym i'n cymunedau.”

- - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024

Erthyglau am sefyllfa dai Bro Ffestiniog 

 

15.2.24

Senedd ‘Stiniog- Stwlan a llinellau Melyn

Newyddion o Gyngor Tref Ffestiniog

Daeth mwy o newyddion da ar ddiwedd 2023 wrth i aelod newydd arall ymuno â’r Cyngor. Golygai hyn fod chwe chynghorydd newydd wedi ymuno dros y misoedd diwethaf.  Dyma restr y wardiau a’u cynghorydd ar hyn o bryd:

Bowydd a Rhiw (5 sedd)
Rory Francis, Morwenna Pugh, Troy Maclean, Peter Alan Jones a David Meirion Jones.
Tanygrisiau (1 sedd)
Dafydd Dafis.
Conglywal (2 sedd)
Mark Thomas ac Alun Jones.
Diffwys a Maenofferen (5 sedd)
Eifiona Davies (Is-Gadeirydd), Gareth Glyn Davies, Dewi Prysor Williams, Geoffrey Watson Jones, 1 x GWAG.
Cynfal / Teigl (3 sedd)
Linda Ann Jones, Marc Lloyd Griffiths (Cadeirydd), 1 x GWAG.
O edrych yn fanwl ar y rhestr fe sylweddolwch fod bylchau’n parhau i fod.  Pa well amser na  blwyddyn newydd i wneud rhywbeth newydd? Oes gennych ryw addewid blwyddyn newydd i geisio gwneud gwahaniaeth bach, er lles, yn lleol?  Pam ddim ystyried gweithredu ar bwyllgor Cyngor y Dref?  Os oes diddordeb gennych neu am ymholiadau, yna cysylltwch â’r Clerc am fwy o fanylion.

CYFARFOD CYFFREDINOL
Yn rhan ‘Cyfranogiad y Cyhoedd’ yr agenda, daeth John Armstrong o gwmni Engie i egluro am y gwaith sydd ar fin cychwyn ym Mhwerdy Ffestiniog yn Nhanygrisiau.  Ail hanner y prosiect o newid y tyrbinau ydyw mewn gwirionedd.  Mae pedwar tyrbin yno, a newidiwyd dau ohonynt eisoes.  Wrth wneud hyn bydd gwaith ail-wampio a diweddaru peirianwaith ymylol yn digwydd hefyd.  

Nid oes disgwyl unrhyw anawsterau i ardal Tanygrisiau na’r dref, oni bai am ambell i lori fawr.  Diolchwyd iddo am ei bresenoldeb a’i eglurhad.  Cafodd y Cyngor wedyn gyfle i’w holi fynta am y safle.  Yn dilyn ymholiad gan Y Cyng. Rory Francis. Dywedodd John fod y broblem baw ci ar hyd yr argae i weld wedi ei sortio ar hyn o bryd a bod cerddwyr y cŵn yn glanhau ar eu holau.  Os byddai hyn yn parhau, yna byddai ddim bygythiad i’r llwybr cerdded, meddai.  Holodd Y Cyng. Dafydd Dafis wedyn pryd fyddai’r hen lwybr tu cefn i’r orsaf yn ail-agor a pham fod Argae Stwlan yn edrych fel bod y gwaith wedi ei adael ar ei hanner.  Dywedodd y byddai’n ceisio cael mwy o wybodaeth i’r Cyngor ynglŷn â’r llwybr a bod y gwaith o baentio’r argae yn un tymhorol, ac ar bris. Cytundeb blynyddol sydd fel arfer meddai, rhwng yr orsaf a chwmni preifat. Byddai’r gwaith wedyn yn ddibynnol ar y tywydd a phryd oedd y pres yn dod i ben. Pan roedd y pres yn darfod, yna dyna hi am y flwyddyn honno.

Derbyniwyd llythyr gan Iwan ap Trefor, Rheolwr Traffig a Phrosiectau Cyngor Gwynedd.  Roedd yn ymateb i gwynion gan y Cyngor Tref am y dryswch a grëwyd gan linellau melyn dwbwl yn Nolrhedyn.  Roeddent wedi achosi trafferthion i bobol leol gan fod y cyfyngiadau parcio yn aneglur.  Eglurodd Iwan yn ei lythyr fod y broses o newid unrhyw gyfyngiadau parcio yn broses hir, yn bennaf oherwydd y camau cyfreithiol sy’n ofynnol arnynt fel gwasanaeth, ond roedd am i’r Cyngor gael gwybod, o leiaf fod y broses honno wedi cychwyn.

Daeth cais am arian gan Glwb Nofio PBP (Porthmadog, Blaenau, Pwllheli).  Cytunwyd yn unfrydol fod y Clwb Nofio o fudd mawr i rai o bobl ifanc y dref a chytunwyd i gyfrannu 33% o’r ffigwr gofynnol, gan ddisgwyl i Port a Pwllheli gyfrannu’r 66% arall.

Derbyniwyd llythyr gan Sion Bryn, o’r Gwasanaeth Ieuenctid, yn mynegi ei bryder nad oedd plant Llan  eisiau mynychu’r Clwb Ieuenctid yno.  Cafwyd fan gemau yno, a daeth hanner dwsin o blant iddo’r tro cyntaf, ond neb yr wythnos wedyn.  Dywedodd eu bod am fynd â’r Clwb o’r Llan i’r Blaenau am y tro a cheisio eto yn Llan rhywdro eto.  Derbyniodd y Cyngor hyn, ond gyda phwyslais na ddylent anghofio am Llan yn y dyfodol.  Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid bellach wedi trefnu noson ychwanegol yn y Ganolfan pob nos Fercher.

Ym Mhwyllgor Mwynderau, derbyniwyd adroddiad gan Terry Tuffrey am ei ymweliad, fel llysgennad ‘Stiniog, i Batagonia.  Mae’n debyg i Terry gael croeso cynnes allan yn y Wladfa a chael profiad bythgofiadwy.

Trafodwyd wedyn am y gwaith cynnal a chadw sydd ar y gweill, gyda nifer o bethau i edrych ymlaen atynt o amgylch yr ardal yn 2024.  Gobeithir cael lle parcio bach a meinciau i’r cyhoedd gael mwynhau’r Berllan yn Nhan y Manod, ac mae cynlluniau i gael gwell adnoddau chwarae i’r plant yn y Parc ac i blannu blodau ac ati yno.  Dwi’n ddigon hen bellach i gofio bwrlwm y Parc flynyddoedd yn ôl.  Roedd garddwr/gofalwr llawn amser bryd hynny ac roedd y lle o hyd yn werth ei weld.  Blodau lliwgar a phobman yn daclus.  Sŵn taro peli tenis yn yr haf a phob cwrt yn brysur gyda’r awyr yn llawn lleisiau plant yn gweiddi a chwerthin.  Mae’n le arbennig pan mae’r haul yn tywynnu ac mae’n debyg bod y Cyngor (gobeithio) yn ara’ deg, am weithio at gael y gorau o’r lle unwaith eto.

Cadarnhawyd fod tir Pen-y-Bryn, Cae Baltic, Rhiwbryfdir wedi ei werthu. Aeth y pres tuag at gostau’r Berllan yn Nhan y Manod.  Dywedodd Y Cyng. Peter Jones y dylai’r pres wedi aros yn Rhiw gan mai pres pobol Rhiw ydoedd.  Cytunodd Y Cyng. Marc Lloyd Griffiths gyda’r safbwynt ac y dylai’r Cyngor flaenoriaethu unrhyw geisiadau am arian gan y Cyngor i ardal Rhiwbryfdir yn y dyfodol.  

Penderfynwyd gwerthu ‘Ben Banc’, fel ei gelwir, am fod wal gerrig sych fawr arni gyda chwymp serth i lawr at gefn yr hen Ysbyty yr ochr arall iddi.  Roedd y cyfrifoldeb am ei chynnal a chadw yn ormod.
Dymunodd y Cadeirydd, Y Cyng. Morwenna Pugh ar y noson, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb cyn cau’r cyfarfod.

David Jones. (Fy safbwynt i yn unig).
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024


8.2.24

John Cowper Powys ym Mlaenau Ffestiniog

Ym mis Mehefin 2023, aeth trigain mlynedd heibio ers marwolaeth un o awduron pwysicaf yr iaith Saesneg a hynny yn yr Ysbyty Goffa yn y Blaenau. 

Penderfynais ail ddarllen ei nofel fawr a maith, Owen Glendower, yn ystod yr haf y llynedd ac mae bellach yn fis Ionawr a dw i’n dal i’w darllen. 

Clamp of nofel ond anodd yw darllen ac mae’n fwy o ffantasi na nofel hanesyddol! 

 

Nofelydd ac athronydd oedd John Cowper Powys (8 Hydref 1872 - 17 Mehefin 1963). Clerigwr oedd ei dad, Charles Francis Powys ac roedd ei fam yn perthyn i'r bardd Saesneg William Cowper, ble cafodd John Cowper ei enw canol. Fe’i ganed yn 1872, yr hynaf mewn teulu o 11 o blant ac roedd dau o'i frodyr, Llewelyn a Theodore, hefyd yn awduron. Roedd yn gymeriad digon bisâr a rhyfedd ei arferion ond i’r Blaenau y daeth i fyw ar ddiwedd ei fywyd.

Yn awdur A Glastonbury Romance (1932) a Porius (1951), nofelydd, bardd, athronydd, cyfieithydd Rabelais a Dostoevsky, roedd John Powys yn un o ffigyrau llenyddol rhyfeddaf ei gyfnod. Roedd darllenwyr yn aml yn gweld bod ei waith yn annealladwy i raddau helaeth, ond eto yn rhyfedd o gymhellol. Nid oedd ganddo ei hun unrhyw amheuaeth o'i statws ac roedd yn synnu nad oedd wedi ennill Gwobr Nobel am lenyddiaeth! Credai fod meirw'r canrifoedd diwethaf wedi cyfathrebu ag ef a'i fod wedi profi'r digwyddiadau a ddisgrifiwyd yn ei nofelau hanesyddol. Mewn llythyr at ffrind yn y 1950au dywedodd ei fod yn 'wirioneddol ofnus o feddwl amdanaf fy hun neu wynebu fy hun' a bod ei nofelau yn ymdrechion i ddianc o'i bersonoliaeth ei hun i rai ei gymeriadau. A gwir gredai ei fod  wedi medru treiddio meddwl Glyndŵr ei hun a bod geiriau  y’i mynegir gan Glyndŵr yn y nofel yn hanesyddol gywir! 

Priododd Margaret Lyon yn 1896, ond nid oeddent yn hapus ac yn y 1920au yn yr Unol Daleithiau cyfarfu â Phyllis Playter, ei gariad a'i awen am weddill ei oes. Americanes oedd Phyllis yn hanu o Kansas City a ysgrifennodd Powys ei weithiau gorau dan rym ei beirniadaeth!

O 1935 roeddent yn byw yng Nghorwen, lle gallai fodloni ei hyfrydwch cyfriniol gydol oes yn y tirwedd y mae’n ei ddisgrifio fel obsesiwn yn Owen Glendower, a cherdded y bryniau. Bu farw Margaret ei wraig yn 1947 a'i unig blentyn, Littleton, yn 1954. Ym 1955 symudodd John a Phyllis o Gorwen i dŷ bach, 1 Waterloo, Tanymanod, yn y Blaenau, ‘yn uchel ym mynyddoedd Eryri’ fel yr hoffai ddweud. 

Ar ôl cyrraedd Waterloo roedd John yn byw yn bennaf ar wyau amrwd a dwy botel o laeth y dydd. Cyfansoddodd amryw o weithiau byr wrth fyw yn y Blaenau ac ystyrir y rhain fel ffantasïau rhyfedd. Tyfodd yn raddol wannach, rhoi'r gorau i ysgrifennu a bu farw'n dawel yn yr Ysbyty Goffa, yn 90 oed. Cafodd ei amlosgi a gwasgarwyd ei ludw yn y môr yn Chesil Beach yn Dorset.

Bu Phyllis Playter yn gymar i John am dros ddeugain mlynedd ac yn dilyn ei farwolaeth yn 1963 parhaodd i fyw yn eu tŷ bach yn Waterloo gan gynnig lletygarwch cynnes i'r ysgolheigion niferus a darllenwyr ymroddedig o'i waith a ddaeth i'w gweld yno ac i weld cartref olaf yr awdur. 

Cyflawnodd John ei waith gorau yng nghwmni Phyllis ac roedd hithau yn hollol ymroddedig i’w ysbrydoli a’i gynnal. Bu farw Mawrth 10fed, 1982, yn 89 mlwydd oed.

Tybed oes rhywrai yn Stiniog yn dal i’w gofio, neu yn cofio Phyllis Playter ac hwyrach efo ambell i stori? Cysylltwch …
Tecwyn Vaughan Jones
- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024


31.1.24

Stolpia- Tywydd Gaeafol

Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

O edrych yn ôl ar rai o’r gaeafau caled a fu yng Nghymru a gweddill Prydain tros y canrifoedd gwelwn bod nifer ohonynt wedi bod yn eithriadol o oer. Yn wir, ceir cyfeiriadau at rai o’r Oesoedd Canol a chynt. Bu rhai caled iawn yn yn ystod y blynyddoedd 1536/37, a 1683/84, hefyd 1708/09, 1811 a 1816, a sawl blwyddyn arall.

A chanolbwyntio ar rai mwy diweddar, dyma ychydig o hanes gaeaf gerwin 1895, neu fel byddai’n nhaid yn ei alw ‘Yr Heth Fawr’. Erbyn yr wythnos olaf ym mis Ionawr y flwyddyn honno adroddid bod un chwarel heb weithio ers tua mis a rhai eraill ers tair wythnos oherwydd y tywydd gaeafol, ac erbyn yr ail wythnos ym mis Chwefror, roedd holl chwareli’r fro wedi eu hatal. Golyga hynny bod oddeutu 4,400 o chwarelwyr yn segur oherwydd y ‘smit’. 

Nid yn unig yr oedd hi’n bwrw eira yn drwm yn ystod y dydd roedd yn rhewi’n galed yn y nos fel bod y nentydd yn blymen mewn llawer man. Roedd hi’n anodd cludo glo i lawer o dai gan fod y ffyrdd yn sglefr, neu wedi eu cloi gan eira, ac o ganlyniad, cyflogwyd dynion gan y Cyngor Dinesig i geisio eu clirio. Bu’n rhaid cau yr ysgolion drwy’r fro gan mai llond dwrn o blant a oedd wedi mentro cerdded drwy’r eira i fynd iddynt. Roedd yn rhewi mor ffyrnig fel ei bod yn anodd cael cyflenwad dŵr at wasanaeth y trigolion am fod y pibellau yn rhewi’n staenia.

Yn y storm eira hon y collodd Robert Roberts, Tyddyn Bach, Cwm Penmachno ei fywyd wrth groesi’r mynydd o dref Blaenau Ffestiniog i’w gartref, a byth er hynny, gelwid y tywydd trychinebus hwn yn ‘Heth Bob Roberts’. Ceid hanes un o ddefaid Stiniog wedi cerdded i mewn i dŷ o’r tywydd garw ac wedi rhoi ei dwy goes ar lin y ddynes yno er mwyn cael tamaid o fara.

Cofnodwyd y canlynol yn nyddiadur Richard Eames, goruchwyliwr Chwarel Cwm Orthin yn ystod mis Chwefror 1895: Trwch y rhew ar y llyn -23 modfedd. Dyfnder y llyn yn y fan y tyllwyd y rhew-5 troedfedd. Llefrith yn rhewi ar y bwrdd mewn rhyw chwarter awr o amser. Inc yn rhewi ar y llyfrau cyn eu sychu nes oeddynt fel briallu. Dau blyg o lechfaen orau yr Hen Lygad yn rhewi mewn diwrnod a noswaith fel na allwyd gwneud unrhyw fath o lechau ohonynt. Beth a ddigwyddodd yn hollt y llechfaen wrth rewi? Parhaodd yr heth am fis.

Yn ôl nodiadau Ioan Brothen yr oedd lluwchfa ar Garnedd Llywelyn ar 19 Mehefin 1895 yn 35 llath o hyd, 15 llath o led, a thua 10 troedfedd o drwch er y gwres mawr a wnaeth drwy Ebrill, Mai a Mehefin y flwyddyn honno. 

Cychwynnodd y trên cyntaf o orsaf y GWR (Stesion Grêt) yn y Blaenau bore dydd Iau a chyrhaeddodd Trawsfynydd yn weddol ddiffwdan, ond rhwng yr orsaf honno a’r Arenig aeth yr injian i luwchfa ddofn o eira er i’r gyrrwr roi gwib i mewn iddi gan obeithio ei chwalu i’r ymylon. Methu’n lân fu ei hanes i ddod oddi yno a bu’n rhaid gadael y peiriant yn y fan a’r lle. Dywedir bod y lluwchfa oddeutu milltir o hyd ac wedi rhewi’n gorn, ac o ganlyniad, anfonwyd tros gant o ddynion yno i’w glirio ond roedd yn ddydd Llun arnynt cyn y gellid cael y lle’n glir i’r trên gael rhwydd hynt i deithio ymlaen.


 Digwyddodd i’r trên fynd i drafferth mewn lluwchfa fawr y tu uchaf i Gwm Prysor yn ystod gaeaf 1947 hefyd, a phrin y gellid gweld corn yr injian ar ôl iddi hi dreiddio i mewn i’r holl eira. Dyma un o’r lluniau a dynnwyd ohoni ar yr achlysur bythgofiadwy hwnnw.

- - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2023

> Ail Ran

27.1.24

Terry ym Mhatagonia

Mae Terry Tuffrey wedi dychwelyd yn ddiogel o’r Wladfa ac wedi cael amser ardderchog yn hyrwyddo’r ardal. Cafodd nifer fawr o brofiadau gwerth chweil a byddai angen rhifyn arbennig o Lafar Bro i groniclo popeth fu yn wneud yno. 

Diolch i Terry am fod yn llysgennad mor wych i’r ardal ym Mhatagonia a bu ei ymweliad yn un lwyddiannus iawn. Terry oedd enillydd Ysgoloriaeth Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog 2023. 

Yn y lluniau cawn weld Terry yn Ysgol yr Hendre de Trelew. Fe’i derbyniwyd gan gyfarwyddwyr ac athrawon yr ysgol a rhannodd sgwrs ddymunol gyda disgyblion gradd 6. 


Yn ddiweddarach ymwelodd â Chlwb Rygbi Bigornia yn Rawson a chymerodd ran yn eu hymarferiadau! 

 Diolch i Bigo am eu croeso. 

Hwyrach y byddai modd eu cael drosodd i’r Blaenau i chwarae ar gae rygbi clwb Bro Ffestiniog, ein tîm lleol, ac i dîm Bro gael y cyfle i fynd i chwarae ym Mhatagonia?!

 

TVJ
- - - - - - - - - -

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2023

 

Un o'n sêr ni, a chyn-enillwyr yr ysgoloriaeth


23.1.24

Y Gymdeithas Hanes a Rhamant Bro

Roedd cyfarfod mis Tachwedd y Gymdeithas yn trafod y pandemig a ddilynodd y Rhyfel Mawr yn 1918-19. Fe’i gelwid yn Spanish Flu ac anwydwst a thebyg fod enwau eraill ar yr aflwydd marwol hwn. Can mlynedd yn ddiweddarach cafwyd pandemig arall, y Covid ac roedd y sgwrs ar y Spanish Flu yn dymhorol iawn a ninnau yn dal i fod dan gysgod hwnnw a’r llanast a grewyd mewn amrywiol ffyrdd.

Y siaradwr gwadd oedd Charles Roberts o Ben Bryn Llan, Llanefydd yn sir Ddinbych, saer coed wrth ei alwedigaeth yn cadw busnes gwneud dodrefn. Ond mae hefyd wedi gwneud ymchwil sylweddol ar bandemig 1918-19 a chawsom sgwrs ddifyr iawn ar dwf ac effaith y ffliw mawr hwnnw yng Nghymru a syndod gweld yn ei ystadegau mae gogledd orllewin Cymru a ddioddefodd waethaf gyda’r nifer mwyaf o achosion yn yr ardal hon.

Roedd yr ystadegau yn ysgytiol a theuluoedd cyfan yn marw … nid oedd y wyddoniaeth cystal bryd hynny ac yr oedd hi gan mlynedd yn ddiweddarach wrth drin y Covid ac roedd pobl yn dal i gymysgu mewn mannau oeddynt debygol o ymfflamychu’r clefyd. Soniodd am hanes trist y milwyr ifanc a fu farw yng ngwersyll milwrol Bae Cinmel … milwyr o Ganada yn bennaf oeddynt yn disgwyl llong i’w cludo yn ôl i’w gwlad. Roedd y rhain i gyd wedi goresgyn yr ymladd yn ffosydd Ffrainc ond ildio’u bywydau yn y pendraw i’r ffliw erchyll yma ac mae eu beddau i’w gweld heddiw ym mynwent Eglwys Farmor Bodelwyddan. 

Roedd y darlithydd yn dyfynnu yn helaeth o bapurau newydd y cyfnod … ond prin oedd y sylw a gafodd y ffliw hwn o’i gymharu â Covid ein hamser ni oedd ar dudalennau blaen y papurau newydd bob dydd am fisoedd lawer. Diddorol oedd cymharu sut oedd y llywodraeth yn trin a’r aflwydd yn y ddau gyfnod. Soniodd hefyd fod Lloyd George y Prif Weinidog yn y cyfnod hwn, wedi syrthio i grafangau’r clefyd a bu’n wael iawn ac yn ôl rhai sylwebyddion bu bron iddo golli ei fywyd.

Caed sylwadau difyr mewn ymateb i’r sgwrs ac yn amlwg roedd pawb wedi cael blas ar y pwnc.
Cynhelir y cyfarfod nesaf, nos Fercher, Ionawr 24 pan fydd Steffan ab Owain yn parhau ei sgwrs ddifyr ar hen furddunod y plwyf. Cynhelir y cyfarfodydd yn Ysgol Maenofferen a chroeso cynnes i bawb.
Yn y llun mae Charles Roberts y siaradwr a Dafydd Roberts Cadeirydd y Gymdeithas.
TVJ

RHAMANT BRO

Newyddion da i’r rhai ohonoch chi sy’n awchu i ddarllen y rhifyn diweddaraf o Rhamant Bro, sef cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog – y mae ar gael yn y siopau rwan! 

Unwaith yn rhagor ceir arlwy amrywiol o erthyglau ynddo, megis:

Streic Fawr y Llechwedd gan Gareth T. Jones; 

Yr Athro Jack Darbyshire gan Enid Roberts; 

Trin Cerrig gan Vivian Parry Williams; 

‘Pwyllgor Cerdd Meirion’ gan Aled Ellis; 

Cofnodion Ysgol Glanypwll gan Nia Williams; 

Pam Cofio Tryweryn gan Geraint V. Jones; 

Cymdeithas Enweiriawl Ffestiniog gan Marian Roberts;

Trawsfynydd Ddoe, a Trychineb yn Nhrawsfynydd gan y Golygyddion; 

Cipdrem ar Hanes Sinemâu Stiniog gan Steffan ab Owain. 

Yn ogystal, ceir tipyn o hanes Freeman Evans, Hen Siopau’r Dref, Celf ym myd y Llechen, ac ambell stori ddifyr arall. Mynnwch gopi cyn iddynt werthu’r cwbl!

- - - - - - - - - - - -

Dau ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2023

Ffliw Sbaen yn Yr Ysgwrn


19.1.24

Cwpan Nazareth Nadolig 1897

Ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn yn digwydd bod yng Nghaffi Antur Stiniog yn cael paned, pan alwodd un o’r staff arnaf. Roedd gŵr o’r enw Brian Jones a’i wraig wedi teithio i’r Blaenau o Fryste er mwyn olrhain hanes ei dad, oedd yn byw yma ganol y ganrif ddiwethaf. Mi gawsom ni sgwrs ddiddorol iawn, a dywedodd mae William Haydn Jones oedd enw ei dad; roedd yn byw yn un o’r strydoedd oddi ar stryd fawr y dref.

Dywedodd hefyd fod ganddo gwpan yn ei feddiant ers degawdau, ac ar ôl deall am fodolaeth Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, a’r arddangosfa yn y caffi, dywedodd y byddai wrth ei fodd yn dychwelyd y gwpan i’r dref.

Cytunais i edrych am ychydig o hanes ei dad a gyrru’r canlyniadau ato. Felly dyma gysylltu â dau arbenigwr ar hanes lleol, sef Steffan ab Owain a Vivian Parry Williams.

Yn y cyfamser, ar ôl derbyn y gwpan, mi fum wrthi am ddwyawr a hanner yn ei glanhau! Wrth wneud, daeth y geiriau Nazareth Nadolig 1897 i’r golwg, ac hefyd fanylion y gwneuthurwyr oddi tani, sef Triple Deposit Mappin & Webb’s Princes Plate London & Sheffield (Roedd stamp siâp twll clo a’r rhif 9½ hefyd ar yr ymyl).

 

Ar ôl dipyn o ymchwil daeth Steffan i’r canlyniad bod Côr y Moelwyn wedi ennill cwpan mewn eisteddfod yng nghapel Nasareth, Penrhyndeudraeth yn 1897. Roedd Brian Jones wedi son fod ei dad wedi ei eni ar yr 2il o Hydref 1910, ac aeth Vivian i edrych yn fanwl ar gyfrifiad 1911 ar gyfer y Blaenau a chanfod fod William Jones yn faban 8 mis oed bryd hynny yn rhif 21 Lord Stryd.

Mi yrrais ganlyniadau ein hymchwil at Brian a daeth llythyr yn ôl ganddo’n fuan iawn yn diolch yn fawr am waith arbennig fy ffrindiau. Ychwanegodd bod ei daid yn chwarelwr yn Chwarel y Manod, ond hefyd -yn allweddol i’r stori hon- yn arweinydd Côr y Moelwyn yn y flwyddyn 1897. 

Mae’n edrych yn debyg felly mae’r gwpan a enillodd y côr yn Eisteddfod Nazareth Nadolig ydi’r un oedd ym meddiant Brian. Diddorol dros ben yn’de! Mi fydd y gwpan rwan yn cael ei harddangos yn un o gypyrddau gwydr y Gymdeithas Hanes, yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog.

E. Dafydd Roberts
- - - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2023



17.1.24

Hanes Rygbi Bro- Tymor 1988-89

Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o ddyddiadur rygbi Gwynne Williams 

Mehefin 1988
22ain Pwyllgor-Taith Awstria/Hwngari –Archebu capiau a siwmperi; Debanturon gwreiddiol yn cadw am £500 a £25; Debaturon newydd eu derbyn am £ 750 a £25.

Awst
1af Pwyllgor- Taith –30 yn mynd Capiau siwmperi a pennants wedi cyrraedd; 2 neu 3 chwaraewr o Lanelli –talu am un ac insiwrans y lleill; Traws 21 –8 tîm yn talu £5 y tîm –rhoi tlysau i’r ennillwyr –dim gwydrau; Gwyl Ynni a Chludiant –Derbyniodd y Clwb £400 am stiwardio.
15-22 Awst- Taith Tramor i Awstria a Hwngari: Hennigsdorf, Esztergom, S.E. Fehevvar, Erd.
National Austrian XV Celtic Vienna  3  v  Bro  41.
Rob A 2 / Gwilym 2 / Sean G 2 / Malcolm A / Sean G 3 trosiad.
Erd (Hwngari)  6 v Bro  28  
Gwilym 2 / Rob A / Mike S / Ken 2 trosiad
Fehervar 0 v Bro  29.  Herngsdorf   6 v Bro 12. Cwpan Real Kupa yn Erd
Cystadleuaeth YRD: Bro yn 2 ail i Zbrojovika Bruno (Czechoslovakia); Mike Smith oedd “Chwaraewr Gorau’r Twrnament”. Sean Gale a Martyn Edwards o Lanelli.
30 Awst -Cyfarfod Blynyddol 1987 / 1988 (Presennol  24 )
Tîm 1af Ch 27    E 21        C 5    Cyf 1    O blaid 626 / Erbyn 197
2il dîm Ch 17    E 6        C11    O blaid204 / Erbyn 289
Ennill Cynghrair Gwynedd a’r Tabl Teilyngdod; Colli i Nant Conwy yng Nghwpan Gwynedd; Ennill Tlws 7 Bob Ochr Regina.
Ethol: Llyw Gwilym Price / Cad Dr Boyns / Ysg RO / Try Mike / Wasg Bryn / Gemau Michael / Aelod Gwynne a Cradog / Tŷ Glyn / Cae Raymond   Capt 1af Mike / 2ail Bryn  / Hyff Glyn Jarrett /  Eraill     Gareth Davies / Tex / Graham / Gwilym Wyn Williams / Ian Blackwell.
Chwaraewr y Flwyddyn Robert Atherton; Chwaraewr Mwyaf Addawol Peter Jones; Chwaraewr y Flwyddyn II Mark Atherton; Clwbddyn     Mike Smith; Dewis Ardal Gwynedd Gwilym / Alun / Rob Ather / Sprouts / Ken Roberts / Pet Bach a Bryan

Medi
21ain Gogledd Cymru   v   Cambria (Caerliwelydd-Carlise)
28ain Ardaloedd Cymru  v   Briton Ferry

Hydref
3ydd- Pwyllgor. Taith i Hwngari wedi bod yn llwyddianus iawn, colli yn y gêm derfynnol. Debanturon - 4 wedi gwerthu am 5 mlynedd am £750 yr un. Bar – Peiriant hap-chwarae ddim yn gweithio. Cyfethol – Tony Coleman, Jon, Dick, Morgan a Derwyn Williams.
7fed- Gwynedd v Canol Morgannwg (yn Llangefni) Dewis Gwilym, Glyn Jarrett, Dafydd Jones, Alun, Rob a Ken (Peter J Eilydd ). 19eg- Gogledd Cymru  v  Western Samoa. 25ain-Cyfarfod Arbennig (presennol 23 ) Y fantolen Ariannol – Dewis Llywelyn Hughes a’i Gwmni fel Archwilwyr y Clwb. 31ain-Pwyllgor Tŷ  Cad Glyn C / Ysg Jon  Eraill Tony Coleman, Gwynne, Raymond Foel, Morgan, – Costau gêm llifoleuadau £6-£7.50. Dafydd Price wedi gwneud clampiau i’r llifoleuadau.


 

Tachwedd
5ed Sweden  28 v Ardaloedd Cymru 3; 17eg Bara Caws -Anturiaethau Dic Preifat; 30ain Pwyllgor- Bar –Trefnu Rota –adau yn gyfrifol am yr wythnos llawn  /  Til newydd/ Chwarae – Gwilym yn gapten Cymru  v  Belgium /Gwynedd   v  Casnewydd  (yn Nant Conwy). Gwilym, Rob, Alun, Glyn J  Eilydd Ken/ Anfonwyd Gwilym Roberts oddiar y cae yn Nolgellau / Presenoldeb 4 o Landudno yn helpu yn fawr/Clwb – Adnewyddu’r Clwb –cynlluniau wedi ei derbyn.

Rhagfyr
3ydd Cinio Nadolig ( Rhiwgoch); 7fed Cwpan Traws, Cyn-derfynol: Bala v Harlech; 21ain Gêm Derfynol Nant Conwy  20  v   Bala 0 

Ionawr 1989
4ydd Pwyllgor- Pyst gan  Port –rhy ddrud £300 er bod pyst ni wedi torri /    Crysau tîm 1af yn edrych  yn fler. Taith Hwngari eto- 27 – 31 Gorffennaf 1989. Taith Llanelli –41 yn mynd; Clwb 200 – Mynd yn Clwb 3000 (Morgan Price ); 13eg Noson y Merched (tua 25); Gwynfor James i wneud y bwyd.

Chwefror
1af - Pwyllgor Dafydd Jones yn mynd i Awstralia / Pyst haearn wedi cyrraedd; Peiriant torri gwair wedi ei rhoi i Glwb Golff Llan; Dan 19 Bro curo   v     Dan 19 Porthmadog; 17eg Recordio BBC Amser Chwarae  (Bro v Bethesda) £20; 22ain -Pwyllgor: Payphone – Oddeutu £150 i’w brynu / Grahams yn noddi’r Clwb am £500  (Crysau )/ Pyst haearn wedi cyrraedd (£35 yr un Christy ); Cyfethol Arwyn Humphries a Fred Sparks 

Mawrth
Pontiets  9 v Bro  25. Taith i’r de  (Cymru v Lloegr).  Clywed Dr Boyns a Mike Smith ar Radio Wales /Trafferthion yn Croft Hotel –cael ban. 29ain-Pwyllgor: Deilwyn Jones –Set o fflagia a dau dracswt newydd- Aelod CYFFREDIN am Oes. Derbynwyd beiriant golchi llestri gan Eric Wyn Owen/ Cynlluniau i ail wneud y Clwb wedi ei derbyn oddiwrth Eric Edwards.

Ebrill
Plat Tlws Regina- Ennillwyr Harlech  v  Tywyn. Gêm Derfynol Cwpan Gwynedd Ennillwyd Nant Conwy  v  Bro. 26ain- Pwyllgor. Ail Cynghrair Gwynedd /  Costau adnewyddu’r Clwb tua £100k/Gwneud cais i fod yn aelodau llawn URC.

Mai
12fed Cinio Blynyddol (Rhiw goch); 31ain Pwyllgor. Grant gan y Cyngor Chwaraeon £7.5k benthyciad o £7.5k Prynu teledu £99; Cael cyfarfod Chwaraewyr efo stiwardio Gwyl Trafnidiaeth ac Ynni. Mike Smith -Aelod Anrhydeddus am Oes.    

Mehefin
27ain Cyfarfod Blynyddol 1988 / 1989  (Presennol 31 . Llongyrarchiadau i Gwilym James am fod yn Gapten Ardaloedd Cymru
Tîm 1af Ch33    E 23    C9    Cyf 1    O Blaid 634 /Erbyn 395
Gorffen yn ail yn y gynghrair / 3ydd Tabl Teulyngdod
Ail dîm Ch 16    E 6    C 10    O blaid 234 / Erbyn 302
Ieuenctid Ch 3    E 2    C1
Aelodaeth 150- £600. Gwneud Cais am Aelodau llawn URC. Ethol: sCad Dr Boyns / Try Robin / Ysg RO / Wasg Bryn Jones / Gemau Michael / Tŷ Glyn /Aelodaeth Gwynne / Cae Raymond Foel/ Capt 1af Gwilym / 2ail Bryn Jones  /Hyff Mynd I’r Wasg/  Eraill Derwyn / Morgan / Arwyn H / Tex Woolway / Jon. Cyfethol Graham / Eric Roberts / Tony Coleman / Brian Lloyd Jones / Fred Sparks.  Colli   Nant Conwy  v   Bro Cwpan Gwynedd. Chwaraewr y Flwyddyn  Glyn Jarrett; Chwaraewr Mwyaf Addawol Gari Hughes; Chwaraewr y Flwyddyn II; Hayden Williams; Chwaraewr Mwyaf Addawol II Clwbdddyn Glyn Crampton; Aelod Cyffredin am Oes Deulwyn Jones;
1988 / 1989 2 Ail Cynghrair Gwynedd ac ennill Cwpan Gwynedd.
1af    Ch 33    E 23    Cyf1    C9    616/389
2il    CH17    E 7    C 10    252/289

15.1.24

Hanes Rygbi Bro- Tymor 1987-88

Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog, o ddyddiadur Gwynne Williams

Mehefin 1987
Pwyllgor: Cyf-ethol John Jones, Gwilym James, Dick James, Elfed Roberts, Derwyn Williams, Jon Heath, Gwynne, Marcus Williams, Ken Roberts a Raymond Cunnington. Cyflwynodd y Llywydd newydd Gwilym Price gwpan i Adran Iau y Clwb. Sand Slitting wedi gorffen /Ysg Pwyllgor Tŷ Raymond Cunnington; Eraill: Geraint Roberts, Tony Coleman, Elfed Williams, Ken, Dick, John Jones, a Bryan Davies.

Gorffennaf
1af Pwyllgor: Gwneud mynediad i’r ffordd fawr ochr y clwb/iadael i rhai oedd wedi mynychu y Disco fynd adref yn dawel) Batri newydd i’r tractor /Dechrau ymarferion Ieuenctid y Sul.
11eg Noson Siecoslofacia (yn y clwb). 29ain Pwyllgor-Cais gan Band Bedwas i aros yn y clwb am ddwy noson, Rhodd £64/£115 i Gronfa’r clwb; Stiwardio Gwyl Cludiant. 

Awst
21ai Ocsiwn- Elw £312 (110 lot); 26ain Pwyllgor -T.A.W– rhaid cofrestru yn ôl i Ionawr 1985; Caeau– Rhaid llogi chwalwr i rhoid tywod i lawr /Wedi torri a gwrteithio gan Raymond– Major Owen atgyweirio y gang mower; Michael Jones– peintio pyst /Mike, Jon, Raymond a Gwynne– peintio llawr y clwb. Jon- trwsio peiriant twymo dŵr /Raymond Foel– torri bwlch yn y wal ar gyfer disgos. Pwyllgor disgos – Glyn C, Jon, Elfed, Gwilym, Dick, Raymond, Bryan, John Jones, Elfed Williams, Cradog, Bryn, Geraint , Ken a Mike. (Prinse). Aelodaeth Chwarae 34

 

Medi
£700 i Uned Datblygu Plant yn y Ganolfan Iechyd; 26ain Disgo (Elw drws £172). Ymweliad 3 plismon i’r clwb  - wedi cael galwad 999 bod ffrwgwd ondNID oedd ffrwgwd –bu rhywrai yn gyfrifol am droi car yr heddlu ar ei ochr. Bydd rhaid i Swyddogion y clwb gael cyfarfod ag Uchel Swyddog yr Heddlu. 28ain Pwyllgor -Gwrthod Clwb Ieuenctid Tanygrisiau i gynnal dau ddisgo. Mynd at ein cyfrifydd G Jones gyda TAW neu cael ein dirywio; Cae –Dick mewn cysylltiad a RG Ellis am wasgaru tywod; Ffens -Tony Coleman helpu Geraint Roberts weldio; Bar– Cael peiriant hap chwarae newydd (talu £100); Gwilym James– Chwarae Gogledd Cymru v Swydd Gaerhifryn a Cumbria; 30ain Bro  v  Gwynedd, Gwilym, Bryan, Alun a Rob Atherton (i Gwynedd).

Hydref
30ain Adranau Cymru  v Sri Lanka (Newbridge Walfare)(£0. 30c) Eilydd   Gwilym James  Cap cyntaf ail hanner.

Tachwedd
6ed Rhanbarth Gwynedd a Canolbarth  v  Sri Lanka (Aberystwyth); 14eg Adranau Cymru  v Sweden (Talbot Athletic) Gwilym James Eilydd; 23ain Tachwedd Pwyllgor Bar –Peiriant hap-chwarae Rhent £15 yr wythnos Trwydded £600 am 6 mis; Disco llwyddianus iawn /Larwm ddim yn gweithio yn iawn; Cae –Derbyn £1,000 gan Datblygu Canolbarth am y sand slitting; Bella wedi peintio ffens /Raymond Foel – trwsio peiriant scrymio; Aelod Cyfetholedig –R O Williams.

Rhagfyr
4ydd- Yn Bro Gwynedd 13 v 6  Penfro. Cwpan Howells: Sgoriodd Rob Atherton cais i Wynedd; Pen y banc v  Bro  (Bro ennill). 21ain Pwyllgor  Talu  TAW£1,483.05 yn cynnwys £300 o ddirwy/Gorffen y pibellau o gwmpas y cae /Whitbread yn noddi pading y pyst/Tân Nwy -Prynu am £35 (Bella Evans).
Gêm Derfynol Traws 21: Ennillwyr= Nant Conwy 20  v  Bala 0

Ionawr 1988
27ain Pwyllgor Talu £50 (yn answyddogol) am olchi y crysau yn Traws; Chwarae dros Wynedd 9 v Pontypwl 10. Alun /Gwilym /Glyn Jarrett /Rob Atherton /Mike Smith a Bryan Davies /Gwilym James- cap LLAWN Cyntaf  Cymru v  Sweden  a  Belgium (Belgium Ennill 14- 7)

Chwefror
19eg 25 ar daith i Lanelli /Caerdydd (gwesty Croft £8.25 y noson, Bws £200). Pen y banc 9 v Bro 18.

Mawrth
12fed Ardaloedd Cymru  v  Belgium  Gwilym –Ail Gap; 16eg Cwpan Traws 21: Gêm Derfynnol Bala v  Nant Conwy (Ennill); 29ain Pwyllgor -Debanturon -Nawr mae 19, gyda 4 yn nwylo Glyn Jones + 1 i Clwb 30/14 wedi talu £500 –12 am 5 mlynedd (dod i ben eleni). Cynnig rhain nawr am £600 i £700.

Ebrill
13eg Tlws Regina 7 Bob Ochr, Bro v Harlech: (Bro ennillodd y gêm derfynnol); 17eg 7 Bob Ochr Gwynedd yn Bro; 19eg Pwyllgor Ffens heb ei gorffen/Chwalu tywod /Prynu Carafan £20 i gadw offer; 26ain Gêm Derfynol Cwpan Gwynedd (yn y Bala): Bro  v  Nant Conwy.
Tîm: 15 Bryan /14 Ken /13 Mike Smith (c) /12 David Jones /11 Malcolm A /10 Dewi Williams /9 Rob A /8 Gwilym /7 Glyn Jarrett /6 Graham Thomas /5 David James /4 John Jones /3 Alun /2 Peter Jones /1 Dick  J. Eilyddion: Gwilym Wyn Williams /Bryn Jones. 29ain Bro v Calder Vale.

Mai
11eg Traws 13  v Bro 15; 14eg Cinio Blynyddol (Mochras):
Chwaraewr y Flwyddyn: Robert Atherton; Chwaraewr Mwyaf Addawol: Peter Jones; Chwaraewr y Flwyddyn II: Mark Atherton; Clwbddyn: Mike Smith
25ain Pwyllgor. Y Tymor Mwyaf Llwyddianus! Wedi ennill Cynghrair Gwynedd a’r Tabl Teilyngdod a Thlws Regina. Colli Gêm Derfynnol i Nant Conwy yng Nghwpan Gwynedd. Adnewyddu’r clwb- Amcangyfrif tua £80K. Clwb 100- Morgan yn trefnu -Gobeithio gwneud £1k y flwyddyn. Gŵyl Gludiant- Stiwardio am 4 noson (£500 i’r clwb).
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2023