Yn y golofn hon, fe gyfeiriwyd at y sefyllfa ddiweddaraf ynglŷn â’r ddeiseb a arwyddwyd gan 2,754 ohonoch chi yn 2014 yn galw am adfer y gwasanaethau iechyd pwysig a ddygwyd o’r ardal hon gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Cyflwynwyd y ddeiseb honno i’r Pwyllgor Deisebau yng Nghaerdydd ar 17eg Mehefin 2014 ac mae'r rheini, dros amser, wedi bod yn ystyried rhestr gynyddol o ddadleuon oddi wrth y Pwyllgor Amddiffyn.
Llun- Alwyn Jones |
Fe gafodd y ddeiseb ei chadw’n agored ganddynt am nad oedd aelodau’r Pwyllgor Deisebau byth yn gwbl fodlon efo ymateb swyddogion y Betsi i’r wybodaeth oedd yn cael ei chyflwyno gennym, a hynny yn fisol bron.
Yn y cyfamser, mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi bod yn pwyso am gefnogaeth o gyfeiriadau eraill hefyd wrth gwrs, megis y Cyngor Iechyd Cymunedol, Sarah Rochira y Comisiynydd Pobl Hŷn, yr Athro Marcus Longley yn ei adroddiad i’r cyn-Weinidog Iechyd, a nifer o Aelodau Cynulliad o bob plaid, ac wedi derbyn clust ffafriol gan bob un ohonynt, ac eithrio Carwyn Jones a’i Weinidog Iechyd. Maen nhw o’u dau fel pe baen nhw’n benderfynol o gefnogi gwaith y Betsi tra ar yr un pryd yn dal i gadw rheini o dan ‘special measures’.
Hynny yw, cefnogi methiant!
Yna, ar Fedi’r 4ydd llynedd - fel y bydd llond bws o’n cefnogwyr yn cofio - fe aeth cynrychiolaeth ohonom i Gaernarfon i gyflwyno’n hachos gerbron aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal yn fanno. Yno hefyd, i gyflwyno eu dadl hwythau, roedd Gary Doherty, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, a chymaint â 6 o aelodau ei dîm. Ond dadl y Pwyllgor Amddiffyn a gariodd y dydd a phenderfyniad y Pwyllgor Craffu fu argymell bod Cabinet Plaid Cymru y Sir, sef y rhai sy’n llywodraethu, yn cefnogi’r galw am Arolwg Annibynnol i’r sefyllfa sy’n bodoli yma bellach, yn Stiniog. Aeth pum mis heibio ers y cyfarfod hwnnw a hyd yma, mae’r Cabinet wedi gohirio trafod y mater ond byddant yn gwneud hynny yn ystod y mis hwn, sef Chwefror, ac mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi cyflwyno dogfen fanwl o ffeithiau iddynt eto eu hystyried. [GOL: o edrych ar raglenni a chofnodion cyfarfod y cabinet ar wefan Cyngor Gwynedd, nid oedd hyn ar agenda eu cyfarfod ar 13eg Chwefror, ac nid oes unrhyw awgrym eu bod wedi ei drafod dan unrhyw fusnes arall chwaith. Mae eu cyfarfod nesa ar y 13eg o Fawrth.]
Bellach, mae’r Pwyllgor Deisebau wedi cyhoeddi ‘Crynodeb o’r drafodaeth’ mewn naw tudalen ac wedi dod i’r casgliad canlynol:-
Casgliad: “Rydym o'r farn mai'r broses graffu leol, sydd bellach yn mynd rhagddi drwy Bwyllgor Craffu Gofal Cyngor Gwynedd, yw'r ffordd fwyaf priodol o drafod y materion sy'n codi yn y ddeiseb a mynd i'r afael â hwy. Rydym yn cymeradwyo'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor hwnnw ac yn annog pawb i'w hystyried yn ofalus. Yn benodol, rydym yn cytuno mai'r ffordd orau o bosibl o ateb pryderon y gymuned leol fyddai'r argymhelliad i gomisiynu adroddiad annibynnol ynghylch y ddarpariaeth iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog.” (Ionawr 2018)
Ein gobaith yn awr yw y bydd Cabinet Plaid Cymru Gwynedd yn cefnogi’r galw am arolwg o’r fath.
GVJ
.................................
Gallwch weld hanes yr ymgyrch efo'r dolenni* isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(*Ddim i'w gweld ar fersiwn ffôn -dewiswch 'View Web Version' ar y gwaelod)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon