Cyfres newydd gan Nia Williams
Siop Chips Glanypwll
Fel plentyn y '40au mi roedd yna siop chips ardderchog yng Nglanypwll. Y perchnogion oedd Mr a Mrs Glyn Griffiths. Mi roedd yna ddwy ferch - Gladys a Freda. Mae’n debyg bod Gladys wedi bod yn mynd a fi am dro yn y pram ac o hynny ymlaen, y hi oedd yn fy ngwarchod yn ei chartref. Dim ond rhyw wyth oed oedd hi.
Mi roedd Nain Gladys yn byw hefo nhw. Dynes yn gwisgo cap dyn, a barclod bras (sach) drwy’r amser, ac yn yfed te allan o soser. Pan ddaeth yn amser imi fynd i’r ysgol - Gladys aeth a fi. Aeth i’r County, a chofiaf ei gweld yn gwisgo cap pig gyda chylchoedd melyn ar gefndir glas tywyll.
Aeth Gladys yn ei blaen i Goleg y Santes Fair ym Mangor, ac ymlaen wedyn fel athrawes. Cadwodd mewn cysylltiad â’r Blaenau tros y blynyddoedd trwy Mrs Anni Powell, Bryn Golau. Bu farw yn Swydd Gaer y llynedd. Credaf fod Freda yn Ficer ger Llwydlo.
Eglwyswyr oeddynt fel teulu. Mi oedd llun o’r tad yn llifrau côr yr eglwys. Roedd hyn yn rhyfedd i mi fel plentyn - dyn mewn coban wen. Mi oedd o hefyd yn aelod o’r Frigâd Dân ac roeddem wrth ein boddau pan ddeuent i ymarfer ger y domen lwch lli.
Yn aml ar nos Wener caem bryd o “fish a chips” a byddwn wrth fy modd yn gwrando ar y sgwrsio a’r tynnu coes. Cai'r tatws eu malu gyda pheiriant llaw a gorau po hiraf oedd rhaid disgwyl am y bwyd er mwyn cael gwrando ar y sgwrs! Ymhen amser cafodd Glyn fan a byddai yn crwydro’r dref yn gwerthu pysgod.
Pan oedd Freda tua wyth oed symudodd y teulu i fyw i Wigan ac yno y buont.
----------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2018.
Llun -Paul W
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon