7.4.18

Rhod y Rhigymwr -Cwm yr Allt Lwyd


Ysgrifau Cledwyn Fychan yn ‘Y Faner Newydd’ a Dewi Prysor mewn rhifyn diweddar o ‘Barddas’ a symbylodd fy sylwadau y tro yma. Mae’r ddau’n cyfeirio eu camre i Gwm yr Allt Lwyd ac Abergeirw - yng nghornel ddwyreiniol plwy’ Trawsfynydd. Yn ei ysgrif ‘Rhwng Gwaungriafolen a Bedd y Coedwr ... ar grwydr ym Mlaen Mawddach’ mae Cledwyn Fychan yn ailfyw y daith gyntaf a gafodd yn crwydro trwy fynydd-dir blaen Afon Mawddach hanner canrif yn ôl.

Mae Dewi Prysor yntau’n ei ddull dihafal ei hun yn ei golofn ‘Awyr Iach’ ... ‘Rhagor Na Rhigwm’ yn cael ei ysbrydoli i gyplysu ‘campau diweddaraf Donald Trump’ â chartŵn ‘Tom a Jerry’ ac â’r hen rigwm y bu i ni ei ddysgu pan oedden ni’n blant:

Pwsi Meri Mew
Lle gollaist ti dy flew?
Wrth gario tân i dŷ Modryb Siân
Drwy’r eira mawr a’r rhew.’

Mae’r ddau awdur yn llwyddo i roi inni ddisgrifiadau godidog o Gwm yr Allt Lwyd - un o’r ‘cymoedd mwyaf pellennig yng Nghymru’. Yng ngheiriau Prysor:

Mae’r heddwch yn ei ben uchaf yn ddigon llethol i rywun feddwi arno. Gall rhywun feddwi hefyd ar y cyfoeth o enwau sydd ar fryniau, nentydd a gelltydd yr ardal, a chael ei synnu faint ohonynt sydd  i’w cael mewn mawnog eang, anghysbell ...

Pan oeddwn i’n brifathro’n ysgol fach y Ganllwyd yn nechrau’r 1980au, roedd Cwm Hermon ac Abergeirw’n rhan o’i thalgylch. Cofiaf fel yr arferwn encilio i fyny i Gwm yr Allt Lwyd efo’m genwair ‘sgota wedi lli a dal brithyll wrth y dwsinau ym mhyllau blaen Mawddach.


Mae Cledwyn a Prysor yn cyfeirio at enwau rhai o’r hen anedd-dai ... Cwmhesgian, Rhiwfelen, Dolcynafon, Yr Alltlwyd a Thŵr Maen.

Symudais i Ysgol Bro Cynfal, Llan yn bennaeth ym 1985, ac i fyw fel teulu bach i Dy’n Ffridd yn Ionawr 1987. Ymhen dwy flynedd, ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â’r lle y bydd yn dychwelyd iddo’n 2019, sef i Lanrwst, Dyffryn Conwy. Dan ddylanwad fy nghyd-athrawes ym Mro Cynfal, Gwenda Lloyd Jones, bu’n rhaid sefydlu Parti Meibion Cerdd Dant i gystadlu’n Llanrwst ym 1989 ... MEIBION CYNFAL – a gynhwysai aelodau o Gorau Meibion y Brythoniaid, y Moelwyn a Meibion Prysor. Un o’r ddau ddarn gosod ar gyfer y partïon y flwyddyn honno oedd un o gerddi’r diweddar Barchedig Trebor E. Roberts, a fu’n weinidog yng Nghapel Coffa Emrys, Eglwys yr Annibynwyr, Porthmadog o 1946 hyd ei ymddeoliad – ‘Gwenno Tir Mawn’.

Un o’r Parc, Y Bala oedd Trebor Roberts, ac mae’n debyg yr hoffai yntau gilio i unigeddau’r Alltlwyd efo’i enwair. Clywais hefyd mai un a drigai’n y fro hudolus, heddychlon honno oedd ‘Gwenno’ – ‘Tir Mawn’:

Ymhell ar y mynydd ynghanol y brwyn,
Cynefin bugeiliad a hafod yr ŵyn
Mae llannerch ddiarffordd yn heddwch y twyn,
Ac yno, mewn bwthyn hen ffasiwn, to cawn*
Mae aelwyd gysurus gan Gwenno Tir Mawn.
Nid oes yno lawnder na brasder y byd,
Ac anodd cael deupen y llinyn ynghyd
Â’i ffedog liw’r galchen, yn daclus ei phryd,
Rhyw drotian o gwmpas o fore hyd nawn,
Yn ysgafn ei chalon wna Gwenno Tir Mawn.

Os prin ydyw’r moethau, a’r dodrefn yn blaen,
Mae’r ford yn y gegin heb arni ystaen,
A’r hen gwpwrdd deuddarn yn batrwm o raen;
Pe chwiliech bob cornel, ‘rwy’n gwybod yn iawn
Fod popeth cyn laned â’r aur yn Nhir Mawn.

Mae’n wir fod arwyddion o’r hwyrnos yn cau;
Ei llais yn grynedig, a’i chlyw yn trymhau,
A’r droed fu mor heini yn araf lesgáu;
Ond pe galwn i heibio, ‘rwy’n sicr y cawn
Lond aelwyd o groeso gan Gwenno Tir Mawn.

----------------------------------

Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2018.

Llun -Paul W.

[* Dolen i erthygl gan Steffan ab Owain sydd hefyd yn cyfeirio at do brwyn -gol.]

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon