15.2.24

Senedd ‘Stiniog- Stwlan a llinellau Melyn

Newyddion o Gyngor Tref Ffestiniog

Daeth mwy o newyddion da ar ddiwedd 2023 wrth i aelod newydd arall ymuno â’r Cyngor. Golygai hyn fod chwe chynghorydd newydd wedi ymuno dros y misoedd diwethaf.  Dyma restr y wardiau a’u cynghorydd ar hyn o bryd:

Bowydd a Rhiw (5 sedd)
Rory Francis, Morwenna Pugh, Troy Maclean, Peter Alan Jones a David Meirion Jones.
Tanygrisiau (1 sedd)
Dafydd Dafis.
Conglywal (2 sedd)
Mark Thomas ac Alun Jones.
Diffwys a Maenofferen (5 sedd)
Eifiona Davies (Is-Gadeirydd), Gareth Glyn Davies, Dewi Prysor Williams, Geoffrey Watson Jones, 1 x GWAG.
Cynfal / Teigl (3 sedd)
Linda Ann Jones, Marc Lloyd Griffiths (Cadeirydd), 1 x GWAG.
O edrych yn fanwl ar y rhestr fe sylweddolwch fod bylchau’n parhau i fod.  Pa well amser na  blwyddyn newydd i wneud rhywbeth newydd? Oes gennych ryw addewid blwyddyn newydd i geisio gwneud gwahaniaeth bach, er lles, yn lleol?  Pam ddim ystyried gweithredu ar bwyllgor Cyngor y Dref?  Os oes diddordeb gennych neu am ymholiadau, yna cysylltwch â’r Clerc am fwy o fanylion.

CYFARFOD CYFFREDINOL
Yn rhan ‘Cyfranogiad y Cyhoedd’ yr agenda, daeth John Armstrong o gwmni Engie i egluro am y gwaith sydd ar fin cychwyn ym Mhwerdy Ffestiniog yn Nhanygrisiau.  Ail hanner y prosiect o newid y tyrbinau ydyw mewn gwirionedd.  Mae pedwar tyrbin yno, a newidiwyd dau ohonynt eisoes.  Wrth wneud hyn bydd gwaith ail-wampio a diweddaru peirianwaith ymylol yn digwydd hefyd.  

Nid oes disgwyl unrhyw anawsterau i ardal Tanygrisiau na’r dref, oni bai am ambell i lori fawr.  Diolchwyd iddo am ei bresenoldeb a’i eglurhad.  Cafodd y Cyngor wedyn gyfle i’w holi fynta am y safle.  Yn dilyn ymholiad gan Y Cyng. Rory Francis. Dywedodd John fod y broblem baw ci ar hyd yr argae i weld wedi ei sortio ar hyn o bryd a bod cerddwyr y cŵn yn glanhau ar eu holau.  Os byddai hyn yn parhau, yna byddai ddim bygythiad i’r llwybr cerdded, meddai.  Holodd Y Cyng. Dafydd Dafis wedyn pryd fyddai’r hen lwybr tu cefn i’r orsaf yn ail-agor a pham fod Argae Stwlan yn edrych fel bod y gwaith wedi ei adael ar ei hanner.  Dywedodd y byddai’n ceisio cael mwy o wybodaeth i’r Cyngor ynglŷn â’r llwybr a bod y gwaith o baentio’r argae yn un tymhorol, ac ar bris. Cytundeb blynyddol sydd fel arfer meddai, rhwng yr orsaf a chwmni preifat. Byddai’r gwaith wedyn yn ddibynnol ar y tywydd a phryd oedd y pres yn dod i ben. Pan roedd y pres yn darfod, yna dyna hi am y flwyddyn honno.

Derbyniwyd llythyr gan Iwan ap Trefor, Rheolwr Traffig a Phrosiectau Cyngor Gwynedd.  Roedd yn ymateb i gwynion gan y Cyngor Tref am y dryswch a grëwyd gan linellau melyn dwbwl yn Nolrhedyn.  Roeddent wedi achosi trafferthion i bobol leol gan fod y cyfyngiadau parcio yn aneglur.  Eglurodd Iwan yn ei lythyr fod y broses o newid unrhyw gyfyngiadau parcio yn broses hir, yn bennaf oherwydd y camau cyfreithiol sy’n ofynnol arnynt fel gwasanaeth, ond roedd am i’r Cyngor gael gwybod, o leiaf fod y broses honno wedi cychwyn.

Daeth cais am arian gan Glwb Nofio PBP (Porthmadog, Blaenau, Pwllheli).  Cytunwyd yn unfrydol fod y Clwb Nofio o fudd mawr i rai o bobl ifanc y dref a chytunwyd i gyfrannu 33% o’r ffigwr gofynnol, gan ddisgwyl i Port a Pwllheli gyfrannu’r 66% arall.

Derbyniwyd llythyr gan Sion Bryn, o’r Gwasanaeth Ieuenctid, yn mynegi ei bryder nad oedd plant Llan  eisiau mynychu’r Clwb Ieuenctid yno.  Cafwyd fan gemau yno, a daeth hanner dwsin o blant iddo’r tro cyntaf, ond neb yr wythnos wedyn.  Dywedodd eu bod am fynd â’r Clwb o’r Llan i’r Blaenau am y tro a cheisio eto yn Llan rhywdro eto.  Derbyniodd y Cyngor hyn, ond gyda phwyslais na ddylent anghofio am Llan yn y dyfodol.  Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid bellach wedi trefnu noson ychwanegol yn y Ganolfan pob nos Fercher.

Ym Mhwyllgor Mwynderau, derbyniwyd adroddiad gan Terry Tuffrey am ei ymweliad, fel llysgennad ‘Stiniog, i Batagonia.  Mae’n debyg i Terry gael croeso cynnes allan yn y Wladfa a chael profiad bythgofiadwy.

Trafodwyd wedyn am y gwaith cynnal a chadw sydd ar y gweill, gyda nifer o bethau i edrych ymlaen atynt o amgylch yr ardal yn 2024.  Gobeithir cael lle parcio bach a meinciau i’r cyhoedd gael mwynhau’r Berllan yn Nhan y Manod, ac mae cynlluniau i gael gwell adnoddau chwarae i’r plant yn y Parc ac i blannu blodau ac ati yno.  Dwi’n ddigon hen bellach i gofio bwrlwm y Parc flynyddoedd yn ôl.  Roedd garddwr/gofalwr llawn amser bryd hynny ac roedd y lle o hyd yn werth ei weld.  Blodau lliwgar a phobman yn daclus.  Sŵn taro peli tenis yn yr haf a phob cwrt yn brysur gyda’r awyr yn llawn lleisiau plant yn gweiddi a chwerthin.  Mae’n le arbennig pan mae’r haul yn tywynnu ac mae’n debyg bod y Cyngor (gobeithio) yn ara’ deg, am weithio at gael y gorau o’r lle unwaith eto.

Cadarnhawyd fod tir Pen-y-Bryn, Cae Baltic, Rhiwbryfdir wedi ei werthu. Aeth y pres tuag at gostau’r Berllan yn Nhan y Manod.  Dywedodd Y Cyng. Peter Jones y dylai’r pres wedi aros yn Rhiw gan mai pres pobol Rhiw ydoedd.  Cytunodd Y Cyng. Marc Lloyd Griffiths gyda’r safbwynt ac y dylai’r Cyngor flaenoriaethu unrhyw geisiadau am arian gan y Cyngor i ardal Rhiwbryfdir yn y dyfodol.  

Penderfynwyd gwerthu ‘Ben Banc’, fel ei gelwir, am fod wal gerrig sych fawr arni gyda chwymp serth i lawr at gefn yr hen Ysbyty yr ochr arall iddi.  Roedd y cyfrifoldeb am ei chynnal a chadw yn ormod.
Dymunodd y Cadeirydd, Y Cyng. Morwenna Pugh ar y noson, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb cyn cau’r cyfarfod.

David Jones. (Fy safbwynt i yn unig).
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon