26.3.18

Trem yn ôl- Olew Morris Evans

Erthygl arall o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999', y tro hwn gan Nesta Evans, Llan.

Cawsom amryw ofynion o dro i dro a yw’n bosibl prynu ‘Olew Morris Evans’ heddiw. Yn anffodus nid yw’n bosibl ar ôl dyddiau’r annwyl Frank Evans, Bryn Olew. Y dydd o’r blaen deuthum o hyd i daflen hysbysebu ‘Olew Morris Evans’ ac ar un ochr yr oedd penillion i’w canu ar fesur ‘Hob y Deri Dando!’. Dyma un ohonynt:
Rhag trueni y Rheumatig
Olew Morris Evans!
Treiwch hwn yn lle pob physig,
Olew Morris Evans!
Gyr y ddannodd a’r Diptheria
Oll i ffwrdd,
Doed gwyr sydd dan gur
I gael prawf o’i rinwedd pur.
Wrth chwilio am hanes yr hen ŵr diddorol hwn, darganfum iddo fod yr ieuengaf o ddeuddeg o blant Dafydd ac Elisabeth Evans. Saer oedd Dafydd Evans wrth ei alwedigaeth, ac yn grefftwr rhagorol. Yr oedd magu teulu lluosog yn dreth drom ar adnoddau’r tad a’r fam, a bu raid i’r bechgyn oll ond un droi i’r chwarel yn gynnar.

Deg oed oedd Morris Evans pan ddechreuodd ef ei yrfa yn y chwarel. Yno y bu nes bod yn bump ar hugain oed, sef adeg y cwymp mawr yn y ‘Welsh Slate’. Manteisiodd ar gynildeb ei enillion a chychwyn busnes glo yn y Llan. Bu’n lwyddiant mawr, ac ychwanegodd flawd a nwyddau gan wneud Siop Morris Evans yn rhan o’r pentref. Ychwanegodd gangen yn Nhrawsfynydd a aeth wedyn yn eiddo i’w chwaer (sef nain Brian Hughes, Garej Traws).


Ymhen amser wedyn, rhoddodd ei hunan ‘enaid a chorph’ i hyrwyddo’r Olew byd enwog yma gan drafelio drwy holl bentrefi, trefi a marchnadoedd de a gogledd Cymru a rhan helaeth o Loegr.
Bu’n aelod ffyddlon o Gyngor Sir Meirion, gan gynrychioli dosbarth Teigl am chwe blynedd, ac roedd hefyd yn aelod o Bwyllgor Addysg Ffestiniog hyd y diwedd.

Yn ei gysylltiadau crefyddol, cychwynnodd ei yrfa yn hen gapel Saron, a pharhaodd yn aelod ffyddlon a gweithgar yn Bethel hyd y diwedd. Dyma eiriau Pierce Jones, tad Edward a Richard Jarret Jones a Mrs Wynne, Penlan, wrth gloi ei erthygl goffa iddo yn y Rhedegydd, Ebrill 12fed, 1923:

‘Bellach rhaid ffarwelio ag un arall o hen arwyr y fro, gyda’r ymdeimlad dwfn fod yr hen fynwent yn mynd yn fwy cysegredig y naill ddydd ar ol y llall.’
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1983, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000.
Bu mewn rhifyn diweddarach o'ch hoff bapur bro hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen* isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(* Os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'web view')


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon