27.4.18

Stolpia -Mawnogydd

Pennod arall o gyfres boblogaidd Steffan ab Owain, yn parhau ei drafodaeth ar flodau'r grug.

Faint a wyddoch chi am y planhigyn grug a mawnogydd?    
Ar ôl imi ysgrifennu fy mhwt diwethaf* cofiais am un neu ddau o bethau eraill a fyddai'r hen bobl yn ei wneud gyda grug y mynydd yn y blynyddoedd a fu. Fel y gwyddoch, y mae'r planhigyn hwn yn tueddu i fod yn wydn iawn yn y gwyllt ac mae ei frigau cryfaf yn wrthneidiol dros ben, h.y. efo sbring go dda ynddynt.

Beth bynnag, rywdro cyn cof, dechreuodd dyn osod grug a phlanhigion tebyg fel gwely i gynnal defnydd trymach er mwyn iddo gael tramwyo tros wlybtiroedd, corsydd a mawnogydd yn ddiogel.

Migwyn: mwsoglau'r gors. Llun- Paul W
Yn wir, dywedir y bu'n rhaid cludo cannoedd o fwndeli o rug a'u gosod fel carpedi ar hen gors Glan y Pwll lle saif yr hen orsaf, y clwb rygbi, yr orsaf dân a safle'r gwerthwyr glo heddiw, cyn y tipiwyd tunelli lawer o rwbel ein chwareli ar eu pennau a chreu sylfaen gadarn i'r adeiladau a chreu iard Stesion London.

Ceir cyfeiriad at Thomas Telford hefyd yn gorfod taclo mawnog ddofn pan oedd yn gwneud darn o ffordd fawr yr A5 ger Cerrig y Drudion. Dyma ychydig o'r hanes rwan o ysgrif 'Ffyrdd Cymru 1816-1826 gan Asiedydd o Walia yn Cymro (O.M.E.)' am y flwyddyn 1914:

Dywed yr awdur y bu'n rhaid .... croesi corsydd sigledig Pant Dedwydd gyda'r ffordd a gorchwyl anodd odiaeth oedd, gan fod yno lathenni lawer o fawndir a hwnnw'n hollol wastad. Nid oedd o un diben cario cerrig nag unrhyw fetel caled iddo oherwydd fe'u llyncid, a'r dull gymerodd of oedd cario poethwal - cidys o boeth wiail (h.y. ffagodau o eithin wedi eu llosgi) o'r mynydd a'u rhwymo'n dynn, a'u gosod ar draws y gors yn ôl fel oedd gwely'r ffordd i fod a chan godi chwe modfedd at y canol, a gostwng at yr ochrau, yna eu cuddio â cherrig fflat tenau, ac ar y rheiny, palmant o gerrig cryfion a phridd chwe modfedd o drwch a'u gosod a chlo y wal, ac yna, plyg o raean ar y cwbl, ac fe drodd y cynllun yn llwyddiant mawr.

Teisi Grug
Yn y gorffennol soniais ychydig am hel grug a'i ddefnyddio ar gyfer cynnau tân, on'd o? Wel, dyma bwt bach diddorol yn sôn am yr un math o beth allan o un o ysgrifau bardd o sir Ddinbych a ymsefydlodd yn Stiniog ma, sef Evan Williams -Glyn Myfyr, Sgwâr y Parc.

Yn ei atgofion 'Y bwthyn lle teuliais fy mebyd' yn Cymru 1918 adrodda'r canlynol am ei hen gartref, Penisa'r Pentref ym mhlwyf Llanfihangel Glyn Myfyr: "Dywed ei furiau anghelfydd, ei do o frwyn a gwellt a manrug y mynydd, symlrwydd ei ffurf, ei fod yn gynnyrch awen yr hen Gymry oesau'n ôl..."

Grug. Llun- Paul W
Mewn rhan arall ceir y cyfeiriad hwn ganddo: "Yng nghongl yr ardd, ar fin y ffordd, yn ôl arfer ddarbodus yr hen bobl, byddai tas o rug y mynydd wedi ei chludo cyn yr hydref i fod yn gyfleus i fy mam gynnau tân a modd i fy nhad brofi llymaid cynnes cyn cychwyn allan at ddyletswyddau cyffredin bywyd; ac yn ychwanegol at fod yn ddefnyddiol i'r pwrpas hwnnw byddai hon yn torri min gwyntoedd y gaeaf cyn rhuthro ohonynt ar furiau yr hen gastell ddiaddurn."

 Rwyf am gloi rwan gyda hen ddoethineb amaethyddol sy'n werth ei gofio, sef yr un am dyfiant ac ansawdd y tir o'n hamgylch, .... ond gyda nodyn ychwanegol .... cofier, y mae defnydd i bob planhigyn a chreadur byw:

Aur o dan y rhedyn
Arian o dan yr eithin
Newyn o dan y grug.
-------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2003.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid i chi ddewis 'web view' i weld y rhain os yn darllen ar ffôn) 

Lluniau- Paul W

*Rhan gyntaf trafodaeth Steffan -Grug



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon