Dyma gyrraedd pen y daith ar atgofion Ernest am hynt a helynt y bêl-droed yn y dref gyda chrynodeb o gopi o'i ysgrif ar un o'r chwaraewyr enwocaf a ddaeth o'r Blaenau, Bob Davies, dan y pennawd 'O Offeren City i Brif Dîm Cymru'. Ysgrifenwyd yr erthygl tua'r 1950-60au cynnar, rwy'n credu.
Fe wyddoch gystal a minnau fod pethau bach, syml a chyffredin weithiau yn rhagflaenu pethau mawr. Dyna ichi baned o de er enghraifft. Mae'n rhyfedd fel y gall peth mor ddi-sylw a phaned o de newid cwrs bywyd rhywun weithiau. Mae'n siwr eich bod wedi mynd am baned o de rywdro neu'i gilydd i aros amser bws neu drên, ac y mae'n eitha tebyg na ddigwyddodd dim mawr am eich bod wedi mynd am baned o de. Ond y mae gennyf hanesyn bach am baned o de a gododd un o hogiau Stiniog i fod yn un o brif sêr peldroed Prydain Fawr, a'r bachgen hwnnw yw Bob Davies.
'Roedd Bob yn yr ysgol ar unwaith â fi, a'r adeg hynny roeddem yn ei adnabod fel Bob Davies, mab John Davies y Barbar. Erbyn hyn mae John Davies yn cael ei adnabod gan lawer fel John, tad Bob Davies, Notts Forest. Ond 'rhoswch, beth am y baned te honno…
Wel, roedd yna un o swyddogion clwb peldroed Notts Forest yn Stiniog ar ryw dydd Sadwrn gwlyb yn 1936. 'Roedd wedi mynd am baned o de i aros y trên. Peidiwch a gofyn beth oedd y brawd yn ei wneud yn Stiniog, oherwydd dydwi ddim yn gwybod. Y peth mawr yw ei fod wedi mynd am baned.
Mewn sgwrs uwchben y baned te fe gafodd y swyddog wybod fod yna gêm yn mynd ymlaen yng Nghae Haygarth, a dyna fo'n penderfynu mynd yno i gael spec. 'Roedd hi'n ddychrynllyd o oer yng nghae di-loches Haygarth, a 'doedd y gŵr boneddig o Nottingham yn malio dim botwm corn pwy oedd yn curo nac yn colli. Ond fe welodd y swyddog rywbeth ar y cae a wnaeth iddo gynhesu drwyddo, a'r rhywbeth hwnnw oedd chwarae Bob Davies.
Llun- Parc Heygarth, oddi ar wefan stiniog.com |
Fe ddywedodd y swyddog wrth Mr Harold Wightman y dylai ddod i weld y bachgen hwn o Stiniog, ac fe daeth hwnnw. Y canlyniad fu i Bob Davies fynd i Nottingham Forest.
Fel cysur i Stiniog ar ôl colli un o'i goreuon, cynigiodd ddod â thîm i chwarae gêm er budd clwb y Blaenau. 'Roedd Glyn Bryfdir Jones yn dal i chwarae i Stiniog yr adeg hynny, a Dugdale oedd y ceidwad, ond fe gafwyd y swm sylweddol o £55 wrth y dorau.
Ymhen ychydig ddyddiau ar ôl hynny yr oedd Bob Davies yn chwarae gydag ail dîm Notts Forest. Chwaraeodd gyda'r prif dîm am y tro cyntaf yn erbyn Newcastle. Pan gyrhaeddodd Bob yr ystafell newid y diwrnod hwnnw yr oedd yno lu o delegramau yn ei ddisgwyl, yn cynnwys rhai oddi wrth Richard Morris, Glyn Bryfdir a Dwyryd.
Cynhyddodd Bob yn gyson, ac erbyn Ionawr 1938 wedi ennill sylw prif feirniaid oherwydd ei feistriolaeth ar Jack Dodds - a oedd yn ei fri yr adeg hynny. Roedd Tommy Griffiths, canolwr tîm Cymru, yn ymddeol, a rhai oedd wrth olynydd iddo. Daeth y dydd mawr i Bob Davies chwarae dros Gymru - ac yn erbyn Lloegr, o bawb. Tîm Cymru y dydd hwnnw oedd: Sidlow, Turner, Williams, Green, Davies, Witcombe, Hopkins, Dearson, Astley, Bryn Jones a Leslie Jones. Wedi gornest fawr curodd Cymru 1-0, a sgoriwyd y gôl gan Bryn Jones. Ond er mai ef a roddodd y bêl yn y rhwyd, arwr y dydd oedd Bob Davies, y bachgen o Stiniog, a ddechreuodd chwarae gyda'r 'Thursdays' ac 'Offeren City'.
----------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2007. (Ymddiheuriadau bod y bennod olaf yma wedi bod mor hir yn ymddangos ar ôl y bennod ddwytha!). Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar ffôn).
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon