29.4.19

Esgid newydd ar bob troed

Siop Esi, Siop Beryl, Cambrian Boot – pa bynnag enw yr ydych chi yn ddefnyddio ar gyfer y siop yma, fe welwyd sawl tlws yn cael ei arddangos yn ffenest y siop yn ddiweddar. 

Mae hyn felly yn destun i ni longyfarch y perchennog presennol, Mrs Delyth Jones-Evans ar ei llwyddiant. Cafodd ei henwi yn ‘Fyfyrwraig y Flwyddyn’ 2018 gan ‘The Society of Shoe Fitters’. Mae’r gymdeithas hon yn gweithio nid er elw i ddysgu ac i hybu'r grefft o ffitio esgidiau fel gyrfa.


Bu Delyth yn fyfyrwraig ar yr unig gwrs proffesiynol mewn bodolaeth sydd yn canolbwyntio ar ‘iechyd y droed’ a’i datblygiad. Ar y prynhawn penodol hwn, pan wnes i ymweld â’r siop i gywain gwybodaeth ar y wobr arbennig hon, daeth mam o Dywyn a’i mab bychan i’r siop, i brynu ei bâr o sgidia cyntaf. Felly, mi gymerais i sedd a gwylio’r feistres wrth ei gwaith. Dwi’n ymwybodol fod Delyth yn arfer gweithio o fewn y byd gofal plant, ac felly mae’n amlwg fod ganddi'r profiad a’r gallu.

Ond, wir i chi, welish i ‘rioed mo unrhyw berson mewn siop yn rhoi gwasanaeth mor amhrisiadwy i’w chwsmeriaid! Mae pob un ohonoch sydd wedi magu plant yn gwybod nad yw cadw nhw’n ddigon llonydd i gael mesur eu traed nhw yn dasg hawdd, o’r anesmwytho a’r gwingo i’r crio a’r sgrechian, gall edrych yn dasg amhosib ar adegau....oni bai eich bod yn rhywun sydd a phrofiad fel Delyth, ac yn defnyddio bob tric yn y llyfr i sicrhau llwyddiant!

Mae hi hefyd yn mynd o gwmpas gwahanol ganghennau o Ferched y Wawr a Sefydliad y Merched i hyrwyddo’r busnes ac mae hynny yn amlwg wedi talu ar ei ganfed gyda chwsmeriaid o bob cwr o’r gogledd, o Benllyn i Ben Llŷn a chyn belled a Chaernarfon, wrth i bobl ddod i wybod am ei gwasanaeth clodwiw, yn enwedig efo’r plant.

Dywedodd Delyth wrtha'i fod ganddi bellach y gallu i arbenigo mewn ffitio cwsmeriaid sydd â phroblemau iechyd neu sy’n cael trafferth ffeindio esgidiau oherwydd problemau iechyd. Fel rhywun sydd wedi dioddef a phroblemau traed ers pan yn blentyn bach, dwi’n falch iawn fod y gwasanaeth yma ar gael yn lleol bellach, achos mi oedd o’n broblem wirioneddol i Mam tra roeddwn yn blentyn!

Mae cwmni DB Shoes yn gwmni sydd yn arbenigo mewn esgidiau ‘wide-fit’ – rhywbeth y mae unrhyw berson sy’n dioddef gyda’i draed yn gorfod meddwl amdano wrth brynu esgidiau. Cwmni arall sydd newydd lanio ar silffoedd y siop hynod yma yw’r enw mawr y myd yr esgidiau: Hotter Shoes ac mae angen i chi gadw llygaid allan am gystadleuaeth ar y cyd rhwng y siop sgidia a Chaffi’r Gorlan – bydd manylion y gystadleuaeth i’w gweld ar dudalennau cymdeithasol y ddau gwmni, ond o’r hyn dwi wedi glywed yn barod, mae hi yn mynd i fod yn gystadleuaeth gwerth i’w hennill!
Llongyfarchiadau i Delyth ar ei llwyddiant, a hir oes i’r Cambrian Boot, sydd mae’n debyg wedi bod mewn bodolaeth yn y Blaenau ers dros ganrif bellach.
--------------------------------


Erthygl gan Rhydian Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Mawrth 2019. 


22.4.19

Cymry America yn ymateb i Apêl y Tabernacl

Parhau â chyfres Cysylltiadau Dalgylch ‘Llafar Bro’ ac America, W. Arvon Roberts.

Yn Medi 1916, daeth llythyr i law oddiwrth Thomas R. Williams, Williamsburg, Iowa, ynghyd a rhodd o $10.
Capel Tabernacl -llun o FB Blaenau gyda chaniatâd Evans Ycart

Ganwyd T.R. Williams (1861-1939) ym Mlaenau Ffestiniog. Ymfudodd pan oedd yn wyth oed.  Ei rieni oedd William Williams (1937-1910) a Jane Thomas (g.1829). Yr oedd yn briod â Margaret, merch Mr a Mrs Henry J. Jones, Waunfawr, Arfon. Cyrhaeddodd teulu T.R. Carbondale, Pennsylfania, ac yna symudont i Olyphant, cyn ymsefydlu yn Williamsburg, Iowa yn 1870. Bu farw ei briod, Margaret, yn Medi 1916, yn 63 mlwydd oed. Ail-briododd â Margaret Roberts yn 1920. Collont ferch, Margaret Jane, 11 oed, ym Mehefin, 1932. (Diddorol nodi fod y Parch. Edward Joseph (1854-1919) a anwyd ym Mhant Llwyd, Blaenau Ffestiniog, yn weinidog yn Williamsburg, Iowa, yn 1889. Sefydliad amaethyddol Cymraeg a thiroedd rhagorol am gynhyrchu gwair a gwenith oedd Wiliamsburg. Ymysg y Cymry cyntaf yno oedd John J. Jones (1862), Robert W. Roberts (1866), David Roberts (1869) a William Williams (1869), y pedwar o Flaenau Ffestiniog.)

Llythyr T.R. Williams i R. Morris Williams:

Annwyl Frawd Williams,
Gan fy mod yn un o blant Ffestiniog, yr wyf yn anfon drafft o $10 i chwi at ddyled eglwys y Tabernacl. Cefais y fraint o gyfarfod y Parch R.R. Morris pan yn yr Hen Wlad rai blynyddoedd yn ôl.
Thomas R. Williams, Williamsburg.


Gyda’r $23 a dderbyniwyd eisoes daeth y swm yn $33. Parhawyd i apelio at unrhyw Gymro neu Gymraes a garai estyn eu cymorth i’r capel. Byddai pob rhodd yn cael eu cydnabod yn  ‘Y Drych’.

Llythyr arall a dderbyniwyd tua'r un pryd yn 1916, a llythyr Thomas R. Williams, oedd un Laura E. Jones, Rhode Island. Ganwyd Laura yn 1879 naill ai yn Ffestiniog neu Dolwyddelan. Ymfudodd i’r America yn 1894, talaith go ddieithr i unrhyw Gymro neu Gymraes. Cafodd waith fel morwyn ymysg cyfoethogion Rhode Island, yn nhŷ haf Elbridge Thomas Gerry (1837-1927), cyfreithiwr Livingston (1836-1920). Yr oedd Matilda yn wyres i Margaret Lewis (1780-1860), a hi oedd unig blentyn ac etifedd y Llywodraethwyr, Morgan Lewis (1754-1844), ail fab yr enwog Francis Lewis (1713-1802), Llandaf, un a arwyddodd y Datganiad o Annibyniaeth yn 1776.

Annwyl Syr,
Yr wyf yn anfon $6 at yr achos yn y Tabernacl, oddiwrth pedair o ferched Ffestiniog, ac un o Ddolwyddelan. Gobeithio y cewch swm sylweddol i’w anfon yno.
Laura E. Jones.


Cydnabyddwyd eisoes    $33
Drwy law Laura E. Jones, Newport, Rhode Island    $6
Cyfanswm    $39
---

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2019


18.4.19

Cwmni Bro Ffestiniog

Erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2019

Mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ddatblygiad hollol arloesol yng Nghymru; sef rhwydwaith o fentrau a busnesau cymdeithasol sydd wedi dod at ei gilydd i gydweithio dan faner un Cwmni Bro.  Mae'n gweithredu yng nghymunedau Blaenau Ffestiniog, Trawsfynydd a Phenrhyndeudraeth a’r pentrefi cyfagos sydd, rhyngddynt, gyda phoblogaeth o tua 8,000.

Fel y gwyddoch Blaenau oedd yr ail dref fwyaf yng ngogledd Cymru yn 1900 gyda phoblogaeth o tua 13,000 ond wrth i’r diwydiant llechi edwino, gostyngodd y boblogaeth i lai na hanner hynny. Erbyn heddiw mae Bro Ffestiniog yn un o’r ardaloedd tlotaf yn economaidd ym Mhrydain. Er y dad-ddiwydiannu mae’r etifeddiaeth ddiwylliannol yn goroesi i raddau helaeth ac yn gynsail i’r model cyfannol o ddatblygu cymunedol a arloesir yn yr ardal heddiw. 

Amcanion y Cwmni yw hybu cydweithrediad rhwng y mentrau, meithrin mentrau cymdeithasol newydd a hefyd gweithio gyda busnesau preifat bach sydd wedi’u hangori yn y gymuned. Hyn i gyd er mwyn datblygiad amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr ardal.

Yn ôl pob tebyg mae mwy o fentrau cymdeithasol y pen yn yr ardal nag yn unrhyw le arall yng Nghymru. Yn ystod 2018 daeth mentrau'r ardal at ei gilydd dan faner Cwmni Bro. Rhestrir isod y mentrau sy’n ymwneud â rhwydwaith Cwmni Bro Ffestiniog:
Antur Stiniog, Y Dref Werdd, Tan y Maen , Barnardos, Cyfeillion Croesor, CellB/Gwallgofiaid, Cwmni Opra Cymru, Deudraeth Cyf, GISDA, Seren a Gwesty Seren, Pengwern Cymunedol, Trawsnewid, Menter Llanfrothen, Ynni Cymunedol Twrog, Ysgol Y Moelwyn/y Ganolfan Hamdden.

Mae gweithgareddau amrywiol y mentrau hyn yn cynnwys rhedeg gwestai, siopau, bwytai, canolfan twristiaeth, canolfan hamdden, canolfan celf a chrefft, beicio mynydd, manwerthu, garddwriaeth, darparu rhandiroedd, gwaith addysgol a diwylliannol, opra, gwaith amgylcheddol, cynhyrchu trydan, hybu arbed ynni, lleihau gwastraff bwyd, ailgylchu, glanhau afonydd, gwaith gydag oedolion gydag anghenion ychwanegol, gwaith gydag ieuenctid yn cynnwys ynglŷn â digartrefedd a dysgu sgiliau amgylcheddol a chyfryngol. 

Rhyngddynt mae aelodau Cwmni Bro yn cyflogi tua 150 o bobl. Dengys dadansoddiad diweddar o effeithiau economaidd y mentrau bod canran uchel o’u hincwm yn dod o fasnachu. Ymhellach, dangoswyd bod yr incwm, i raddau helaeth, yn aros a chylchdroi o fewn yr ardal. Am bob punt a dderbynnir fel grantiau neu fenthyciadau mae 98 ceiniog yn cael eu gwario’n lleol, yn bennaf ar gyflogau. Mae £1.5 miliwn o bunnau yn cylchdroi yn lleol oherwydd gweithgaredd y mentrau yma.
Mae bron hanner y gwariant ar nwyddau a gwasanaethau yn lleol ac felly’n ailgylchu arian yn yr ardal.

Ym mis Awst 2018 cychwynnwyd menter newydd, BROcast Ffestiniog, sef cychwyn ar ddarlledu cymunedol digidol, gyda’r bwriad o hyrwyddo cyfathrebu  rhwng mentrau cymunedol yr ardal a’r gymuned ac oddi mewn i’r gymuned.

(Gweler BROcast Ffestiniog-YOUTube a facebook.com/BROcastFfestiniog ).

Credir bydd y model integredig a chyfannol o ddatblygu cymunedol ac economaidd y mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ei arloesi yn cynnig patrwm y gellir ei efelychu gan gymunedau eraill.



Y nod ydi bydd ein llwyddiant yn gosod sialens i lywodraeth yng Nghymru i ddatblygu polisïau a chefnogaeth briodol er mwyn hyrwyddo’r model hwn o ddatblygiad cymunedol yn ehangach ledled y wlad.
www.cwmnibro.cymru

CYSWLLT
Cwmni Bro Ffestiniog, Fyny Grisiau, 5 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd. LL41 3ES
CwmniBro@CwmniBro.Cymru


9.4.19

'Ym Maen Tyfiawg uwch Melenryd'

Mae Coed Cadw (Woodland Trust) yn ailagor cwestiwn sillafiad un o’i choedlannau mwyaf eiconig yn Eryri. Yn 2015 fe lwyddodd Coed Cadw i brynu safle Llennyrch ar ôl ymgyrch godi arian lwyddiannus. Mae’r tir yn ffinio gyda Choed Felinrhyd, sydd wedi bod yng ngofal y mudiad ers yr 1980au. Mae’r safle yn cynnwys hen ffermdy sydd o ddiddordeb hanesyddol mawr, a allai berthyn i’r unfed ganrif ar bymtheg, ac mae’r mudiad yn awyddus i ymchwilio a dehongli hanes y ffermdy a’r tir.

Oherwydd hyn, mae Coed Cadw’n awyddus i recriwtio Ymchwilydd Treftadaeth gwirfoddol i wneud ymchwil a darganfod mwy am hanes y safle hudol hwn. A chan y bydd cryn dipyn o’r dogfennau yn y Gymraeg, mae’r mudiad yn awyddus i gael hyd i rywun sy’n siarad Cymraeg i wneud hyn.

Dywed Kylie Jones Mattock, Rheolwraig Ystâd Coed Cadw ar gyfer Cymru:
“Mae gan Goed Felinrhyd hanes anhygoel. Hi yw'r unig goedwig o eiddo Coed Cadw sy’n cael ei henwi yn y Mabinogi! Yn y bedwaredd gainc mae Pryderi, Arglwydd y Deheubarth yn cael ei ladd gan y dewin Gwydion, ar ôl brwydr fawr sy’n digwydd yn y ‘Felen Rhyd ger Maen Twrog’. Mae’n amlwg fod hwn yn gyfeiriad at y goedwig hon. Rydan ni’n credu fod y gair ‘felen’ ‘yn cyfeirio at y mwsogl sy’n dal i dyfu ar y cerrig lle mae’r hen ffordd yn croesi Afon Prysor.”
Pan brynodd Coed Cadw'r goedwig hon, Coed Felinrhyd, gydag “i”, oedd yr enw ar y gweithredoedd, er nad oes cofnod fod yna felin wedi bod ar safle erioed. Yn 2001 fe wnaeth y mudiad ystyried newid y sillafiad i “Felenrhyd”, fel sydd yn y Mabinogi. Ond ar y pryd yr oedd Cyngor Cymuned Talsarnau, yn erbyn gwneud hyn. Heddiw, fodd bynnag, mae’r elusen yn barod i ailystyried.

Fe fydden ni wrth ein bodd i fynd yn ôl i’r sillafiad sydd yn y Mabinogi”, meddai Kylie, “ond dim ond os ydan ni’n hyderus fod pobl leol o blaid gwneud hyn.

Llun- Paul W

Felly, mae Coed Cadw yn awyddus i ddarganfod beth yw barn bobl leol am hyn, ac mae’r mudiad wedi gwahodd pobl leol sydd â barn ar y pwnc, y naill ffordd neu’r llall, i gysylltu â kyliejonesmattock@woodlandtrust.org.uk neu i ffonio 0343 770 5785.

Fe fyddai Kylie yn awyddus hefyd i glywed oddi wrth bobl leol sydd â straeon doniol neu ddiddorol am y ddwy goedlan. Fe fyddai hynny’n cynnig cyfle i’r gwirfoddolwr wneud rhagor o waith ymchwil am y straeon fyddai’n dod i law. Mae manylion am y cyfle gwirfoddoli fel Ymchwilydd Treftadaeth yn y ddwy goedlan yn woodlandtrust.org.uk/volunteering
-----------------------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Chwefror 2019 (heb y llun). Isod, mae ymateb gan Geraint V. Jones, o rifyn Mawrth:

Y Felen Ryd

Mae’r Felen Ryd yn cael ei henwi ddwywaith ym mhedwaredd cainc y Mabinogi ac ni ddylai fod unrhyw amheuaeth ynglŷn â’r sillafiad na’r lleoliad.

Mae’r stori am Gwydion a byddin Gwynedd yn erlid Pryderi a’i wŷr yn ôl tua’r de yn gyfarwydd i amryw, siŵr o fod, ac mae rhai o’r lleoedd sy’n cael eu henwi yn y chwedl yn bodoli hyd heddiw, megis Coed Alun (ardal Caernarfon), Nant Call (Nantcyll ger Pant Glas), Dôl Penmaen, y Traeth Mawr (sef aber yr Afon Glaslyn), Y Felen Ryd (lle lladdwyd Pryderi gan Gwydion) a Maen Tyfiawg (lle y cafodd Pryderi ei gladdu).

Er bod yr enw gwreiddiol Maen Tyfiawg (Maentwrog, bellach) yn awgrymu lle coediog, rhaid pwysleisio nad oes unrhyw gyfeiriad o gwbl yn y chwedl at ‘Goed Felinrhyd’. Na ‘Choed y Felen Ryd’ chwaith, o ran hynny!

Yn ôl y stori, ar ôl gadael Dôl Benmaen fu dim ymladd rhwng y ddwy fyddin wedyn nes cyrraedd Y Felen Ryd. Yn fan’no, fe ddechreuodd y milwyr saethu at ei gilydd unwaith eto. Felly, er mwyn arbed mwy o dywallt gwaed, cytunodd Pryderi i wynebu Gwydion mewn brwydr bersonol. A Gwydion -y ‘dewin’- a orfu wrth gwrs!

Sut bynnag, yn ei herthygl roedd Kylie Jones Mattock yn awgrymu bod Y Felen Ryd wedi ei lleoli ar yr Afon Prysor. Sail ei dadl oedd bod yno ‘hen ffermdy ... a allai berthyn i’r unfed ganrif ar bymtheg’. Er nad oedd yn ei enwi, Y Felen Ryd Fach oedd ganddi dan sylw, mae’n siŵr. Roedd hi hefyd yn awgrymu mai’r mwsog ar y cerrig yn fan’no oedd yn egluro lliw y rhyd. Ond dydi lleoli brwydr Gwydion a Phryderi yng ngheunant cul a choediog yr Afon Prysor ddim yn gwneud llawer o synnwyr, mae gen i ofn. Ac onid pont yn hytrach na rhyd sydd yn fan’no beth bynnag?

Does fawr o amheuaeth nad ar y rhyd ar yr Afon Ddwyryd y cafodd Pryderi ei ladd, a hynny rywle gyferbyn â thŷ o’r enw Felenryd Fawr, ar fin y ffordd rhwng Maentwrog a Chilfor. Yno, ar y Traeth Bach, roedd digon o dir gwastad i’r ddwy fyddin fod wedi ymgynnull i wylio Gwydion a Phryderi yn ymladd.

Does dim angen llawer o ddychymyg chwaith i egluro’r enw, o gofio mor dywodlyd hyd heddiw ydi’r Traeth Bach yn fan’no. Y tywod ar wely’r Ddwyryd, yn hytrach na’r mwsogl ar gerrig yr Afon Prysor, sy’n egluro enw’r Felen Ryd.



5.4.19

Stolpia- pêl-droed a llyffaint

Parhau â chyfres Steffan ab Owain, am 'Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au'

Er bod tipio rwbel tros Domen Fawr Chwarel Oakeley yn digwydd yn ddyddiol yn ystod oriau gwaith yn yr 1950au, nid oedd hynny yn ein hatal ni rhag chwarae yn ei godre, yn enwedig yn ystod  gwyliau’r ysgol. 

Ar adegau, byddai meini go nobl yn treiglo i lawr y domen gyfan ar ôl tipio, ac os yr oeddem yn chwarae pêl-droed yn ei gwaelod, byddai’n rhaid cadw llygad barcud ar beth a fyddai’n digwydd uwchlaw er mwyn ei gwadnu hi os deuai carreg go fawr i’n cwfwr.  Byddai cae pêl-droed swyddogol yng ngodre’r domen ar un adeg, a gwn fod fy nhaid wedi bod yn chwarae yno ar droad y ganrif. 

Ceir cyfeiriad at un gêm yn y Rhiw yn y Cambrian News am fis Mai 1890 rhwng Blaenau Ffestiniog Athletics a Railway Rangers.  Tȋm Blaenau enillodd o 5 gôl i 2.  Beth bynnag, ni fedraf fod yn siŵr mai yn y rhan hon oedd y cae ychwaith.  Y mae hi’n rhyfedd gofio heddiw am rai o’r lleoedd y byddem ni’r hogiau yn diddanu ein gilydd yn y 50au, ac os nad oeddem ar waelod tomen, roeddem ar ei phen, a’r adeg honno nid oedd peryglon yn croesi ein meddyliau o gwbl.

Llun o gasgliad yr awdur
Cofiaf hefyd fel y byddai rhan go dda o’r tir yng ngodre’r domen yn wlyb iawn, ac yn y gwanwyn a diwedd haf byddai llawer o lyffaint yno.  Byddai’r plant lleiaf yn dal penbyliaid yno, ond yn gadael llonydd i’r llyffaint rhag ofn iddynt weld i du mewn eu ceg a throi eu dannedd yn bren.  Oedd, roedd hon yn hen goel gennym.  Tybed pwy sydd yn cofio hyn? 

Un tro, pan yr oeddem yn crwydro rhwng y meini mawr mewn lle gwlyb yng ngodre’r domen, gwelsom lyffant mawr iawn, tebyg i’r march-lyffant Americanaidd (American bullfrog).  Tybed faint o hogiau’r Rhiw a Glanypwll sy’n ei gofio? Byddai'r diweddar Ali, brawd Len Roberts (Groesffordd), yn cofio ei weld fel finnau, ac yn meddwl yn aml iawn beth a ddaeth ohono.  Yn sicr, ni welwyd un tebyg iddo yno byth wedyn.

Atgoffwyd fi yn ddiweddar gan Brei (Breio), Glandŵr, am y cathod annof, sef cathod dof wedi mynd yn wyllt.  Byddent yn llechu ymhlith y meini yng ngodre’r domen yn y 50au, ac fel y byddem yn cogio mynd i’w hela gyda’n picelli (sbiars), fel petaent yn llewod neu deigrod yn y gwyllt.  Sbiars coed wedi eu cael yn y domen wastraff yn y Felin Goed oeddynt fel rheol, ac wedi eu naddu’n big efo’n cyllyll poced.  Ond, cyn ichi ddweud y cnafon creulon yn gwneud y ffasiwn beth, ni dderbyniodd yr un ohonynt niwed gan eu bod yn gallu cuddio dan feini mawr a byddent allan o’n  cyrraedd.  Diolch i’r drefn.  Nid oes cof gennyf ba liw oedd y cathod nag o ble yr oeddynt wedi dod i wneud eu cartref yng ngwaelod y Domen Fawr.
------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2019.


1.4.19

Taith Lobsgows y Llan

Adroddiad gan John Griffiths am Daith
Lobsgóws flynyddol Cymdeithas Edward Llwyd, y tro hwn yn Llan 'Stiniog. 

Fe ddaeth dros ddeugain aelod ynghyd ar y 5ed o Ionawr am daith fach o gwmpas Llan Ffestiniog gyda Vivian Parry Williams a Steffan ab Owain wrth y llyw. Yr oedd y tywydd o'n plaid diolch i'r drefn: dim mymryn o wynt a dim diferyn o law. Cawsom hanesion Gwesty'r Pengwern - gan gynnwys ysbrydion...a hanes sawl cymeriad sy'n gorwedd yn y Llan.

Ymlaen wedyn at Westy'r Seren -Bryn Llywelyn- lleoliad safle'r Brodyr Llwyd yn yr oes a fu, a ble bu un o gartrefi'r Arglwydd Niwbwrch dros ganrif yn ôl, yna'n gartref plant a chartref henoed hynod maes o law. Aethom at fedd yr Arglwydd Niwbwrch, llecyn braf ar fryn ar gyrion y pentref, a chyd ganu 'O Fryniau Caersalem', yr emyn a ganwyd ar ochr y bedd yn 1916; bedd, gyda llaw, a naddwyd o'r graig.


Ymestynnodd Vivian wahoddiad i ni ddychmygu'r ing a'r teimlad fuasai’n bodoli ymysg brodorion Llan Ffestiniog wrth iddynt fod yn dyst i'r angladd odidog hon a'u hogiau hwythau yn gorwedd yn y mwd yn Ffrainc.

Priodol iawn oedd cofio am Gwyn Thomas, cyn aelod o'r Gymdeithas a orweddai ym mynwent Llan, cyn troi unwaith eto tua thre. Lobsgóws wedyn yn Y Pengwern; gwesty cymunedol sydd wedi codi fel ffenics o'r lludw.

Chwarae teg i'r trigolion lleol am feddiannu eu dyfodol eu hunain, a dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y blynyddoedd i ddod; yr oedd y lobsgóws wedi plesio hefyd. Diolch yn wir i Vivian a Steff am yr holl waith ymchwil, a'n tywys ni o gwmpas Llan 'Stiniog."
--------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2019

Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd