Showing posts with label taith. Show all posts
Showing posts with label taith. Show all posts

17.12.23

Y Gymdeithas Hanes yn Crwydro

Ddiwedd Medi cafwyd y cyfarfod cyntaf yn nhymor newydd y Gymdeithas. Roedd diwedd yr wythnos honno yn Gyhydnos i rai ac Alban Arthan neu yn Fabon i eraill, roedd cyfarfod am 5.30yh yn sicrhau digon o oleuni am o leiaf dwy awr arall i wneud taith iawn o gwmpas Rhiwbryfdir. 


Cafwyd amser arbennig yng nghwmni Steffan ab Owain a drefnodd y noson a daethom eto i sylweddoli pwysigrwydd y Rhiw yn natblygiad y Blaenau. 

Cychwynwyd y daith gyferbyn â’r hen Ysbyty Oakeley ac yna ar hyd Ffordd Fach ac anelu am Ffordd Dinas, a draw dros y rheilffordd fawr at waelod y Llwybr Cam. Wedyn ymlwybro yn ôl at Benygroes a heibio hen Gapel y Rhiw (Tai Dwyryd) a gorffen wrth y tro sy’n arwain i Gae Baltic. 

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2023

Bu dwy ddarlith hyd yma yn y gyfres sgyrsiau poblogaidd. Y nesaf ydi HEN FURDDUNOD Y PLWYF gan Steffan ab Owain ar Ionawr 17.

Mae crynodeb o sgwrs Charles Roberts -effaith pandemig 1918- ar gael yn rhifyn Rhagfyr, sydd yn y siopau rwan.

Isod mae hanes darlith Peredur Huws (darn allan o rifyn Tachwedd 2023):

Y Gymdeithas Hanes. Cyfarfod Hydref 18fed
Cawsom wledd o luniau a phrofiadau unigryw'r teithiwr dan ddaear amlwg sef Peredur (Pred) Hughes o Bentrefelin, Cricieth. Dechreuodd ei yrfa fel saer cychod a llongau yn Falmouth, Cernyw, a thro wedyn yn gweithio ar adeiladu Gorsaf Bŵer Hydro Dinorwig yn Llanberis ac yna cyfnod yn gweithio mewn chwareli llechi yn y Blaenau a Dyffryn Nantlle. Erbyn hyn mae wedi ymddeol ac yn tywys ymwelwyr dan ddaear (rhan amser) gyda Go Below Underground Adventures yng Nghwmorthin a Rhiw-bach. Mae wrth ei fodd yn fforio hen weithfeydd ac mae’n cyfaddef fod hyn yn obsesiwn ganddo. 

Mae ganddo archif sylweddol o lunia hynod ac unigryw dan ddaear yn y gweithfeydd hyn a’r modd y mae ef a’i ffrindiau yn cerdded ac yn dringo drwyddynt. Disgrifiodd ei deithiau mewn nifer o leoedd ar hyd a lled Prydain gan ddangos lluniau mewn hen chwareli llechi, gweithfeydd plwm, aur, copr, calch ac mae ganddo luniau o’i dro yn hen waith mango (manganîs) y Moelwyn. 

Weithiau mae’n arwain ymwelwyr ond gan amlaf ef a’i ffrindiau sy’n fforio, yn ymchwilio a dilyn eu trwynau. Mae'r llunia'n dangos hen offer a ddefnyddid i weithio dan ddaer, a’r chwareli hyn bellach wedi troi’n fynwent i’r holl beiriannau hyn. Dangosodd luniau lliwgar o blanhigion a dyfai ymhell dan ddaear a hyd yn oed llyffantod a genau coeg oeddynt yn byw mewn tywyllwch parhaol cannoedd o droedfeddi o dan y ddaear. 

Roedd y sgwrs yn agoriad llygaid a deud y lleiaf! Cyhoeddodd y Cadeirydd, Dafydd Roberts fod y Gymdeithas wedi derbyn arian gan yr elusen Freeman Evans ac o’r herwydd yn medru cadw y tâl aelodaeth yn ddim on £6 dros y tymor. 

TVJ



5.8.23

Ysgol Ddrud yw Ysgol Gariad

Mae taith lwyddiannus arall Cwmni Opra Cymru -sydd â’i wreiddiau’n ein hardal ni- newydd ddod i ben. Trosiad cyfarwyddwr cerddorol y Cwmni, Iwan Teifion Davies o opera Mozart -‘Cosi Fan Tutte’ a gyflwynwyd y tro hwn. Rhoddodd Iwan Teifion y teitl Cymraeg ‘Ysgol Ddrud yw Ysgol Gariad’ iddi. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am gyfieithu’r gwaith, ef hefyd oedd arweinydd y gerddorfa.

Canolbwyntiwyd ar leoli’r perfformiadau mewn theatrau ar draws Cymru, gan agor yn Pontio, Bangor ar 12 Mai. Dilynwyd hynny mewn saith canolfan arall - Taliesin, Abertawe, Y Lyric, Caerfyrddin, Hafren, Y Drenewydd, Brycheiniog, Aberhonddu, Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Y Stiwt, Rhollannerchrugog, gan orffen yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. 

Hwyrach nad ydy cerddoriaeth yr opera yn cyrraedd y tir uchel sydd i’w glywed yn arias cofiadwy operau Verdi a Donizetti yn fy marn fach i, ond llwyddodd Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni, Patrick Young, i ddenu cast tu hwnt o ddawnus i gyflwyno’r gwaith. Y tenor o Rydymain, Huw Ynyr chwaraeodd ran Ferrando, a’r bariton ifanc, John Ieuan Jones ganodd ran Gugliemino. Dwy ‘Erin’ swynol dros ben ganodd rannau’r ddwy chwaer a chariadon y gwŷr ifanc, Fiodiligi a Dorabella, sef Erin Gwyn Rossington o gyffiniau Llanfair Talhaearn ac Erin Fflur, sy’n wreiddiol o’r Felinheli. Cafwyd canu cyfoethog gan Rhys Jenkins yn rhan Don Alfonso a chanu ac actio gwych gan Leah-Marian Jones fel y forwyn, Despina. 

Yn sicr, roedd y cynhyrchiad yn un bywiog ac yn llawn dychymyg a hiwmor. Roedd y gerddorfa ifanc o tua phymtheg o aelodau hefyd yn cyfeilio’n grefftus, a hynny, heb dynnu sylw’r gynulleidfa oddi ar y libretto. Rhaid dweud ei bod hi’n braf clywed geirio croyw. Cymry Cymraeg iaith gyntaf oedd y cast cyfan, ar wahân i Robert Jenkins. Mae’n amlwg fod eu profiadau eisteddfodol a’r llwyddiant a gawson nhw’n y maes hwnnw wedi profi’n fuddiol. Fel cerdd-dantiwr, gallwch ddychmygu pa mor bwysig ydy cyflwyno geiriau’n glir i mi.

Yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin y cefais y fraint o wrando ar y perfformiad, a chael mwynhau diwrnod neu ddau’r un pryd yn nhre’r ‘hen dderwen’, lle treuliais dair blynedd hapus dros hanner canrif yn ôl. 

Dymunaf longyfarch fy nghymydog, Patrick Young a’i dîm ar gyrraedd uchafbwynt unwaith eto yn hanes Opra Cymru. Mawr fydd yr edrych ymlaen rwan at y prosiectau eraill sydd ar y gweill.

IM
- - - - - - - - 


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023


18.12.22

Crwydro -Taith Cambria

Erthygl yn ein cyfres am grwydro llwybrau Bro Stiniog

Mae llwybr Taith Cambria mewn bodolaeth ers dros 50 mlynedd a rŵan mae’n cael ei gynnwys ar fapiau am y tro cyntaf. Dyma lwybr cerdded hiraf Cymru ac mae’n mynd trwy ardal Llafar Bro

Gan ddringo dros rhai o gopaon mwyaf gwyllt a garw’r wlad, mae Taith Cambria yn ymestyn bron i 300 milltir o Gaerdydd i Gonwy, ac yn un o lwybrau anoddaf a mwyaf anghysbell gwledydd Prydain.

Mae gwreiddiau’r daith yn perthyn i’r 1960au ond dim ond rŵan mae’n ymddangos ar fapiau’r Arolwg Ordnans (OS). Cymrodd ychydig o flynyddoedd i sicrhau bod trywydd y llwybr yn gywir a bod y llwybr mewn cyflwr addas. Dydy’r trywydd mynyddig o’r brifddinas i’r gogledd ddim yn un hawdd i’w ddilyn ac mae angen gwneud gwaith paratoi a’r gallu i ddarllen map.

Y Rhinogydd yw'r rhan anoddaf o'r llwybr cyfan, yn bennaf oherwydd y sgrialu garw sydd ei angen. 

Mae'r daith o'r Bermo i Faentwrog tua 22 milltir o bellter ond araf yw'r cynnydd a does dim llety oni bai fod cerddwyr yn arallgyfeirio i bentref Trawsfynydd. 

 

Mae’r llwybr yn mynd trwy Warchodfa Natur Genedlaethol Rhinog, yna i lawr heibio Coed y Rhygen ar lan Llyn Traws a thrwy Gwarchodfa Coedydd Maentwrog, cyn dringo’r Moelwyn Mawr ac wedyn drosodd i’r Cnicht trwy chwarel Rhosydd -lle mae'n croesi Llwybr Llechi Eryri- a heibio llyn Cwm Corsiog a Llyn Adar.

Yr olygfa, ar noson braf o haf, o gopa’r Moelwyn Mawr dros gopa’r Cnicht i gyfeiriad Yr Wyddfa a’i chriw. Llun- Erwyn Jones

- - - - - - - 

Addasiad o erthygl ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2022.


1.4.19

Taith Lobsgows y Llan

Adroddiad gan John Griffiths am Daith
Lobsgóws flynyddol Cymdeithas Edward Llwyd, y tro hwn yn Llan 'Stiniog. 

Fe ddaeth dros ddeugain aelod ynghyd ar y 5ed o Ionawr am daith fach o gwmpas Llan Ffestiniog gyda Vivian Parry Williams a Steffan ab Owain wrth y llyw. Yr oedd y tywydd o'n plaid diolch i'r drefn: dim mymryn o wynt a dim diferyn o law. Cawsom hanesion Gwesty'r Pengwern - gan gynnwys ysbrydion...a hanes sawl cymeriad sy'n gorwedd yn y Llan.

Ymlaen wedyn at Westy'r Seren -Bryn Llywelyn- lleoliad safle'r Brodyr Llwyd yn yr oes a fu, a ble bu un o gartrefi'r Arglwydd Niwbwrch dros ganrif yn ôl, yna'n gartref plant a chartref henoed hynod maes o law. Aethom at fedd yr Arglwydd Niwbwrch, llecyn braf ar fryn ar gyrion y pentref, a chyd ganu 'O Fryniau Caersalem', yr emyn a ganwyd ar ochr y bedd yn 1916; bedd, gyda llaw, a naddwyd o'r graig.


Ymestynnodd Vivian wahoddiad i ni ddychmygu'r ing a'r teimlad fuasai’n bodoli ymysg brodorion Llan Ffestiniog wrth iddynt fod yn dyst i'r angladd odidog hon a'u hogiau hwythau yn gorwedd yn y mwd yn Ffrainc.

Priodol iawn oedd cofio am Gwyn Thomas, cyn aelod o'r Gymdeithas a orweddai ym mynwent Llan, cyn troi unwaith eto tua thre. Lobsgóws wedyn yn Y Pengwern; gwesty cymunedol sydd wedi codi fel ffenics o'r lludw.

Chwarae teg i'r trigolion lleol am feddiannu eu dyfodol eu hunain, a dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y blynyddoedd i ddod; yr oedd y lobsgóws wedi plesio hefyd. Diolch yn wir i Vivian a Steff am yr holl waith ymchwil, a'n tywys ni o gwmpas Llan 'Stiniog."
--------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2019

Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd