28.1.23

Gweld Dyfodol Gwell

Yng nghanol mis Hydref, aeth prosiect GwyrddNi ymlaen efo cwpl o sesiynau yn Neuadd Llan Ffestiniog: grŵp o ryw drideg o wirfoddolwyr oedd yn cwrdd â'i gilydd fel math o ‘Gynulliad’ i gymryd cam nesaf o adeiladu dyfodol gwyrdd i Flaenau Ffestiniog. 


Cyfle gwych oedd hwn: i gwrdd â phobl leol eraill; i drafod ein gobeithion ar gyfer y dyfodol; ac i wrando syniadau gan ‘aelodau’ eraill am wella bywyd cyffredinol yn yr ardal. Ond wrth gwrs, y peth pwysicaf ym mhob sgwrs oedd cwestiwn mawr o newid hinsawdd.

Yn y sesiwn gyntaf, cawsom ni gyfle i rannu ein gweledigaeth bersonol ar gyfer y dyfodol delfrydol (a gwyrdd). Roedd ’na lot ohonom ni yn sôn am egni gwyrdd, e.e. y posibiliadau lleol efo hydro-electrig; rhai eraill am gyfleoedd i greu marchnad leol ar gyfer bwyd; a rhai eraill am ffyrdd newydd o rannu adnoddau a sgiliau. Ffocws yr holl sgwrs oedd dychmygu sut fyddai’r gymuned yn gallu ymateb i effeithiau newid hinsawdd. Trafodaeth am ein gweledigaeth oedd hi, ond dim jyst breuddwydion afrealistig: ro’n i’n eistedd wrth fwrdd lle'r oedd ‘na ddadleon am ynysiad (insulation) mewn tai lleol. 

Canlyniad ein sgwrs ni oedd cydnabod pa mor anodd ydy o perswadio pobl (hyd yn oed efo grantiau) i wneud newidiadau mawr fel ’na i’w cartrefi.

Yn ystod yr ail sesiwn, y noson ddilynol, wnaethom ni ystyried a thrafod ffyrdd ymarferol o weithredu’r gweledigaethau soniom ni amdanyn nhw'r noson gynt. Roedd rhaid i ni ystyried hefyd os byddai’r syniadau (a’u gweithredu) yn gydnaws efo ein hegwyddorion.

Y peth ro’n i’n gwerthfawrogi’n fawr yn ystod y sesiynau oedd y ffaith bod yr holl broses wedi rhoi hyder i bawb fynegi eu barn a hefyd gwrando’n astud ar farnau pobl eraill. Mewn microcosm, roedden ni wedi creu rhyw fath o gymuned efo ein gilydd. 


Buddiol iawn bydd gweld canlyniadau y sesiynau nesaf. Diolch i’r gweinyddwyr am drefnu profiad mor ddiddorol i ni!

I ddysgu mwy am GwyrddNi ewch i www.linktr.ee/gwyrddni ble gallwch fynd i’w gwefan, eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol, a thanysgrifio i’w cylchlythyr. 


Patrick Young,
Aelod o Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Bro Ffestiniog 


24.1.23

Hanes Rygbi Stiniog. 1974-75

Pont y Pant –y Cae Cyntaf 

Ail bennod cyfres Gwynne Williams

Ar ôl chwarae y gemau i gyd oddi cartref cafwyd cae  - ym MHONT Y PANT, 6 milltir o'r Blaenau. Roedd Clwb Rygbi Blaenau Dolwyddelan yn glwb ‘Ardal’ – yn ymestyn o Drawsfynydd hyd at Ddolwyddelan i’r gogledd, a daeth hyn yn fendithiol iawn wrth gael hyd i gae CYNTAF y Clwb. 

Ychydig tu allan i Ddolwyddelan roedd hen gae chwarae dan ofalaeth Ymddiriedolaeth John Chorley, gyda lle i chwarae tenis, bowlio a phêl droed ond doedd fawr o ddefnydd wedi bod ar y lle ers yr Ail Ryfel Byd. Daeth y lle i sylw dau frawd a selogion a chwaraewyr Bro o ardal Dolwyddelan, Ieuan a Victor Evans, yn dweud bod cae ym Mhont y Pant ar gael – cae cartref  cyntaf !  Cafwyd caniatad Ysgrifennydd yr Ymddiriedolwyr, Lewis Roberts i ddefnyddio'r cae a’r Pafiliwn (ystafell newid ).

Dim peth hawdd oedd symud ymlaen, cafwyd pyst rygbi o ardal Traws, ac fe'i cludwyd i’r cae gan gwmni John Roberts Ffestiniog, lle cafwyd sawl problem am eu bod mor hir -tua 30 i 40 troedfedd yn enwedig ar y troad i Blaenau o’r A487 i’r A496 wrth dŷ GlynMor Maentwrog. Tynnodd pawb at ei gilydd i rhoi trefn er bod neb wedi defnyddio'r cae ers blynyddoedd. Codwyd y pyst ar ôl tyllu pedwar twll o dan orychwyliad Dr Boyns gyda rhawiau mewn pridd meddal  –ond roedd rhaid eu hail osod – mewn llai na pythefnos gwelwyd eu bod yn gwyro ac felly roedd rhaid eu hail osod mewn concrit gan aelodau oedd gyda fwy o brofiad o wneud y gwaith yma.  

Bob dydd Sadwrn, gêm ym Mhont y Pant – ‘roeddwn yn gadael y tŷ yn y Blaenau cyn cinio ac anelu am y cae i fflatio neu chwalu tomenni tyrchod daear oedd bron mor uchel a Chastell Dolwyddelan ac  wedyn trio marcio’r cae i’r gêm cyn gwirfoddoli i redeg y lein fel llumanwr! 

Nôl ym mis Ebrill 1974 fel y gwelwch "Blaenavon Festiniog" oedd Undeb Rygbi Cymru wedi ei roi fel enw ar y clwb Rygbi!

Cafwyd caniatad i gynnal ymarferion ar gaeau chwaraeon Ysgol y Moelwyn  -sef Caeau Dolawel. 

23 Tachwedd 1974   Noson Caws a Gwin. Adloniant “ Y Mellt”; 

24 Tachwedd 1974  Ffair Nadolig Aelwyd yr Urdd.

Chwraewyd y gêm GYNTAF ar gae Pont y Pant yn erbyn Llangefni ar Ragfyr 28 1974, ond er colli 6 – 20 dyma agor pennod gyffrous yn hanes y clwb wrth i bawb dynnu at ei gilydd i roi y lle ar ei draed.  Roedd gwell cyflwr ar y Pafiliwn, adeilad tair ystafell, gyda’r tȋm cartref yn un ystafell, ymwelwyr yn y llall ac yn y canol, yr olchfa sef bath tŷ cyffredin, llenwi’r bath gyda dŵr poeth o churns o Hostel Ieuenctid Pont y Pant dros ffordd, a dŵr o Afon Lledr a dyna ni ac ar ôl y gêm 30 o ddynion cyhyrog, nobl yn ymladd am ddiferyn o ddŵr ! – Ond penderfyniad rhai oedd neidio i Afon Lledr!

Penderfyniad y pwyllgor oedd cysylltu’r Pafiliwn gyda’r prif gyflenwad dŵr yn mis Tachwedd 1975. Daeth pethau yn well erbyn Ionawr 1976 - roedd Huw Williams Dolwyddelan a Glyn Knight Griffiths wedi gosod system soffisdigedig mewn lle gyda chawodydd yn pistillio'n  hamddenol dros yr hogiau i bwll nofio plastig oedd yn draenio drwy dwll yn y llawr - moethusrwydd llygredig!! – ond anelu i ymolchi yn Afon Lledr roedd hanes rhai o hyd!

Mynd wedyn ar ôl y gêm i’r Gwydr i dorri syched – nid oedd trwydded gan y dafarn i agor o 3 tan 6 –felly shandi oedd gofynion y prynhawn ½ cwrw a ½ lemonêd -ond fel roedd y tymorau yn mynd yn ei blaen aeth y peint yn beint gyda lemonêd 'tops'. Roedd rhaid cael bwyd – roedd hogia Bro yn talu “Match fee" fel gallai’r  hogiau o dȋm yr ymwelwyr cael bwyd cyn iddynt droi am adref.

Canlyniadau ar ôl gorffen y tymor CYNTAF 1974 - 1975 

Chwarae- 22        Ennill- 8    Colli- 14        Pwyntiau o blaid-  206  / yn erbyn-  307 

7 Fai 1975   Cyfarfod  Blynyddol

Gwneud Cerdyn Aelodaeth yn cynnwys rhestr o gemau’r tymor / enwau Is-Lywyddion.

Aelodaeth £ 0.50 Chwaraewr/ Cymdeithasol £ 0.25  

Trysorydd - Elw  £ 126.99                

Ethol 1975 /1976     Llywydd RH Roberts / Cadeirydd Alan Gwynant Jones / Ysgrifennydd Trefor Wood / Trysorydd Glyn E Jones / Ysgrifennydd Gemau Gwynne Williams / Aelodau Eraill Nigel Bloor/ Bryn Calvin Roberts / Ieuan Evans / Michael Jones

Chwaraewr Mwyaf Addawol       Ken Jones 

Ail-enwi'r clwb  -CLWB RYGBI BRO  FFESTINIOG                 


Bathodyn y clwb  -PEN MAHARAN. Cynllunwyd gan frawd Bryn Calvin  - Robert Roberts.

 

 

Mai 24 1975     Noson Cymdeithasol, Gloddfa Ganol
23 Awst 1975   Taith Gerdded Noddedig  (£112.64 )  Cario pyst rygbi Pont y Pant i Flaenau Ffestiniog; Y weithred symbolaidd o gario postyn dros y mynydd.

Cael Cyfarfodydd Pwyllgor y Clwb yn y gwahanol dai Tafarnau lleol - Cwm, North Western, Lyndale, Cross Keys, Manod a Meirion.

23 Rhagfyr  1975          Cyfarfod  Blynyddol Arbennig (Cross Keys)
 Etholwyd    Cadeirydd Dr Arthur R Boyns / Is Gad Glyn E Jones / Ysg Elfed Jones                Trysorydd  Glyn E Jones / Ysg. Gemau  Gwynne Williams                      

Hyfforddwr ac Is Gapten Huw Joshua /Capten Nigel Bloor. Pwyllgor   Eraill    Merfyn C Willams / Bryn C Roberts / Ieuan Evans / Michael Jones 

Ffurfio Pwyllgor Merched

Chwaraewr  Mwyaf Addawol  -Graham Thomas

UFA:   CYMRAEG fydd iaith gyntaf y Clwb!

27 Rhagfyr 1975              Bro 18      Alltudion   17

- - - - - - 

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Rhagfyr 2022. Bydd mwy yn dilyn.

20.1.23

Streic Fawr y Llechwedd

Y siaradwr yng nghyfarfod mis Tachwedd Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog oedd Gareth Tudor Jones a’i destun oedd Streic Fawr y Llechwedd yn 1893.

Dechreuwyd gyda dipyn o gefndir teulu’r Greavesiaid a’r chwarel. Yn dilyn marwolaeth y prif swyddog poblogaidd, Evan Thomas yn 1887, penodwyd Warren Roberts fel olynydd iddo - gŵr ifanc a addysgwyd yn Eton ac nad oedd ganddo ddim profiad o redeg chwarel. 

Gyda gwasgfa ariannol a gormes mân reolau newydd arnynt, nid oedd y pum cant o chwarelwyr yn y Llechwedd yn ddynion hapus eu byd. Yn y fath sefyllfa fe fu ffrae rhwng yr uwch- swyddog William Jones (Ffestinfab) â’r creigiwr Griffith Jones yn ddigon i beri i’r holl ddynion gerdded allan o’r gwaith, gan ddechrau streic a fyddai yn para dros bedwar mis. 

Er mai streic rhwng un swyddog ac un gweithiwr ydoedd ar y dechrau, yn sydyn tyfodd i fod yn fater o hawl y perchnogion i ddiswyddo pwy a fynnent. 

Gwrthodwyd yn lân a derbyn arweinwyr y dynion yn eu holau. 

Ar ôl pedwar mis, gorfododd tlodi y dynion fynd yn eu holau – heb eu harweinwyr, ac heb i’r cwmni ymateb i unrhyw un o’u cwynion. 

Y farn ar y pryd ydoedd mai y rheswm i’r streicwyr golli’r dydd oedd nad oedd digon ohonynt yn perthyn i’r Undeb (llai na 25% ohonynt) ac felly mai streic answyddogol oedd hon ar y dechrau.  


I roi halen yn y briw, yr oedd naw o’r dynion yn wynebu cyhuddiad difrifol o gynllwynio (conspiracy). Bu’n ddeufis arall cyn i’r rhain eu cael yn ddi-euog, gyda neb llai na Lloyd George yn eu hamddiffyn yn y Llys Chwarter.


Llywyddwyd y cyfarfod gan Dafydd Roberts a diolchwyd gan Paul Williams.

- - - - - - - 

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2022



17.1.23

 O Ffestiniog i'r Wladfa

Diolch i Gyngor Tref Ffestiniog am brofiad bythgofiadwy ym Mhatagonia! Rydym newydd ddychwelyd yn ôl adra yn dilyn bron i dair wythnos yn cyflawni ein prosiectau yn y Wladfa, ar ôl ennill yr ysgoloriaeth yn 2020 a 2021.

Gyda'r ddau ohonom wedi gweithio mewn addysg, buom yn ymweld ag ysgolion a cholegau yn Rawson a threfi cyfagos. Buom yn ymweld â phedair Ysgol Gymraeg ym Mhatagonia - yn ogystal â thair Ysgol Sbaeneg, yn Rawson. 


Nid oes Ysgol Gymraeg yn Rawson ar hyn o bryd, ond mae bwriad gan eu Cyngor Tref i sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg yno, ac rydym wir yn gobeithio fod ein gwaith yn yr ysgolion a'n cyflwyniad i'r cyngor wedi annog hyn ymhellach a phwysleisio gwerth y Gymraeg mewn ysgolion.

Ein bwriad oedd rhannu cyflwyniadau a gwybodaeth am Fro Ffestiniog; ysgolion, iaith yn yr ardal, golygfeydd, enwogion a'r hyn sydd gan yr ardal i'w gynnig yn sgîl twristiaeth, gan ganolbwyntio ar y testun 'Heddiw ym Mlaenau Ffestiniog'. 

Roedd hi'n braf derbyn adborth cadarnhaol iawn gan staff a disgyblion yr ysgolion, a'u brwdfrydedd i ddysgu mwy am ein hardal drwy sesiwn cwestiwn ac ateb. Rydym wedi derbyn cwestiynau diddorol iawn ar gyfer plant Bro Ffestiniog, a gobeithio y bydd y cysylltiadau hyn yn cryfhau'r berthynas rhwng y ddwy Fro, ac yn parhau. Hoffwn ddiolch o galon i Ysgol y Moelwyn, ac ysgolion Tanygrisiau, Manod, Bro Cynfal a Bro Hedd Wyn am eu cyfraniadau drwy fideos, cyflwyniadau diddorol, a chwestiynau i'w gofyn i ddisgyblion ym Mhatagonia. 

Cawsom groeso bendigedig gan bawb yn Rawson, a phrofiadau gwerthfawr o ymweld ag amgueddfeydd, capeli, byd natur a dysgu mwy am hanes y Cymry cyntaf aeth i’r Wladfa, gyda llawer ohonynt o Fro Ffestiniog. 

Buom hefyd yn sêr teledu ar raglen newyddion lleol yn Rawson. Cawsom dipyn o sioc yn gweld y camerâu yn aros amdanom y tu allan i swyddfa'r Maer! 

 

Rydym yn dychwelyd o Batagonia gyda balchder mawr o'r Gymraeg, ac mae wedi bod yn agoriad llygad gweld pa mor awyddus a chefnogol yw brodorion Patagonia i'r iaith, diwylliant a thraddodiadau megis eisteddfod, dawnsio gwerin ac yfed te! 

Mae wedi bod yn anrhydedd profi Cymreictod ar ei orau, a chyfarfod oedolion sydd yn parhau i siarad Cymraeg gan ddilyn eu gwreiddiau teuluol - a rhai sydd wedi dangos diddordeb a dewis dysgu'r Gymraeg yn eu hamser hamdden. Bydd geiriau Esther, 93 o Drevelin, yn aros yn ein cof:

"Mae rhywbeth da i edrych ymlaen ato pob dydd". 

Yn ystod y daith, gwnaethom gyfarfod llawer o Gymry, gan gynnwys Bethan Gwanas yr awdures o Feirionnydd! Roedd hi'n bleser bod yn ei chwmni, a dysgu am ei thaith gyntaf i'r Wladfa yn 1991.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein profiadau drwy fideos a chyflwyniadau i ysgolion lleol, a chyfuno rhinweddau pwysig ac unigryw Ffestiniog a Phatagonia mewn cân i'w rhannu gyda'r cyhoedd yn y flwyddyn newydd. 

Diolch eto i Gyngor Tref Ffestiniog am y cyfle arbennig yn sgîl yr ysgoloriaeth, a dymunwn y gorau i'r enillydd nesaf. Rydym yn annog yr ifanc yn y fro i ymgeisio am y cyfle gwych hwn i fod yn rhan o ddatblygu'r berthynas rhwng y ddwy ardal. Tan y tro nesaf.

Yn y lluniau fe’n gwelir yn cyfarfod gyda maer Rawson; ymweld â Choleg Camwy yn y Gaiman; yn dilyn cyflwyniad i blant Ysgol Gynradd yn Rawson; yn dilyn ymweliad i Gapel Berwyn yn Rawson. Hefyd ceir llun ohonom gyda (o’r chwith i’r dde) Abril (disgybl ysgol sy’n dysgu
Saesneg ac yn manteisio ar y cyfle i gyfieithu ar ein cyfer), Hanna, Gari, Maria Soledad o Lyfrgell Rawson a Patricia Lorenzo (o Gyngor Tref Rawson)

Hanna Gwyn Williams (Enillydd Ysgoloriaeth Cyngor Tref Ffestiniog 2020)
Gari Wyn Jones (Enillydd Ysgoloriaeth Cyngor Tref Ffestiniog 2021)
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2022

Ym mis Mawrth 2023 cyhoeddodd Hanna ffilm a chân ar YouTube i hyrwyddo'r berthynas rhwng dwy Fro, o Ffestiniog i'r Wladfa!


Cyfansoddwyd y gân gan Hanna Gwyn Williams. 

Llais - Mared Jeffery
Piano - Tom Jeffery
Gitâr - Jiw Jeffery
Golygfeydd Drôn - Cai Jeffery
Fideo - Mirain Glyn
Clawr - Creu Co

12.1.23

Crwydro Coedydd Lleol

Erthygl yn ein cyfres am grwydro llwybrau Bro Stiniog, y tro hwn gan Iona Price 

Weithiau mae’n braf cael gweld Tanygrisiau trwy lygaid bobl eraill. Dyna ddigwyddodd pan es i ar daith Cymdeithas Edward Llwyd i Goed Cymerau efo John Parry Borth y Gest.  Esboniodd John bod hon yn 80 erw o ‘Goedwig Law Tymhorol Gorllewinol’. Ymysg y pethau inni edrych allan amdanynt - 102 o wahanol fwsog, sawl un yn nodweddoiadol o goedwig law. Roedd John wedi gwneud ei waith cartref cyn ein tywys i Goed Cymerau - lle sydd lawr ffordd i mi, a dwi’n reit gyfarwydd a’i ryfeddodau. Braf iawn gweld criw o bell yn rhyfeddu gyda’r lleoliad ac yn synnu nad oeddynt erioed wedi bod yn y lle arbennig hwn o’r blaen.

O’r man parcio ger fferm Cymerau Isaf aethom at Raeadr Cymerau i ddechrau’r daith. Wrth inni gael y wledd o edrych ar un o’r mannau mwyaf hyfryd ar y Afon Goedol, soniodd John fel roedd yr ardal yn gyforiog o afonydd.

Afon Goedol o Bont Swch. Llun Paul W

Troi’n ôl i ddilyn y llwybr lawr i gyfeiriad Rhyd Sarn lle byddem yn croesi’r afon Goedol. I’r rhai sy’n methu mynd yn bell iawn, mae’n dda cofio y gallwch barcio yn Rhydsarn a chroesi’r ffordd i ddod yn syth i’r lle hudol yma.  Tydi’r darn nesaf ddim ar gyfer pawb. Wedi croesi’r bont dros y Goedol, roedd  carped o ddail derw brown ar y llwybr dros y creigiau, felly roedd angen cymryd 'chydig o ofal cyn cyrraedd y rhan o’r goedwig a fyddai’n arwain i gyfeiriad Y Dduallt. Troi i ddilyn y lein rheilffordd ar ein chwith i gael picnic yn y steshion. Wrth adael y steshion i gyfeiriad Maentwrog, mae’n werth croesi’r gamfa ar eich chwith i fynd i’r Olygfan ar y bryn. Mae llechen yno yn enwi pobman sydd i’w weld a’r pellter oddiyno. Mae Tanygrisiau 2 filltir i ffwrdd.

Lawr yn ôl at y lein a dros y gamfa ar yr ochr arall a fydd yn mynd a chwi i Blas Dduallt. Cawsom dipyn o hanes y plas a hefyd straeon am y cymeriadau a fu’n byw yng Nghoed y Bleiddiau lawr y ffordd.


'Dach chi wedi cerdded rhyw 3 milltir erbyn hyn. Cewch droi yn ôl ger Plas Y Dduallt, ond gallwch ddilyn y llwybr ar ochr isaf y rheilffordd tro yma, cyn croesi nant fechan i ymuno’n ôl efo’r llwybr gwreiddiol dros y Goedol yn Rhydsarn. 


Digwydd bod, o fewn deuddydd roeddwn mewn coedwig law arall. Coedydd Ganllwyd tro yma gyda’r ecolegydd Ben Porter ar ran Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd Ben yn un o’r bobl prin gafodd fwynhau’r Cyfnod Clo. Cafodd gyfle i astudio unrhyw wahaniaethau mewn bioamrywiaeth mewn cyfnod lle nad oedd pobl yn crwydro o gwmpas. Dangosodd 10 math o fwsog inni o fewn darn bychan iawn; dangosodd y gwahaniaeth inni rhwng cen sy’n tyfu ar risgl llyfn neu rhisgl garw; a thra roeddem yn edrych ar giamocs dryw eurben a chnocell y coed, dyma res o 6 danas yn dod i’r golwg. Yn bendant mae’n werth edrych allan am deithiau tywys. 'Dach chi’n dysgu cymaint!

Rydan ni’n ffodus iawn bod sawl coedwig eithriadol yn agos i ardal Llafar Bro. [Nifer fawr ohonynt yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol -gol.] Dim ond dwy rydwi wedi enwi. Os nad ydych wedi ymweld ag un yn ddiweddar, beth am gychwyn gyda Choed Cymerau?

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2022

Crwydro Ceunant Llennyrch


8.1.23

Hanes Rygbi Stiniog, 1972-1975

Pennod cyntaf mewn cyfres gan Gwynne Williams

Bydd Clwb Rygbi Bro Ffestiniog yn dathlu ei hanner can mlwyddiant yn ystod tymor 2023/24 ond fel hyn dechreuodd y diddordeb o chwarae rygbi yn ardal Ffestiniog

Aeth tua 15 o hogia’r fro i chwarae gêm rygbi yn erbyn Bae Colwyn III ar gaeau Coleg Llandrillo yn Rhos, ddydd Llun y Pasg 1972. Trefnwyd y gêm gan Gwynne Williams ar ôl iddo gysylltu â chapten Bae Colwyn, G. Catley oedd yn gweithio gydag ef yng ngwaith Aluminiwm Dolgarrog. Cyfansoddwyd tîm o fechgyn chweched dosbarth yn Ysgol y Moelwyn, un neu ddau oedd wedi chwarae o’r blaen a’r gweddill gyda diddordeb i drio chwarae’r gêm.

Mwy o'r hanes cynnar yn y llyfr yma

Bae Colwyn III  32 – Blaenau 3
1. Michael Eric Jones (Sisco), 2. Dei Jos Williams 3. Peter Marwood 4. Brian Jones (Plymar) 5. Ian Marwood 6. Merfyn Roberts (Co–op) 7. Richard Williams (Traws) 8. William Maxwell 9. Nigel Bloor 10. Ken Jones (Lord St ) 11. Gwynne Williams 12. Elwyn Lloyd Jones 13. Keith Rea / Ieuan Williams (Traws) 14. John Lloyd Williams (Crydd) 15. Eurwel Thomas

Cynyddodd y diddordeb yn yr ardal ar ôl y gêm a chafwyd hwyl yng Nghlwb Bae Colwyn, er i ni golli. Aeth rhai o’r hogia i chwarae i Harlech ac ar ôl ffurfio clwb ym Mhenrhyndeudraeth daeth mwy i ymuno.

Chwalodd y Clwb ym Mhenrhyn ar ôl tymor a phenderfynwyd codi tîm yn ardal Blaenau Ffestiniog i chwarae rhai o’r gemau oedd Penrhyn wedi eu trefnu. Aethom ymlaen i ffurfio clwb yn y Blaenau yn 1973, gan ddefnyddio crysau tywyll ar fenthyg gan Penrhyndeudraeth a phêl neu ddwy.
Roedd rhaid codi press gang ar y dydd Sadwrn i fynd o gwmpas tai tafarnau’r dre i drio “perswadio” bechyn i ddod i chwarae – doedd Rem Jos a chwaraeodd 7 gêm ddim yn Y Meirion ond daeth y ddau Gwyn: Gwyn Evans (Plisman) a Gwynne Williams at ei gilydd ac aethant o amgylch y dre i edrych am safle i gael cae – ond nid oedd safle ar gael ac felly roedd rhaid chwarae bob gêm oddicartref am dymor. 

Yng nghyfarfod cyntaf y clwb penderfynwyd ei enwi yn Clwb Rygbi Blaenau Dolwyddelan. Cafwyd help gan ddau athro o Ysgol y Moelwyn sef Alun Jones (Cymraeg) a Merfyn C Williams (Daearyddiaeth ) i ffurfio pwyllgor, gyda Gwynne Williams fel Cadeirydd, Trefor Wood, Prifathro Ysgol Glan y Pwll, yn Ysgrifennydd a Glyn Eden Jones, oedd wedi ymddeol o fod yn Orsaf-feistr, yn Drysorydd. Er mwyn ffynnu roedd rhaid codi arian. Trefnodd Glyn i gael is-lywyddion i’r clwb a chael cynghorydd sir sef R H Roberts fel Llywydd. Cafwyd rhoddion hael gan rhai o bobol busnes y dre yn enwedig Magi Jên y Meirion a trefnwyd raffl lwyddianus er mwyn cael crysau newydd a pheli. Roedd bob chwaraewr yn talu tâl aelodaeth, sef 50c a thâl i gefnogwr 25c. 


 Chwaraewyd 7 gêm i ffwrdd gyda Robert Davies (Popeye) yn sgorio’r cais CYNTAF i’r Clwb yn y golled o 60 – 4 yn Nolgellau. Er nad oedd cae gan y clwb aethom i ymarfer ym Maentwrog, Cwmbowydd, cae Bryn Coed, cae Ysgol y Moelwyn o dan yr hyfforddwr Alun Jones.

I WŶR YR HWRDD
    I wŷr yr hwrdd boed tymor hael – a glew
        O glod a fo’n ddiffael
    Gwiw fo’u dewraf ymrafael
    A’u herio gwych fyth ar gael
                                                            Jonah Wyn Williams

1973
22 Rhagfyr -Gêm gyntaf Clwb Rygbi Blaenau Ffestiniog: Dolgellau 38 v Bro 0
Y Tîm: Nigel Bloor/ Merfyn C Williams/ Ken Jones/ Robert Davies/ Brian Jones / Tony Coleman/ Michael Eric Jones/ Malcolm Thomas/ Gareth Jones/ Elwyn Lloyd Jones/ Ieuan F Williams/ Richard Williams/ David Maxwell/ Keith Rea/ Elfed Williams/ Malcolm Tucker     

1974
24 Ionawr - Angen cymorth yr aelodau i wella Pafiliwn Pont y Pant    
27 Ebrill -Cystadleuaeth 7 Bob Ochr Gogledd Cymru (Y Rhyl)
5 Fehefin -Cyfarfod Blynyddol CYNTAF yn Cross Keys
Codi Arian Bryn Calvin Roberts/ Michael Jones/ Gwynne Williams/ Merfyn Williams/ Tony Coleman

Tymor 1974 /1975
28 Fedi -Mewn crysau newydd Llangefni II 37 – Bro 0
19 Hydref -Ennill y gêm gyntaf Caergybi 4 v Bro 12. Ceisiau gan Ken Jones (2) a Kevin Coleman
5 Tachwedd -Bwffe a Dawns yng Ngloddfa Ganol
23 Tachwedd -Caernarfon 32 Bro 4 (Nigel)

Y tîm: 

1 Victor Evans, 2 Dei Jos Williams, 3 Michael Jones, 4 Elfed Roberts, 5 Michael Eric, 6 Raymond Hughes, 7 Merfyn C Williams, 8 Brian Jones, 9 Bryn Calvin Roberts, 10 Ken Jones, 11 Gwilym Arthur Roberts, 12 Kevin Coleman, 13 Nigel Bloor, 14 Tony Coleman, 15 Graham Thomas

Ond roedd y chwaraewyr isod a’r gael hefyd:
William Maxwell/ Richard Williams / Dylan Jones / Glyn Price / Michael Hughes/  Ieuan Jones (Rhiw) / Elwyn Lloyd Jones / Michael Thomas / Garfield Lloyd Lewis /  Merfyn Roberts (Co-op)/ Ieuan Evans / Ian Marwood / Peter Marwood / Elfed Jones (Llan)/ Bob Williams / Norman Bell / Gareth Mornant / Bob Board /David Maxwell / Medwyn Jones/Big Jim / Robin Llywelyn Roberts / Gareth Barker / Brian Lloyd Jones / Dafydd Price / Ken Jones /Kevin Coleman/Nigel Bloor / Victor Evans /Dei Jos Williams / Michael Jones / Elfed Roberts /Michael Eric /Raymond Hughes / Merfyn C Williams / Brian Jones/ Bryn Calvin Roberts / Gwilym Arthur Roberts / Tony Coleman / Graham Thomas / Ieuan Roberts / Gareth Roberts / Dylan Roberts / Chico / Norman Bell / Huw Josuah /
Pina Griffiths / Medwyn Jones / Meurig Williams

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Tachwedd 2022. Bydd mwy yn dilyn.


5.1.23

Dosbarthu Llafar Bro

Diolch o galon i Rhian a chriw y Dref Werdd am ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ddosbarthu ein papur bro o’r hyn ymlaen. 

Gwaith y ‘Dosbarthwr’ ydi derbyn 800 copi o’r papur gan y wasg yn Llanrwst a'u rhannu nhw yn fwndeli i'w rhoi i'r dosbarthwyr cymunedol sy’n rhannu o ddrws i ddrws, er enghraifft pecyn o 100 i fan hyn a bwndal o 30 i fan draw, ac yn y blaen. 


Hefyd, mae angen mynd a bwndeli i wyth neu naw o siopau lleol ar y noson ddosbarthu neu'r diwrnod canlynol, a derbyn y pres gwerthiant am y rhifyn blaenorol. Ar hyn o bryd, mae Llafar Bro ar werth hefyd ym Mhorthmadog, Penrhyn a'r Bala, felly rhwng bob dim, mae’n gryn cyfrifoldeb.

Fel pob joban arall yn Llafar Bro, GWIRFODDOL ydi'r gwaith hwn: llafur cariad, a'r wobr ydi'r balchder o gyfrannu at barhad ein papur bro.

Mi gofiwch efallai mor allweddol oedd Y Dref Werdd yn y gamp o ddosbarthu ein 500fed rhifyn i bob cartref yn y dalgylch, felly diolch o galon eto am gynnig cydweithio efo ni; enghraifft arall o'r modd arbennig mae mentrau a chymdeithasau Bro Stiniog yn cynnal a chefnogi ei gilydd.

Diolch hefyd i Tecwyn, Glyn, Ronwen, ac Ellen, oedd i gyd wedi cynnig cynorthwyo. Yn olaf, diolch i Geraint am ei waith yn dosbarthu yn ystod 2022, ac i’r criw selog sy’n mynd o ddrws i ddrws ymhob tywydd bob mis!

- - - - - - - - 

Gwefan Y Dref Werdd

- - - - - - - - 

Mae Cymdeithas Llafar Bro yn dal i chwilio am swyddog codi arian, er mwyn rhoi sefydlogrwydd ariannol i'r papur, ac yn croesawu unrhyw un sydd ag awydd ymuno â ni mewn unrhyw rôl!

Diolch am eich cefnogaeth.


2.1.23

Stolpia- Pytiau am ardal Glan-y-pwll

Y mae’n rhaid imi ddweud mai ychydig iawn o hanes ardal Glan-y-pwll sydd wedi ei gofnodi yn ein llyfrau hanes. Ceir ychydig am hen fferm Glanypwll a’r chwarel yn y ddwy gyfrol Hanes Plwyf Ffestiniog: y gyntaf gan William Jones, Ffestinfab a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1879; a’r llall gan Gruffydd John Williams yn 1882. Ceir tipyn o hanes yr ysgol gynradd yn yr ail gyfrol, a chawn dipyn am y rheilffordd fach mewn cysylltiad â’r ardal mewn cyfrolau fel Festiniog Railway gan J.I.C. Boyd. 

Pa fodd bynnag, y mae llawer mwy o hanesion am y rhan hon o’n plwyf, yn enwedig os ewch i chwilota amdanynt.

Bu Glan-y-pwll yn lle hynod o brysur ar un adeg gyda dwy orsaf reilffordd, sef Stesion London yr LMS ar gyfer y trên mawr, a Stesion Fain, fel y’i gelwid ar gyfer trên bach Rheilffordd Ffestiniog. Ceid tair siop, tŷ tafarn, ysgol gynradd, ysgoldy Glandŵr (PC) a chae pêl-droed Parc Haygarth yma, a hynny nid ymhell yn ôl. 


Credaf mai yn 1931 y symudwyd o gae Parc Newborough (lle mae siop Londis heddiw) gan ei fod wedi mynd braidd yn ddyfrllyd a dewis chwarae pêl-droed ar Gae Haygarth yn ei le. Wrth gwrs, agorwyd ffatri Metcalfe ar y fan a’r lle yn 1954, ac y mae hi’n dal i weithio heddiw.

Nid gemau peldroed oedd yr unig bethau a ddarperid ar gyfer adlonni pobl Stiniog yn y cae hwn. 

 

Cynhelid ambell syrcas yno hefyd a bu un yno ym mis Awst 1934 lle ceid pob math o anifeiliaid, megis eliffantod, llewod, teigrod, eirth gwyn ac eirth duon, a ‘Boomerang’ y cangarŵ ar gyfer paffio, yn ogystal â cheffylau a merlod o bob math. 

 

Neb yn meddwl fawr am driniaeth yr anifeiliaid gwylltion bryd hynny!

 

 

Y mae gennyf gof bach o fynd i weld un gêm bêl-droed yng Nghae Haygarth gyda rhai o’m cyfeillion yn yr 1950au cynnar. Os cofiaf yn iawn, cerdded i lawr y lein fach heibio’r Felin Goed a wnaethom ac ymwthio i mewn o dan y sitiau sinc neu’r ffens gan nad oedd arian gennym i dalu’r pris mynediad. Dim cof pwy oedd yn chwarae'r diwrnod hwnnw ond bod degau o gefnogwyr yn gwylio’r gêm fel y gwelwn yn y llun hwn a dderbyniais oddi wrth Mel ap Ior. Diolch iddo am ein hatgoffa o’r dyddiau pleserus hynny. 

Yn y llun gyntaf uchod gwelwn gae pêl-droed Parc Haygarth rhywdro yn 1950au gyda channoedd o bobl yn gwylio’r gêm. Tybed pwy all roi mwy o hanes yr hen gae pêl-droed inni? Efallai y caf innau sôn am rai pethau eraill o’r ardal y tro nesaf.

Steffan ab Owain
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2022

[Hanes y Bêl-droed yn y Blaenau- cyfres o 2006-2007]

Daeth yr ymateb yma i mewn ar gyfer rhifyn Rhagfyr:

Cae Pêldroed Parc Heygarth
Cyn yr ail ryfel byd roedd fy nhaid a nain, sef John a Nell Griffiths, yn cadw Siop Meffcin, dros y ffordd i gae Haygarth. Ar bob gêm gartref byddai’r ddau dȋm yn newid  yn y parlwr yng nghefn y siop cyn rhedeg dros y ffordd i’r cae.
Y gêm fawr a oedd yn tynnu tyrfa fawr oedd y gêm ar ddiwrnod Gŵyl San Steffan yn erbyn Porthmadog.
Gwyndaf Owen, Wrecsam