22.3.18

Ffermydd Bro Ffestiniog

Cyfres newydd gan Les Darbyshire, am ffermydd a thyddynod dalgylch Llafar Bro.

Mae llawer o ffermydd bach yn y cylch eisoes wedi diflannu, a'u henwau yn brysur yn mynd yn
angof. Bwriad yr ymchwil yma ydyw casglu gwybodaeth (lle mae’n bosib) o faint y ffarm neu dyddyn, faint o dir ac anifeiliaid oedd ganddynt.  Hefyd y ffermydd defaid, eu hawl i’r defaid bori ar y mynydd, pwy oedd yn gweithredu a phlismona'r hawl a phan aeth ffarm allan o fodolaeth am wahanol resymau, pwy oedd yn etifeddu'r hawl wedyn?

Yng nghylch y Blaenau buaswn yn dweud mai rhyw pedair ffarm ddefaid o bwys oedd yma, sef Cwmbowydd,  Tyddyn Gwyn, Bwlch Iocyn a Bron Manod, ond erbyn heddiw does dim ond y cyntaf yn aros fel fferm ddefaid.

Byddai cydweithrediad da rhwng y bedair ffarm, a byddant yn cyd-gasglu'r defaid adeg cneifio, a gwych oedd eu gweld yn eistedd ar stôl hir i gneifio'r defaid a ninnau blant yn cynorthwyo trwy hel y gwlân a’i rwymo'n belen.

Tyddynnod oedd mwyafrif y gweddill neu ffarm fach oedd ddim ddigon mawr i’r perchennog fedru gwneud bywoliaeth ynddi ac felly yn gorfod cael gwaith arall yn un o'r chwareli cyfagos.  Mwyafrif o'r ffermydd bach yn cadw rhyw dair buwch, ychydig o ddefaid, ieir a merlen, ar rhyw dri chae a phorfa fach. Byddai rhai o'r tyddynnod yn cadw un neu ddau o foch hefyd.
Gwaith caled i edrych ar ôl yr anifeiliaid cyn mynd i'r chwarel yn y bore ac wedyn ar ôl dod gartref yn yr hwyr. Byddai'r wraig yn gweithredu yn ystod y dydd yn bwydo’r anifeiliaid, corddi, ac hefyd yn gwneud gwaith tŷ.

Yng nghylch Manod, pan oedd angen tarw, byddai rhaid cerdded y fuches i lawr i ffarm Bwlch Iocyn,  yr unig ffarm oedd yn cadw tarw, ac am ryw reswm, tarw go beryg oedd ganddynt pob amser!
Byddai'r ffermydd bach yma, i bob pwrpas, yn hunan gynhaliol  o ran bwyd ac yn medru gwerthu menyn, llefrith, llaeth enwyn ac wyau i'r cyhoedd.

Cefais restr o enwau ffermydd o ben uchaf Talwaenydd at waelod Tanygrisiau gan Steffan ab Owain.  


1.    Ffridd y Bwlch ger Bwlch Gorddinan (Crimea) - adfeilion / ffynnon yn dal yno.
2.    Bryn Tirion - ar ochr isaf i Lyn Ffridd - gwag ers blynyddoedd.
3.    Cae Drain - hen dyddyn ar y ffordd at dai’r Frest - dim byd bron ar ôl.
4.    Talwaenydd - gelwid yn Hen-dŷ yn ddiweddarach.  Dyma'r ffarm a roddodd enw i’r ardal. Wedi ei chwalu yn gyfan gwbl ers yr 1980au. Bu Tŷ Mawr gerllaw yn cadw ceffylau ar gyfer y chwarel hefyd.                                                             
5.    Ffarm Rhiwbryfdir - wedi ei chladdu dan rwbel un o domennydd yr Ocli.  Cryn dipyn o hanes hon i’w gael yn yr hen lyfrau.
6.    Ty’n Twll - tyddyn bach - rhyw bwt o dyddyn ger hen dai’r Dinas. Wedi ei gladdu dan domen fawr  Ocli ers blynyddoedd.
7.    Glan-y-pwll - rhyw bwt o dyddyn gerllaw hên stablau Johnny Blawd. Wedi ei chwalu. 
8.    Ffarm Glan-y-pwll – 'roedd y ffermdy tu ôl i resdai Fronheulog/Garmon House.  Gwnaed yn farics, ond chwalwyd y cyfan ac nid oes dim byd ar ôl ohono.
9.    Tyddyn Bach - ychydig iawn o dir.  Adeiladwyd Ysgoldy Horeb (MC) ar y safle.
10.    Cefn Bychan - dal yno heddiw.  Cefn Bychan Bach yn adfeilion. 
11.    Blaenywaun - nid wyf yn sicr os oedd hwn yn dyddyn, rhwng Cefn Bychan a Ty'n Ddôl.
12.    Ty'n Ddôl - un o hen ffermydd yr ardal. Y tir wedi mynd ar gyfer Ffatri Rehau a chaeau chwarae.
13.    Maes Graen - pwt o dyddyn nid ymhell o le bu hen Gapel Bethel, Tanygrisiau. Y tŷ yn dal yno.
14.    Pen y cefn – (Pellaf) - pwt o dyddyn eto ychydig o dir.
15.    Cwmorthin Isaf a Chwmorthin Uchaf - y cyntaf wedi ei gladdu dan domen rwbel a'r llall yn adfeilion.
16.    Clytiau - pwt o dyddyn ar dir Cwmorthin. Wedi ei gladdu dan rwbel.
17.    Pant Mriog  - rhwng ffordd Stwlan a llwybr Cwmorthin, heddiw yn adfeilion.
18.    Tŷ Newydd, Beudy Mawr a’r Hên Danygrisiau wedi mynd tan ddyfroedd Llyn Ystradau (Tanygrisiau).
19.    Buarth Melyn - ger yr hên lein fach, tu draw i’r Pwerdy.
20.    Yr Aelgoch - tyddyn yn gysylltiedig â theulu'r Cadwaladr.  Roedd y rhain yn cadw gwartheg yn Dopog, nid ymhell o’r ddau uchod hefyd.
21.    Glanyrafonddu - hen dyddyn yn dyddio yn ôl canrifoedd.    
                                                      
Cefais enwau eraill sef Pen Cae, Foel a Dolau Las yng nghylch Tanygrisiau. (I’w barhau…)
----------------------
Bydd enwau ffermydd y dalgylch yn dilyn  cylch,  yn parhau y tro nesa ymlaen at Ffordd Tyrpac Newydd; wedyn ar hyd yr hen ffordd i’r Llan ac i fyny’r Lôn Dywyll ac ymuno a'r brif ffordd ger ‘Cartef’ ac yn ôl i’r Blaenau.

Mae’n bosib bod gwallau yn y rhestr o enwau’r ffermydd, os gwyddoch am rhai heb ei gynnwys neu yn anghywir gadewch i ni wybod, diolch. Os gwyddoch am fwy, gyrrwch neges i Llafar Bro, unai fel sylw isod, neges i’n tudalen Gweplyfr/facebook, neu at un o’r swyddogion. Diolch.
----------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y lluniau) yn rhifyn Chwefror 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen 'Ffermydd Bro Ffestiniog'.
 
Lluniau -Paul W.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon