30.3.18

Stolpia- Grug

Gan Steffan ab Owain.

Tybed pa rai yw eich hoff flodau gwyllt chi? Wel, un o'm rhai i yw blodau'r grug, a byddaf wrth fy modd yn yn edrych arnynt pan maent yn eu gogoniant a'u lliw porffor yn harddu'n rhostiroedd a'n creigiau. Rwy'n hoff iawn o englyn Eifion Wyn:
Blodau'r Grug
Tlws eu tw', liaws tawel -gemau teg
gwmwd haul ac awel;
Crog glychau'r creigle uchel
fflur y main, ffiolau'r mêl.
Mae tri math o rug yn gyffredin ym Mro Ffestiniog (ch-dd): grug croesddail, grug y mêl, a grug cyffredin, a elwir yn rug yr ysgub hefyd (heb flodeuo'n iawn yn y llun). Llun- Paul W

Ar un adeg byddai'n hen deidiau yn gwneud cryn ddefnydd o'r prysgwydd hwn. Gwnaed ysgubell fach ohono i frwsio ogylch y tŷ, ac mewn ambell gymdogaeth byddid yn toi yr hen fwthyn gydag ef. Cawn gyfeiriad at do o'r fath yn yr hen gân i'r tŷ unnos gan Gabriel Parry:
Mi godaf dŷ newydd, mi godaf dŷ newydd,
ar fynydd i fyw, ar fynydd i fyw,
i fod yn ddiddos uwch fy mhen
rhag cawodau gwlith y nen
lle trigaf holl ddyddiau fy oes.
O dywyrch a cherrig, o dywyrch a cherrig,
a'u gweithio hwy'n llithrig i'w lle,
brwyn a grug fydd ar ei ben,
rhag cawodau gwlith y nen
lle trigaf holl ddyddiau fy oes.
Casglid a gwerthwyd llawer ohono fel tanwydd er mwyn i rai gynnau tân mawn gydag ef. Fel rheol, y merched fyddai'n gruga, a'i gludo ar eu cefnau neu ar gefn mul. Dyma hanesyn o'r ardal am Robert Dafydd, Glanrafonddu, fyddai'n gwneud hyn o dro i dro hefyd. Daw o gyfres 'Atgofion am Danygrisiau' gan David Owen Hughes yn Y Rhedegydd yn 1911:
'Byddai'n gweithio yn y chwarel yn ei ddyddiau cynnar ond at y diwedd byddai'n hel grug i'w werthu i'r amcan o'i ddefnyddio i ddechrau tân mawn. Dyma oedd mewn bri mawr bryd hynny gan na ellid cael glo oherwydd ei brinder a'r pris uchel...Un tro oedd Robert Dafydd wedi hel amryw feichiau o rug ac wedi eu rhoddi mewn wagen a gafodd yn siding y Moelwyn. Pan oedd nifer o fechgyn yn ei gynorthwyo ac yn gwthio'r wagen i fyny, daeth Mr Spooner yn sydyn i'w cyfarfod mewn cerbyd pwrpasol a bu agos iddynt a mynd i wrthdrawiad. Wedi rhybuddio RD a throi ei wagen i gei Cwmorthin aeth Mr Spooner ymlaen ar ei daith tuag adref.' 
Cyfrifid grug gwyn yn lwcus a byddai ambell ŵr y ffordd fawr neu sipsi yn ei werthu ar ochr y stryd neu o dŷ i dŷ. Er eu bod yn dweud fod grug gwyn yn brin ac yn anodd ei ganfod, gallaf ddweud fy mod wedi taro ar beth unwaith neu ddwy, ar ein mynyddoedd lleol ac wedi rhoi rhyw ychydig ohono yn fy nghôt i ddod adref.. ac efallai mai dyna yw'r rheswm pam fy mod mor lwcus ac yn byw mewn plasdy mawr allan yn y wlad efo llond côd o arian!

Tusw o rug gwyn ymysg y porffor, a'r Rhinog Fawr yn y cefndir. Llun- Paul W

------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2002.

[Dolen i ail ran trafodaeth Steffan ar y pwnc yma -Mawnogydd]

[Dolen i erthygl gan Iwan Morgan sydd hefyd yn cyfeirio at do brwyn]


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon