Erthygl gan John Humphrey, neu John Wmffre, Y Rhyl.
Wedi darllen allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones yn Llafar Bro am hanes y bêl-droed yn y Blaenau daeth a llu o atgofion i minnau, a cheisiaf innau anfon ychydig o atgofion.
Yn fy nyddiau ysgol yr oedd y clybiau yma yn bod: Offeren City - tîm enwog iawn; tîm yn Rhiw; tîm y siopwyr yn chwarae ar ddydd Iau; o Danygrisiau Stradau Celts ac yn Nolrhedyn, Gwynfryn Celts. Robin Owen Jones oedd y capten ac yn chwarae mewn esgidiau hoelion. Yn y gôl yr oedd Jack Roberts, Jack Dolgell fel y gelwid, ac yr oedd nam ar un lygaid iddo, ac os byddai y tîm wedi colli o rhyw dair neu bedair gôl, fe fyddai hogiau y chwarel yn tynnu yn ei goes gan ofyn, “Beth oedd yn mater dydd Sadwrn, Jack?”, a dyma ei atebiad iddynt, “Fe ddarfu mi ddal bob un i mi weld.” Gyda llaw, tad y gôl-geidwad enwog, Orthin Roberts, Notts Forest, oedd y brawd.
Roedd hefyd dîm yn Llan Ffestiniog a Thanygrisiau a’r ddau yn chwarae yng nghynghrair y Cambrian Coast, heb anghofio tîm y Blaenau ei hun.
Yn awr yr ydym yn symud ymlaen i 1935-39. Dyma i chwi amddiffyn: Dei Bach Rhiw yn gôl; Jack Crimea fel craig a Ieu Tŷ’n Ddôl yn gadarn, Gwilym Peniel, Bob Davies a Calc. Hogiau wedi eu dwyn i fyny yn y Blaenau, ac yn teimlo yn fraint o chwarae dros eu hardal, a hynny heb dderbyn dimai goch, y cewri ymysg cewri oedd y bechgyn yma i ni y plant.
Yn awr dyma ni wedi cyrraedd 1939 a dechrau 1940, a daeth terfyn ar y ‘Welsh League Div’ oherwydd bod y bechgyn yn cael eu galw i fyny i bob rhan o’r byd. Yna, yn 1946 wedi i’r rhyfel orffen ail-ddechreuwyd y ‘Welsh League’, gyda hogiau lleol.
Dipyn o anrhefn oedd hi ar y dechrau, rwy’n cofio mynd i’r Port i chwarae: Dick Jones oedd yn gofalu amdanom, ac yn y bws wrth fynd rhaid oedd rhoddi y tîm. Yr oedd yna 15 hefo cardiau yn dweud eu bod wedi cael eu dewis (selection card). Wel mi roedd yr hen Dick mewn penbleth yn awr hefo pwy i’w ddewis a phwy i’w adael allan, a dyma sut y daeth allan ohoni - gan mai fi oedd yr unig gôli yr oeddwn i yn mynd i’r gôl a’r 14 enw arall yn mynd i’r het a dewis allan ohoni!
Rhyw dro arall yn chwarae yn y ‘Welsh Cup’ ym Mae Colwyn, bws John Williams, Porthmadog oedd gennym, ond wnai y gyrrwr ddim cychwyn heb gael pres i dalu am y bws i ddechrau - dim pres ar gael, a rhai o bwyllgor y clwb yn mynd i geisio cael benthyg pres gan rai o’r siopau; llwyddo, ac i ffwrdd a ni, pawb yn y tîm yn cydweld ein bod yn aros yn Llandudno ar ôl y gêm. Buom yn llwyddiannus i ennill, ac wedi plesio Mr Skillen yn arw, fo oedd yn galw amdanom (Sais) a dyna fo yn dweud am ein bod wedi chwarae mor dda ei fod o wedi trefnu i ni fynd i Gonwy i gael bwyd.
Dywedsom ninnau ein bod yn mynd i Landudno, ond i Gonwy yr aethom i gael te a Skillen yn codi ar ei draed a dweud, “Pick whatever you want from the menu, I’m in charge" ac felly y bu. Wedi i ni orffen bwyta cododd y dyn ar ei draed eto a gofyn, “Did you enjoy the meal?”... “Yes” meddai pawb. “I’m glad to hear, because you’ve got to pay for it - I have no money!”
Yn byw yn stryd West End yn Nolrhedyn yr oedd gennyf gyfaill oedd yn 10 mlynedd yn iau na mi, sef Tomi Richard. Yr oeddwn i yn gweithio yn Llechwedd wedi dod adref o’r rhyfel. Byddai Tomi yn rhoi amser i mi gael fy nhe, ac yna yn dod a chnocio y drws, mam yn agor y drws a fy ffrind yn gofyn, “Ydi John yn dod allan i chwarae,” a’r bêl o dan ei gesail. Byddai hefyd yn cario fy ‘sgidiau ffwtbol pan oeddwn yn chwarae yn y Blaenau, a phob amser yn pwyso ar y postyn gôl, ie, dros y weiar a phwyso ar y postyn. Wel, be wnelo hyn â ffwtbol? Wel dyma fo i chwi.
Yr oedd tîm y Blaenau yn chwarae R.A.F Llanbedr, ger Harlech, mewn cwpan arbennig pan ddarfu eu ‘outside left’ roi cic galed ar hyd y llawr a’r bêl yn mynd i mewn yn nhroed y postyn, ac allan wedyn fel ergyd o wn. Beth ddigwyddodd tybed? Wel Tomi ddarfu roi ergyd iddi o’r tu arall i’r rhwyd! R.A.F. a’u dwylo i fyny yn gweiddi a’r reff yn dweud “No goal, hit the post and out” ac felly yr enillwyd y gêm gan Tomi! Wel pwy oedd y Tomi yma? Neb llai na’r bardd, emynydd, gweinidog parchus a phregethwr penigamp a grymus, sef y Parch. T.R. Jones, Crymych!
---------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2004, fel ymateb i gyfres 'Hanes y Bêl-droed yn y Blaenau'.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon