28.9.20

Hen Luniau Rheilffyrdd Lleol

Erthygl gan Philip Lloyd


Dyma lun o hen orsaf Rheilffordd Ffestiniog yng Nglanypwll yn ei hanterth, gyda chanopi dros y platfform i warchod teithwyr boed weithwyr, ymwelwyr neu ddefnyddwyr eraill rhag y tywydd.
Dim ond lled ffordd sydd rhyngddi a gorsaf lein Dyffryn Conwy y London & North Western Railway (L.M.S. ar ôl grwpio’r cwmnïau yn 1921). Gwelir rhannau o’r orsaf honno yn y cefndir, yn uchel ar y dde.
 


Mae injan ‘Fairlie’ dau-fwyler yno, yn barod i dynnu trên am weddill y daith o Borthmadog i’r Blaenau, gan alw nesaf yn y gyfnewidfa â rheilffordd y Great Western. Yn y llun arall gwelir grŵp teuluol yn cychwyn ar eu taith oddi yno yn 1937 i ymweld â ffrindiau yn y Dduallt ar ôl disgyn o’r trên yn Rhoslyn a cherdded weddill y daith i’r tŷ.
 

Ar un adeg gorsaf Duffws oedd terfynfa Rheilffordd Ffestiniog yn y dref, lle byddai llechi’n dod i lawr o’r chwareli ar hyd dwy inclên cyn cael eu cludo oddi yno i borthladd Porthmadog. Y cyfan sydd ar ôl o’r orsaf heddiw yw’r adeilad a drowyd yn doiledau cyhoeddus. Ond ‘Duffws’ (neu Diffwys erbyn heddiw wrth gwrs. Gol.) yw enw’r maes parcio.
 

Daeth gwasanaeth Rheilffordd Ffestiniog i deithwyr i ben yn sydyn ar ddechrau rhyfel 1939-45 er gwaethaf addewidion hyderus y posteri am deithiau drwy ‘13½ Miles of Enchanting Scenery’ ar y ‘Festiniog [sic] Toy Railway ... Gauge 1 ft. 11½ ins.’.
 

Fel y gŵyr darllenwyr Llafar Bro, mae gorsafoedd y London & North Western a chyfnewidfa Rheilffordd Ffestiniog â’r Great Western wedi hen ddiflannu. Dyna dynged gorsaf Glanypwll yn ogystal. Ond mae’r gyfnewidfa newydd ger safle hen orsaf y Great Western yn gwasanaethu lein Dyffryn Conwy a threnau cwmni newydd Rheilffordd Ffestiniog.
 

Gwelir llu o luniau o hen orsafoedd y Blaenau ac o injans stêm yn y ddau lyfr: A Regional History of the Railways of Great Britain, Volume 11: North and Mid Wales gan Peter Baughan a Festiniog [sic] Railway Revival gan P.B. Whitehouse. Mae llyfr Whitehouse yn cynnwys map manwl o hen reilffyrdd y fro – cul a mesur-safonol.
 

Gobeithio bydd darllenwyr Llafar Bro yn maddau i un a fagwyd yng nghymoedd glofaol y de am beidio â defnyddio geiriau sydd ar lafar yn lleol megis ‘Stesion Fain’. Ond o leiaf, ‘trên bach Port’ rydw i wedi dweud erioed, a’m taid yn hanu o Benrhyndeudraeth ond a fu’n byw yn Aberfan am flynyddoedd. ‘John Lloyd Sowth’ bydden nhw yn ei alw ar ei ymweliadau achlysurol â’i fro enedigol.
-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020.

Mae rhifynnau digidol gwanwyn/haf 2020 ar gael am ddim ar wefan Bro360.


24.9.20

Pellter Cymdeithasol Hen Ffasiwn!

Wrth ymchwilio i’w gyfres Stiniog o’r Wasg Erstalwm, daeth ein colofnydd, Vivian Parry Williams ar draws yr hanesyn difyr a pherthnasol yma:
 

Yn rhifyn 13 Chwefror 1900 o’r Genedl Gymreig, dan bennawd ‘Helynt y Clefydau Heintus yn Ffestiniog’, gwelir adroddiad sy’n ein hatgoffa, i raddau, o’r hyn sy’n digwydd y dyddiau hyn. 

Roedd y geiriau a nodwyd yn yr adroddiad yn newyddion llwyr i mi. Ymddengys i’r Cyngor Dinesig lleol ar y pryd gyflwyno deddf rywdro yn ymwneud â gwaharddiad ar ddinasyddion yr ardal rhag dod i gysylltiad â rhywun oedd yn diodde’ gyda heintiau a ystyriwyd yn farwol ar y pryd. 


Roedd dau ŵr, David Jones, 100, Cellar, Blaenau Ffestiniog a John Parry, Tŷ Pren, Pen y Bryn, Bethania yn ymddangos o flaen yr Ynadon ar y Fainc ar gyhuddiad o gymysgu’n anghyfreithlon gyda dau glaf, un oedd yn diodde’ o ddifftheria, a’r llall o dân iddwf (erysipelas). Gohiriwyd yr achos cyntaf “er mwyn cael ychwaneg o oleuni meddygol ar y ddau achos”, chwedl y gohebydd. 

Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, ymddangosodd y ddau droseddwr honedig o flaen yr ynadon eto, a’r tro hwn rhoddwyd tystiolaeth gan dri meddyg lleol, Dr H.O.Jones, Dr R.D.Evans a Dr Richard Jones. Wedi cryn drafod ar y mater, penderfynwyd taflu’r achos allan, a dywedodd y cadeirydd, W. Davies eu bod yn gwneud hynny “am fod tystiolaethau’r meddygon yn groes i’w gilydd”.


A ninnau’n teimlo’n rhwystredig y dyddiau hyn gyda’r amrywiol rybuddion i ni gadw at reolau’r lockdown, megis cadw’r pellter cymdeithasol o ddwy fedr, a pheidio teithio’n bellach na phum milltir o’n cartrefi. Ychydig wyddwn, na neb arall dybiwn i, bod rheolau llym yn bodoli’n ‘Stiniog dros ganrif yn ôl i geisio atal lledaenu clefydau heintus!
------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020


20.9.20

Newyddion Llanfrangoch

Eisteddfod

Yn Eisteddfod flynyddol Llanfrangoch –a gynhaliwyd eleni, am resymau amlwg, trwy’r post ac ar Zoom -enillwyd y wobr am wau pâr o fenyg gan Joan Edwards, Llys y Fedwen. Dywedodd y beirniaid, Mrs James Evans, fod dyfodol disglair i’r ferch hon yn y maes hwn, ac na welodd hi erioed gystal gwaith. Yr unig fai y medrodd ei ddarganfod ar ei gwaith gwych oedd ei bod wedi gwau dwy faneg chwith, a bod y fawd ar gefn y faneg yn un ohonynt. Arwahân i’r brychau hyn yr oedd y gwaith yn odidog drwyddo draw. Gofidia na buasai mwy nag un cystadleuydd wedi ymgeisio am y wobr, ond yr oedd yn dyfarnu’r wobr yn llawn i Miss Edwards, gyda chanmoliaeth uchel.
Diolchwn i Mr Samuel Edwards, tad y ferch fuddugol am yrru’r newyddion atom. Cyd-ddigwyddiad diddorol yw mai chwaer Mr Edwards, sef modryb i Jane, oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth.
 

Llongyfarchiadau hefyd i Mr Edwards ar ennill yn yr adran lên efo cerdd yn cyfarch ei ferch. Roedd nifer sylweddol iawn o benillion, ac ni allwn atgynhyrchu’r cyfan o ddiffyg lle, ond dyma’r cyntaf ohonynt.


Ymlaen, O ferch, ymlaen, ymlaen,
I ennill mwy o wobrau,
A gwau pullovers grand eu gwedd,
A sannau twt eu sodlau;
Y mae athrylith yn dy law,
A medr yn dy fysedd,
O dal i fyny enw da
Dy deulu hyd y diwedd.
 

Dawnsio a dathlu

Llongyfarchiadau i Begw Williams, Stryd Brookland, ar dderbyn ysgoloriaeth i ysgol ddawns ryngwladol Llanfrangoch. Mae hi’n edrych ymlaen yn arw i astudio’r ddawns fodern o dan yr enwog Madame Léise, os gaiff yr ysgol ail-agor, yn dilyn anghydfod hir a blin am gyflogau’r glanhawyr.
 

Mwgwd mwngral

Pob lwc i Dicw Bach Pentre Meini efo’i gwmni newydd sy’n creu masgiau Covid-19 yn arbennig ar gyfer cŵn a chathod yn y cyfnod anodd hwn. Llwyddodd i ddod i delerau am frethyn addas efo ffatri ddillad isa’ Boyd yn y Bala, sydd wedi gweld cwymp aruthrol yn y galw am eu y-fronts yn dilyn poblogrwydd cân Trôns Dy Dad, gan Gwibdaith Hen Frân sy’n dilorni’r dilledyn hen-ffasiwn. Daw’r mygydau mewn patrwm tartan, draig goch, ac amrywiaeth o liwiau i warchod eich annwyl gyfeillion anwes.
 

Cŵyn am y glo

Y mae Mr Coke Pugh, un o’n gwerthwyr glo lleol, yn bygwth cyfraith ar bwy bynnag sy’n meddio awgrymu mai yn chwarel y Fotty y mae’n cael ei lo. Ni bu erioed yn gwsmer i’r chwarel honno. O Chwarel yr Oakley y mae o’n cloddio’r cyfan o’i lo.
 

Hyd buwch.

Un enghraifft o'r posteri hyd buwch...

Mae cynrychiolwyr yr undebau amaeth yn lleol yn ystyried gwneud cŵyn ffurfiol i’r Senedd, wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi posteri am argyfwng Covid-19, sy’n cymharu’r 2 fetr sydd ei angen ar gyfer ymbellhau cymdeithasol diogel, efo hyd buwch.

 “Efallai bod buwch tua dwy fetr o hyd” meddai Wil Dwalad, Penmaen, “ond diawch, does gen i mo’r amser i gario gwartheg ‘nôl-a-mlaen at ddrws Coparet y Blaenau, er mwyn iddyn nhw gael dangos i’r bobol sy’n ciwio pa mor bell i sefyll oddi wrth eu gilydd.”  Mi ddown ni a diweddariad i chi y tro nesa, gan fod y Senedd yn son am ostwng yr hyd i un fetr. Mi fydd yn haws mynd a dafad ‘nôl-a-mlaen, mi dybiwn...



----------------------------


[Llanfrangoch]

Mae nifer ohonoch dwi’n siwr, wedi’i dallt hi, ac wedi gweld ein bod wedi sleifio ambell ddarn o rwdlian llwyr ymysg y newyddion cymunedol. Dynwared campau John Ellis Williams a Moi Plas oedd y bwriad, ac mae rhai o’r darnau ffug wedi eu haddasu o’u gwaith nhw yn Rhedegydd y 1950au. 

Roedden nhw’n ceisio ysgogi trafodaeth a bwrlwm am bentref Llanfrangoch -nad oedd neb yn gwybod lle’r oedd o- pan oedd gwerthiant y papur yn gostwng. Gobeithio bod y darnau wedi codi gwên. Maen nhw wedi llenwi cornel yn y silly season sonwyd amdano yn ‘Smit Newyddion’ ! A phwy a ŵyr na fydd rhywfaint o hanesion Llanfrangoch yn ymddangos o dro i dro yn y dyfodol hefyd! 

PW
-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020

Llygad Newydd: Mwy o hanes Moi Plas.

15.9.20

Iaith Stiniog: Yn ôl i’r chwareli


Erthygl gan Bruce Griffiths ac Enid Roberts

 

Hwrê! Yn dilyn fy nhruth am iaith y chwareli*, dyma gyfraniad diddan ar y pwnc gan ein cymdoges annwyl, Enid Roberts (gynt o Gae Clyd!):

"’Roedd y creigwyr yn gwisgo trowsus ffustion am ei fod yn llawer gwell defnydd iddynt pan oeddent yn gwisgo’r cadwyni. Gan fod y defnydd yn olau iawn, bron yn wyn, rhaid oedd gwisgo London Yorks o dan y pen-glin i gadw’r trowsus allan o’r mwd a’r baw. Hefyd rhaid oedd iro’r esgidiau â dwbin i’w cadw’n feddal.

“Robin Jolly: Robin Griffith oedd ei enw, ’roedd yn byw gyda’i chwaer. Dyn bychan gyda mwstash bach twt. Adroddai benodau o’r Beibl o’i gof. Byddai bob amser yn llawn hiwmor. ’Rwy’n cofio tad Geraint (Wyn Jones), [sef Iorwerth y Gof] yn dweud ei hanes aml i dro. Unwaith ’roedd blaenor o’r capel yn gweld Robin efo bocs mawr. ‘Be’ sydd gen ti yn y bocs ’na, Robin?’ meddai. ‘Mwnci’ meddai Robin ‘ac mae lle i un arall ynddo hefyd’. Roedd yn gymeriad hoffus fel ’rwy’n deall, reit ddiniwed. Byddai’n hoffi canu i’r plant.

“Yn yr Oakley ’roedd hefyd melin fflags lle ’roeddynt yn trin yr is-gynnyrch i wneud llechi i’r ysgolion, fflags stepiau a cherrig beddau.

“Mae’r diweddar Gwyn Thomas yn sôn yn ei ddarlith Fainc ’Sglodion. Mannau yn y Blaenau, am iaith y chwareli: inclên, criwliwr, crimpio, jermon, clespyn, cowjian, riglwr, cŷn tewio, p’leru a p’leriad, clust wagan, troedio morthwyl, corddi twll, jympar, diddosi agor, hegal craen. Erthygl arall, Bruce..!" 

 

Mawr ddiolch i ti, Enid! Eithriad prin ydy’ cael unrhyw ymateb i’m sylwadau. Sut na fuaswn i wedi cofio edrych ar ddarlith Gwyn, fy nghyfyrder! Clywais fod siop lyfrau’r Hen Bost wedi ail-agor, diolch byth, felly heidiwch yno i gael copi ohoni. Rhaid bod eraill acw sy’n fwy gwybodus am y pwnc na fi, rhowch bin ar bapur, peidiwch â bod yn swil!


Troais at lyfr Steffan (ab Owain), Pen-Blwydd Mwnci, Gogyrogo a Char Gwyllt, Geiriau a Dywediadau Diddorol (Carreg Gwalch, 2016). Casgliad difyr dros ben, ac oes, mae ’na adran ar Amaeth, diwydiant a chrefft. (Nid llyfr o iaith ’Stiniog yn unig mohono, gyda llaw: ond holwch amdano yn siop yr Hen Bost!) Ceir llond tudalen am y car gwyllt, gyda llun da o chwarelwr yn eistedd ar un. Rhestrir hwrdd, jacob, megryn, milgi, pharo, tolyn, tew mastiff, tew llau, fel termau, gyda diffiniadau, o chwareli ’Stiniog. Gallasai’r rhestr fod yn llawer hwy, ond ymataliodd Steffan rhag cynnwys termau a geid eisoes mewn print: cyfeiria at rifyn 1966 o’r Caban, ac at restr Emyr Jones yn y BBGC (Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1961). 

’Does yr un o’r rhain gennyf, a bydd raid imi chwilota am y BBGC. Os ydy’r Caban gan rywun, da fyddai cael ysgrif ar ei gynnwys. 

[Llyfryn arall sy'n berthnasol iawn wrth gwrs ydi 'Geirfa'r Mwynwyr' gan Steffan yng nghyfres Llafar Gwlad. -Gol.]

A’r tro nesaf, os byw ac iach, be’ ga’i’n bwnc i fwydro yn ei gylch? Glawogydd ’Stiniog? Erbyn hynny, pwy a ŵyr na fyddwch wedi gweddïo amdanynt!
------------------------------

* Iaith Stiniog

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020

Mae'r rhifyn dal ar gael i'w lawr-lwytho am ddim o wefan Bro360

Celf: stiwdio_lleucu

10.9.20

Datblygiadau'r Dref Werdd

Erthygl gan Gwydion ap Wynn 

Mae’n bleser cael cyhoeddi’r staff newydd sydd wedi ymuno efo’r tîm yn ystod yr haf.

Mae Non Roberts, sydd wedi gweithio i’r Dref Werdd am gyfnod o’r blaen, wedi ei phenodi fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr i ardal Bro Ffestiniog a Dolwyddelan. Mae Non yn ail ymuno â’r tîm yn dilyn cyfnod o weithio yn Ysgol Bro Hedd Wyn, croeso ‘nôl Non!


Rydym hefyd wedi penodi Lauren Hill o Lanfrothen fel ein Cydlynydd Gwirfoddolwyr i ardal Penrhyndeudraeth a’r cylch. Mae Lauren yn ymuno gyda ni o’i swydd diweddar gyda’r ddeintyddfa ym Mhenrhyn ac wedi gweithio dramor am gyfnod fel rheolwr yn ardal Chamonix yn Ffrainc ac hefyd yn fwy diweddar, wedi sefydlu busnes ei hun fel hyfforddwr ‘pilates’.


Bydd Nina Bentley hefyd yn ymuno gyda ni fel Gweithiwr Ymgysylltu Cymunedol rhan amser. Mae Nina eisioes wedi gwirfoddoli ei hamser i’r Dref Werdd wrth gasglu llawer iawn o sbwriel o amgylch Blaenau a Thanygrisiau ac wedi sefydlu’r grŵp Balchder Bro gyda chefnogaeth y Dref Werdd. Wedi symud i’r ardal, mae Nina wedi dysgu siarad Cymraeg ac yn frwdfrydig am yr iaith cymaint ag y mae gyda gwaith amgylcheddol y fro.


Rôl y tair ohonynt fydd i recriwtio a chyd-weithio gyda gwirfoddolwyr er mwyn sicrhau cefnogaeth i unigolion a theuluoedd sydd yn fregus neu yn hunan ynysu trwy ddatblygu sawl prosiect, a fydd yn cynnwys cynllun cyfeillio dros y ffôn i bobl sydd efallai yn unig, datblygu prosiect benthyca tabledi digidol i’r sawl sydd ddim fel arfer yn defnyddio technoleg, cefnogi banc bwyd y Blaenau a sefydlu un newydd ym Mhenrhyndeudraeth a llawer iawn mwy.

Gallwch gysylltu gydag unrhyw un ohonynt ar y cyfeiriadau isod:

non@drefwerdd.cymru
lauren@drefwerdd.cymru
nina@drefwerdd.cymru

 

 Ffilm fer am dîm y Dref Werdd, gan BroCast Ffestiniog

Y pedwerydd person rydan wedi penodi ydi Tanwen Roberts. Bydd llawer iawn ohonoch yn adnabod Tanwen ers ei hamser yn gweithio yng nghaffi Antur Stiniog, a rydan ni wedi ei phenodi i reoli ein menter newydd, sef siop di-wastraff a fydd yn cael ei lleoli yn Stryd yr Eglwys. Enw’r siop fydd Y Siop Werdd a bwriad y fenter yma ydi i werthu cynnyrch am brisiau rhesymol, ond hefyd i bobl allu prynu hynny y maent yn gallu fforddio. Bydd y siop hefyd yn cyd-weithio’n agos gyda’r banc bwyd, yn ogystal a’r holl fentrau eraill sydd eisioes yn gweithio yn yr ardal.

Y gobaith yw bydd y siop yn agor ei drysau o fewn 2-3 mis unwaith bydd y gwaith o’i gosod fyny yn cael ei wneud. Os hoffech chi wybod mwy am y fenter, gallwch gysylltu efo Tanwen ar ei chyfeiriad ebost 

tanwen@drefwerdd.cymru
--------------------------------
Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020